Beicio Sir Benfro
Llwybr Maes Awyr Tyddewi
Llwybr tawel a hawdd iawn ei feicio. Prynwyd y rhan fwyaf o’r maes awyr gwreiddiol gan y Parc Cenedlaethol ynghanol y 1990au a chafodd ei dirlunio i ail-greu’r cynefinoedd bywyd gwyllt oedd yma unwaith. Bydd merlod a gwartheg yn pori’r rhostir gwlyb a gweirgloddiau, gan gynorthwyo gwarchod y bywyd gwyllt. Mae llwybrau troed a lonydd beicio’n rhoi mynediad i’r cyhoedd drwy’r darnau tir sy’n cael eu cynnal gan y Parc. Fe all beicwyr dibrofiad sydd eisiau cael ychydig mwy o hyder ddilyn llwybr ar y ffordd sy’n mynd ymhellach (gan gynnwys rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) o gwmpas terfyn allanol deheuol a dwyreiniol safle’r maes awyr. Ychydig iawn o draffig sydd ar y ffordd hon ac mae’n gyffredinol wastad. Mae cyfeiriad ati yng Nghyfarwyddiadau’r Llwybr
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr gwastad, tawel ac ystyriol o’r teulu ar hen faes awyr. Golygfeydd o weundir i bob cyfeiriad a bryniau creigiog tua’r gorllewin. Yn ystod y gwanwyn a’r haf byddwch yn clywed nifer o adar yn canu, gan gynnwys ehedyddion Gradd: Hawdd |
---|---|
Pellter |
2.5 milltir (4 cilometr) |
Amser |
45 munud ynghyd â rhywfaint o amser ychwanegol os byddwch yn dilyn y llwybr atodol hwy o gwmpas terfyn allanol de-ddwyreiniol y maes awyr |
Man Cychwyn/Gorffen |
Maes Parcio ger Fachelych (1½ milltir i’r dwyrain o Dyddewi) Maes Parcio i’r de o Gaerfarchell |
Grsaf Drenau Agosaf |
Dim gorsaf drenau o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Llwybr rhydd o draffig, hawdd ac eithaf gwastad ar lwybrau concrid yn bennaf. Rhai tyllau bach a thuswau gwair ond ni ddylai’r rhain beri problem |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 20 metr |
Lluniaeth |
Dim lluniaeth ar gael |
Toiledau |
Dim toiledau cyhoeddus ar y Llwybr. Toiledau cyhoeddus agosaf yn Nhyddewi a Solfach |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Dilynwch y llwybr o’r maes parcio o gwmpas terfyn allanol yr hen faes awyr
1.0 Fymryn heibio Cylch Cerrig yr Orsedd, ewch yn syth ymlaen
1.3 Ar ddiwedd llwybr y terfyn allanol fe gyrhaeddwch adwy’n arwain at y man cychwyn arall ar ffordd y terfyn allanol. Trowch yn ôl a dilyn y llwybr yn ôl i’r cylch cerrig
1.6 Trowch i’r chwith yn union cyn y cylch cerrig a dilyn y llwybr hwn am ryw 400 llath nes gwelwch yr agoriad i’r brif redfa. Trowch i’r dde a dilyn y rhedfa’r holl ffordd yn ôl i lwybr y terfyn allanol
2.4 Trowch i’r chwith ar lwybr y terfyn allanol eto
2.5 Diwedd y llwybr
Sylwch: Os dymunwch ymestyn y Llwybr, mae modd beicio ar ffordd ddistaw ac eithaf gwastad o gwmpas terfyn allanol deheuol a dwyreiniol y maes awyr. Mae hwn yn cysylltu’r ddau fan cychwyn y cyfeiriwyd atynt yn y Ffeil Ffeithiau. Mae hefyd yn eich tywys drwy bentref bach Tre-groes a gallwch hefyd gyrraedd pentrefannau Caerfarchell a Fachelych gerllaw ar ffyrdd cyswllt o’r Llwybr
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Maes Awyr Tyddewi
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gweithgaredd cyson ym Maes Awyr Tyddewi fel canolfan RAF Amddiffyn y Glannau ar gyfer Brwydr yr Iwerydd. Roedd confois cyflenwi yn yr Iwerydd dan fygythiad cyson llongau tanfor. Yn un o wyth maes awyr yn y sir, agorwyd Tyddewi yn haf 1943. Roedd yno dair rhedfa ar gyfer hedfan sgwadronau o awyrennau bomio Fortress, Halifax a Liberator i batrolio’r môr. Yno hefyd roedd ysbyty, barics, siediau awyrennau, tŵr rheoli a gwersyll carcharorion rhyfel hyd yn oed. Daliodd awyrennau milwrol i ddefnyddio’r maes awyr tan 1960 ac, yn ddiweddarach, daeth yn ardal lanio wrth gefn. Yn dilyn atgyweirio sylweddol a phrosiect tirweddu yn y 1990au, caiff rhan o’r maes awyr ei ddosbarthu bellach fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Cylch yr Orsedd
Y casgliad cerrig ar bwys y Llwybr yw’r unig atgof o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar safle’r maes awyr yn 2002. Mae adeileddau coffaol tebyg i’w gweld ar hyd a lled Cymru, gan ddangos bod yr Eisteddfod wedi ymweld â chymuned. Mae pob adeiledd cerrig ar ffurf cylch, yn nodweddiadol yn cynnwys deuddeg maen a charreg fawr wastad, y Maen Llog, yn y canol. Mae’r meini’n fan pwysig ar gyfer defod cyhoeddi Eisteddfod yn y dyfodol a chaiff ei chynnal yn ôl traddodiad flwyddyn ac undydd cyn ei hagoriad swyddogol. Mae meini porth sy’n ffurfio rhan o’r adeiledd yn dangos sefyllfa codiad haul ar hirddydd yr haf a byrddydd y gaeaf