Beicio Sir Benfro
Llwybr Antur De Sir Benfro
Mae’r Llwybr yn creu cylch o gwmpas y gornel dde-ddwyreiniol honno o Dde Sir Benfro, y cyfeirir ati weithiau fel ‘Riviera Cymru’. Mae’n cynnig golygfeydd trawiadol ar draws Bae Caerfyrddin ac yn eich galluogi i archwilio cyrchfannau hanesyddol, diddorol a phoblogaidd iawn, Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot. Cewch ymweld â phentref tlws St Fflorens a chael cyfle i dreulio amser mewn sŵ arbennig gerllaw a dwy ganolfan antur sy’n cynnig llu o weithgareddau awyr agored i’r teulu cyfan
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Cyrchfannau gwyliau glan y môr gwych, tref hanesyddol a phentrefi, parc bywyd gwyllt, a chyfoeth o weithgareddau i ddenu beicwyr llwybrau o bob oed |
---|---|
Gradd: |
Canolig |
Pellter: |
12.8 milltir (20.6 km) |
Amser: |
3.0 awr ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer oedi yma ac acw |
Tirwedd: |
Ar hyd lonydd gwledig tawel gan mwyaf ond gydag adrannau ychydig yn brysurach yn Ninbych-y-pysgod, New Hedges a’r lôn yn ôl i lawr i Saundersfoot. Mae wyneb ar bob rhan o’r Llwybr. Wrth adael Saundersfoot, mae’r Llwybr yn eithaf serth, ac wrth fynd i mewn ac allan o Ddinbych-y-pysgod. Bydd angen i chi ddod i lawr oddi ar eich beic a’i wthio ar hyd y rhan i fyny i Ddinbych-y-pysgod ac efallai y bydd arnoch eisiau gwthio eich beic i fyny rhannau o’r lleoliadau eraill y cyfeiriwyd atynt uchod |
Codiad Tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr adrannau i fyny allt) - 295 metr |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Maes parcio Regency, Saundersfoot (Cyf. Grid SN135047, Sat Nav SA69 9NG). Maes parcio Talu ac Arddangos yw hwn a chodir tâl o fis Mawrth hyd fis Tachwedd o 9a.m. hyd 5p.m. O ffordd yr A478 ym Mhentlepoir neu o Gylchfan Twy Cross ger New Hedges, trowch i mewn i ffordd y B4316 gyda’r arwydd am Saundersfoot. Yng nghanol y pentref dilynwch y system unffordd ac mae’r maes parcio (sydd ag arwydd ‘Gwybodaeth i Ymwelwyr’) ar y chwith ar ôl yr arcêd adloniant. Mae yna standiau beiciau a thoiledau yn y maes parcio |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Gorsaf Reilffordd Saundersfoot 1.5 milltir (Trowch i’r chwith o’r lôn allan o’r orsaf i mewn i ffordd y B4316 gan ddilyn yr arwyddion am Saundersfoot. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd B4316 i ganol y pentref a dilynwch y system unffordd i’r maes parcio fel uchod. Ar ôl cwblhau’r Llwybr, ailymunwch â’r system unffordd i fyny’r bryn a dilynwch yr arwyddion yn ôl i’r orsaf unwaith y byddwch allan o’r pentref) |
Man Cychwyn Gwahanol: |
Canolfan wyliau Parc yr Odyn neu ganol Tref Dinbych-y-pysgod – ymunwch â’r llwybr mewn man priodol yn ‘Cyfarwyddiadau’r Llwybr’ |
Lluniaeth |
Saundersfoot, St Fflorens, Dinbych-y-pysgod a’r canolfannau antur |
Toiledau |
Saundersfoot, Ddinbych-y-pysgod a’r canolfannau antur |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Gadewch y maes parcio a throwch i’r chwith i mewn i Brookland Place yn union cyn i ffordd y maes parcio ymuno â’r briffordd. Rydych yn awr yn dilyn llwybr hen Reilffordd Saundersfoot. Ar ôl tua 200 llath byddwch yn mynd heibio i’r set cyntaf o ddau set o byst. Ewch ymlaen heibio i’r ail set o byst.
0.4 Wrth y gyffordd ‘T’ gwyrwch i’r chwith gan ddilyn y ffordd sy’n dwyn yr arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Hir’. (Byddwch yn sylwi bod yna ffordd ochr i’r dde o’r arwydd hwn sy’n mynd ymlaen am beth pellter ac yn ymuno â llwybr sy’n mynd i fyny’r allt. Hwn yw cychwyn yr Inclein, rhan serth o’r hen reilffordd lle’r arferai’r dramiau, llawn glo, redeg ar eu ffordd i’r harbwr a’r dramiau gweigion gael eu tynnu i fyny’r bryn drwy gyfrwng ceblau (oedd yn cael eu gweithio o gwt weindio ar y top). Dilynwch y ffordd i’r chwith i’r arwydd, i fyny’r allt allan o’r pentref. Ar ôl oddeutu 200 llath mae’r Llwybr yn troi’n sydyn i’r chwith ac yn mynd yn fwy serth fyth. Mae’n debyg y bydd arnoch eisiau gwthio eich beic i fyny rhan o’r allt hon ac edmygu cipolwg yma ac acw ar yr olygfa i lawr tuag at Saundersfoot ar y chwith.
1.4 Wrth y gyffordd â phriffordd yr A478 bydd angen i chi groesi i’r ffordd gyferbyn, a elwir Devonshire Drive. Yr A478 yw’r briffordd i ac o Ddinbych-y-pysgod ac, oherwydd hynny, gall fod yn brysur iawn ac felly byddwch yn ofalus dros ben wrth groesi yn y fan hon. Ewch ymlaen ar hyd Devonshire Drive am bron i 21/2 milltir gan anwybyddu unrhyw doeon i’r ochr.
3.8 Wrth y gyffordd ‘T’ â phrif ffordd y B4318, mae’r Llwybr yn croesi i’r ffordd ochr gyferbyn ac felly, unwaith eto, cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd hon. Ond, cyn croesi, efallai y bydd arnoch eisiau ymweld â Byd Gweithgareddau Heatherton i’r chwith a/neu Barc Bywyd Gwyllt y Maenor gyferbyn. Unwaith y byddwch wedi croesi’r ffordd ewch ymlaen ar hyd y lôn fechan sy’n dwyn yr arwydd am St Fflorens.
4.2 Wrth y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd am St Fflorens. Unwaith y cyrhaeddwch y pentref, dilynwch y system unffordd i’r chwith. Ewch heibio’r eglwys ar y dde ac un o simneiau Ffleminaidd y pentref ar y chwith. Wrth y gyffordd ‘T’ nesaf trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd ar gyfer Penalun. Byddwch yn ymuno â Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am y rhan fwyaf o weddill y Llwybr a bydd yr arwyddion ar gyfer hwn hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau priodol i chi. Cyn mynd yn eich blaen, efallai y byddwch yn dymuno oedi am funud i edrych o gwmpas y pentref tlws hwn.
6.7 Ceir cyffordd ar y chwith tuag at Beiciau Cwad Cwm Rhydeg. Os byddwch yn ymweld, dychwelwch i’r gyffordd hon wedyn a throi i’r chwith i barhau ar hyd y Llwybr. Fel arall, ewch yn syth ymlaen.
7.7 Wrth y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith ac ymunwch â’r llwybr beicio. Dilynwch hwn am tua 100 llath, croeswch y ffordd ochr gerllaw ac wedyn croeswch y briffordd wrth y goleuadau traffig. Dilynwch y llwybr am ychydig o filltiroedd ac wedyn troi i’r dde yn union cyn y tŷ. Ar ôl 100 llath arall trowch i’r dde a dilynwch y ffordd hon. Ar y dde i chi, byddwch yn fuan yn mynd heibio cyfadeilad yr Odyn Calch mwyaf sydd ar ôl yn Sir Benfro, a gaeodd yn 1902. Mae’n werth mynd i mewn am funud i weld y strwythur tebyg i ‘gadeirlan’ y tu mewn. Dilynwch y ffordd o flaen y farchnad fechan gan gymryd yr ail dro wrth y gylchfan fechan, ac wedyn cymerwch yr ail dro i’r dde, gyda’r arwydd Y Traeth, fydd yn mynd â chi at bont dros y rheilffordd. Trowch i’r chwith ar ôl croesi’r bont a dilyn y ffordd gul rhwng y rheilffordd a Maes Golff Dinbych-y-pysgod, a ystyrir gan lawer fel man geni golff yng Nghymru.
8.8 Wrth y fan lle mae’r ffordd gul o’ch blaen yn dechrau codi dilynwch y llwybr cul i’r dde fydd yn mynd â chi drwy rwystr wrth ochr sied frics fechan. Mae’r llwybr yn lledu’n fuan yn ffordd wrth ymyl rhes o dai. Y tu draw i’r tai, trowch i’r dde i faes parcio’r Traeth Deheuol. Mae toiledau a lluniaeth ar gael ger y traeth. Mae’r Llwybr yn parhau ar hyd ochr y môr o’r caffis. Dewch oddi ar eich beic a’i wthio i fyny’r llwybr igam ogam serth a chul a ddefnyddir yn aml gan gerddwyr, i ben y bryn.
9.1 Unwaith y byddwch wedi cyrraedd pen y bryn, daliwch i wthio eich beic ar hyd y llwybr troed llydan ar ochr y môr o’r Esplanade. Bydd hyn yn eich galluogi i fwynhau’r golygfeydd hyfryd o’r Traeth Deheuol ac Ynys Bŷr y tu draw. Bydd hefyd yn eich arbed rhag gorfod beicio o gwmpas system draffig unffordd hirach yn y dref, sy’n medru bod yn eithaf prysur. Mae yna standiau beiciau ar ben arall yr Esplanade. Mae hwn yn lle da i glymu eich beic yn ddiogel a chymryd amser i grwydro o gwmpas canol diddorol Dinbych-y-pysgod o fewn muriau’r dref, yr eir iddi drwy’r porth gerllaw.
9.3 Cerddwch ymlaen o dan y porth i’r Dref Gaerog. Ewch yn ôl ar gefn eich beic a beicio ychydig bach o ffordd cyn troi i’r chwith i Stryd y Llyffant Isaf. Wrth y groesffordd nesaf trowch i’r dde a dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r chwith nes i chi ddod i mewn i Sgwâr y Tuduriaid, sef canol y Dref Gaerog. Trowch i’r chwith heibio i’r eglwys a daliwch i fynd ar hyd y ffordd hon nes i chi weld Traeth Gogleddol Dinbych-y-pysgod ar y dde i chi. Ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan fechan a dilynwch y ffordd hon am dros 1/4 milltir. Byddwch yn ofalus oherwydd y gall y ffordd hon fod yn eithaf prysur.
10.0 Yn syth ar ôl tro mawr i’r chwith, trowch i’r dde i ffordd yn dwyn yr arwydd ‘Mayfield Drive yn arwain i’r Cefn Llithrig’. Ewch ymlaen i ben y bryn eithaf serth yma, fydd yn eich arwain drwodd i lwybr marchogaeth culach y tu draw i’r fynwent. Ar ôl oddeutu 1/4 milltir mae’r llwybr yn ehangu. Ewch ymlaen heibio ychydig o dai ac i lawr yr allt.
10.7 Cyn y gyffordd â phriffordd yr A478, trowch i’r dde i lwybr beicio ac ewch ymlaen hyd nes y bydd hwn yn cyfarfod ffordd ochr, sy’n arwain i bentref New Hedges. Dilynwch y ffordd ochr hon i fyny’r allt ac ymlaen drwy’r pentref am oddeutu 1/2 milltir.
11.5 Yn union cyn y gyffordd ‘T’ ymunwch â llwybr beicio ar y dde. Dilynwch hwn i fyny am ychydig, croeswch y ffordd a throi i’r chwith. Parhewch ar hyd y llwybr beicio hwn wrth ochr y ffordd.
11.8 Ailymunwch â’r ffordd ar ben draw y llwybr a throwch i’r dde. Ar ôl bron i 1/2 milltir byddwch yn cyrraedd yn ôl yn Saundersfoot. Ewch i lawr yr allt yn ofalus.
12.7 Wrth y gyffordd ‘T’ â ffordd y B4316, trowch i’r chwith. Cymerwch ofal gan y gall y rhan fer nesaf hon o’r ffordd fod yn eithaf prysur. Ar ôl 100 llath trowch i’r chwith cyn siop Tesco Express.
12.8 Gorffen ym Maes Parcio Regency.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Saundersfoot
Pentref pysgota sydd wedi ei leoli yng nghanol y Parc Cenedlaethol ac un o’r cyrchfannau gwyliau glan y môr mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Amser maith yn ôl dim ond ychydig o fythynnod canoloesol ydoedd mewn llannerch yn y goedwig, a ddefnyddid fel tir hela gan Ieirll Normanaidd Penfro. Wedyn, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd yn borthladd glo llewyrchus a châi 30,000 o dunelli o lo eu hallforio yn flynyddol o’i harbwr. Wedi i’r diwydiant glo ddiflannu, datblygodd Saundersfoot yn gyrchfan wyliau glan y môr.
Yr Inclein
Arferai fod yn rhan o brif lein Rheilffordd Saundersfoot, a agorodd yn 1832, rhwng yr harbwr a’r meysydd glo i’r gogledd-orllewin, yn cynnwys Bonville’s Court a Chapel Tomos. Roedd yr inclein annibynnol oddeutu 300 llath o hyd ar raddiant o 1 mewn 5. Gellir gweld adfeilion y cwt weindio o hyd ar gopa’r Inclein.
Byd o Weithgareddau Heatherton
Mae’r atyniad hwn wedi ennill gwobr. Mae mynediad iddo am ddim (talu wrth chwarae). Mae ar agor drwy’r flwyddyn o 10 o’r gloch y bore. Edrychwch ar eu gwefan: Heatherton am yr amseroedd cau bob dydd gan fod hyn yn amrywio. Mae’r atyniad wedi ei rannu yn bedwar parth gweithgaredd gwahanol – Hwyl i’r teulu, Adrenalin, Chwarae, a Golff a Bowlio. Mae toiledau a lluniaeth ar gael ar y safle.
Parc Bywyd Gwyllt y Maenor
Ar agor bob dydd o 10 y bore hyd 6 yr hwyr. Codir ffioedd – edrychwch ar y wefan Manor Wildlife Park am fwy o wybodaeth. Sŵ wedi ei gosod allan yn dda sy’n darparu rhywbeth ychydig yn wahanol i barciau bywyd gwyllt eraill am y gellwch borthi’r anifeiliaid a hyd yn oed fynd i mewn i rai o’r lleiniau caeedig i anifeiliaid mawr iawn. Mae hyn yn eich galluogi i ryngweithio mwy â’r anifeiliaid a’u hamgylchedd, na fyddai’n digwydd fel arfer.
St Fflorens
Pentrefdymunol a hen-ffasiwn yn dyddio’n ôl i oes y Normaniaid gyda bythynnod tlws a simneiau Ffleminaidd. Mae yno eglwys ddiddorol hefyd o’r ddeuddegfed ganrif wedi ei chysegru i St Fflorentiws. Ar un adeg roedd yn borthladd llanw bychan ar y Rhydeg (The Ritec yn Saesneg) nes i rwystr gael ei godi yn 1820 ar draws ceg yr afon er mwyn creu tir pori newydd rhwng Dinbych-y-pysgod a Penalun.
Beiciau Cwad Cwm Rhydeg
Os ydych yn teimlo fel cael egwyl lawn sbri ar haner eich llwybr beicio hamddenol, ewch am dro ar feic peiriannol pedair olwyn. Mae gan y ganolfan dros 12 milltir o lwybrau ar gyfer beiciau cwad mewn dros 100 acer o dir yn cynnwys coetir, bryniau serth a chaeau gwastad. Edrychwch ar y wefan Ritec Valley am yr amseroedd agor, y ffioedd a sut i archebu.
Dinbych-y-pysgod
Tref harbwr hyfryd o ddela chyrchfan wyliau sy’n llawn o hen hanes gyda’i rhan ganolog o fewn muriau cerrig canoloesol. Mae Dinbych-y-pysgod yn dal i gadw naws gref ei hetifeddiaeth gyfoethog a hynod ddiddorol. Gellir gweld adfeilion castell Dinbych-y-pysgod ar y pentir yn edrych allan dros yr harbwr. Mae yna gymaint i’w weld gan gynnwys yr Amgueddfa a’r Oriel Gelf, Tŷ’r Marsiandïwr Tuduraidd ac Eglwys y Santes Fair, un o’r eglwysi mwyaf yng Nghymru