Beicio Sir Benfro

|Name like '%Brunel Trail%'|Route like '%Brunel Trail%'

Llwybr Brunel

Overview
Information

    Mae'r Llwybr yn dilyn cyfeiriad y cyswllt rheilffordd a adeiladwyd rhwng 1852 ac 1856 dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, yr enwocaf o holl Beirianwyr Oes Fictoria. O Bont Fadlen byddwch yn mynd drwy lifddolydd Cinnamon Grove ac yn esgyn i lwyfandir bychan sy'n cynnig golygfeydd panoramig dros gefn gwlad agored.

    Wedyn byddwch yn mynd i lawr i unigedd Coedwig Bryn Bolton. Unwaith y byddwch wedi mynd drwy hafn y rheilffordd yn Johnston, mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd hen wely'r Rheilffordd Orllewinol Fawr gynt, sy'n arwain yn y pen draw i Warchodfa Natur Westfield Pill, Marina Neyland ac ymlaen i ben deheuol y Llwybr Yng Nghei Brunel.

    Wedi dychwelyd i Hwlffordd, ymlaciwch ar lan yr afon wrth ymyl Neuadd y Sir ac edmygu'r golygfeydd, neu cerddwch at weddillion Castell neu Briordy'r dref. Croeswch y bont droed ac mae'r Priordy oddeutu 300 llath i'r chwith wrth ochr yr afon. Fel arall, croeswch y bont ffordd ac mae'r castell i fyny'r grisiau sy'n arwain o Sgwâr y Castell ar y dde.

    Mae standiau beic ar gael ar benwythnosau wrth ochr Neuadd y Sir sydd agosaf at yr afon ac mae eraill ar gael bob amser ar ben gogledd-ddwyreiniol a gogledd-orllewinol y maes parcio aml-lawr gerllaw, ac yn yr orsaf reilffordd.

     Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau

    Oddi ar y ffordd gan mwyaf yn cysylltu Hwlffordd â Johnston a Neyland - man terfyn Rheilffordd Orllewinol Fawr Brunel ar un adeg. Mae'r safleoedd yn cynnwys coetiroedd, gwarchodfa bywyd gwyllt, Cei Brunel ac aber y Cleddau fel darlun. Wrth i chi ddychwelyd gwelwch gastell canoloesol a phriordy. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys Llwybr byrrach Westfield.

    Gradd: Canolig 

    Pellter:

    19 milltir (30 cilometr)

    Amser

    4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man cychwyn/gorffen

    Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeirnod Grid SM956155, Sat Nav SA61 1TP). Gellir gweld Neuadd y Sir o Gylchdro Sgwâr Salutation, Hwlffordd ac mae arwydd ar y fynedfa. Mae'r maes parcio ar gael (am ddim) ar y penwythnosau i ddefnyddwyr y Llwybr. Mae meysydd parcio eraill ar gael ar ddyddiau'r wythnos (codir tâl) ac mae llwybrau beiciau ynddynt i gyd (ar ochr y ffordd) sy'n cysylltu â man cychwyn y Llwybr. 

    Gorsaf Drenau Agosaf

    Hwlffordd 1/4 milltir (llwybr beiciau yn arwain at gychwyn y Llwybr)

    Tirwedd:

    Yn bennaf ar lwybr tarmac heb drafnidiaeth gydag ychydig o groesfannau ar draws isffyrdd. Mae rhai darnau i fyny allt isel rhwng Hwlffordd a Johnston ond fel arall mae'r tir yn rhesymol wastad neu ar lethr bychan

    Codiad tir

    Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 317 metr 

    Lluniaeth:

    Caffi ar Gei Brunel (gyda standiau beic), Johnston a Hwlffordd

    Toiledau

     Cei Brunel a Hwlffordd

    Man cychwyn gwahanol: 

    Cei Brunel, Neyland (Cyfeirnod Grid SM966048, Sat Nav SA73 1LS)         (5 milltir o Orsaf Johnston)

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn. Trowch i'r dde allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beiciau sy’n agos i ffordd brysur Freeman's Way.

    1.1 Ewch ymlaen yn syth wrth ochr y cylchdro, croeswch y ffordd wrth y signalau gan ddilyn arwyddion Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i gyfeiriad Neyland. Yn syth y tu draw i gaffi McDonald mae'r llwybr yn croesi'r ffordd eto ac yn mynd ymlaen am oddeutu 250 llath. Trowch i'r chwith wrth y troad cyntaf.

    1.5 Ewch ymlaen yn syth heibio i'r fynedfa i Faes Carafanau Under the Hills . Ar ôl oddeutu150 llath, trowch i'r chwith dros y bont gan ddilyn arwydd Llwybr 4 i gyfeiriad Neyland. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn am bron i 2 filltir.

    3.5 Croeswch y ffordd ac ewch ymlaen ar y llwybr drwy Goedwig Bryn Bolton. Llwybr ceffylau gydag arwyneb yw'r adran nesaf gyda giatiau bychain y bydd angen eu hagor a'u cau.

    4.3 Wrth y gyffordd ‘T’ ar y Llwybr, trowch i'r chwith dros grid gwartheg. Mae'r adran fer nesaf hefyd yn lôn fferm ac felly cofiwch ei bod yn bosibl y daw ambell i gerbyd modur ar ei hyd. Ar ôl croesi pont y rheilffordd, trowch i'r dde ar y llwybr heb drafnidiaeth.

    4.9 Ewch yn syth ymlaen (mae'r llwybr i'r chwith yn mynd i bentref Johnston a gorsaf y rheilffordd). Byddwch yn fuan yn dilyn llwybr hen reilffordd sy'n mynd yr holl ffordd i lawr i Warchodfa Natur Westfield Pill a Marina Neyland. Wrth gerdded byddwch yn ofalus wrth 3 croesfan ar draws isffyrdd.

    8.5 Ewch ymlaen yn syth ar hyd y llwybr isel (mae Llwybr 4 yn gadael Llwybr Brunel yn y fan hon, gan arwain i fyny'r bryn i'r dde a thros y bont uchel a welwch o'ch blaen). Dilynwch y Llwybr dan y bont.

    8.9 Cychwyn yr adran o'r Llwybr gerllaw marina Neyland. Cymerwch ofal gan nad yw'r ffordd hon bellach yn rhydd o drafnidiaeth er mai ychydig o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd a bod trafnidiaeth yn cael ei arafu. Mae'r Llwybr yn mynd ymlaen heibio caffi ar lan y dŵr (gyda standiau beic) ac ymlaen heibio nifer o iardiau cychod i faes parcio Cei Brunel.

    9.5 Maes parcio Cei Brunel. Trowch yn ôl a dilyn yr un ffordd yn ôl i Hwlffordd.

    19.0 Neuadd y Sir, Hwlffordd – diwedd y llwybr.

     

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Castell Hwlffordd

    Gweddillion diddorol castell Normanaidd sy'n edrych allan dros y dref a'r ardal o'i chwmpas. Yn ddiweddarach fe'i defnyddid fel carchar hyd 1878. Mae Amgueddfa'r Dref wedi ei lleoli yn yr hyn a arferai fod yn dŷ'r Rheolwr gynt o fewn tir y castell. Mae mynediad i'r castell am ddim bob amser ond codir ffi am fynediad i'r amgueddfa sydd ar agor o fis Ebrill i fis Hydref (10 y bore hyd 4 y prynhawn) Dydd Llun i Ddydd Sadwrn.

    Priordy Hwlffordd

    Gweddillion priordy Awstinaidd o'r drydedd ganrif ar ddeg gyda'r unig ardd ganoloesol eglwysig sy'n dal i fod ym Mhrydain.

    Coedwig Bryn Bolton

    Coedwig lydanddail draddodiadol gyda nant guddiedig. Ceir tystiolaeth o hen lofa yn y goedwig.

    Gwarchodfa Natur Westfield Pill

    Cilfach gysgodol gyda morlynnoedd ac ynysoedd sy'n cynnig lloches i gannoedd o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid gan gynnwys y crëyr glas, dyfrgwn a thros 20 math o löyn byw.

    Marina Neyland

    Un o'r hafanau cychod mwyaf a delaf yng Nghymru.

    Cei Brunel

    Hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pentref pysgota tawel oedd Neyland. Yn 1856, sefydlodd Brunel, y peiriannydd enwog, Wasanaeth Paced Gwyddelig yn y fan a elwid bryd hynny yn 'Gleddau Newydd', a datblygu amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith gan gynnwys cei a chyswllt rheilffordd i gefnogi gwasanaeth y fferi. Mae nifer o fyrddau gwybodaeth wrth y cei yn disgrifio hanes y prosiect cyffrous hwn. Daeth gwasanaeth y fferi i ben yn 1906 a chaeodd y rheilffordd yn 1964. Bu'r rhan hon o Neyland yn dirywio nes cael ei thrawsnewid dan gynllun adfywio uchelgeisiol a luniwyd yng nghanol yr 80au. Yng Nghei Brunel ceir golygfeydd trawiadol o Bont ac Aber yr afon Cleddau.

    ID: 3692, revised 04/06/2024