Beicio Sir Benfro

|Name like '%City West Trail%'|Route like '%City West Trail%'

Llwybr Gorllewin y Ddinas

Overview
Information

    Llwybr diddorol a phrydferth dros ben sy’n cychwyn a gorffen yn y maes parcio ar bwys Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi. Cyfle i archwilio’r ddinas gadeiriol hudol ei hun a darnau o’r morlin garw o gwmpas y penrhyn tua’r gorllewin.

    Bu’n ganolfan ddiwylliannol ers miloedd o flynyddoedd a gadawodd gorffennol yr ardal cyn hanes ei ôl yn bendant ar ddinas leiaf Prydain.

    Mae Llwybr Gorllewin y Ddinas yn cymysgu hanes gyda golygfeydd wrth iddo ymlwybro drwy fannau o harddwch, heddwch a phererindod, llawn bywyd gwyllt. Os bydd amser yn caniatáu ar ddiwedd y Llwybr, ewch ar daith fer i lawr i Fae Caerfai ychydig dros 1/2 milltir i ffwrdd. Trowch i’r chwith allan o faes parcio Oriel y Parc a dilyn y ffordd i’r man uchel uwchben y bae prydferth sy’n wynebu tua’r de a gweddill Porth Sain Ffraid yr holl ffordd i Ynys Sgomer.

    Mae Bae Caerfai ei hun yn sefyll rhwng clogwyni uchel o dywodfaen porffor a defnyddiwyd cerrig o’r cylch i adeiladu Eglwys Gadeiriol Tyddewi 

    Ffeil ffeithiau

     

    Uchafiwyntiau

    Dinas leiaf Prydain gyda’i heglwys gadeiriol a safleoedd treftadaeth Gristnogol gynnar eraill gerllaw. Golygfeydd arfordirol godidog ar lonydd tawel o gwmpas gorynys fwyaf gorllewinol Cymru. Harbwr pysgota bach fel darlun, traeth tywodlyd ardderchog, gorsaf bad achub a Swnt Dewi egnïol

    Gradd: Cymedrol 

    Pellter

    9.1  milltir (14.7km)

    Amser

    2 awr ynghyd ag amser ychwanegol i aros yma ac acw

    Man Cychwyn / Gorffen:

    Maes Parcio Oriel y Parc, Tyddewi (Cyfeirnod Grid SM757252, Llywiwr Llo SA62 6NW). Rhaid talu, yn gyffredinol o fis Mawrth i fis Tachwedd. Ar yr A487 o gyfeiriad Hwlffordd, trowch i’r chwith ar y gylchfan a’r cyntaf i’r chwith i’r maes parcio. Ar yr A487 o gyfeiriad Abergwaun, trowch i’r chwith yn union ar ôl yr arwyddion 30 mya, ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan a’r cyntaf i’r chwith i’r maes parcio

    Gorsaf Drenau Agosaf

    Dim gorsaf drenau o fewn 5 milltir

    Tir

    Yn bennaf ar lonydd gwledig distaw. Mae rhediadau’n gyffredinol raddol ond ychydig serthach yn union ar ôl gadael Porth Clais a’r Porth Mawr, a hefyd o fewn Clos yr Eglwys Gadeiriol. Ni ddylai un o’r rhiwiau fod yn anodd i unrhyw un sy’n arfer beicio. Mae un darn tua hanner ffordd ar hyd y Llwybr yn dilyn llwybr ceffylau sy’n garegog a braidd yn anwastad.

    Codiad Tir

    Cyfanswm y dringo (holl ddarnau ar i fyny) - 205 metr

    Lluniaeth

    Tyddewi, Porth Clais, Porthstinian a Phorth Mawr

    Toiledau

    Tyddewi, Porth Clais a Phorth Mawr

     

    Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellterau mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn. Allan o’r maes parcio a throi i’r chwith. (Cyn troi i’r chwith efallai yr hoffech archwilio Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc union gyferbyn neu gadw’r ymweliad hwn tan ddiwedd y llwybr. Mae lluniaeth a thoiledau ar y safle yn ogystal â stondinau beiciau.) Ar ôl troi i’r chwith allan o’r maes parcio, cymrwch yr ail ar y dde (ar ôl rhes o dai unllawr). Yna ymunwch â’r llwybr ceffylau cul ar y chwith ar ôl tua 50 llath. Dilynwch y llwybr hwn am 1/2 milltir bron cyn iddo ymuno ag isffordd gyferbyn â Gwesty’r Warpool Court. Yna trowch i’r chwith.

    0.9 Cyrraedd Capel Non. Ar ôl aros i ymweld â’r fan lle ganed Dewi Sant a’r Ffynnon Sanctaidd, troi’n ôl a dilyn y ffordd yn ôl i gyfeiriad y ddinas.

    1.5 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Porth Clais. Arhoswch ar y ffordd hon gan anwybyddu holl ffyrdd croes. Unwaith i chi adael y ddinas byddwch yn dilyn ymyl Merry Vale lle mae Afon Alun yn llifo o’r eglwys gadeiriol i lawr i Borth Clais. Ar y dde i chi fe sylwch ar amlinell nifer o fynyddoedd tân garw ac wedi hir ddarfod yn y pellter. Dilynwch yr allt i lawr i Borth Clais

    2.4 Porth Clais ar y chwith i chi. Ar ôl aros am ennyd, daliwch ymlaen ar y ffordd. Mae hwn yn ddarn serth o’r llwybr ar i fyny wrth i chi ddringo allan o’r cwm.

    3.0 Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd gan ddilyn arwydd Porthstinian. Ar ôl tua 200 llath mae’r ffordd yn troi o gwmpas pen deheuol y brigiad creigiog sy’n dwyn yr enw Clegyr Boia. Ar y gyffordd gyda llwybr ceffylau sy’n arwain at ffermdy ar y dde mae llwybr answyddogol cul yn arwain i fyny ochr un pen i’r brigiad. O’r copa cewch eich gwobrwyo gyda phanorama 3600 rhyfeddol o’r penrhyn cyfan.

    3.5 Trowch i’r chwith ar y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd Porthstinian. Daw Ynys Dewi i’r golwg o’ch blaen cyn i chi gyrraedd pen y ffordd ym Mhorthstinian o’r diwedd. Mae stondinau beiciau ar gael am seibiant gwerth chweil i archwilio’r ardal yn briodol. Wedyn, trowch yn ôl ac anelu’n ôl ar yr un ffordd am ryw 1/2 milltir cyn troi i’r chwith ar hyd ffordd gydag arwydd ‘Dim Ffordd Drwodd’. Ar ôl tua 100 llath mae’r ffordd yn troi’n llwybr ceffylau sy’n arwain i Dreleddyn. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr ceffylau caled gan anwybyddu arwydd preifat sy’n dweud ‘Llwybr Troed yn Unig’.

    5.1 Yn y fan lle mae’r lôn galed yn troi i’r chwith yn Nhreleddyn, ewch yn syth ymlaen ar lôn garreg a dilyn hon i’r dde ychydig heibio’r tŷ mawr dau dalcen. O ran diddordeb, o’r fferm hon y sylwyd ar Lynges Ymosod y Ffrancod yn 1797 gan yr amaethwr Thomas Williams, morwr wedi ymddeol, a rybuddiodd y milwyr oedd yn amddiffyn Abergwaun. Mae’r darn nesaf hwn o’r Llwybr yn eithaf caregog a gallai fod yn well gennych ddisgyn a gwthio eich beic. Wrth i chi symud ymlaen fe welwch eiddo gyda tho anghyffredin ar y dde. Edrychwch yn ôl ar y chwith ac fe welwch frigiad craig gyda chilfach yn eich wynebu. Yr honiad yw mai dyma’r llecyn lle cysgododd Padrig Sant wrth ddisgwyl y cwch a fyddai’n mynd ag ef i Iwerddon. Bydd y llwybr o’ch blaen yn gwella’n fuan ac yn cysylltu yn y pen draw â ffordd darmac.

    6.0 Trowch i’r chwith i fynd ar i waered gan ddilyn arwydd Porth Mawr.

    6.4 Cyrraedd Porth Mawr. Mae stondinau beiciau ar gael ar y chwith wrth i chi fynd i mewn i’r maes parcio a thoiledau a siop / caffi ar gael fymryn heibio’r stondinau. Ar ôl eich ymweliad â Phorth Mawr, beiciwch yn ôl i fyny’r rhiw ar yr un ffordd ag y daethoch arni.

    6.8 Ar ben y bryn trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd yr Hostel Ieuenctid. Anwybyddwch yr arwydd nesaf i’r Hostel Ieuenctid a daliwch i fynd ar hyd yr un ffordd nes i chi gyrraedd cyffordd ‘T’. Trowch i’r dde ar y gyffordd hon (gan ymuno â Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol).

    7.7 Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd. Gofalwch wrth groesi’r ffordd hon

    8.3 Trowch i’r dde yn union cyn pont yr afon ac ymlaen heibio hen adeiladau Clos Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ar ôl i’r ffordd droi i’r chwith, mae’r fynedfa i adfeilion Llys yr Esgob ar y dde a’r Eglwys Gadeiriol yn syth o’ch blaen. Mae stondinau beiciau ar gael oddi allan i Llys yr Esgob ac mae toiledau wrth ochr y bont droed. Ar ôl aros am ymweliad, croeswch yr afon ar y bont droed a dal ymlaen i fyny’r rhiw heibio prif adwyau’r glwys Gadeiriol ar y chwith – peidiwch â throi i’r chwith nac i’r dde yma. Efallai'r hoffech ddisgyn a gwthio eich beic i fyny’r rhiw eithaf serth hwn. Bydd y ffordd yn mynd â chi mewn dim dan Fwa Porth y Tŵr. Trowch i’r dde yn union ar ôl y bwa a dilyn y lôn gul am ryw 100 llath.

    8.7 Trowch i’r chwith ger y Farmers Arms a chymryd y tro cyntaf i’r dde i Feidr Meitr. Ar ben y lôn trowch i’r chwith i Heol y Bryn. Ar ôl 200 llath mae llwybr yn arwain oddi ar y ffordd ar y chwith gyferbyn â chyffordd Pen-y-garn. Bydd angen i chi wthio eich beic ar hyd y llwybr hwn sy’n mynd â chi heibio toiledau cyhoeddus ac o flaen Neuadd y Ddinas lle gwelwch stondinau beiciau. Mae hwn yn lle delfrydol i ddiogelu eich beic er mwyn edrych ar ganol y ddinas ar ddeudroed. Yna dilynwch y llwybr yn ôl i Heol y Bryn a throi i’r chwith.

    9.0 Ar ben Heol y Bryn trowch i’r dde ar y gyffordd ‘T’ a throi i’r chwith ar y gyffordd ‘T’ nesaf.

    9.1 Gorffennwch ym Maes Parcio Oriel y Parc ar y dde.

     

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Oriel y Parc

    Adeilad beiddgar, hanner-crwn ac ecogyfeillgar sy’n ‘borth’ gwirioneddol i Dyddewi a rhan hon y Parc Cenedlaethol. Mae’n gweithredu fel swyddfa dwristiaeth a chanolfan ymwelwyr ac yn rhoi lle i arddangosfeydd newidiol o gasgliad celf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae gan yr adeilad hefyd ardal ddehongli ryngweithiol, ystafell ddarganfod, Tŵr Arlunydd Preswyl, siop anrhegion a chaffi

    Capel Non

    Enwyd ar ôl mam Dewi Sant a fu’n byw mewn tŷ ar safle’r Capel adfeiliedig. Dyma’r fan lle ganed Dewi Sant o gwmpas y flwyddyn 500 OC. Ger yr adfeilion mae Ffynnon Non y dywedir iddi darddu yn ystod terfysg ar adeg genedigaeth Dewi Sant. Caiff ei hystyried yn un o’r ffynhonnau mwyaf cysegredig yng Nghymru ac ystyrir bod gan ei dŵr bwerau iachau a gwyrthiol eraill. Ger y tŷ encilio mae Capel mwy diweddar a phrydferth a adeiladwyd allan o gerrig a ddaeth yn wreiddiol o hen adeiladau eglwys yn y cylch

    Porth Clais

    Harbwr prydferth siâp neidr a adeiladwyd yn y 12fed Ganrif i wasanaethu dinas Tyddewi. Roedd unwaith yn borthladd prysur gyda llongau’n mewnforio nwyddau i gymunedau arfordirol ac allforio ohonynt. Roedd coed, ŷd, carreg galch a glo ymysg eitemau’r fasnach, gyda’r ddau olaf yn porthi’r odynnau calch o boptu’r harbwr. Y gred yw mai’r Rhufeiniaid a gododd fur gwreiddiol yr harbwr ac, yn ystod y Canol Oesoedd, glaniodd llif o ddisgyblion a phererinion yma o Loegr, Ffrainc ac Iwerddon. Yn ôl y dyb, Porth Clais yw’r fan lle bedyddiwyd Dewi Sant.

    Clegyr Boia

    Brigiad o graig folcanig hen iawn a thirnod ar y penrhyn. Mae tystiolaeth ei fod yn safle anheddau amgaeëdig Neolithig ac Oes yr Haearn ac, yn ddiweddarach, daeth yn gadarnle pennaeth Gwyddelig o’r enw Boia yn y 6ed ganrif. Yr honiad yw bod ffynnon fechan o’r enw Ffynnon Lygaid ar ei ochr ddeheuol yn darddle dŵr a ddefnyddid i iacháu anhwylderau’r llygaid. Er ei bod 50 metr uwchlaw’r môr, cofnodwyd yn hanesyddol fel ffynnon ‘Trai a Llanw’ a ddefnyddid i benderfynu cyflwr llanwau’r môr dros filltir i ffwrdd 

    Porthstinian

    Lleoliad trawiadol yn edrych allan dros Swnt Dewi peryglus i Ynys Dewi draw. Mae dwy orsaf bad achub, yr hen un sy’n cael ei defnyddio fel man byrddio teithiau antur mewn cwch ac ymweliadau â’r ynys, a’r un newydd ar ei phwys a ddaeth yn weithredol yn 2017. Mae adfeilion capel canoloesol yn nodi man claddu Iwstinian, un o gyfoeswyr Dewi Sant.

    Porth Mawr

    Yn sefyll dan frigiad creigiog mawreddog Carn Llidi, mae’r ehangder hwn o dywod braf yn troi tua’r gogledd i gyfeiriad pentir creigiog pellennig Penmaendewi. Dyma draeth Baner Las poblogaidd iawn ac un o’r mannau gorau yn y wlad i frigdonni. Mae llethrau Carn Llidi a Phenmaendewi’n frith o olion henebion Neolithig. Y sôn yw mai yma ym Mhorth Mawr y cafodd Padrig Sant ei weledigaeth i droi Iwerddon at Gristionogaeth, ac fe hwyliodd yno o’r bae yn y 5ed ganrif. Y bae hefyd oedd terfyn dwy ffordd Rufeinig a ddefnyddid ar gyfer y fasnach aur rhwng Iwerddon a De Prydain a thu hwnt.

    Yr Eglwys Gadeiriol

    Adeiladwyd ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant. Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1181, rhyw 600 mlynedd ar ôl marw Dewi Sant. Dioddefodd hanes cynnar cythryblus gyda’r tŵr yn cwympo, difrod daeargryn a hyd yn oed ymosodiad milwyr Seneddol. Cafodd ei hailadeiladu, ei ehangu a’i haddurno drwy’r canrifoedd. Mae’n fan hollol nodedig, a godwyd mewn pant, at ddibenion amddiffyn, fel na fyddai’n weladwy o’r môr. Mae ynddi nenfydau derw a lliwiedig hardd, lloriau hynod ar ogwydd a chlawstrau rhyfeddol a adferwyd, y cyfan yn cyfrannu at ei chymeriad arbennig. Yn y 12fed ganrif, gorchmynnodd y Pab fod dwy bererindod i Gysegr Dewi Sant yn y Gadeirlan yn gyfartal ag un i Rufain.

    Llys yr Esgob

    Yn sefyll ar bwys yr Eglwys Gadeiriol, cafodd ei godi yn y 14eg ganrif i gartrefu’r esgobion a lletya gwesteion. Mae’n adfail, ond yn un trawiadol gyda digonedd o ardaloedd i’w darganfod, gan gynnwys grisiau i dyrau a chryptau. Mae dan ofal CADW fel atyniad ymwelwyr ac mae tâl mynediad. Mae’n werth cadarnhau amserau agor ac ati ar wefan CADW.

    Canol y Ddinas

    Enwyd y ddinas ei hun ar ôl yr Eglwys Gadeiriol ac, ar waethaf ei statws fel dinas, mae’n fach iawn mewn gwirionedd gyda phoblogaeth breswyl o lai na 2000. Mae’n werth mynd am dro bach o gwmpas ei chanol hanesyddol gyda’i strydoedd cul llawn orielau celf, siopau anrhegion a chaffis. Mae Porth y Tŵr o’r 13eg ganrif a’r Hen Groes Geltaidd ar y Sgwâr yn werth golwg hefyd. Bydd y Llwybr ei hun wedi mynd â chi i’r Eglwys Gadeiriol ganoloesol ogoneddus a Llys yr Esgob yn llonyddwch Glyn Rhosyn ar gwr y ddinas.

    ID: 3700, revised 04/06/2024