Mae’r cyhoeddiad diweddar am gyrraedd carreg filltir bwysig mewn prosiect i ddod â band eang gwib i Sir Benfro gyfan wedi tanio diddordeb mawr yn y datblygiad.
Lawrlwytho o fewn eiliadau heb orfod byffro. Teledu Ultra HD? Mae'n realiti!
Gemau sy'n rhedeg yn gyflym, heb unrhyw oedi – heb golli cysylltiad.
Mae pawb yn cadw cysylltiad. Siopa, chwarae gemau, crwydro'r rhwyd a chadw mewn cysylltiad - i gyd ar yr un pryd, yn yr un tŷ!
Astudio ar-lein, lawrlwytho neu ffrydio tiwtorialau heb orfod byffro ac wedyn cadw eich gwaith yn y cwmwl.
Cadw copïau wrth genf o'ch dogfennau, eich lluniau a'ch fideos mewn chwinciad (ac wedyn cael gafael arnynt yn unrhyw le).
Anfon a derbyn ffeiliau mawr yn ddi-oed – cadw mewn cysylltiad â'r swyddfa a pheidio byth â methu terfynau amser.
Mae band eang dibynadwy cyson yn agor drysau i gyfleoedd masnachu cartref a thramor.
Mae cyfrifiadura cwmwl, trosglwyddo ffeiliau'n gyflym a gweithio'n ‘glyfar’ yn eich helpu i ganolbwyntio ar dyfu eich busnes.
Cyfle i ddarganfod syniadau newydd, marchnadoedd newydd ac arferion gorau yn gyflym – yn fyd-eang. Rhannu eich prosiectau'n hawdd.
Fideogynadledda, rhwydweithiau preifat rhithwir a chyfathrebu rheolaidd â chwsmeriaid = yr elfen gystadleuol.
Cysylltiadau band eang ffeibr llawn sy'n rhoi'r gwasanaeth cyflymaf a mwyaf dibynadwy i chi.
Yn Sir Benfro heddiw, mae gan dros 88% o aelwydydd a busnesau fynediad at o leiaf 30Mbps. Dyna ddiffiniad yr UE o Fand Eang Cyflym Iawn.
Y broblem yw bod gan lai na 6.5% o adeiladau fynediad at Fand Eang Gwibgyswllt (100 Mbps) ac mae 2.5% o'n haelwydydd yn cael trafferth o hyd gyda llai na 2mbps.
Mae hon yn broblem na fydd yn datrys ei hun, felly rydym yn rhoi cynllun ar waith fesul cam er mwyn dechrau arni.
*Aros yn gysylltiedig yn ystod y coronafeirws: Gwelwch gwestiwn cyffredin rhif 1 isod i gael canllawiau ar sut i aros yn gysylltiedig*
Fel rhan o’r cynllun hwn, byddwn yn uwchraddio adeiladau cyhoeddus ledled Sir Benfro gyda chysylltiadau ffeibr llawn sy’n gallu delio â gigabid. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn ymestyn rhwydweithiau ffeibr llawn ymhellach i'r Sir.
Rydym wedi rhannu Sir Benfro’n 90 o ardaloedd prosiect i roi cyfle i ddarparwyr seilwaith band eang roi pris am gysylltu busnesau a chartrefi â rhwydwaith gigabit-alluog seiliedig ar ffibrau.
Mae'n ymrwymiad ariannol mawr ac rydym yn gweithio'n galed gyda'n holl bartneriaid er mwyn gwireddu hyn i bawb.
Mae cynhwysiant yn elfen allweddol o'r dull gweithredu hwn o ganolbwyntio ar ardaloedd prosiect.
Ardaloedd prosiect Cam 1 mewn gwyrdd
Ardaloedd prosiect Cam 2 mewn oren
Ardaloedd prosiect Cam 3 mewn porffor
Ardaloedd prosiect Cam 4 mewn glas
Ardaloedd prosiect Cam 5 mewn pinc
Byddwn yn dechrau gweithio gyda chymunedau, preswylwyr a busnesau er mwyn helpu i ddenu'r adnoddau sydd eu hangen arnom. Byddwn yn defnyddio cynlluniau talebau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy'n darparu cyllid hyd at £7,000 fesul busnes a £3,000 fesul cartref. Bydd y talebau hyn yn hwyluso’r broses o adeiladu seilwaith band eang ffeibr gwell ar gyfer Sir Benfro.
Fel rhan o'r broses hon, byddwn yn gofyn i chi am eich darpariaeth band eang bresennol ac yn casglu'r wybodaeth berthnasol er mwyn cynllunio ar gyfer gwasanaeth gwell yn eich ardal. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein harolwg - ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Caiff canlyniadau'r arolwg eu trosglwyddo i ddarparwyr seilwaith band eang er mwyn caniatáu iddynt roi dyfynbris ar gyfer darparu'r seilwaith band eang perthnasol yn eich ardal brosiect.
Mae'n brosiect mawr sydd â photensial enfawr i newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yn y sir. Mae angen i ni gydweithio 100% – preswylwyr, busnesau, cyflenwyr a'r cyngor.
Fel awdurdod lleol, rydym yn gwneud popeth er mwyn sicrhau bod pob un o'n hadrannau'n cyflymu'r broses.
Yn y gymuned, rydym yn gwybod bod yna lawer o ewyllys da er mwyn gwireddu hyn i bawb.
Noder: Nid yw'r cyngor yn argymell unrhyw gyflenwr penodol. Rydym wrthi'n gweithio gyda chyflenwyr sydd wedi'u cofrestru â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar Gynllun Talebau Gigabid a Chynllun Talebau Gigabid Gwledig. Mae'n bosibl bod cyflenwyr eraill ar gael.
Beth allaf ei wneud i helpu'r gymuned i dderbyn darpariaeth band eang well?
Yr ateb byr yw annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/band-eang-arolwg
Mae'r seilwaith band eang yn fater costus gyda chyflenwyr yn y gorffennol yn dewis safleoedd hawdd i'w cyrraedd. Nid yw hynny'n deg. Felly, ein cynllun yw cyfuno unrhyw grantiau neu dalebau er mwyn denu a chreu rhwydweithiau cynhwysol ar gyfer cymunedau cyfan.
Po fwyaf o bobl yn y gymuned sy'n cymryd rhan yn yr arolwg, y mwyaf o adnoddau y gallwn eu denu a’r mwyaf fydd y gobaith o wella'r ddarpariaeth yn y gymuned. I helpu'ch cymuned felly, mae angen i chi:
Pob lwc!
"Mae mwy o alw am rwydweithiau band eang a ffonau symudol o ganlyniad i’r goronafeirws, (Covid-19), wrth i lawer o deuluoedd fod ar-lein gyda’i gilydd yn ystod y dydd wrth weithio a dysgu gartref. Felly gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy helpu i reoli sut rydym yn defnyddio ein cysylltiadau." Ofcom.
Ofcom –
https://www.ofcom.org.uk/cymru/phones-telecoms-and-internet/advice-for-consumers/stay-connected
Band eang ffeibr yw'r ail genhedlaeth o fand eang. Mae'n gynt, yn fwy dibynadwy ac yn defnyddio technoleg wahanol i fand eang cenhedlaeth gyntaf arferol. Caiff band eang cenhedlaeth gyntaf traddodiadol ei ddarparu drwy linellau ffôn copr, ac mae band eang ffeibr yn defnyddio ceblau ffibr optig.
Gellir darparu band eang ffeibr mewn dwy ffordd: Cysylltiad Ffeibr i’r Cabinet (FTTC) a Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP).
Mae Llywodraeth y DU yn diffinio band eang cyflym iawn fel cyflymder lawrlwytho o 24Mbps o leiaf. Mae OFCOM, sef rheolydd Telathrebu'r DU, a'r UE yn ei ddiffinio ychydig yn wahanol fel cyflymder o 30Mbps.
Mae band eang gwibgyswllt yn golygu cyflymderau lawrlwytho sy'n fwy na 100Mbps.
Mae llawer o wefannau yn caniatáu i chi gadarnhau eich cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho presennol.
Dyma rai dolenni:
Prawf Cyflymder Band Eang –
https://www.broadbandspeedtest.org.uk/
Prawf cyflymder –
http://www.speedtest.net/
Yn gyffredinol, bydd cyflymderau'n amrywio yn ystod y dydd neu'r wythnos, felly mae'n syniad da gweud y prawf eto ar wahanol adegau.
Ystyr FTTP yw ffibr i'r adeilad. Mae'n golygu eich bod eich band eang yn cysylltu'n uniongyrchol â'ch cartref neu fusnes.
FTTP ar hyn o bryd yw'r math cyflymaf o fand eang y gallwch ei gael.
Mae FTTC yn defnyddio ceblau ffeibr optig o'r gyfnewidfa yr holl ffordd draw i gabinet y stryd (y cypyrddau gwyrdd a welwch ar strydoedd). Wedyn, mae'n defnyddio gwifrau copr sy'n bodoli eisoes er mwyn cysylltu'r cabinet â chartrefi a busnesau. Mae FTTC yn darparu cyflymderau lawrlwytho o hyd at 80mbps a chyflymderau lanlwytho o hyd at 20mbps. Caiff y rhain wedyn eu cynnig fel pecynnau gwasanaeth gwahanol gan Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd manwerthu (ISPs).
Cyflymder yw’r prif wahaniaeth: mae FTTP yn galluogi cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho llawer cyflymach oherwydd bod mwy ohono’n cael ei gludo drwy opteg ffibrau cyflym iawn.
Yn gyffredinol mae FTTP yn darparu cyflymderau mwy rhagweladwy a chyson. Mae ganddo enw da am fod yn fwy dibynadwy.
Gyda chyflymderau o 1000Mbs (1Gbs) a mwy, mae FTTP mor ‘addasadwy i’r dyfodol’ ag y mae pethau yn 2020.
Bydd hyn yn dibynnu ar ba becyn rydych yn ei archebu drwy eich cyflwnwr.
Fel rheol, bydd y broses yn dilyn y camau hyn:
1. Arolwg – neu brofion i ganfod y ffordd orau o ddod â ffeibr i'ch eiddo o'r man cyflenwi agosaf.
2. Gwaith allanol – rhedeg cebl ffeibr i'ch eiddo mewn ceblau tanddaearol neu geblau uwchben. Wedyn, caiff blwch cysylltiad bach ei osod y tu allan i'ch tŷ.
3. Gwaith mewnol – caiff pwynt cysylltu ffeibr ei osod yn agos at ffynhonnell bŵer yn y man mwyaf cyfleus.
4. Cysylltu – bydd llwybrydd wedyn yn cysylltu'r gwasanaeth band eang a ddarperir gan eich ISP (darparwr gwasanaethau rhyngrwyd) â'r dyfeisiau yn eich cartref. Gellir gwneud cysylltiadau gan ddefnyddio cebl ether-rwyd neu Wi-Fi
Faint y bydd gwasanaeth ffeibr yn ei gostio?
Mae prisiau ar gyfer pecynnau band eang ffeibr yn amrywio gan ddibynnu ar ba gyflymderau lawrlwytho a lanlwytho yr hoffech chi. Mae'n syniad da i chwilio am y fargen orau.
Dyma'r pethau allweddol i gadw golwg amdanynt:
Pris – Gall gwefannau cymharu prisiau fod yn ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i'r fargen orau i chi. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn dod o hyd i gyngor ar arbed arian a chyngor ar newid cyflenwr.
Cyflymder – dylech wirio'n ofalus gan fod rhai pecynnau band eang yn capio'ch cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho pan fyddant yn cynnig tariff rhatach.
Defnydd – mae rhai pecynnau yn ddiderfyn tra bod eraill yn nodi faint o ddata lawrlwythiadau/lanlwythiadau y gallwch eu cael bob mis. Dylech wirio'n ofalus.
Hyd y contract – dylech gadarnhau hyd y contract. A yw'n para 12, 18 eu 24 mis? A yw'r contract yn addas i chi?
Galwadau – a oes gennych yr opsiwn i gyfuno band eang â gwasanaethau ffôn mewn un pecyn?
Cynigion arbennig – gallai'r rhain fod yn bethau megis cynigion rhagarweiniol a gwasanaethau wedi'u bwndelu.
Edrychwch ar wefannau cymharu prisiau band eang ffeibr.
Na. Ni allwn roi cyngor i chi ynghylch ba ISP (Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd) i'w ddewis.
Rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio ar un o'r gwefannau cymharu prisiau er mwyn cael y fargen orau.
Nod rhaglen cysylltu Sir Benfro yw sicrhau'r gwasanaeth band eang hirdymor gorau posibl i'r sir o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Mae'r prosiect yn ystyried llawer o ffactorau gan gynnwys demograffeg a daearyddiaeth leol, gofynion cynllunio a'r seilwaith band eang presennol.
Mae'r prosiect wedi'i rannu'n 90 o ardaloedd gwaith.
Nid yw'n bosibl i brosiect o'r maint hwn gyrraedd pob ardal ar yr un pryd, felly bydd rhai ardaloedd yn cael eu cyflenwad cyn eraill. Rydym yn deall y rhwystredigaeth ledled y sir a phwysigrwydd band eang ffeibr. Byddwn yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd wrth i'n cynlluniau esblygu.
Y cynllun ar hyn o bryd yw dechrau gyda'r ardaloedd prosiect eang canlynol: Crymych, Y Mot, Treamlod, Dale.
Os ydych yn awyddus i'ch adeilad preswyl neu fusnes gael ei ystyried yn ein hardal prosiect nesaf, cwblhwch y ffurflen Arolwg Band Eang. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall lefel y diddordeb yn eich cymuned.
Mae'r ffordd rydym ni'n gwneud galwadau wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn defnyddio llinellau sefydlog yn llai aml ac yn defnyddio ffonau symudol ac apiau rhyngrwyd yn amlach.
Rydym yn agosáu at ddiwedd oes hen dechnoleg gwifrau copr ar gyfer galwadau ffôn cartref. Dyma ddau opsiwn arall:
VOIP
Gyda chysylltiad da â'r rhyngrwyd, gallwch ddefnyddio ffôn VOIP (Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd). Mae'r rhain yn gallu edrych fel ffonau traddodiadol, ond mae popeth arall yn wahanol:
Galwadau Wi-Fi
Gyda chysylltiad da â'r rhyngrwyd, gallwch wneud galwadau Wi-Fi ar rai ffonau symudol.
Dylai VOIP a galwadau Wi-Fi fod yn bosibl gyda phob darparwr isadeiledd band eang ym mhrosiect Sir Benfro.