Beicio Sir Benfro
Llwybr Treftadaeth y Porthladd
Mae’r llwybr yn galluogi defnyddwyr i gael blas ar dreftadaeth forwrol gyfoethog dyfrffordd Aberdaugleddau, a golforwyd gan Admiral Nelson fel un o’r porthladdoedd dŵr dwfn gorau yn y byd. Mae canolfannau treftadaeth ac amgueddfeydd ar hyd y llwybr. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar hanes morwrol Aberdaugleddau a Doc Penfro o gyfnod y Crynwyr a thrwy dau Ryfel Byd hyd at ddatblygiad y diwydiannau modern a chyfleusterau hamdden y lanfa. Mae’r holl lwybr bron oddi ar y ffordd ac mae golygfeydd hyfryd o’r porthladd o ddwy bont lefel uchel
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr sydd gan fwyaf oddi ar y ffordd yn tynnu sylw at y dreftadaeth dyfrffordd Aberdaugleddau. Golygfeydd o uchder dros y porthladd, amgueddfeydd diddorol ac adeiladau hanesyddol Gradd: Canolig |
---|---|
Pellter |
18 milltir (29 cilometr) |
Amser |
4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man Cychwyn/Gorffen |
Maes Parcio Nelson Quay yn Aberdaugleddau (Cyfeirnod Grid SM903056, llywio â lloeren SA73 3AZ) (Dilynwch brif ffordd yr A4076 i Aberdaugleddau gan droi i’r dde wrth yr eglwys i mewn I Hamilton Terrace. Cymerwch y fynedfa gyntaf (arwydd Glanfa Aberdaugleddau) ar y chwith ar waelod Victoria Hill. Ewch ar eich union am bron 11/2 milltir ac mae'r man parcio am ddim ar y chwith) |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Aberdaugleddau 1/2 milltir. Dilynwch y ffordd fynediad i’r orsaf am 100 llath hyd at gylchfan. Cymerwch y troad cyntaf oddi ar y gylchfan (cymerwch ofal am fod hon yn ffordd brysur) a throwch i'r dde ar ôl 100 llath arall. Dilynwch y ffordd hon am bron i 1/2 milltir hyd at ddechrau’r llwybr |
Tirwedd: |
Mae bron pob rhan o’r llwybr yn mynd ar hyd llwybr beicio penodedig. Mae dwy ran eithaf serth ond byr rhwng Lower Priory a Steynton, a rhwng Doc Penfro a Phont Cleddau |
Codiad Tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 335 metr |
Lluniaeth |
Marina Aberdaugleddau a Doc Penfro |
Toiledau |
Maes Parcio Doc Penfro (o flaen ASDA) a thoiledau cwsmeriaid yn y Canolfannau Treftadaeth, archfarchnadoedd, caffis ac ati |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Trowch i’r dde wrth adael y maes parcio a dilyn y ffordd tua’r chwith. Dewis arall mwy pleserus fyddai gwthio eich beic am bellter byr ar hyd y llwybr sydd ochr yn ochr â’r marina. Mae hwn yn rhedeg ar hyd nifer o gaffis a siopau annibynnol. Ar ddiwedd yr adeiladau briciau coch byddwch yn pasio Amgueddfa Dreftadaeth a Morwrol Aberdaugleddau ar eich ochr dde. Gallwch ddewis ymweld â hi a pharhau heibio’r amgueddfa ac ymuno â’r llwybr is ar ochr y marina o’r ffordd. Cadwch ar y rhan o’r llwybr sydd ag arwyneb coch. Croeswch i’r llwybr sy’n mynd o dan y bont ac yna trowch i’r dde ac i’r heol. Wrth y gyffordd nesaf, trowch i’r chwith a beicio dros groesffordd sebra. Mae’r ffordd yn gwyro i’r dde ac ar ôl tua 200 llath ymunwch â’r llwybr beicio (Priory Path) ar y chwith sy’n mynd â chi ar hyd cilfach y llanw o’r enw Hubberston Pill
1.3 Trowch i’r dde ar hyd yr isffordd trwy Lower Priory. Mae gweddillion y Priordy Pill o’r 12fed Ganrif i’w gweld ar y dde. Parhewch o dan bont y rheilffordd ac i fyny’r bryn er mwyn ymuno â llwybr beicio ar y chwith, yna bydd croesfan yn syth wedyn. Parhewch yn yr un cyfeiriad ar hyd y llwybr ar ochr arall y ffordd. Ar ôl bron I 1/2 milltir mae’r llwybr yn croesi at ochr chwith y ffordd eto. Bydd y llwybr yn llai serth wrth i chi gyrraedd Steynton
2.5 Ger goleuadau traffig Steynton, croeswch y ffordd i’r dde ac yna croeswch brif ffordd yr A4076 wrth y goleuadau traffig. Trwoch I’r chwith ar y llwybr beicio ar ddiwedd y groesfan ac yna dilynwch hwn o gwmpas i’r dde gyferbyn â’r dafarn yr Horse and Jockey. Parhewch ar y llwybr hwn am dros filltir
3.7 Ger Cylchdro Sentry Cross, croeswch y gyffordd a pharhewch ar y llwybr beicio
5.5 Ar drogylch Honeyborough, croeswch y gyffordd a pharhewch ar y llwybr beicio. Ar ôl 1/2 milltir, mae’r llwybr yn mynd â chi dros Bont Westfield Pill sydd â golygfeydd godidog lawr I Farina Neyland a Llwybr Beicio Brunel sy’n rhedeg ar hyd y marina at Gei enwog Brunel. Cymerwch ofal wrth feicio dros y bont hon gan fod y llwybr yn gul. Ar ôl 3/4 milltir arall, mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd Bont Cleddau sydd ar lefel uchel â golygfeydd anhygoel i lawr yr afon am y rhan fwyaf o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae safle picnic ar y dde ar ôl mynd trwy safle tollau’r bont (dim cost i feicwyr) yn rhoi mwy o amser i chi edmygu’r olygfa banoramig dros y porthladd. Parhewch ar y llwybr i lawr y bryn. Cyn hir mae’n troi’n ffordd gul sy’n lledu wrth ochr rhes o fythynnod ar y dde. Parhewch ar y ffordd hon ochr yn ochr â’r bythynnod ac ymunwch â’r llwybr beicio cyn cyffordd y brif ffordd. Dilynwch y llwybr sydd wrth ochr y cylchdro a thu hwnt (peidiwch â chroesi’r ffordd yn syth ar ôl y cylchdro.)
7.9 Croeswch y ffordd wrth y goleuadau traffig ac yna trowch i’r dde er mwyn dilyn y llwybr ar hyd maes parcio Tesco. 250 llath y tu hwnt i’r goleuadau traffig trowch i’r chwith mewn i Stryd y Brenin William. Ar ôl 50 llath trowch i’r dde (mae’r llwybr beicio i’r chwith o’r gyffordd hon yn eich arwain i Orsaf Drenau Doc Penfro).
8.2 Trowch i’r dde a beicio ar hyd y llwybr am bellter byr cyn croesi’r ffordd cyn y cylchdro. Dilynwch y llwybr ochr yn ochr â’r cylchdro i gyfeiriad yr arwydd â symbol Ferry. Sylwch ar y Tŷ Pwmpio o’r 19eg Ganrif yng nghanol y cylchdro
8.4 Croeswch wrth y groesffordd signal, trowch i’r chwith ac yna i’r dde mewn i Front Street. Hon oedd y stryd gyntaf i gael ei hadeiladu yn Noc Penfro, a chyn hir byddwch yn pasio’r Amgueddfa Dreftadaeth Forwrol ar y dde cyn Twr Gynnau Martello. Wrth dafarn y Shipwright (yr olaf o 7 neu fwy o sefydliadau yfed oedd yn bodoli ar un adeg yn Front Street) dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith ac ymuno â’r llwybr beicio ar y dde yn syth ar ôl y fynedfa i Borth Penfro. Mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd yr hen wal perimeter yr Iard Longau Brenhinol. Y tu fewn i’r iard llongau, fe welwch Gapel Garrison ar eich ochr dde trwy’r ffens glas. Hwn nawr yw cartref Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro. Mae’r fynedfa i’r Ganolfan ychydig yn bellach ymlaen. Gallwch ymweld â’r ganolfan os ydych yn dymuno ac wedyn trowch yn eich unfan a dilyn yr un llwybr yr holl ffordd yn ôl i Aberdaugleddau.
18.0 Y diwedd. Maes Parcio Nelson Quay, Marina Aberdaugleddau
Pethau o ddidordeb ar hyd y Ffordd
Amgueddfa Treftadaeth a Morwrol Aberdaugleddau
Mae’r Tolldy sy’n dyddio nôl i 1797 yn adeilad hynaf y dref. Bydd eich ymweliad yn mynd â chi o Sir Benfro wledig Sioraidd i laniad y pysgotwyr morfilod o Ynys Nantucket, o bysgota môr dwfn, trwy ryfeloedd yr 20fed Ganrif hyd ddiwydiannau olew a nwy heddiw. Codir tâl mynediad. Gweler y wefan am ragor o fanylion: Milford Waterfront
Priordy Pill
Mae gweddillion y Priordy o’r 12fed Ganrif ger pen Hubberston Pill ym Mhriordy Isaf. Cafodd ei sefydlu ar gyfer mynachod Urdd Tiron, a ddaeth yn ddiweddarach yn Fenedictiaid. Y cwbl sydd ar ôl bellach yw’r bwa cangell a rhai darnau o’r waliau ac mae rhai ohonynt wedi eu hadeiladu mewn i eiddo cyfagos gan gynnwys Tafarn y Priordy
Pont Cleddau
Mae’r strwythur trawst bocs dur hwn yn cwmpasu afon Cleddau rhwng Neyland a Doc Penfro. Mae dros 1/2 milltir o hyd a chafodd ei adeiladu rhwng 1967 a 1974 er mwyn cymryd lle gwasanaeth fferi oedd yna am amser hir. O’r llwybr mae golygfeydd anhygoel o’r aber o Gei Brunel yn Neyland a’r holl ffordd ar draws y porthladd hyd at simneiau Purfa Valero yn y pellter
Yr Amgueddfa Treftadaeth Forwrol
Mae Cymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru yn gweithredu’r amgueddfa fechan hon yn iard adeiladu llongau hanesyddol Hancock’s sydd wrth ymyl y llwybr yn Front Street, Doc Penfro. Mae’n darparu mewnwelediad diddorol i’r diwydiant adeiladu llongau, nid yn unig yn iard Hancock’s ond ar hyd y porthladd i gyd, ynghyd â masnachau a gwaith tebyg. Mae ar agor ar y rhan fwyaf o ddyddiau yn yr haf o10am tan 4pm ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Gwiriwch wefan y Gymdeithas am ragor o wybodaeth mwy diweddar: West Wales Maritime Heritage
Y Tŵr Gynnau
Strwythur carreg trawiadol a adeiladwyd ym 1849 ac yn un o 7 tŵr tebyg sydd wedi eu hadeiladu o gwmpas y porthladd i gadw fflydoedd estron o ffwrdd. Mae’r adeilad yn edrych fel bod tri thŵr wedi eu huno mewn gwirionedd ac maen nhw’n drillawr. Mae yno islawr sy’n cynnwys yr arfau ac yn y llawr gwaelod mae’r prif fagnelfa gynnau. Mae tri chanon 32 pwys ar y to. Mae’r tŵr gynnau yn cynnwys amgueddfa a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Amgueddfa Doc Penfro ond, ar adeg ysgrifennu hwn ar ddiwedd 2018, mae wedi cau yn sgil difrod gan ddŵr
Canolfan Treftadaeth Doc Penfro
Wedi ei lleoli yng Nghapel Garrison a adeiladwyd ym 1831 ac fe’i hystyrir yr unig eglwys Glasurol Sioraidd yng Nghymru. Mae’r arddangosfa oddi mewn yn canolbwyntio ar hanes milwrol, morwrol a chymdeithasol Doc Penfro. Mae’n rhoi hanes y dref o’i tharddiad fel yr unig Iard Llongau Brenhinol yng Nghymru lle adeiladwyd dros 260 o longau, gan gynnwys 5 Cwch Brenhinol. Yn ddiweddarach yn hanes y dref, daeth sgwadronau cychod hedfan o’r Awyrlu Brenhinol yn y porthladd gerllaw a’r dref yr orsaf cychod hedfan milwrol mwyaf yn y byd, a chwaraewyd rôl hanfodol ganddynt ym Mrwydr yr Atlantig yn yr Ail Ryfel Byd. Codir tâl mynediad Gweler y wefan am ragor o fanylion: Sunderland Trust