Beicio Sir Benfro

|Name like '%Crymych Trail%'|Route like '%Crymych Trail%'

Llwybr Crymych

Overview
Information

    Mae’r Llwybr yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghrymych, pentref mawr sy’n cael ei ystyried yn eang fel prifddinas Preseli – yr ardal o amgylch Mynydd Preseli. Mae’r golygfeydd oddi ar y llwybr yn ogoneddus ac mae’r llwybr yn mynd â chi drwy rai cymunedau cudd diddorol gyda straeon i’w dweud o flynyddoedd gynt. Mae cyfle i ymweld â chaer o’r Oes Efydd ddiweddar a phentref ecolegol cyfoes sydd â diwrnodau agored rheolaidd

    Ffeil Ffeithiau

    Uchafbwyntiau:

    Golygfeydd trawiadol, aneddiadau hynafol, pentrefi anghysbell, chwedlau o drysor cladd, pentref ecolegol a chymuned fwyngloddio flaenorol

    Gradd: Cymhedrol

    Pellter:

    181/2 milltir (30 cilomedr)

    Amser:

    4 awr ag amser ychwanegol i gael seibiant

    Man Cychwyn / Gorffen:

    Maes Parcio Maes Ploveilh, Crymych
    (Cyfeirnod Grid SN182338, Llywiwr Llo SA41 3QE)
    Ar ffordd yr A478 trwy Grymych, troi ar y gyffordd gydag arwydd Eglwyswrw (gyferbyn â Neuadd y Farchnad gyda’i wyneb cloc), yna troi i’r chwith ar unwaith i Heol Parc y Ffair. Troi i’r chwith i’r maes parcio

    Gorsaf Drenau Agosaf:

    Dim un o fewn 5 milltir 

    Tirwedd:

    Lonydd tawel yn bennaf ond gyda darnau byrion ar ffordd yr A487 yn y dechrau a’r diwedd, y ddau o fewn terfyn cyflymder. Mae un darn serth iawn ar i waered lle mae angen gofal arbennig

    Codiad Tir:

    Cyfanswm dringo o tua 440 metr

    Lluniaeth:

    Crymych, Tegryn (Butchers Arms), Siop Bob Peth Croes Glandy

    Toiledau:

    Toiledau cwsmeriaid yn y Crymych Arms a Butchers Arms, Tegryn

     

    Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)

     

    0.0 Dechrau. Gadewch y maes parcio ar hyd y ffordd a throi i’r dde. Trowch i’r dde ar y gyffordd T ger y Crymych Arms ac yna i’r chwith ar unwaith ar ffordd yr A478 i gyfeiriad Aberteifi. Ar y dechrau mae’r Llwybr yn dilyn Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Trowch i’r cyntaf ar y dde i gyfeiriad Tegryn wrth adael y pentref. Yn dilyn mae dringfa eithaf cyson am filltir gyda golygfeydd hardd o’r Frenni Fawr yn y pellter ar y chwith. Wrth i’r Llwybr ymdroelli ar hyd cyfuchliniau rhai bryniau isel cewch eich gwobrwyo’n ddirybudd gyda golygfeydd trawiadol i’r de dros dir amaeth tonnog canoldir Sir Benfro'r holl ffordd o Fynydd Preseli i Sir Gâr gyfagos. Mae’r ychydig filltiroedd nesaf ar i waered gan mwyaf a ddylai roi peth rhyddhad.

    2.0 Trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Tegryn. (Mae llwybr cyhoeddus yn union gyferbyn â’r gyffordd hon yn mynd â chi’r holl ffordd i fyny at gopa’r Frenni Fawr, tro buddiol a diddorol iawn ar ddeudroed os oes gennych amser. Caniatewch awr ar gyfer y daith gron.)

    3.2 Ar y gyffordd T trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Tegryn. Ar ôl mynd i mewn i’r pentref, trowch i’r dde fymryn heibio’r Butchers Arms ac yna i’r chwith ar unwaith gan ddilyn arwydd Capel Llwynyrhwrdd. Ar ôl mynd heibio’r capel, mae disgyniad y llwybr yn mynd yn serthach a serthach ac fe all wyneb y ffordd fod yn eithaf gwlyb dan y canopi coed. Cofiwch fod yn ofalus ar y darn hwn. Mae’r llwybr yn gwastatáu’n fuan ac efallai y cewch gip ar alpaca neu ddau’n pori ar diroedd gwersyll pebyll crwyn ar y dde. Wrth i chi fynd i mewn i Lanfyrnach byddwch yn mynd heibio rhes o hen fythynnod mwynwyr ar y dde. Roedd yr ardal gyfan hon unwaith yn llawn pyllau arian a phlwm ac mae olion rhai o’r lefelydd yn dal i’w gweld yn y coed a’r prysgwydd. Mae llwybr hen reilffordd y Cardi Bach yn union ar bwys y ffordd

    4.9 Trowch i’r dde ar y gyffordd T ac, ar ôl ¼ milltir, trowch i’r dde eto i gyfeiriad Hermon. Wrth i chi adael y pentref trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Eglwys Llanfyrnach. Ar ôl tua 100 llath byddwch yn mynd heibio’r eglwys ar y chwith ac mae’r hen domen ar dir preifat yr ochr draw i’r ffordd.

    7.2 Ewch heibio’r fynedfa i ecobentref Lammas ar y dde (gwelwch y wefan am ddiwrnodau agored). Ychydig ymhellach ymlaen mae’r Llwybr yn mynd â chi drwy bentref bach tlws Glandwr. Ewch ymlaen heibio’r caban ffôn coch ym mhen pellaf y pentref ac fe welwch Garreg Ogam Glandwr yn agos at y ffordd ar dir y capel ar y dde. Ewch ymlaen drwy Hebron, y pentref nesaf, a throi i’r chwith tua milltir allan o’r pentref. Dilynwch y ffordd goediog hon ar i fyny hyd nes cyrhaeddwch gyffordd T gyferbyn â’r porth bwa castellog Gothig sy’n arwain at eglwys fechan Cledwyn Sant. Trowch i’r dde i gyfeiriad Efailwen.

    11.7 Ym mhentref bach nesaf Pant-y-caws (heb arwydd) trowch i’r dde i gyfeiriad Croes Glandy.

    12.2 Yng Nghroes Glandy croeswch briffordd yr A478 yn ofalus iawn i gyfeiriad Maenclochog. Ar ôl dim ond 205 llath, fe allwch gyrraedd olion heneb Meini Gwyr trwy gât mochyn ar y chwith. Ar ôl arosfa ddewisol, trowch yn ôl a dilyn y Llwybr yn ôl i ffordd yr A487. Trowch i’r cyntaf ar y chwith ar hyd isffordd i gyfeiriad Mynachlog-ddu.

    14.7 Wedi cyrraedd Mynachlog-ddu trowch i’r dde ar y gyffordd T. Rhyw ¾ milltir y tu hwnt i’r pentref, mae amlinell arw Carn Menyn i’w gweld yn eglur ar y chwith. Ymhen milltir arall mae’r ffordd yn lledu i ffurfio cilfan yn union ar ôl arwydd rhybudd Defaid. Ar draws y cae i gyfeiriad y mast trawsyrru mae tarddle Cleddy Ddu. Fe aiff y llwybr ceffylau ar y chwith â chi ryw 250 llath i ddechrau llwybr troed sy’n mynd i ben Foel Drygarn. Yn anffodus, nid oes unrhyw stondinau beiciau ac, os ydych yn bwriadu cerdded i’r copa, bydd angen i chi naill ai guddio eich beic neu ei rwymo wrth rywbeth arall gan sicrhau na fyddwch yn rhwystro’r briffordd. Mae’r daith gron i’r copa ac yn ôl yn cymryd tuag awr. Ar ôl yr arosfa ddewisol hon, ewch ymlaen ar hyd yr un ffordd. Ymhen ¼ milltir, anwybyddwch y ffordd groes a throwch i’r dde.

    17.9 Trowch i’r chwith ar y gyffordd T a dilyn ffordd yr A478 i Grymych. Mae canolfan hamdden ar y dde gyferbyn â’r orsaf betrol lle gallech fynd i nofio a/neu gael cawod nawr neu ar ôl cwblhau’r llwybr.

    18.5 50 llath y tu hwnt i Gapel Seion, trowch i’r chwith trwy’r rhwystrau i’r maes parcio a diwedd y llwybr.

     Pethau o Diddordeb ar hyd y Ffordd

    Crymych

    Mae enw’r pentref wedi bodoli ers yr Oesoedd Tywyll ond, fel cymuned, ni ddechreuodd ddatblygu mewn gwirionedd tan tuag 1874 yn dilyn adeiladu’r Cardi Bach, y rheilffordd rhwng Hendy-gwyn ac Aberteifi sydd wedi cau erbyn hyn. Mae’n sefyll ar yr hen ffordd dyrpeg rhwng Dinbych-y-pysgod ac Aberteifi gyda phedair ffordd arall yn cyfarfod yno gan wneud y lle’n boblogaidd gyda phorthmyn a gasglai yn y pentref cyn gyrru eu gwartheg i nifer o wahanol gyfeiriadau. Wrth i’r lle ehangu, roedd ferandâu ar lawer o’r busnesau a siopau lle gellid clymu ceffylau. Roedd yn debyg i rywle yn y Gorllewin Gwyllt a dim rhyfedd iddi gael ei galw’n ‘Dre’r Cowbois’. Mae’r diwylliant Cymreig yn gryf yma a’r Gymraeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o’r trigolion. Crymych yw tarddle afonydd Taf a Chleddy Ddu

    Y Frenni Fawr

    Cadair Facsen oedd yr enw gynt a dyma’r bryn honedig lle daeth Magnus Maximus, yr Ymerawdwr Rhufeinig (335 – 388 OC), i hela. Mae cysylltiad hefyd â chwedlau’r Tylwyth Teg. Mae’r llwybr troed i fyny a thros y mynydd yn mynd heibio amrywiol feddrodau o’r Oes Efydd Gynnar, ac fe all un ohonynt ddal trysor chwedlonol y Frenni Fawr sy’n cael ei warchod gan ysbryd llai na chyfeillgar yn ôl y sôn

    Llanfyrnach

    Mae’n enwog am ei phyllau arian a phlwm Fictoraidd ar ochr ogleddol y pentref, er y gellid bod wedi cloddio mwynau yma mor bell yn ôl â’r 16eg ganrif. Ehangwyd y mwyngloddiau’n fawr yn y 1840au o ganlyniad i’r galw mawr am blwm. Erbyn i fwyngloddio ddod i ben yn 1890, roedd lefelydd gweithio wedi cyrraedd ymhell dros 500 metr dan ddaear. Mae pobl yn dal i fyw yn hen fythynnod y mwynwyr ac mae rhywfaint o dystiolaeth eto o’r lefelydd gwreiddiol er bod y rhan fwyaf ohonynt bellach yn guddiedig dan lystyfiant trwchus. Mae amlinell mwnt Normanaidd bach i’w gweld yn union gyferbyn â’r eglwys

    Ecobentref Lammas

    Dyma enghraifft lewyrchus o ddatblygiad gwledig bach ei effaith. Mae’r llain 74 erw’n hollol annibynnol ar bob prif wasanaeth, ac fe ddyluniwyd ac adeiladwyd yr holl gartrefi yn Lammas gan y trigolion gyda deunyddiau lleol, naturiol ac eildro. Ni chostiodd un ohonynt fwy na £14,000 i’w godi. Mae’r ecobentref, yn Nhir y Gafel ger Glandwr, yn cynnal teithiau tywysedig pob dydd Sadwrn o fis Ebrill i fis Hydref – gwelwch y wefan lammas.org.uk i gael rhagor o wybodaeth

    Carreg Ogam Glandwr

    Ar dir capel Glandwr, ysgythrwyd croes ar un wyneb ac arysgrif Ogam ar un ymyl o’r garreg 5 troedfedd hon. Daethpwyd â hi yma o fferm leol lle gweithredodd fel postyn gât ond ei safle gwreiddiol, yn ôl y sôn, oedd ar Fynydd Stambar ger Llanfrynach. Yn anffodus, mae’n anodd dehongli’r marciau oherwydd eu taro gan fogeiliau olwynion troliau a’u difrodi pan oedd yn bostyn gât. Un ddamcaniaeth yw ei fod yn nodiant cerddorol o ryw fath

    Meini Gwyr

    Mae’r heneb hwn yn unigryw ym mhensaernïaeth gynhanesyddol Cymru, fel yr unig feingylch dyrchafedig hysbys. Gwaetha’r modd, y cyfan sy’n weddill o’r adeiledd hwn a fu’n drawiadol unwaith yw dwy garreg unig mewn cae, er bod amlinell y meingylch yn dal i’w gweld. Mae lleoliad yr adeiledd ‘defodol’ pwysig hwn mor agos at darddle Cerrig Gleision Côr y Cewri a chylch y Gors Fawr yn ei gwneud yn debygol ei bod unwaith yn rhan annatod o’r dirwedd Neolithig leol

    Mynachlog-ddu

    Mae’r pentref bach hwn yn sefyll ar lwyfandir wrth galon Mynydd Preseli. Rhwng 1839 a 1843 ysgogodd y pentrefwyr yma wrthryfel yn erbyn Deddfau’r Tyrpeg a ledaenodd dros y rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth Cymru. Arweinydd Terfysgoedd Beca oedd Thomas Rees (Twm Carnabwth), cawr o ddyn lleol, ac mae carreg ei fedd yn sefyll yng Nghapel Bethel y pentref (ar y dde wrth i chi ddilyn y Llwybr i’r pentref). Y dyb hefyd yw mai Mynachlog-ddu yw safle Brwydr Mynydd Carn yn 1081 rhwng lluoedd yn ymgiprys dros reoli dwy deyrnas Gymreig

    Carn Menyn

    Y gred yw mai Carn Menyn yw un o brif ffynonellau’r Cerrig Gleision a ddefnyddiwyd yng Nghôr y Cewri. Mae’n sefyll yn agos at osodiad cerrig Bedd Arthur, sy’n cael ei hystyried yn brototeip ar gyfer Côr y Cewri ei hun ac sy’n cael ei hawlio yn ôl llên gwerin lleol fel man gorwedd terfynol y brenin Prydeinig chwedlonol

    Foel Drygarn

    Mae’r gaer hon o’r Oes Efydd Ddiweddar yn sefyll ym mhen eithaf Mynydd Preseli ac mae’n un o’r caerau mwyaf dramatig ei lleoliad a thrawiadol ei golwg yng Nghymru. Ar ei phen mae tair carnedd sy’n weledol am filltiroedd o gwmpas. Dangosodd ffotograffau o’r awyr gylchoedd cutiau niferus ar y copa. Chwedl gysylltiedig â’r copa yw bod craig wastad fawr, o’r enw Ffald y Brenin, yn gorchuddio celc o aur. Ar ddechrau’r daith i fyny at y gaer mae plac carreg yn coffáu Brwydr y Preseli pan enillodd pobl leol yn 1948 eu hymgyrch yn erbyn cynnig y Swyddfa Ryfel i droi Mynydd Preseli’n dir hyfforddi milwrol

    ID: 5101, revised 04/06/2024