Banc Ieuenctid Sir Benfro
Meini Prawf Cais
Er mwyn cael cyfle i’ch prosiect gael ei ariannu, rhaid iddo fodloni’r meini prawf a osodwyd gennym ni a’n cyllidwyr.
Un o'r prif feini prawf yw bod yn rhaid i'r prosiect fod yn brosiect, yr hyn a olygwn wrth hyn yw, os yw'n brosiect menter ni allwch wneud cais i brynu'r cynhyrchion yr ydych yn eu gwerthu, mae angen i chi wneud cais am ddeunyddiau ac mae angen i'r bobl ifanc gynhyrchu'r cynhyrchion y byddwch yn bwriadu eu gwerthu.
Pwyntiau i'w nodi:
- Nid ydym yn ariannu teithiau dydd na phreswyl gan nad yw'r rhain yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf
- Os yw'r prosiect yn hunangynhaliol yna mae hyn yn help enfawr i'r prosiect
Meini Prawf Banc Ieuenctid Sir Benfro
Cymuned
Prosiectau sydd o fudd i’r gymuned leol - prosiectau elusennol lle mae pobl ifanc yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer mudiad elusennol
Tlodi
Prosiectau sy’n helpu pobl ifanc mewn tlodi, neu mewn ardal lle mae tlodi’n broblem
Menter
Os yw eich prosiect ar gyfer prynu deunyddiau i wneud pethau ar gyfer menter.
Llesiant
Prosiectau sy'n cefnogi llesiant corfforol neu feddyliol
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Croesewir ceisiadau sy’n cefnogi’r nodau llesiant canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae mwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (yn agor mewn tab newydd) ar gael.
E-bost: CYPRO@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth i allu gwneud cais.
Pam y gallai eich cais gael ei wrthod?
Mae rhai rhesymau pam y gall eich prosiect gael ei wrthod,
- Y rheswm mwyaf cyffredin yw nad ydym ni, y bobl ifanc, yn teimlo bod y prosiect yn bodloni ein meini prawf.
- Efallai bod y cais yn edrych fel mai oedolyn sydd wedi’i ysgrifennu.
- Gallai'r eitemau y gofynnwyd i ni eu hariannu fod yn rhy ddrud o gymharu â'u gwerth gwirioneddol
- Efallai na fydd y prosiect yn ymddangos fel pe bai’n brosiect, fel y crybwyllwyd ar frig y dudalen hon
- Heb lenwi ffurflen werthuso os gwnaethoch gais am brosiect cyn hyn