Beicio Sir Benfro
Llwybr y Tramffordd
Llwybr beiciau dymunol a diddorol sy'n cychwyn ac yn gorffen yn agos i'r hen Weithfeydd Haearn yn Stepaside. Mae'r llwybr cymharol fyr a gwastad, yn dilyn lein hen Reilffordd Saundersfoot a adeiladwyd yn 1835 i gysylltu'r gweithfeydd haearn a'r pyllau glo gerllaw â'r harbwr yn Saundersfoot.
Defnyddid y rheilffordd yn bennaf i gludo dramiau o lo i longau hwylio masnachol oedd wedi eu hangori wrth waliau'r harbwr. Ar ddiwedd y Llwybr cymerwch amser i gerdded i fyny i weld adfeilion diddorol Glofa'r Gelli (Grove Colliery).
Mae grisiau wrth ochr y gweithfeydd haearn gerllaw yn arwain at lwybr yr inclein ac mae'r lofa wedi ei lleoli oddeutu 300 llath i fyny'r inclein hwn.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Olion oes ddiwydiannol, gan gynnwys gweithfeydd haearn, glofa a rheilffordd fwynau. Traethau, golygfeydd gwych o'r môr a thwneli Gradd: Hawdd |
---|---|
Pellter |
4.0 milltir (6.5 cilometr) |
Amser |
1 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio Gweithfeydd Haearn Stepaside (Cyfeirnod Grid SN140073, Sat Nav SA67 8LT). Maes parcio am ddim. Trowch oddi ar adran y ffordd ddeuol o briffordd yr A477, i'r dwyrain o bentref Cilgeti gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Stepaside. Croeswch y bont ar waelod yr allt a throwch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd i'r Cwm Difyr (Pleasant Valley). Trowch i'r chwith eto wrth waelod yr allt. Ar ôl bron i ½ milltir trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd i'r Gweithfeydd Haearn. Mae'r maes parcio yn syth ymlaen. |
Grsaf Drenau Agosaf |
Cilgeti 1 filltir (Trowch i'r dde allan o ffordd yr orsaf a chymerwch y tro cyntaf i'r dde ar ôl Ysgol Stepaside). Croeswch y bont uchel a throwch i'r chwith wrth y groesffordd. Ar waelod allt serth iawn, gwyrwch i'r dde cyn y gyffordd â'r briffordd. Dilynwch y llwybr heibio, ond nid dros, bont gerrig gul ac ewch ymlaen hyd nes cyrraedd y gyffordd sy'n arwain at y maes parcio wrth ymyl Gweithfeydd Haearn Stepaside. |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar lwybr wedi ei arwynebu, heb drafnidiaeth, gydag un isffordd yn croesi. Un adran fer ar ffordd wledig dawel ac adran arall ar ffordd bengaead drefol yn Saundersfoot. |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 5 metr |
Lluniaeth |
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge), Neuadd Coppet (adeilad ‘Coast’) a Saundersfoot |
Toiledau |
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge), Neuadd Coppet (adeilad ‘Coast’) a Saundersfoot |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Ar ôl cymryd peth amser i edmygu hen adeiladau'r Gweithfeydd Haearn, ewch ar eich beic tuag at yr allanfa o'r parc ac ymunwch â'r llwybr beiciau ar y dde cyn y gyffordd 'T'. Ewch ar eich beic ar hyd ochr y nant drwy'r Cwm Difyr (Pleasant Valley). Yn dibynnu ar yr amser o'r flwyddyn y byddwch yn beicio ar y llwybr hwn, fe fydd yna fel arfer bentwr o blanhigion a bywyd gwyllt i'w wylio. Mae'r adran hon o'r llwybr yn llwybr ceffylau ac felly byddwch yn barod i weld pobl yn marchogaeth ceffylau yn ogystal â beicwyr eraill a llawer o bobl yn cerdded.
0.8 Ewch heibio Bwthyn y Tramffordd ar y dde ac ymunwch ag isffordd wledig o'ch blaen. Ewch yn syth ymlaen a cheisio cael cipolwg os gellwch ar y nant ar y chwith. Cafodd hon ei throi yn gamlas yn y 1790au ond heb lawer o lwyddiant gan fod y graddiant yn rhy serth.
0.9 Croeswch y ffordd ac ymuno â'r llwybr i'r dde sy'n rhedeg wrth ochr y traeth wrth Bont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge). Mae yna doiledau ar y chwith cyn y groesfan a thafarn yn darparu bwyd y tu draw i'r toiledau y pen arall i'r traeth. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr uchel nes cyrraedd twnnel. Ychydig ymhellach ymlaen mae yna ail dwnnel, sydd wedi ei dorri i blanau haenu o graig waddod ysblennydd, sy'n mynd â chi allan wrth ochr traeth Neuadd Coppet ac adeilad ‘Coast’. Dilynwch y llwybr o gwmpas ochr y tir i'r maes parcio i mewn i drydydd twnnel. Nid yw beicio'n cael ei ganiatáu yn y twneli hyn am resymau diogelwch ac felly cerddwch a gwthiwch eich beic drwodd i'r pen arall. Hefyd, gall yr adran hon o'r Llwybr fod yn brysur iawn gyda cherddwyr ac felly cymerwch ofal.
1.7 Pan fyddwch yn dod allan o'r trydydd twnnel byddwch yn dod i mewn i gyrchfan arfordirol Saundersfoot. Ewch yn syth ymlaen ar hyd y ffordd. Rydych yn dal ar lwybr yr hen reilffordd ond byddwch yn ofalus, gan fod yr adran hon yn cael ei defnyddio gan gerbydau eraill hefyd, er mai ychydig ohonynt sydd yna ar y cyfan a byddant yn araf yn symud. Yn fuan fe fyddwch mewn stryd gyda siopau bob ochr ac mae amlinelliad o'r lle y byddai'r rheilffordd yn arfer rhedeg wedi ei ddangos yn glir yng nghanol y ffordd. Peidiwch â dilyn y ffordd hon o amgylch i'r dde. Yn hytrach, ewch yn syth ymlaen ar hyd ymyl Maes Parcio'r Harbwr am oddeutu 50 llath nes i chi gyrraedd adeilad mawr ar y dde - hen Swyddfa Lo Saundersfoot, a arferai fod yn ganolbwynt gweithrediadau'r diwydiant glo yn yr ardal.
2.0 Swyddfa Lo Saundersfoot yw'r pwynt lle y byddwch yn troi'n ôl ac yn dilyn yr un Llwybr yn ôl i Stepaside. Ond cyn gwneud hynny, mae'n werth clymu eich beic i’r standiau sy'n agos i'r adeilad fel y gellwch fynd i weld y pentref a'r harbwr.
4.0 Diwedd y Llwybr
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Stepaside
Roedd y pentref bychan hwn, sydd wedi ei leoli yn nghanol peth o gefn gwlad harddaf Sir Benfro, yn gymuned ddiwydiannol ffyniannus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gartref i waith glo a gwaith haearn. Rhoddwyd ei enw anghyffredin iddo pan wnaeth Oliver Cromwell a'i fyddin fynd drwodd ar eu ffordd i Benfro yn 1648 a gofyn i bobl oedd ar ei ffordd gamu o'r neilltu.
Glofa'r Gelli (Grove Colliery)
Pwll glo caled oedd hwn ac un o lawer yn ardal Stepaside. Fe'i datblygwyd yn 1853 ac mae ganddo un o'r siafftiau pwll dyfnaf yn Sir Benfro, sy'n 182 metr. Bum mlynedd ar ôl i'r lofa gael ei hagor fe'i cysylltwyd â Glofa Cilgeti gerllaw drwy dwnnel ½ milltir o hyd. Câi glo o Lofa'r Gelli ei ollwng i lawr i Reilffordd Saundersfoot ar inclein oedd yn rhedeg ohoni ei hun. Roedd gan Lofa’r Gelli ei hefail ei hun, gweithdy saer, storfa a stablau oedd yn gartref i ferlynnod y pwll. Mae olion y lofa sydd bellach wedi eu hadfer yn awr yn Gofadail Rhestredig.
Gweithfeydd Haearn Stepaside
Wedi eu hagor yn 1849 gan Gwmni Glo a Gweithfeydd Haearn Sir Benfro, roedd y gweithfeydd haearn yn cynnwys dwy ffwrnais chwyth gyda pheiriannau chwythu, gweithdai, odynnau calch, ffyrnau golosg a ffowndri. Tynnid y mwyn haearn yn bennaf o siafftiau oedd wedi eu gyrru i mewn i'r creigiau rhwng Saundersfoot ac Amroth. Gellir gweld y fynedfa i ddwy o'r rhain wrth fynd o Bont y Gŵr Doeth at dwnnel hir y Llwybr. Mae adeiladau'r Gweithfeydd Haearn yn dal i greu argraff hyd heddiw, yn enwedig olion adeilad y peiriant chwythu a'r adeilad bwrw haearn. Mae tu blaen hwn yn drawiadol gyda thri thalcen bae o gerrig nadd a thri bwa. Fel Glofa'r Gelli, mae'r adfeilion bellach yn Gofadail Rhestredig.
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge)
Yn nythu rhwng Amroth a Saundersfoot, mae'r pentref bychan hwn, y tu ôl i gefnen gerrig gyda thraeth tywodlyd llydan, yn boblogaidd iawn ymhlith teuluoedd. Ar adegau, pan fydd y môr yn arw a'r llanw'n isel, bydd y tywod yn cael ei olchi i gyd i ffwrdd i amlygu olion llonydd coedwig a foddwyd. Ar un adeg, câi glo caled o'r ansawdd gorau ei lwytho ar fadlongau hwylio ar y traeth i ddiwallu’r galw mewn dinasoedd fel Bryste, Abertawe a Chaerdydd. Ymwelodd Winston Churchill a chadlywyddion y Cynghreiriaid â Thafarn Pont y Gŵr Doeth yn 1943, pan ddefnyddiwyd y traeth fel man hyfforddi ar gyfer glaniadau D-Day
Neuadd Coppet
Traeth poblogaidd arall gyda thywod euraid a chysylltiadau drwy dwneli â Phont y Gŵr Doeth a Saundersfoot. Fe'i gelwid yn Coalpit Hall yn wreiddiol, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gâi glo ei gludo allan mewn llongau o'r pyllau ychydig gannoedd o lathenni i fyny'r dyffryn.
Saundersfoot
Pentref pysgota wedi ei leoli yng nghanol y Parc Cenedlaethol a dyma un o'r cyrchfannau gwyliau glan y môr mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Flynyddoedd maith yn ôl, dim ond ychydig o fythynnod canoloesol ydoedd mewn llannerch yn y goedwig, a ddefnyddid fel tir hela gan Ieirll Normanaidd Penfro. Wedyn, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd yn borthladd glo llewyrchus a châi 30,000 o dunelli o lo eu hallforio'n flynyddol o'i harbwr. Gyda diflaniad y diwydiant glo datblygodd Saundersfoot yn gyrchfan wyliau glan y môr