Beicio Sir Benfro
Llwybr Cemaes
Mae’r Llwybr yn cychwyn ac yn gorffen yn hen borthladd Trefdraeth ac yn mynd â chi drwy rannau o Farwniaeth hynafol Cemaes yng Ngogledd-ddwyrain Sir Benfro. Mae’n cynnig golygfeydd mawreddog o aberoedd Nanhyfer a’r Teifi, ffurfiadau creigiau arfordirol dramatig a golygfeydd i mewn i’r tir o gadwyn mynyddoedd y Preseli. Mae’n mynd drwy bentrefi del ac yn cysylltu nifer o safleoedd diddorol hanesyddol a chyn hanes.
Ffeil Feithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr gweddol hir gyda golygfeydd trawiadol i mewn i’r tir, dros yr arfordir a’r aber, aneddiadau hynafol, eglwysi hanesyddol, abaty adfeiliedig, a melin ddŵr weithredol Gradd: Egnïol |
---|---|
Pellter: |
25 milltir (40 km) |
Amser: |
5 awr ac amser ychwanegol i gael seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Maes Parcio Carrog, Trefdraeth (Cyfeirnod Grid SN051396, Sat Nav SA42 0RW). Dilynwch yr arwydd i’r Parrog o briffordd yr A487 drwy Drefdraeth. Mae’r maes parcio ym mhen draw Ffordd Parrog ar y dde. Man cychwyn gwahanol: Maes Parcio’r Stryd Fawr, Llandudoch (Cyf. Grid SN164460, Sat Nav SA43 3ED) |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dim un o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Ffyrdd distaw yn bennaf sy’n cynnwys rhai gelltydd serth a goriwaered |
Codiad Tir: |
Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 718 metr |
Lluniaeth: |
Trefdraeth, Llandudoch, Trewyddel |
Toiledau: |
Meysydd Parcio Trefdraeth a Llandudoch, a thoiledau i gwsmeriaid yn Nhrewyddel |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr(pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Cychwyn. Trowch i'r chwith allan o’r maes parcio. Ar ôl 150 llath (y tu hwnt i gongl ar y dde) trowch i’r chwith i’r llwybr arfordirol. Defnyddir y rhan hon o’r llwybr yn aml gan feicwyr ond mewn gwirionedd mae wedi ei ddynodi’n llwybr cerdded ac felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i gerddwyr. Ar ôl bron i ½ milltir, byddwch yn mynd heibio safle’r Hen Gastell ar y dde i chi. Ewch ymlaen nes dod i giât bren lle mae’r llwybr yn ymuno â ffordd. Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd hon dros y bont gul.
1.6 Bron i filltir ar ôl y bont, a thu hwnt i fferm fawr ar y dde, trowch i’r dde i ffordd gul a gwyrwch i’r chwith ar ôl ½ milltir arall i ffordd gulach fyth.
2.9 Ym mhentref bach Gethsemane, gwyrwch i’r dde wrth y gyffordd. Ar ôl oddeutu milltir, anwybyddwch y gyffordd i’r dde a throwch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ y tu draw. Oddeutu ¼ milltir y tu hwnt i’r gyffordd hon mae lle i dynnu i mewn ar y chwith a mynediad drwy giât i safle Castell Nanhyfer. Tua 200 llath ymhellach i lawr y ffordd mae yna lwybr (ar ochr allanol tro pedol) sy’n mynd â chi i safle enwog Croes y Pererinion. Gellir gweld y groes ar wyneb y graig i’r dde oddeutu 35 llath o’r ffordd.
4.5 Cyrraedd pentref bach Nanhyfer. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac ewch ymlaen heibio’r eglwys (argymhellir ymweld â hon) ac wedyn i fyny allt eithaf serth allan o’r pentref. Ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith wrth gyffordd gyda’r arwydd y Beifil (dim ffordd drwodd). Trowch i’r chwith eto am Eglwys y Beifil ychydig o ffordd i lawr y lôn hon. Ar ôl ymweld â’r eglwys, dychwelwch ar hyd y lôn i’r briffordd a throwch i’r chwith. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am 1½ milltir ymhellach (gan fynd yn syth ymlaen wrth y groesffordd) nes i chi gyrraedd lle i dynnu i mewn ar y chwith. O’r fan hon gellwch gerdded yr ychydig o ffordd ar hyd llwybr glaswelltog i fyny i Grugiau Cemaes. Ar ôl seibiant dewisol, ewch ymlaen am 2 filltir arall drwy bentref bach Glan-rhyd (anwybyddwch unrhyw droadau i’r ochr).
10.1 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ â phrif ffordd yr A487 (gyda’r arwydd Aberteifi) a throwch bron yn syth i’r chwith i ffordd dawelach (yn dwyn yr arwydd Trewyddel). Dilynwch y ffordd fechan hon am 1½ milltir (gan anwybyddu’r groesffordd gyntaf wrth ymyl tŷ) a throwch i’r dde wrth gyffordd ar dro gan ddilyn arwydd Llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Beiciwch yr holl ffordd i lawr drwy Gwm coediog Degwel i Landudoch.
13.2 Ewch ymlaen am 20 llath y tu hwnt i gyffordd i mewn i stryd a elwir Mwtshwr ar y dde, a throwch i’r chwith yn dilyn arwydd Llwybr Beicio 82. Mae hwn yn mynd â chi ar hyd ochr yr Abaty a’r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae’r Felin ychydig o lathenni i lawr y ffordd i’r dde y tu draw i bwll y felin. Mae’r Llwybr ei hun yn gwyro i’r chwith ar ôl pwll y felin ac yn mynd â chi heibio i’r fynedfa i’r eglwys. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’, gerllaw y Swyddfa Bost a dilynwch Stryd Fawr Llandudoch heibio’r fynedfa i’r maes parcio a’r holl ffordd i fyny drwy’r pentref gan anwybyddu’r tro yn dwyn yr arwydd Traeth Poppit ar y dde. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried gwthio’ch beic i fyny’r rhan neilltuol o serth hon o’r Llwybr. Dilynwch y ffordd i’r dde drwy’r tro sydyn ar y top (yn dwyn yr arwydd Trewyddel). Mae’r graddiant serth yn fuan yn lleddfu a byddwch yn cael cipolwg ar Aber afon Teifi i’r dde i chi. Dilynwch y ffordd hon am 2 filltir arall a throwch i’r chwith gyferbyn â blwch llythyrau coch gan ddilyn arwydd am Trewyddel (anwybyddwch 2 gyffordd gynharach i’r chwith - trowch wrth y 3edd ar ôl gadael Llandudoch).
17.1 Cyrraedd pentref bychan Trewyddel. Ar eich ffordd byddwch yn mynd heibio’r fynedfa i Ganolfan Arddio Penrallt, lle mae yna gaffi a thoiled i gwsmeriaid. Dilynwch yr arwydd i Drefdraeth yn y pentref a throwch i’r dde ar yr allt wrth ymyl Capel Bethel (gyda’r arwydd Ceibwr). Mae’r ffordd yn mynd yn eithaf serth eto ar ôl Bae Ceibwr ond byr yw’r bryn hwn. Ewch yn syth ar draws wrth groesffordd a throwch i’r dde wrth gyffordd ‘T’ ychydig bach ymhellach ymlaen (gyda’r arwydd Trefdraeth). Anwybyddwch y ddwy gyffordd gyntaf i ffyrdd ar y chwith.
22.5 Trowch i’r chwith yn dilyn yr arwydd am Drefdraeth (peidiwch â mynd ymlaen ar hyd y ffordd sy’n dwyn arwydd y Traeth).
24.2 Ar ôl y bont gul, trowch i’r dde drwy giât bren a dilynwch y llwybr yn ôl i’r Parrog, Trefdraeth. Ar ddiwedd y llwybr, trowch i’r dde ac i’r dde eto i mewn i’r maes parcio.
25.0 Diwedd y Llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Trefdraeth
Tref ganoloesol fechan a phorthladd wrth lethrau isaf mynydd Carningli. Mae yna Gastell Normanaidd ac Eglwys a strydoedd hynafol a llwybrau yn arwain i lawr i Aber Nanhyfer sy’n llawn bywyd gwyllt. Arferai’r Parrog (lle mae’r llwybr yn cychwyn) fod yn borthladd adeiladu llongau a masnach pwysig am ganrifoedd lawer, lle câi nwyddau eu mewnforio yn cynnwys glo a charreg galch, a nwyddau eraill yn cynnwys gwlân, llechi a phenwaig eu hallforio. Ceir olion yr hen odynnau calch a storfa (clwb cychod erbyn hyn) o gwmpas ymyl y Parrog ar hyd waliau llechi’r cei
Yr Hen Gastell, Trefdraeth
Safle’r castell gwreiddiol o’r 12fed ganrif a lleoliad yr anheddiad cyntaf yn Nhrefdraeth. Y cyfan sy’n aros yw ambell i gefnen laswelltog a phantiau sy’n nodi’r cloddiau amddiffynnol a’r ffosydd oedd yn amgylchynu’r castell o goed. Hwn hefyd oedd safle caer gynharach o’r Oes Haearn a adeiladwyd i amddiffyn yr harbwr. Unwaith yr oedd eu grym wedi ei sefydlu, adeiladodd y Normaniaid gastell newydd o gerrig ymhellach i fyny’r bryn
Castell Nanhyfer
Gweddillion castell tomen a beili oedd ar un adeg yn gadarnle Cymreig. Nid oes llawer ohono ar ôl erbyn heddiw yn anffodus ond gellwch gael teimlad o’i safle grymus o hyd. Mae’n lle tangnefeddus hyfryd i aros a chymryd seibiant byr ar y Llwybr
Croes y Pererinion
Wedi ei lleoli ar yr hyn a gredir oedd llwybr y pererinion i Dyddewi, mae’r groes wedi ei cherfio ar gerfwedd wyneb y graig. O dan y groes ceir yr hyn sy’n ymddangos fel ogof wedi ei chau i fyny lle y tybir yn ôl traddodiad bod darn o’r ‘Groes Wir’
Nanhyfer
Pentref bychan tlws a arferai fod yn ganolfan weinyddol bwysig yn y canol oesoedd. Yn ei ganol mae eglwys Normanaidd Brynach Sant o’r 12fed ganrif a sefydlodd le o addoliad yma yn y 5ed ganrif. Mae’r eglwys a’r fynwent yn hynod oherwydd nifer o gerrig yn dwyn arysgrif Ladin ac Ogam Wyddelig, ac un o’r croesau Celtaidd mwyaf cywrain ym Mhrydain. Mae rhodfa o goed Yw, 700 mlwydd oed, yn arwain at yr eglwys, ac mae un ohonynt yn ‘gwaedu’ nodd coch yn barhaus o’i changhennau. Mae llawer o hanesion a chwedlau yn ymwneud â’r ywen waedlyd enwog hon
Eglwys Andreas Sant, y Beifil
Eglwys o ddechrau’r 9fed ganrif nad yw’n cael ei defnyddio bellach, sydd yng ngofal Cyfeillion Eglwysi heb Gyfeillion. Mae wedi cael ei hadfer yn ofalus gyda’i dodrefn gwreiddiol yn gyfan fwy neu lai, gan gynnwys seddau siâp bocs a phulpud tri llawr
Crugiau Cemaes
Mynwent grugiau o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn. Golygfeydd rhagorol o Ogledd Sir Benfro ym mhob cyfeiriad o’r copa
Llandudoch
Saif hwn, y pentref mwyaf yng Nghymru ar un adeg, mewn lleoliad hardd yn edrych allan dros yr afon Teifi gyferbyn â thref Aberteifi. Mae adfeilion yr abaty Tironaidd Benedictaidd yn edrych dros y gymuned ac yn un o atyniadau hanesyddol harddaf Sir Benfro. Mae’r eglwys yn ymyl yr abaty, fel y mae Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr y Cerbyty. Mae’r Ganolfan hon yn cynnwys dehongliad hanesyddol o’r pentref a’r abaty, ynghyd ag amgueddfa a chaffi. Gerllaw mae’r Felin sy’n un o’r melinau dŵr gweithredol olaf yng Nghymru ac yn gynhyrchu blawd traddodiadol wedi ei falu â maen
Trewyddel
Pentref hynafol o fythynnod traddodiadol wedi eu peintio ac yn nythu mewn dyffryn cysgodol. Daw ei enw Saesneg o ‘Matilda’s Grove’, gan mai Matilda oedd gwraig Arglwydd Normanaidd y Plas a sefydlodd Abaty Llandudoch ac a adeiladodd Gastell Nanhyfer. Mae ei enw Cymreig, Trewyddel, yn golygu Pentref Gwyddelig, a Lladin a Gwyddeleg (nid Cymraeg) a siaredid yma cyn i’r Normaniaid gyrraedd
Ceibwr
Mae’r gilfach fechan hon a’r ardal o amgylch yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a hwy sy’n gofalu amdani. Mae’n adnabyddus yn bennaf am ei bywyd gwyllt morol cyfoethog a’r plygiadau trawiadol yn haenau’r graig yn y clogwyni. Yn hongian dros ei hochr gogledd-ddwyreiniol mae caer ben clogwyn o’r Oes Haearn, ac oddeutu ½ milltir ar hyd llwybr yr arfordir yn y cyfeiriad arall mae ogof anferth wedi cwympo a adwaenir fel Crochan y Gwrachod