Beicio Sir Benfro

|Name like '%Castle2Castle%'|Route like '%Castle2Castle%'

Llwybr o Gastell i Gastell

Overview
Information

    Mae'r Llwybr diddorol hwn yn galluogi defnyddwyr i weld ac archwilio adfeilion cestyll trawiadol Penfro a Chaeriw, a'r dyfrffyrdd hyfryd sy'n eu hamgylchynu'n rhannol, gan gynnwys gwarchodfeydd natur lleol. Byddwch yn ymweld â melin lanw hynafol, eglwys ganoloesol a hyd yn oed adeilad a ddefnyddid ar un adeg i gadw esgyrn dynol.

    Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau

    Mae'r Llwybr oddi ar y ffordd gan mwyaf, ac yn cynnwys rhai safleoedd godidog, yn cynnwys cestyll, melin lanw a nifer o ddyfrffyrdd hardd a gwarchodfeydd natur.

    Gradd: Canolig 

    Pellter

    13.4 milltir (21.7 cilometr)

    Amser

    2½ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man cychwyn /gorffen

    Maes Parcio West Street, Penfro (Cyfeirnod Grid SM982013, Nav SA71 4ET) sy'n faes parcio am ddim. Trowch i mewn i West Street o Ffordd y Comin, Penfro (y gyffordd yn agos i Groesfan Pelican). Ar ôl ychydig dros 100 llath, trowch i'r dde o dan rwystr uchder o 6’6” i mewn i'r maes parcio. Cofiwch dynnu beiciau oddi ar do ceir cyn gyrru i mewn i'r maes parcio. Mae meysydd parcio (gyda ffioedd) ar gael gerllaw os yw'r rhwystr yn achosi problem. Ym mhen draw y maes parcio mae'r Llwybr yn cychwyn.

    Gorsaf Drenau Agosaf

    Penfro 0.6 milltir (Trowch i'r chwith allan o'r orsaf ar hyd llwybr cul o dan bont ac wedyn i'r chwith ar hyd llwybr am 50 llath at gyffordd  ‘T’. Trowch i'r dde ac ymunwch â llwybr ar y dde ychydig cyn y gyffordd 'T'. Croeswch y ffordd cyn y cylchdro a throi i'r chwith ymhen 30 llath i lawr Goose's Lane. Ewch ymlaen wrth ochr hen furiau’r dref, croeswch wrth y goleuadau ac ewch ymlaen gan ddilyn ochr y parc i faes parcio West Street).

    Tirwedd

    Mae oddeutu hanner y llwybr ar lwybr wedi ei arwynebu ond yn rhydd o drafnidiaeth sy'n rhedeg yn gyfochrog â phriffyrdd. Mae nifer o groesffyrdd ond mae ynysoedd traffig a goleuadau traffig ar y rhai prysuraf yn ei gwneud yn haws croesi. Bydd angen, fodd bynnag,  goruchwylio beicwyr iau yn ofalus yn y mannau hyn. Isel yw'r graddiannau ar y cyfan ond ychydig yn fwy serth yn agos i'r dechrau, ar ôl Caeriw Cheriton (yr adran hiraf i fyny allt), ac ar y ffordd yn ôl i ddod i mewn i Benfro. Ni ddylai’r un o'r bryniau hyn achosi problem i unrhyw un sy'n gyfarwydd â beicio.

    Codiad tir

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 249 metr

    Lluniaeth

    Penfro, Milton a Chaeriw

    Toiledau

    Penfro a Chaeriw

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn: Dilynwch y llwybr gwastad ar hyd ymyl y parc, croeswch y ffordd a pharhau ar hyd y llwybr llydan o amgylch y tu allan i Bwll Castell Penfro. Mae mynedfa'r Castell ar y dde i fyny'r allt ar y ffordd sydd â'r arwydd 'Canol y Dref'). Oddeutu 100 llath ar ôl croesi gwrthglawdd Pwll y Castell, trowch i'r chwith a gwyro  i'r chwith ac wedyn i'r dde, lle mae'r llwybr yn ymuno a ffordd stad tai. Dilynwch y ffordd stad hon i fyny allt fach am oddeutu 200 llath nes dod yn agos at gyffordd 'T' yn ymyl gorsaf betrol.

    0.6: Ymunwch â'r llwybr ar y chwith cyn y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn at dop y bryn ac ewch yn syth ymlaen gan groesi'r ffordd sy'n dwyn yr arwydd Canolfan Hamdden a Maes Golff. Dilynwch y llwybr i lawr y bryn, ewch drwy'r rhwystr a chroesi'r gyffordd sy'n dwyn yr arwydd Ysbyty a Dociau. Wrth waelod y bryn, mae'r llwybr yn eich arwain drwy dwnnel byr ac wedyn byddwch yn nesáu at gyffordd sy'n cael ei rheoli gan signalau.

    1.7: Trowch i'r dde ar draws y gyffordd a dilynwch y llwybr wrth ochr ffordd brysur yr A477 am bron i 1½ milltir.

    3.0: Yn syth y tu hwnt i groesfan ar draws lôn i'r ochr, mae'r llwybr yn croesi'r briffordd. Ewch ymlaen ar draws y gyffordd ar lôn i'r ochr sy'n dwyn yr arwydd Cosheston a dilynwch y llwybr wrth ochr y briffordd am 2½ filltir arall at bentref Milton. Mae'r llwybr yn troi i gyfeiriad Tafarn Bragdy Milton. Croeswch y ffordd ar yr ochr a dilynwch y llwybr wrth y ciosg ffôn coch.

    6.0: Wrth y cylchdro dilynwch y llwybr i'r chwith tuag at Caeriw. Ar ôl 500 llath byddwch yn cyrraedd maes parcio Castell Caeriw ac, os ydych yn dymuno, cewch dalu ymweliad gwerth chweil ag adfeilion y Castell a Chroes Caeriw. Mae standiau beic ar gael wrth y fynedfa i'r maes parcio gyda thoiledau gyferbyn. Cymerwch y lôn sy'n rhedeg gyda'r muriau ar ymylon tir y castell. Yn union y tu draw i ddiwedd y mur hwn, gwyrwch i'r dde ac fe gyrhaeddwch Felin Lanw Caeriw a'r gwrthglawdd, gyda golygfeydd dymunol, dros bwll y felin, o’r castell a'r bont ganoloesol yn y pellter. Ystyriwch gael egwyl yn y fan hon cyn cychwyn yn ôl yr un ffordd i faes parcio'r castell ac ymlaen i'r cylchdro.

    7.5: Wrth y cylchdro, ewch ymlaen yn syth ar draws ffordd yr A477. Cymerwch ofal gan y gall y groesfan hon fod yn eithaf prysur. Ar ôl 50 llath, ailymunwch â ffordd dawel wrth y groesffordd ac ewch ymlaen i lawr y ffordd sydd â'r arwydd Caeriw Cheriton. Mae dargyfeiriad dewisol a byr iawn (llai na milltir fel taith gron) i'r dwyrain o'r groesffordd uchod yn dod â chi at dŵr rheoli o amser y rhyfel sydd wedi cael ei adfer ar hen Faes Awyr Caeriw. Yn anffodus, nid yw ar agor ond yn ystod misoedd yr haf ac fel rheol ar foreau Sadwrn a Sul. ond mae'n werth mynd i'w weld. Gan fynd i lawr i gyfeiriad Caeriw Cheriton am bron i 300 llath byddwch yn cyrraedd Eglwys y Santes Fair a’r Esgyrndy. Ar ôl arhosiad byr, croeswch y bont gul iawn ar ochr arall y ffordd a dilynwch y llwybr hwn am oddeutu 1/3 milltir. Mae'n rhaid gwthio'r beic dros yr adran gyntaf o'r llwybr cul hwn am resymau diogelwch. Os bydd amser yn caniatáu gellir mynd am dro hamddenol o gwmpas Llwybr Natur y Felin Wlân.

    8.0: Trowch i'r chwith ar ddiwedd y llwybr y tu draw i adeilad coch yr hen waith dŵr a reidiwch i fyny bryn am bron i filltir. Trowch i'r dde cyn cyrraedd pen y bryn i ffordd sydd â'r arwydd Lôn Parc y Ceirw. Dilynwch y lôn hon am oddeutu 2½ milltir.

    11.3: Cymerwch ofal wrth groesi priffordd yr A4075 i'r Golden Lane (ar y dde i'r bwthyn). Dilynwch y lôn hon am bron i filltir nes i chi fynd o dan bont reilffordd ar ôl rhan gymharol fer i fyny bryn. Oddeutu 50 llath y tu draw i'r bont, trowch i'r chwith i lwybr sydd ar y chwith i'r fynedfa i Feithrinfa Golden Manor. Dewch oddi ar eich beic a'i wthio ymlaen ar hyd rhan gyntaf y llwybr hwn nes iddo ledu a pharhau wrth ochr Pwll y Felin Penfro.

    12.8: Croeswch y ffordd wrth Bont Pwll y Felin (argymhellir eich bod yn cerdded ac yn gwthio eich beic ar draws gan ddefnyddio'r groesfan sebra) ac fe welwch gerflun efydd Harri'r Vll a ddadorchuddiwyd yn 2017. Gwnewch eich ffordd dros y bont (gwthiwch eich beic ar hyd y llwybr troed cul), trowch i'r chwith a chewch glymu eich beic yn sownd i’r rheiliau ar ymyl y dŵr yn agos i'r Storfa Ŷd. Wedyn medrwch archwilio'r dref, cael rhywbeth i'w fwyta neu ymweld â'r castell ar ben y bryn gyferbyn. Ar ôl hynny, dilynwch y llwybr yr holl ffordd o gwmpas Pwll y Castell, ar draws y ffordd ac ar hyd y llwybr i'r lle y cychwynasoch ar y Llwybr.

    13.4: Gorffennwch wrth Faes Parcio West Street, Penfro

     

    Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Castell Penfro

    Wedi ei sefydlu'n wreiddiol yn 1093, mae hwn yn un o'r cestyll Normanaidd mwyaf trawiadol yn Ne Cymru. Mae'r strwythur cerrig yn arglwyddiaethu ar y dref ac wedi ei amgylchynu'n rhannol gan Bwll darluniadol Castell Penfro. Mae dryswch o dwneli, grisiau, tyrrau a bylchfuriau yn disgwyl i gael eu harchwilio a chynhelir nifer o ddigwyddiadau y tu mewn i'r castell drwy gydol y flwyddyn. Mae iddo hanes canoloesol cyfoethog, a dyma fan geni Harri'r VII, y Brenin Tuduraidd cyntaf. Ar wahân i'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae'r castell ar agor yn ddyddiol o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn (oriau hirach yn yr haf). Mae yna ffioedd i'w talu.

    Pwll Castell Penfro

    Dim ond ers i wrthglawdd Afon Penfro gael ei adeiladu yn niwedd y 70au y mae hwn wedi bod yn bwll ac mae'n awr yn lleoliad perffaith i'r castell. Gellir gweld amrywiaeth o adar o gwmpas y pwll, hyd yn oed i lawr yr afon oddi wrth y gwrthglawdd lle y gellir gweld adar hirgoes yn aml yn bwydo yn y gwaddodion mwd.

    Castell Caeriw

    Adfail godidog castell ag iddo hanes yn cwmpasu dwy fil o flynyddoedd. Wedi ei leoli ar safle arbennig yn edrych allan dros 23 acer o bwll melin, datblygodd y castell allan o gaer Normanaidd i fod yn Blasty yn oes Elizabeth. Mae yna ddigonedd i'w weld a'i wneud gyda rhaglen o weithgareddau amrywiol. Mae ar agor yn ddyddiol o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn. Mae angen talu ffi sydd hefyd yn cynnwys mynediad i'r Felin Lanw gerllaw.

    Croes Caeriw

    Croes Geltaidd ragorol o'r unfed ganrif ar ddeg, wedi ei haddurno, wrth y fynedfa i dir y castell. Saif y groes 13 troedfedd o uchder ac mae hi wedi ei cherfio ar bedair ochr â gwaith clymau Celtaidd tlws a phatrymau allweddol.

    Melin Lanw Caeriw

    Wedi ei hadeiladu fel melin flawd yn y 1800au cynnar, hon yw'r unig felin lanw yng Nghymru sydd wedi ei hadfer. Mae ganddi ddwy olwyn sy'n gyrru chwe phâr o feini melin. Er ei bod wedi ei hadfer i gyflwr gweithio, nid yw'n gweithio ar hyn o bryd, ond mae'r peirianwaith, yr arddangosfa, y sylwebaeth sain a'r arddangosfeydd rhyngweithiol yn dangos sut y mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni ar hyd yr oesau. Gellwch gerdded ar draws y sarn gerllaw ac yn wir o amgylch pwll y felin i gyd os bydd gennych amser.

    Caeriw Cheriton

    Pentref bach diddorol a thlws. Yn yr eglwys ganoloesol sydd wedi ei chysegru i'r Santes Fair, ac sydd wedi cael ei chadw'n eithriadol o dda, mae beddrod Sir Nicholas de Carew (fu farw 1311), a adeiladodd y castell gerllaw, a enwyd ar ôl ei deulu. Ym mynwent yr eglwys mae esgyrndy o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (a adeiladwyd i storio esgyrn dynol a ddatgladdwyd) gyda chapel uwchben. Yn ddiweddarach, cafodd ei droi’n ysgol o oddeutu 1625 hyd 1872. Mae'r tyllau y gosodid yr esgyrn drwyddynt yn amlwg ar ochrau'r adeilad.

    Pwll Melin Penfro a'r Warchodfa Natur

    Mae hwn yn lle gwych i ymweld ag ef ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae elyrch yn byw yma drwy'r flwyddyn a gellir gweld mulfrain a’r crëyr glas fel arfer ar y pen uchaf, agosaf at adeilad a elwir yn Dŵr Barnard. Mae'r twr amddiffynnol hwn o'r drydedd ganrif ar ddeg yn un o chwech oedd yn ffurfio rhan o furiau tref ganoloesol Penfro. 

    ID: 3694, revised 04/06/2024