Beicio Sir Benfro

|Name like '%Cardi Bach%'|Route like '%Cardi Bach%'

Llwybr y Cardi Bach

Overview
Information

    Mae'r Llwybr yn cychwyn gerllaw yr hen orsaf reilffordd yn Aberteifi ac mae'n fuan iawn yn ymdroelli i mewn i Sir Benfro ar hyd rhan o reilffordd sydd wedi cau a elwir y Cardi Bach.

    Caeodd y rheilffordd yn gynnar yn y 60au fel y gwnaeth cymaint o ganghennau eraill yn y wlad. Mae yna obeithion yn y dyfodol agor y llwybr i fyny eto o Aberteifi yr holl ffordd i Hendy-gwyn ar Daf fel llwybr cerdded a beicio cymunedol, ond bydd cynnydd yn hyn o beth, wrth gwrs, yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Ar y Llwybr cewch y cyfle i ymweld â Chastell Cilgerran a'r eglwys, yn ogystal â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru.

    Mae'n werth ymweld hefyd â Chastell Aberteifi os bydd amser yn caniatáu ar ddiwedd y Llwybr - ewch ymlaen ar hyd y llwybr beiciau wrth ochr yr afon at gasgliad o standiau beic yn agos i ddiwedd yr hen bont. Mae'r castell ar ochr arall y bont gyda'r fynedfa i fyny'r bryn.

     Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau:

    Yr Afon Teifi a'r corsydd, bywyd gwyllt a chestyll

    Gradd: Hawdd 

    Pellter

    5½ milltir (9 cilometr)

    Amser:

    1¼ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man cychwyn /gorffen:  

    Yr Hen Orsaf, Aberteifi (Cyfeirnod Grid SN181458, Sat Nav SA43 3AD) Mynd tuag at dref Aberteifi o'r de (B4546) ac ar waelod y bryn trowch i'r dde i mewn i Heol yr Orsaf (lle mae arwydd Stad Ddiwydiannol Pentood ar y ffordd i lawr yr allt). Lle mae Heol yr Orsaf yn gwyro i'r dde, trowch i'r chwith ac yn syth i'r dde heibio adeilad gorsaf yr hen reilffordd sydd wedi cau a'r platfform ar y chwith. Ar ben y lôn hon mae'r llwybr yn dechrau.

    Gorsaf Drenau Agosaf

    Dim o fewn 5 milltir

    Tirwedd

    Lonydd tawel a rhydd o drafnidiaeth. Gwastad yn bennaf gydag un neu ddau o fryniau isel ar ben Cilgerran o'r Llwybr a'r ffordd tuag at y Ganolfan Bywyd Gwyllt.

    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 89 metr

    Lluniaeth:

    Canolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran ac Aberteifi 

    Toiledau:

    Castell Aberteifi, Canolfan Bywyd Gwyllt, Castell Cilgerran, Canolfan Gwryglau

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn: Yn union y tu hwnt i'r Hen Orsaf  yn Aberteifi, reidiwch eich beic dan y bont ac ymlaen drwy Warchodfa Natur Corsydd Teifi ar hyd llwybr rhydd o drafnidiaeth.

    0.7: Ewch yn syth ymlaen wrth y fynedfa i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar y chwith.

    2.1: Trowch i'r chwith wrth waelod y bryn bychan (yn union cyn cyffordd ‘T’) gan ddilyn arwydd y llwybr beiciau. Dilynwch y ffordd gefn hon tuag at Gilgerran. Byddwch yn mynd heibio Eglwys St Llawddog ar y dde.

    2.6: Yn syth ar ôl troad sydyn i'r dde yn y ffordd, trowch i'r chwith ar hyd ffordd gul. Ychydig iawn o ffordd i fyny'r heol hon mae Castell Cilgerran ar y chwith. Ar ôl ymweld â'r castell, trowch yn ôl a dilyn yr un llwybr yn ôl i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Os oes arnoch eisiau treulio mwy o amser yng Nghilgerran, trowch yn syth i'r chwith y tu allan i fynedfa’r castell ar hyd llwybr cul iawn sy'n arwain at gyffordd ‘T’. Mae yna standiau beic os byddwch yn troi i'r dde allan o’r gyffordd hon. Cymerwch amser i archwilio'r pentref ar droed neu cerddwch i lawr i'r Ganolfan Gwryglau wrth ymyl yr afon. Wedyn dychwelwch heibio i fynedfa'r castell ar hyd yr un llwybr cul ag o'r blaen.

    4.5: Trowch i'r dde i ymweld â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Mae yna standiau beic ar y safle. Wedyn dychwelwch, trowch i'r dde wrth y fynedfa i'r Ganolfan ac ewch ymlaen drwy'r Warchodfa Natur unwaith eto ac ymlaen i ddiwedd y Llwybr.

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Castell Aberteifi

    Mae'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a dyma safle Eisteddfod gyntaf Cymru yn 1176. Ar agor o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn (11 tan 3 yn y gaeaf). Mae yna ffioedd i'w talu.

    Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi

    Un o'r gwarchodfeydd corstir gorau yng Nghymru. Gadewch amser i gymryd seibiant lawer gwaith i edrych ar fywyd gwyllt. Efallai y gwelwch fflach las Glas y Dorlan yn hedfan, dyfrgi neu’r ychen gwyllt sy'n pori ar y corstir.

    Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru

    Mae'r Ganolfan Ymwelwyr hon, sydd wedi ei lleoli yng nghanol y tir ffrwythlon ar hyd glannau'r Afon Teifi, wedi ennill gwobrau. Mae'n cynnwys y Caffi Tŷ Gwydr godidog a'r siop. Ar agor o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn (10 tan 4 yn y gaeaf).

    Eglwys Cilgerran

    Eglwys o'r canol oesoedd cynnar a godwyd ar safle eglwys Geltaidd o'r chweched ganrif. Enwog am ei maen hir megalithig ym mynwent yr eglwys lle y gellir gweld yr arysgrif Ogam hynafol o hyd. Yn anffodus mae'r eglwys ei hun ar glo ambell waith.

    Castell Cilgerran

    Castell hyfryd o'r drydedd ganrif ar ddeg sydd bellach yn adfail. Dywedir ei fod yn un o'r rhai mwyaf darluniadol yng Nghymru; cafodd ei beintio a'i ddarlunio lawer gwaith gan yr arlunydd Turner. Saif mewn safle awdurdodol, ar bentir creigiog, yn uchel uwchben yr Afon Teifi. Ar agor o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn (10 tan 4 yn y gaeaf). Mae ffioedd i'w talu ac eithrio yn y gaeaf.

    Canolfan Gwryglau

    Enwog am ras flynyddol y cwryglau ym mis Awst a mynediad i lwybrau hyfryd ar hyd yr afon drwy Geunant Teifi.

    ID: 3693, revised 04/06/2024