Beicio Sir Benfro

|Name like '%Last Invasion Trail%'|Route like '%Last Invasion Trail%'

Llwybr yr Ymosodiad Olaf

Overview
Information

    Mae'r Llwybr yn galluogi beicwyr i brofi'r golygfeydd ysblennydd yn yr ardal hon o Sir Benfro ac ymweld â nifer o safleoedd diddorol gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig ag Ymosodiad Ffrainc yn 1797. Ar brynhawn yr 22ain o Chwefror y flwyddyn honno, glaniodd pedair llong gyda 1400 o filwyr ac arfau ar lannau creigiog Carreg Wastad, ychydig filltiroedd i'r gogledd-orllewin o Abergwaun. Roedd y llu ymosodol dan reolaeth Americanwr o'r enw William Tate.

    Y rheswm pam y bu rhaid iddynt ildio ddau ddiwrnod yn ddiweddarach oedd y diffyg disgyblaeth cyffredinol ac ysbryd isel y milwyr, yr oedd llawer ohonynt wedi meddwi ar alcohol oedd wedi ei ddwyn. Bu llawer o bobl leol yn gwrthsefyll yr ymosodwyr. Y fwyaf nodedig oedd Jemima Nicholas, y dywedir iddi ddal deuddeg o wyr Ffrainc â dim ond fforch.

    Os bydd amser yn caniatáu ar ddiwedd y Llwybr, mae'n werth ymweld â’r safle claddu Neolithig mawr y tu draw i faes parcio Pentref yr Harbwr, lle mae nifer o feddrodau wedi eu datgelu. Hefyd ym mhen draw Pentref yr Harbwr ceir golygfeydd anhygoel o'r harbwr, yr arfordir (yn cynnwys Caer Abergwaun), a chadwyn mynyddoedd y Preseli tu draw. Mae nifer o gaffis. tai bwyta, siopau a thafarndai ar gael ar gyfer lluniaeth i lawr yn Wdig ei hun.

     Ffeil Ffeithiau

     

    Uchafbwyntiau

    Safle'r Ymosodiad Olaf a safleoedd hanesyddol eraill, golygfeydd rhagorol y tu mewn i'r tir a thros yr arfordir, traethau pellennig a melin wlân sy'n gweithio. 

    Gradd: Egnïol 

    Pellter:

    18 milltir (29 cilometr)

    Amser

    4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man cychwyn/gorffen: 

    Maes parcio Pentref yr Harbwr, Wdig. (Cyfeirnod Grid SM947388, Sat Nav SA64 0DU). Ewch i fyny'r allt heibio gorsaf y rheilffordd, trowch i'r chwith wrth Dafarn y Rose & Crown ac wedyn i’r dde i fyny New Hill. Ar ben y bryn trowch i'r chwith ac mae'r maes parcio ar y dde.

    Grsaf Drenau Agosaf

    Abergwaun ac Wdig ½ milltir (ar waelod bryn Wdig)

    Tirwedd

    Lonydd tawel yn bennaf. Un rhan yn dueddol o fod yn fwdlyd ar dywydd gwlyb. Un neu ddwy allt serth ond llwybr ar lethr ysgafn gan mwyaf.

    Codiad tir

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 467 metr

    Lluniaeth

    Melin Wlân Tre-gwynt ac Wdig

    Toiledau

    Melin Wlân Tre-gwynt a thraeth Wdig

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn. Mae'r Llwybr yn cychwyn gyferbyn â'r fynedfa i faes parcio Pentref yr Harbwr.

    0.7 Ymunwch â ffordd y stad ar hyd ochr y cae chwarae

    0.8 Trowch i'r dde wth y gyffordd ‘T’

    1.4 Trowch i'r chwith tuag at Dremarchog (St Nicholas)

    4.4 Syth ymlaen wrth y groesffordd. (Trowch i'r dde, os ydych yn dymuno, am lwybr dargyfeiriol byr iawn at Dremarchog)

    4.9 Trowch i'r dde ac ymlaen heibio Melin Wlân Tre-gwynt

    5.3 Trowch i'r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac wedyn i'r dde tuag at Abermawr (Mae Plasty Tre-gwynt yn uwch i fyny'r bryn ar y dde)

    5.8 Abermawr. Trowch o gwmpas (tro dewisol i lawr i'r traeth)

    6.5 Trowch i'r chwith wrth y 'brif' ffordd ac ewch ymlaen i fyny'r allt heibio i'r gyffordd am y felin

    8.3 Trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd am Bwllderi a'r Hostel Ieuenctid

    9.1 Pwllderi. Trowch o gwmpas (troeon dewisol ar hyd adrannau o lwybr yr arfordir gerllaw)

    9.7 Trowch i'r chwith wrth y bwthyn cerrig, i'r chwith eto wrth y bwthyn nesaf, ac i'r chwith eto gan ddilyn yr arwydd i Ben-caer. Yr adran nesaf yw'r fwyaf serth o'r darnau o'r Llwybr sy’n mynd i fyny allt ond daw darn i lawr yr allt yn fuan wedyn. Yn union cyn y pwynt uchaf mae mynediad ar y chwith i'r llwybr i fyny i Gaer y Garn Fawr o'r Oes Haearn (tro byr o'r maes parcio wrth ymyl y ffordd)

    11.4 Trowch i'r chwith am Ben-caer

    12.6 Pen-caer. Trowch o gwmpas (tro byr dewisol i'r arsyllfa adar)

    14.9 Trowch i'r chwith ar hyd llwybr heb wyneb arno sy'n dwyn yr arwydd ‘Anaddas i Gerbydau’. Sylwch - gall hwn fod yn fwdlyd ar dywydd gwlyb

    15.7 Trowch i'r dde yn Llanwnda a dilynwch yr arwyddion yn ôl i Wdig

    16.8 Trowch i'r chwith cyn arwyddion y parth 20 m.y.a. i ddilyn llwybr yn ôl at gychwyn y Llwybr (neu ewch yn syth ymlaen os am ffordd fwy uniongyrchol i lawr i Wdig a glan y môr)

     

     

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Traeth Wdig

    Y man yr ildiodd y Ffrancwy

    Parc y Ffrancwr

    Safle brwydr farwol yn erbyn lluoedd Ffrainc

    Tremarchog

    Pentref tlws gyda safle'r eglwys yn dyddio'n ôl i amser y Rhufeiniaid

    Melin Wlân Tre-gwynt

    Siop, caffi a gwylio'r broses nyddu. Mae'r felin sy'n gweithio ar agor o 9 y bore tan 4.40 o'r gloch y prynhawn ar ddyddiau'r wythnos, ac mae'r siop/caffi hefyd ar agor ar y penwythnos.

    Plasty Tre-gwynt

    Roedd y Cyrnol Knox, y swyddog oedd yn gyfrifol am y 'Fishguard Fencibles', mewn cinio a dawns pan gyrhaeddodd y newyddion am yr ymosodiad. Gadawodd Knox ar unwaith am Gaer Abergwaun a ffodd y gwahoddedigion eraill i ddiogelwch.

    Caer Abergwaun

    Cafodd llynges Ffrainc ei gorfodi i fynd i gyfeiriad y gorllewin gan y gynnau'n cael eu tanio o'r gaer.

    Abermawr

    Pan fydd y llanw'n isel iawn, gellir gweld olion coedwig wedi ei gorlifo, wedi ei boddi gan lifeiriant cyflym wrth i’r len iâ ddadmer 8000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Abermawr ac Aberbach (yn syth i'r gogledd) wedi eu hen gysylltu â môr-ladrad. Abermawr oedd y terfyn ar gyfer cebl telegraff tanfor o Brydain i America ac fe'i hystyriwyd hefyd fel terfynell i gyswllt rheilffordd Brunel rhwng Prydain ac Iwerddon.

    Pwllderi

    Lleoliad pen craig delfrydol yn cynnig golygfeydd gwych ar hyd yr arfordir i lawr i Dyddewi

    Caer y Garn Fawr o'r Oes Haearn

    Golygfeydd 360o eithriadol gyda Phen-caer i'r gogledd a'r arfordir ar y dde iddi lle y glaniodd lluoedd Ffrainc yn 1797. Gellir gweld Eryri a Mynyddoedd Wicklow ar ddiwrnod clir.

    Caerlem

    Cafodd Mary Williams, wrth ffoi o'i thŷ, ei saethu yn ei choes gan y Ffrancwyr a'i 'cham-drin fel arall'. Dyfarnwyd pensiwn blynyddol iddi o £40 a bu'n ei gasglu am y 56 o flynyddoedd wedi hynny.

    Pen-caer

    Enwog am ei oleudy, ei fywyd gwyllt (a welir orau o'r arsyllfa adar) ac am ei olygfeydd ardderchog.

    Trehywel

    Cartref John Mortimer, oedd ar fin priodi ar adeg yr ymosodiad. Cafodd danteithion y briodas eu llyncu'n gyflym gan filwyr Ffrainc a daeth Trehywel yn bencadlys dros dro i'r fyddin ymosodol.

    Carreg Wastad

    Y lleoliad y daeth y milwyr i'r lan. Mae cofgolofn, a godwyd yn 1897, yn edrych allan dros y cildraeth. Gellir mynd ati ar hyd llwybr o Drehywel a Llanwnda

     Llanwnda

    Safle siambr gladdu Neolithig a ffynnon sanctaidd. Yn y pentref mae hefyd eglwys hardd mewn arddull Geltaidd gyda chlochdy dwbl a cherrig gydag arysgrif Gristnogol gynnar a thrawstiau to canoloesol gyda cherfiadau. Anrheithiodd y milwyr Ffrengig yr eglwys a cheisio ei llosgi i’r llawr.

    ID: 3705, revised 04/06/2024