Beicio Sir Benfro

|Name like '%Cresswell Trail%'|Route like '%Cresswell Trail%'

Llwybr Cresswell

Overview
Information

    Llwybr del sy’n cychwyn yn agos i Gastell Caeriw. Mae safleoedd hanesyddol niferus yn aros i gael eu harchwilio gan gynnwys castell, melin lanw a hen blasty trawiadol gyda stori i’w hadrodd. Ceir llu o olion treuliedig oes ddiwydiannol flaenorol ac mae’r Llwybr yn cynnig cyfle i chi ymweld â chei arforol hynafol a gwarchodfa natur hardd. Os bydd amser yn caniatáu, yn dilyn cwblhau’r Llwybr, cewch gerdded dros y bont ganoloesol yng Nghaeriw a’r holl ffordd o amgylch Pwll y Felin, un o’r lleoliadau harddaf yn Sir Benfro. Ar ddiwrnod llonydd pan fydd y llanw’n uchel mae’r dŵr yn adlewyrchu’r castell yn berffaith a’r felin gerllaw. Mae’n denu llawer o adar hirgoes ac mae’n lle da i wylio ystlumod ar nosweithiau o haf

     Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau:

    Pentrefi bychain cysglyd, gwarchodfa natur gyda morfa heli a chilfachau llanw, olion hen oes ddiwydiannol, cestyll a melin lanw

    Gradd: Canolig 

    Pellter:

    10.3 milltir (16.5 cilometr)

    Amser:

    2 awr ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer aros yma ac acw

    Man Cychwyn/Gorffen

    Maes parcio Castell Caeriw (Cyf. Grid SN046036, Sat Nav SA70 8SL). Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim a’r fynedfa iddo yn syth oddi ar ffordd yr A4075, 1/4 milltir i’r gogledd o gylchfan yr A477 (dilynwch yr arwyddion brown am Gastell Caeriw). Mae standiau beiciau ar gael wrth y fynedfa ac mae toiledau cyhoeddus gyferbyn

    Grsaf Drenau Agosaf:

    Llandyfái 3.8 milltir. (Trowch i’r chwith allan o’r lôn i’r orsaf a’r tro cyntaf i’r dde ar ôl yr eglwys gan ddilyn arwydd i Ddinbych-y-pysgod. Ymhen 11/2 milltir, trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd am Milton. Ym Milton, croeswch briffordd yr A477 gan ddefnyddio’r ynys groesi a dilynwch y llwybr beicio i’r dde. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr beicio a throi i’r chwith wrth y gylchfan gan ddilyn yr arwydd i’r castell. Mae’r Llwybr yn cychwyn 1/4 milltir i fyny’r ffordd hon ar y chwith).

    Tirwedd:

    Mae’r Llwybr yn rhedeg ar hyd lonydd a ffyrdd gwledig tawel. Gwastad ydyw ar y cyfan ond mae yna ychydig o fryniau isel

    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 192 metr

    Lluniaeth:

    Caeriw, Cei Cresswell

    Toiledau:

    Caeriw, Cei Cresswell

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

     

    0.0 Cychwyn. Croeswch y lôn o’r maes parcio i’r llwybr sy’n mynd at y castell. Mae Croes Uchel Caeriw ar y dde i chi wrth i chi ddilyn y llwybr hwn. Ymunwch â’r llwybr ar y dde (tu draw i’r Groes) sy’n mynd â chi at y porth yn agos i’r briffordd gyferbyn â Thafarn Caeriw. Croeswch y briffordd (gyda gofal) ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd o flaen y dafarn. Mae’n ddoeth gwthio eich beic ar hyd y llwybrau at y castell oherwydd y cerddwyr. Os bydd y llwybrau at y castell yn digwydd bod ar gau, sy’n annhebygol, ymunwch â’r briffordd yn syth o’r maes parcio a beicio i lawr i Dafarn Caeriw a throwch i’r dde. Byddwch yn ofalus iawn ar y ffordd hon gan y gall fod yn brysur ar adegau. Ar ôl ychydig o ffordd (tu hwnt i giosg ffôn coch) gellir gweld simnai Ffleminaidd Caeriw ar y chwith i chi. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon ac yn syth ar ôl Ysgol Sageston mae’r ffordd yn troi i’r dde ac wedyn i’r chwith cyn mynd ymlaen heibio i dafarn y Plough.

    0.9 Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd i Redberth. Mae ffordd osgoi yn mynd heibio’r ffordd hon ac felly ychydig o draffig sydd arni.

    2.5 Yn Redberth, trowch i’r chwith i’r Rhiw tuag at giosg ffôn coch yng nghanol y pentref. Trowch i’r dde wrth giosg y ffôn gan fynd heibio’r eglwys ar y chwith i chi. Ar ôl ychydig dros 300 llath, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ (wrth ymyl cyffordd i ffordd fawr) ac ewch ymlaen i fyny heibio’r ffermdy tri llawr mawr.

    3.3 Trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd am Creseli.

    4.2 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd gan ddilyn arwydd am Creseli.

    4.6 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd am Creseli.

    5.0 Yng Nghreseli, trowch i’r chwith yn ofalus gan gadw o fewn yr ysgwydd galed wrth ochr y briffordd. Ar ôl tua 25 lath, croeswch y briffordd hon yn ofalus iawn i’r ffordd ochr gyda’r arwydd am Gei Cresswell. Byddwch yn mynd heibio’r fynedfa i Dŷ Creseli ar y dde i chi ymhen ychydig ar hyd y ffordd fechan hon. Gan barhau ar hyd y ffordd, gwyrwch ychydig i’r dde y tu hwnt i’r fynedfa i Dŷ Creseli, gan ddilyn arwydd am Lawrenni (anwybyddwch y gyffordd ar y chwith gyda’r arwydd am Gei Cresswell).

    6.1 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T ac ewch ymlaen ar hyd ochr yr afon i bentref bychan Cei Cresswell lle y gwelwch doiledau cyhoeddus a’r Creselly Arms ar y chwith i chi. Ar ôl aros i archwilio, ewch ymlaen i fyny’r bryn gweddol serth am ychydig o ffordd a throwch i’r dde.

    7.6 Yng ngorllewin Williamston trowch i’r dde yn union cyn y blwch llythyrau coch yn y wal. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf ac i’r dde wrth yr un wedyn. Ar ôl ychydig dros 200 llath mae gennych ddewis o aros am ymweliad ar droed i Warchodfa Natur Gorllewin Williamston. Gellwch glymu eich beic i’r ffens bren. Wedyn trowch o gwmpas a dilyn y ffordd yn ôl i’r pentref (gan anwybyddu’r ffordd ochr ar y chwith y gwnaethoch ei defnyddio o’r blaen). Wrth y gyffordd ‘T’, nesaf at y ciosg ffôn coch, trowch i’r dde. Dilynwch y ffordd hon am tua 11/2 milltir gan anwybyddu unrhyw droeon i’r ochr (neu efallai y gallech ddiweddu’n anfwriadol yng ngwersyll lleol y noethlymunwyr!). Daw Castell Caeriw yn fuan i’r golwg wrth i chi ddod i lawr bryn isel.

    9.6 Trowch i’r dde wrth waelod y bryn i lwybr sy’n rhedeg wrth ochr Pwll y Felin. Argymhellir eich bod yn dod i lawr oddi ar eich beic ac yn ei wthio ar hyd y rhan hon gan y gall y llwybr fod yn eithaf prysur gyda cherddwyr. Bydd y llwybr yn eich arwain chi o amgylch i sarn gyda Melin Lanw Caeriw ar y pen arall. Mae’n awr yn ddiogel i ddechrau beicio eto.

    9.9 Ar ôl aros, os ydych yn dymuno, i ymweld â’r Felin Lanw, dilynwch y ffordd yn ôl tuag at y castell nes i chi gyrraedd y maes parcio.

    10.3 Gorffen ym maes parcio Castell Caeriw.

    Pethau o ddidordeb ar hyd y Ffordd

    Croes Uchel Caeriw

    Mae’r Groes Geltaidd ragorol hon o'r unfed ganrif ar ddeg, yn un o henebion enwocaf Cymru. Mae’n coffáu Maredudd ap Edwin, cyd-reolwr teyrnas y Deheubarth (De-orllewin Cymru) a laddwyd yn 1035. Mae’r groes wedi ei cherfio’n hardd ar bedair ochr â gwaith clymau Celtaidd a phatrymau allweddol

    Simnai Ffleminaidd Caeriw

    Simnai garreg gonigol sydd wedi goroesi o dŷ neu fwthyn a ddymchwelwyd oddeutu 1870. Roedd y simneiau crwn anferth hyn, neu sgwâr weithiau, yn rhan o arddull bensaernïol Sir Benfro yn y canol oesoedd. Defnyddid y simnai hon yng Nghaeriw gyda’i dau bopty fel becws cymunedol tan 1927 ac wedyn fe’i defnyddiwyd gan ddau deulu lleol fel lloches rhag cyrchoedd awyr yn ystod yr ail Ryfel Byd. Saif yn 5 metr o uchder ac fe’i hadeiladwyd o gerrig lleol

    Redberth

    Pentref bychan gwledig ar ffordd Dyrpeg Tafarnspite yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r tollty erbyn hyn yn annedd preifat. Mae’r pentref gwreiddiol yn eithaf hen ac o’i amgylch ceir olion system llain-gaeau ganoloesol. Yn ystod yr oesoedd canol, roedd Redberth yn eiddo i Farchogion Sant Ioan o Gaersalem (neu Ysbytywyr). Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn gartref i wrach enwog a ofnid gan lawer ac a adwaenid yn lleol fel ‘yr Hen Fol o Redberth’, a gyffesodd ar ei gwely angau iddi niweidio ugeiniau o bobl â’r grymoedd cudd yr oedd hi wedi eu caffael

    Creseli

    Plasty hardd o’r ddeunawfed ganrifsydd bellach yn gweithredu’n bennaf fel gwesty a lleoliad priodasau. Mae hanes y tŷ yn mynd yn ôl ganrifoedd ac roedd cysylltiadau agos rhyngddo â’r gwaith glo yn yr ardal. Mae nifer o nodweddion diddorol yn y tŷ ac mae ar agor ambell waith ar gyfer teithiau gyda thywysydd (edrychwch ar y wefan cyn ymweld - www.Creseli.com)

    Cei Cresswell

    Pentref bychan tlws wedi ei leoli wrth derfyn llanw’r afon Cresswell. Er ei fod yn hen ffasiwn a thawel y dyddiau hyn, bu unwaith yn borthladd afon prysur, yn allforio glo caled o 50 o byllau bychain yn yr ardal. Mae’r cei yn syth o flaen tafarn boblogaidd y Creseli Arms. Gellir gweld adfeilion hen Gastell Cresswell o’r drydedd ganrif ar ddeg i fyny’r afon o’r cei. Mae cerrig camu’n eich galluogi i groesi’r afon, pan fydd ar drai, a dilyn ymyl yr afon yr holl ffordd i Lawrenni

    Gwarchodfa Natur Gorllewin Williamston

    Gwarchodfa o gilfachau llanw a morfa heli, creigiau calch yn dod i’r wyneb, coetir a llennyrch cysgodol i loÿnnod byw, i gyd yn cael eu trawsnewid gan y llanw a’r trai drwy gydol y dydd. Roedd chwarel galch yma ar un adeg a châi’r calchfaen ei symud mewn cychod oedd yn cael eu cludo i fyny ar y llanw uchel. Bellach mae’n hafan i fywyd gwyllt, adar hirgoes ac adar gwylltion. Mae’r warchodfa’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

    Melin Lanw Caeriw

    Wedi ei hadeiladu fel melin flawd yn y 1900au cynnar, hon yw'r unig felin lanw yng Nghymru erbyn hyn sydd wedi cael ei hadfer. Mae ganddi ddwy olwyn sy'n gyrru chwe phâr o feini melin. Er ei bod wedi ei hadfer i gyflwr gweithio, nid yw'n gweithio ar hyn o bryd, ond mae'r peirianwaith, yr arddangosfa, y sylwebaeth sain a'r arddangosfeydd rhyngweithiol yn dangos sut y mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni ar hyd yr oesau

    Castell Caeriw

    Adfail godidog castell ac iddo hanes yn cwmpasu dwy fil o flynyddoedd. Wedi ei leoli ar safle trawiadol yn edrych allan dros 23 acer o bwll melin, datblygodd y castell allan o gaer Normanaidd i fod yn Blasty yn oes Elizabeth. Mae yna ddigonedd i'w weld a'i wneud yma gyda rhaglen o weithgareddau amrywiol. Mae ar agor yn ddyddiol o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn. Mae angen talu ffi sydd hefyd yn cynnwys mynediad i'r Felin Lanw gerllaw              

    ID: 5097, revised 04/06/2024