Beicio Sir Benfro
Llwybr Cwm Gwaun
Dyma wybr tawel, paradwysaidd a hawdd ei feicio gyda mannau diddorol i aros ac archwilio. Un o olion oes yr iâ yw Cwm Gwaun, a ffurfiwyd o lif y dŵr tawdd wrth i’r rhewlifau gilio. Caiff ei ddisgrifio yn y Rough Guide fel un o ryfeddodau annisgwyl Sir Benfro. Mae ochrau’r cwm yn goediog iawn ac mae’r Llwybr yn dilyn rhan o Afon Gwaun wrth iddi ymlwybro o fynydd Preseli i lawr i Gwm Abergwaun. Bu llawer o deuluoedd yn byw yn y cwm ers cenedlaethau ac maent wedi cadw agweddau ar fywyd Cymru sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd. Bydd pobl leol yn dal i ddilyn traddodiad calendr Iŵl cyn 1752 ac yn dathlu’r Hen Galan ar 13eg Ionawr. Ar y Llwybr cewch gyfle i grwydro pentref tawel Pontfaen, ac i weld pileri carreg hynafol, eglwysi, a digonedd o fywyd gwyllt a blodau
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Rhywle i osgoi’r torfeydd ar hyd cwm hardd a diarffordd ag ochrau serth enwog am ei goetiroedd, bywyd gwyllt a thraddodiadau lleol sy’n mynd yn ôl genedlaethau |
---|---|
Pellter: |
6 milltir (9.7 cilometr) |
Amser: |
11/4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Maes Parcio a Safle Picnic Allt Clun. (Cyfeirnod Grid SN005348, Llywiwr Llo SA65 9SB) Dilyn y B4313 Ffordd Abergwaun i Arberth am filltir bron i’r de-ddwyrain o Lanychâr. Troi i ffordd groes gyda’r arwydd Cwm Gwaun. Dilyn y ffordd gul hon ar i waered am ½ milltir ac mae’r maes parcio ar y dde gyferbyn â chaban ffôn coch |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Mae Gorsaf Drenau Abergwaun ac Wdig fymryn dros 5 milltir i ffwrdd. Croesi’r ffordd oddi allan i’r orsaf a dilyn y llwybr beicio i lawr ac o amgylch y 2 gylchfan i fan cychwyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar lan y môr. Dilyn Llwybr 4 o Wdig i fan ychydig i’r gorllewin o Abergwaun, Llwybr 47 drwy Abergwaun i fan fron milltir heibio Llanychâr, a Llwybr 82 i fan dechrau’r Llwybr |
Tirwedd: |
Mae’r Llwybr yn dilyn lôn wledig ddistaw ar hyd llawr y dyffryn. Nid oes unrhyw riwiau serth oni bai y cewch eich temtio i ddilyn darnau ychwanegol dewisol byr y Llwybr sy’n cael eu crybwyll yn yr adran gyfarwyddiadau |
Codiad Tir: |
Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 175 metr |
Lluniaeth: |
Diodydd yn unig yn y Dyffryn Arms, Pontfaen |
Toiledau: |
Dim toiledau cyhoeddus. Toiledau cwsmeriaid yn unig yn y Dyffryn Arms, Pontfaen |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i’r dde allan o’r maes parcio, dros y bont ac aros ar y ffordd hon.
0.6 Mae Colofnau Llanychlwydog ar y chwith i chi ar dir yr hen eglwys. Mae’r tiroedd yn agored i’r cyhoedd ond nid adeilad yr eglwys. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd.
1.5 Rydych yn dod at bentrefan bach iawn Pontfaen gydag Eglwys Pontfaen ar y gyffordd ar y dde i chi. Mae’r Llwybr yn mynd yn syth yn ei flaen yn y fan hon ond gallwch ddewis troi i’r dde a thros y bont i ymweld ag Eglwys Brynach Sant i fyny’r rhiw ar ochr draw’r cwm. Mae’r daith gron oddeutu hanner milltir. Wedi cyrraedd yn ôl, daliwch ar y Llwybr fel cynt ac anwybyddu troi i’r chwith. Fymryn tu hwnt i’r gyffordd hon mae’r Dyffryn Arms (Bessie’s ar lafar). Ymhwn 240 llath byddwch yn mynd heibio Capel Jabes ar y chwith. Ewch ymlaen ar hyd ffordd y cwm.
3.0 Mae Safle Picnic a Phwll Sychpant ar y chwith i chi’n union cyn i’r ffordd droi i’r dde. Ar ôl aros am ennyd yma i archwilio, trowch i’r dde allan o’r safle picnic ac ailgydio yn eich llwybr drwy’r cwm unwaith eto cyn cyrraedd yn ôl i ddechrau’r Llwybr. Fodd bynnag, cyn dychwelyd i lawr y cwm o Sychpant, gallwch ddewis beicio ymhellach i fyny’r cwm cyn troi’n ôl. Mae hyn i gyd yn rhan o Lwybr 82 y Rwydwaith Beicio Cenedlaethol ond mae ychydig yn fwy bryniog na rhan isaf y cwm. Os penderfynwch feicio ymhellach i fyny’r cwm, byddwch yn fuan yn mynd heibio’r fynedfa serth iawn at Erddi ac Ystafell De Penlan Uchaf gyda golygfeydd trawiadol dros y cwm i fynydd Preseli yn y pellter. Ymhen 2 filltir wedyn byddwch yn cyrraedd canolfan fragu leol ac ymhellach fyth mae gweithdy canhwyllau diddorol ac amgueddfa fach.
6.0 Diwedd y Llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Colofnau Llanychlwydog
Pump o gerrig yw’r rhai sydd i’w weld yn eglur o’r ffordd ar dir yr hen eglwys, tŷ preifat erbyn heddiw. Naddwyd croesau o gynlluniau amrywiol yn y cerrig, yn ôl pob tebyg i Gristnogi creiriau credau cynharach. Ailadroddwyd yr arfer hwn mewn nifer o fannau yn y cylch. Cofnodwyd llwybr trwodd i fynwent gyffiniol mewn archifau Fictoraidd fel man lle gwelwyd rhagargoelion ‘rhagflaenwyr marwolaeth’ – gwell peidio aros yn rhy hir yn y man arbennig hwn ar y Llwybr
Eglwys Brynach Sant
Bydd gwyriad byr ond buddiol iawn dros yr afon ac i fyny’r rhiw ar yr ochr arall yn dod â chi at Eglwys Brynach Sant, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 540 OC. Yn y fynwent gron mae 2 biler gyda chroesau Lladinaidd arnynt, y credir eu bod yn dyddio o amser y Sant ei hun. Dywedwyd bod Brynach wedi cael gweledigaethau angylaidd ar Garn Ingli (Mynydd yr Angylion) gerllaw
Dyffryn Arms
Nid yw unrhyw daith i Gwm Gwaun yn gyflawn heb ymweliad â’r dafarn ystafell flaen hanesyddol hon, atgof byw o dafarnau gwledig cenedlaethau cynharach. Ei henw ar lafar yw “Bessie’s” - y perchenoges e bu ei theulu’n rhedeg y dafarn ers 1840. Nid oes bar fel y cyfryw; caiff diodydd eu gweini o ddrws bach yn y parlwr
Capel Jabes y Bedyddwyr
Wedi’i godi yn 1803 ac un o’r ychydig gapeli sy’n weddill yng Nghymru gyda bedyddfa awyr agored, a gaiff ei llenwi o’r afon leol
Safle Picnic a Phwll Sychpant
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n enwog am ei amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys 90 gwahanol rywogaeth o gen a 18 rhywogaeth o löynnod byw. Mae’r lle bach paradwysaidd hwn yn gwasanaethu fel llecyn gorffwys perffaith ond hefyd mae’n fan bendigedig i gychwyn ar droeon byrion i fyny drwy’r coetiroedd cyfagos i wylfannau uwchben