Beicio Sir Benfro

|Name like '%Heritage Coast%'|Route like '%Heritage Coast%'

Llwybr Arfordir Treftadaeth

Overview
Information

    Mae Arfordir Treftadaeth De Sir Benfro’n ymestyn o Ynys Bŷr yn y gorllewin i Angle Bay. Er nad oes modd mynd ar rywfaint o’r morlin hyn ar gefn beic oherwydd y dringfeydd serth, y clogwyni a maes milwrol mawr, ymwelir â chymaint â phosibl ohono ar y llwybr. Mae nifer o ddolenni byrion wedi’u cynnwys i ddarparu mynediad uniongyrchol i’r arfordir neu i leoliadau gyda golygfeydd helaeth o’r morlin. Mae’r dirwedd yn syfrdanol gyda chlogwyni garw, penrhynion, baeau tywodlyd euraidd, twyni a rhostir wedi’i ffurfio gan y gwynt. Mae’r llwybr yn dechrau ac yn gorffen ym Mhenfro, yn agos at gaer Normanaidd, sef yr unig gastell yng Nghymru sydd heb fod yn destun ymosodiad erioed ac sy’n fan geni i Harri Tudur 

    Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau:

    Dyma lwybr pellter hirach llawn golygfeydd trwy gornel de-orllewinol gwyllt, garw a gwyntog Sir Benfro. Ewch i weld traethau, cildraethau, pentrefi, safleoedd hanesyddol a golygfannau niferus lle gallwch stopio ac edmygu rhannau o’r morlin amrywiol ac ysblennydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

    Gradd: Egnïol 

    Pellter:

    51 milltir (81 cilometr)

    Amser:

    Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr

    Man cychwyn/gorffen

    Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol

    Gorsaf Drenau Agosaf:

    Maes Parcio West Street (am ddim), Penfro (Cyfeirnod Grid SM982013, Offer Llywio â Lloeren SA71 4ET). Trowch i mewn i West Street o Common Road, Penfro (y gyffordd gerllaw’r Groesfan Pelican). Ar ôl 100 llath, trowch i’r dde dan rwystr uchder o 6’6” i mewn i’r maes parcio. Tynnwch feiciau sydd wedi’u gosod ar y to i lawr cyn mynd i mewn neu defnyddiwch y maes parcio gerllaw (mae ffi i’w thalu ar gyfer hwn)

    Tirwedd:

    Ar ffyrdd bach gwledig gan mwyaf ond gyda rhannau byr ar hyd ffyrdd Dosbarth II a rhan fer iawn ar hyd ffordd brysurach yr A4139. Mae’r dringfeydd yn gymharol isel ar gyfer y rhan helaeth ond yn fwy serth ychydig ar ôl gadael Penfro ac mewn mannau lle mae’r llwybr yn dringo allan o rai o’r cymoedd a’r ardaloedd arfordirol. Ni ddylai’r un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sy’n arfer beicio ond efallai yr hoffech ddod oddi ar eich beic a’i wthio i fyny ar hyd rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddant yn anodd i chi. Mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at barhad y daith. Mae’n cynnig egwyl fer o’r beicio ac yn rhoi cyfle ichi amsugno’r golygfeydd ac edmygu’r cloddiau deniadol

    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 795 metr

    Lluniaeth:

    Penfro, Maenorbŷr, Freshwater East, Cei Ystangbwll, Bosherston, De Aberllydan (ciosg), Freshwater West (ciosg) a Bae Gorllewin Angle (rhai ohonynt ar agor yn dymhorol yn unig)

    Toiledau:

    Penfro, Traeth Maenorbŷr, Freshwater East, Cei Ystangbwll, Bosherston, De Aberllydan, Freshwater West a Bae Gorllewin Angle

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Dechrau. Wrth y fynedfa i gerbydau i mewn i’r maes parcio, dilynwch y llwybr beicio i ochr chwith y rhwystr uchder, croeswch y ffordd ac ewch ymlaen ar y lôn nesaf at y parc. Can llath ar ôl cyffordd Thomas Street, dilynwch y llwybr i gyfeiriad y chwith (gydag NCN4 ar yr arwydd) cyn i’r  lôn ymuno â’r brif ffordd. Defnyddiwch y groesfan dros y brif ffordd a dilynwch y llwybr arwyneb coch rhwng y ffordd fach nesaf ato a’r parc am ryw 350 llath. Byddwch yn mynd heibio i ran o hen wal y dref ar yr ochr chwith. Trowch i’r chwith lle mae’r llwybr yn rhannu, ewch drwy’r rhwystrau ac yna trowch i’r dde i’r ffordd fach i fyny’r bryn. Ychydig cyn y gyffordd â’r brif ffordd ar ben ucha’r bryn byr (ond eithaf serth), ymunwch â’r llwybr cul ar y chwith a defnyddiwch y groesfan dros y brif ffordd ychydig rownd y gornel. Pan fyddwch chi wedi’i chroesi, dilynwch y llwybr nesaf at y ffordd am 75 llath arall a throwch i’r dde i’r lôn lle mae arwydd Mill Pond Walk wrth ochr y toiledau cyhoeddus a’r stand beiciau. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i ymyl pwll y felin ei hun. Trowch i’r dde a dilynwch y llwybr hwn o gwmpas rhan o’r pwll, dros bont gul ac yna o gwmpas i’r ochr chwith ochr yn ochr â Golden Manor Nursery hyd nes i chi ymuno ag isffordd. Mae rhan fer iawn o’r llwybr sy’n arwain at yr isffordd yn gul a hwyrach y bydd angen i chi ddod oddi ar eich beic i fynd heibio i ddefnyddiwr arall.

    0.9 Wrth y gyffordd â’r isffordd (ochr yn ochr â’r fynedfa i Golden Manor Nursery), trowch i’r dde a pharhewch o dan y bont ac i lawr y bryn i’r dde. Byddwch yn ofalus ger gwaelod y bryn gan fod y ffordd yn gul gyda gwelededd cyfyngedig o’ch blaen o gwmpas tro. Mae’r ddringfa serth i fyny ychydig y tu hwnt i’r fan hon yn lleddfu’n fuan wrth i chi symud ymlaen ar hyd y llwybr.

    1.7 Croeswch dros brif ffordd yr A4075 yn ofalus iawn, ac ewch ymlaen am bron i 2½ filltir gan anwybyddu unrhyw droeon i ffyrdd ochr. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac  i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn yr arwydd am Faenorbŷr. Ar ôl 2½ filltir arall, trowch i’r dde wrth y groesffordd ychydig y tu hwnt i’r gyffordd lle mae arwydd i orsaf drenau Maenorbŷr. Dilynwch y ffordd hon i lawr y bryn ac ymlaen o dan bont reilffordd.

    8.3 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd (croeswch y brif ffordd yn ofalus) gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Maenorbŷr.

    8.8 Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd ar gyfer yr Hostel Ieuenctid, ac i’r chwith eto wrth Gatiau’r Maes Milwrol. Beiciwch heibio i’r Hostel Ieuenctid ac ewch ymlaen i Olygfannau Skrinkle Haven (gyda standiau beiciau). Fe welwch Ynys Bŷr yn glir o’r olygfan gyntaf ac ar ben dwyreiniol Arfordir Treftadaeth De Sir Benfro. Pan fyddwch yn barod, dychwelwch i’r brif gyffordd ‘T’ a throwch i’r chwith i Faenorbŷr.

    11.4 Tuag at ddiwedd y pentref, dilynwch y ffordd i lawr y bryn gan fwrw i’r chwith ac yna i’r dde heibio i’r gyffordd sy’n arwain i lawr at y traeth a’r toiledau. Mae’r fynedfa i Gastell Maenorbŷr ar yr ochr chwith ychydig ar ôl y gyffordd i’r traeth. Cadwch i’r chwith ac ewch ymlaen ar y brif ffordd hon allan o’r pentref am ½ milltir, yna trowch i’r chwith gyferbyn â Rose Cottage. Trowch i’r chwith eto wrth y groesffordd gyntaf ac ewch ymlaen i dynnu i mewn ar y dde ychydig y tu hwnt i fyngalo. O’r fan hon, fe welwch olygfa odidog o Draeth Maenorbŷr a’r morlin o’ch blaen yr holl ffordd draw i Benrhyn Sant Gofan). Ewch yn ôl at y groesffordd a throwch i’r chwith. (Sylwch – gellir hefyd troi at yr olygfan uchod yn uniongyrchol trwy ffordd Traeth Maenorbŷr o’r pentref. Mae hyn yn lleihau hyd y llwybr gan filltir ond mae’r ddringa gul i fyny o’r traeth yn eithaf serth).

    14.4 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ i’r brif ffordd ac ar ôl 150 llath, trowch i’r chwith i ffordd ochr lle mae arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Modur’. Mae’r rhan fer o’r brif ffordd yn eithaf cul a gall fod yn brysur yn ystod y tymhorau prysur, felly cymerwch ofal mawr.

    15.5 Anwybyddwch y troad i’r dde lle mae arwydd ‘Dim Cerbydau Modur’ ac ewch yn syth ymlaen

    15.6 Gallech ddewis stopio ychydig y tu hwnt i’r arwyddion 30mya am daith gerdded o 2 funud i olygfan Freshwater East.

    15.9 Trowch i’r chwith rhwng y bolardiau i’r ffordd ochr wrth hysbysfwrdd y pentref ac i’r chwith eto wrth y gyffordd ‘T’ nesaf. Parhewch i lawr y bryn a gellir mynd at y traeth ar y chwith ychydig cyn y bont gul (standiau beiciau gerllaw). Yna, ewch ymlaen i fyny’r bryn serth allan o Freshwater East, gan basio trwy bentrefan bach East Trewent (gan anwybyddu’r ddwy gyffordd sy’n troi i’r dde). Ar ben y bryn, mwynhewch y golygfeydd godidog yn ôl i Faenorbŷr ac arfordir Gŵyr yn y pellter. Ar ôl teithio milltir y tu hwnt i East Trewent, trowch i’r chwith wrth y gyffordd gan ddilyn yr arwydd am Gei Ystangbwll. Ar ôl stop dewisol yn y cei, ewch yn ôl i fyny’r gyffordd a throwch i’r chwith. Yna ewch ymlaen i lawr y ffordd i mewn i bentref Ystangbwll a thrwyddo.

    21.4 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd am Bosherston. Ar ôl ychydig dros ¼ milltir, trowch i’r chwith eto gan ddilyn arwydd arall am Bosherston. Ar ôl i chi fynd i mewn i’r pentref, mae ffordd ochr i’r chwith ychydig ar ôl yr eglwys yn eich tywys i lawr i faes parcio (a standiau beiciau) lle gallwch fynd ar daith gerdded fer ddewisol i’r Pyllau Lili. Yna ewch ymlaen trwy’r pentref heibio i’r caffi a’r dafarn a throwch i’r chwith gan ddilyn arwydd am Aberllydan. Dilynwch y ffordd hon am filltir nes i chi gyrraedd y maes parcio’n edrych dros draeth De Aberllydan. Ar ôl egwyl ddewisol arall, trowch yn ôl am Bosherston ac yna trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd Sant Gofan (sylwch fod y mynediad i’r ffordd yn Sant Gofan ar gau weithiau yn ystod ymarferion tanio byw ar Faes Castellmartin gerllaw. Os ydyw ar gau, ewch yn ôl trwy Bosherston fel y gwelir isod).

    26.3 Cyrraedd Sant Gofan (standiau beiciau yn y maes parcio). O’r fan hon, gallwch fynd ar y llwybr wrth ochr y clogwyn a Chapel bach Sant Gofan sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r clogwyn. Ar ôl ymweliad byr ond gwerth chweil, trowch yn ôl a dilynwch y ffordd yn ôl trwy Bosherston. Pan fyddwch allan o’r terfyn cyflymder 30mya, ewch ymlaen am bron i ¾ milltir a throwch i’r chwith i ffordd ochr ar dro yn y ffordd ar y llaw dde. Ar ôl ½ milltir arall, trowch i’r dde (osgowch y rhan syth ar y ffordd gyda’r arwydd ‘Anaddas i Gerbydau’).

    29.7 Ychydig ar ôl canolfan ‘Lyserry Barns’, ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf. Ar ôl bron i ½ milltir, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ochr yn ochr ag Eglwys St Twynnells. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn yr arwydd am Gastellmartin. Wrth i chi adael pentref St Twynnells, ewch tua’r dde i ffordd ochr unwaith eto lle mae arwydd am Gastellmartin.

    31.7 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd. Ar ôl ychydig dros ¼ milltir, byddwch yn mynd heibio Ardal Wylwyr Maes Castellmartin ar y chwith. Ar ôl ¾ milltir, byddwch yn cyrraedd hen Bownd Castellmartin yng nghanol y ffordd. Ewch yn syth ymlaen gan ddilyn yr arwydd am Freshwater West. Ar ôl 1½ milltir, fe welwch eich golygfa gyntaf o Freshwater West a thwyni neu dyllau helaeth yn ymestyn tua’r tir o’r traeth. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd trwy’r twyni a thu hwnt.

    36.0 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn yr arwydd am Angle. Ewch ymlaen am dros 2 filltir gan anwybyddu’r ddwy gyffordd ar y dde (gan gynnwys yr un gyda’r arwydd am Angle). Dilynwch y bachdro yn y ffordd i gyfeiriad y dde ac ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith.

    39.0 Ar ôl stop dewisol byr yn Bae Gorllewin Angle (mae standiau beiciau yn y maes parcio wrth fynedfa’r caffi), trowch yn ôl a dilyn y ffordd yn ôl trwy Angle. Ewch ymlaen yr holl ffordd drwy’r pentref gan fynd heibio’r eglwys ar y chwith. Trowch i’r chwith ar ôl yr eglwys ac ar ôl i chi fynd dros y bont fach, ewch i gyfeiriad y dde a dilyn y llwybr heb arwyneb ac ychydig yn anwastad ar hyd y blaendraeth am bron i ½ milltir i’r Old Point House Inn sy’n edrych dros Angle Bay (byddwch yn ymwybodol y gall y llwybr sy’n arwain i’r Point House neu oddi yno fod dan ddŵr ar adegau o lanw mawr iawn). Yna trowch yn ôl am y pentref gan droi i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’.

    40.9 Trowch i’r dde wrth y gyffordd lle mae arwydd am Benfro ac ar ôl ychydig dros ½ milltir, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen am bron i 3 milltir (gan anwybyddu’r troad i’r dde gydag arwydd am Freshwater West). Trowch i’r chwith ychydig ar ôl Fferm Newton wrth y gyffordd lle mae arwydd am Roscrowdder. Bron i filltir i lawr y ffordd hon, trowch i’r dde wrth y groesffordd. Dros y cwpl o filltiroedd diwethaf, byddwch chi wedi cael golwg glir o Burfa Olew Valero gerllaw, sy’n gyferbyniad llwyr â’r olygfa arfordirol flaenorol.

    46.6 Wrth y gyffordd Aros cyn Troi, trowch i’r dde a throwch i’r chwith bron yn syth i ffordd fach gul. Ar ôl 200 llath, mae’r ffordd yn mynd heibio i rywfaint o dir heb ei ffensio. Trowch am y dde lle mae’r ffordd yn rhannu ar y rhan hon. Ewch ymlaen i bentref Hundleton. Wrth y gyffordd ‘T’ yn y pentref, trowch i’r chwith (yn ofalus) a throwch i’r chwith bron yn syth ger y gysgodfan fysiau. Dilynwch y ffordd ochr hon am bellter byr hyd nes i chi adael y pentref a throwch i’r dde wrth y gyffordd gyntaf. Bydd hon yn dod â chi ochr yn ochr â mornant llanwol prydferth Quoits Mill (byddwch yn ofalus ar y bryn serth i lawr i’r mornant a byddwch yn ymwybodol fod y ffordd hon yn destun llifogydd am gyfnodau byr adeg y llanw mawr). Ewch i fyny’r bryn wrth y gyffordd ‘T’, ewch i’r chwith ac ymunwch â’r llwybr defnydd ar y cyd cul ar y chwith. Efallai y teimlwch yn fwy cyfforddus yn dod oddi ar eich beic am bellter byr iawn hyd nes i’r llwybr defnydd ar y cyd hwn ledaenu. Ewch ymlaen ar y llwybr ar ochr y ffordd am dros ½ milltir.

    50.4 Ychydig ar ôl croesi’r gyffordd lydan ar y ffordd ochr nesaf at Eglwys y Prior Monkton (ar y chwith), croeswch y brif ffordd yn ofalus ac ewch ymlaen ar y llwybr defnydd ar y cyd i lawr y bryn ac o gwmpas y tro i’r chwith. Pellter byr ar ôl y tro, mae’r llwybr yn troi i’r dde i ffwrdd o’r ffordd ac yn ymddolennu i lawr i’r maes parcio ar y dde.

    50.6 Gorffen ym Maes Parcio West Street 

     

    Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Penfro

    Tref gaerog swynol sy’n dyddio’n ôl dros 900 o flynyddoedd. Mae’n enwog am ei Chastell Normanaidd, bod yn fan geni i Harri VII a sylfaenydd llinach y Tuduriaid. Yn ogystal, mae gan y dref amgueddfa, teithiau cerdded hyfryd o gwmpas pwll y castell a muriau’r dref ac amrywiaeth eang o leoedd i fwyta ac yfed

    Golygfannau Skrinkle Haven

    Mae’r olygfan gyntaf yn edrych dros Ynys Bŷr (eithafiaeth ddwyreiniol yr Arfordir Treftadaeth) ac mae’r ail olygfan yn edrych dros Gildraeth Skrinkle Haven a Church Doors (mae modd cyrraedd yr un olaf trwy risiau 140 stepen ychydig ar hyd llwybr yr arfordir). Mae siapiau’r clogwyn sydd wedi’u cerfio gan y môr yn yr ardal hon yn eithaf trawiadol

    Maenorbŷr

    Pentref glan môr hyfryd gyda chastell canoloesol cain yn edrych dros y bae. Mae gan y pentref Eglwys Normanaidd ddiddorol hefyd, Tŷ Elor wedi’i adfer a cholomendy islaw muriau’r castell

    Freshwater East

    Cyrchfan poblogaidd gyda thraeth tywodlyd llydan, a arferai fod yn ffefryn gyda’r smyglwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r pentref ar y clogwyn yn edrych dros y bae

    Cei Ystangbwll

    Harbwr bach ond prydferth sy’n swatio ymhlith y clogwyni ar Ystâd Ystangbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os bydd gennych ddigon o amser, ewch ar daith gerdded 10 munud o hyd ar hyd llwybr yr arfordir i Fae Barafundle. Gyda thwyni a choed pinwydd y tu cefn iddo, mae gan y traeth diarffordd hwn ymdeimlad o drysor sydd heb ei ddarganfod. Mae wedi cael ei bleidleisio sawl gwaith fel un o’r traethau gorau ym Mhrydain a’r Byd

    Bosherston

    Pentref bach wedi’i glystyru o gwmpas eglwys. Mae’r pentref yn darparu mynedfa i Byllau Lili Bosherston - casgliad trawiadol o lynnoedd a grëwyd yn y 18fed ganrif ac sydd bellach yn warchodfa natur

    De Aberllydan

    Bae tywodlyd llydan sy’n wynebu’r de gyda golygfeydd clogwyn dramatig a phentwr calchfaen eiconig a adwaenir fel Church Rock ychydig allan i’r môr. Mae twyni tywod a choetir helaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y tu cefn i’r traeth ei hun. Nodwedd ddeniadol yw’r llif o ddŵr glân sy’n llifo allan trwy ddyffryn tywodlyd i gefn y traeth o’r pyllau lili gerllaw

    Capel Sant Gofan

    Cell meudwy bychan mewn hollt rhwng clogwyni. Mae’n un o adeiladau mwyaf hudol Cymru, a godwyd yn y 13eg ganrif ac sy’n nodi’r safle lle dewisodd Sant Gofan, meudwy o’r 6ed ganrif, i fyw bywyd crefyddol gyda dim ond adar y môr yn gwmni

    Castellmartin

    Pentref bach cysglyd gyda gweddillion castell mwnt a beili Normanaidd, ac eglwys wedi’i chysegru i Sant Martin sy’n lletya organ a arferai fod yn eiddo i Mendelssohn. Saif y pentref yn uniongyrchol i gyfeiriad y gogledd o faes hyfforddiant milwrol mawr iawn dan berchnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn

    Freshwater West

    Mae’r traeth llydan, tywodlyd hwn gyda system helaeth o dwyni y tu cefn iddo wedi dod yn gyfystyr â pharadwys i syrffwyr. Mae ei dirwedd ddramatig a garw’n ei wneud yn un o’r traethau gorau i ymweld ag ef gydol y flwyddyn. Mae sawl ffilm wedi’u saethu yma gan gynnwys Robin Hood, Their Finest a Harry Potter

    Bae Gorllewin Angle

    Traeth bach ond dymunol gyda thywod euraidd wedi’i ddiogelu gan frigiad creigiog ar bob ochr. Golygfan berffaith i arsylwi llongau yn mynd i’r porthladd ac yn ei adael. Ychydig y tu hwnt i benrhyn y traeth ar y dde mae Ynys Thorn gyda’i gaer Napoleonaidd hanesyddol

    Angle

    Pentref bach cyfareddol mewn cwm cysgodol gyda thraddodiad hwylio hir a balch. Saif yr eglwys o’r 13eg ganrif yng nghanol y pentref ac mae’r tir yn cynnwys beddau dioddefwyr Prydeinig a thramor y Rhyfeloedd Byd. Mae’r Capel bach diddorol i Forwyr y tu cefn i’r eglwys yn cynnwys crypt.  Yn wreiddiol, man derbyn, neu Esgyrndy, ydoedd ar gyfer cyrff y morwyr a foddwyd. Dyddia’r Point House Inn i’r 16eg ganrif ac mae’r chwedlau’n olrhain tân a losgodd yn barhaus yn ei le tân am dros 200 o flynyddoedd. Roedd yn enwog fel man cwrdd i fôr-ladron a smyglwyr

    ID: 5896, revised 04/06/2024