Beicio Sir Benfro
Llwybr Brunel
Mae'r Llwybr yn dilyn cyfeiriad y cyswllt rheilffordd a adeiladwyd rhwng 1852 ac 1856 dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, yr enwocaf o holl Beirianwyr Oes Fictoria. O Bont Fadlen byddwch yn mynd drwy lifddolydd Cinnamon Grove ac yn esgyn i lwyfandir bychan sy'n cynnig golygfeydd panoramig dros gefn gwlad agored.
Wedyn byddwch yn mynd i lawr i unigedd Coedwig Bryn Bolton. Unwaith y byddwch wedi mynd drwy hafn y rheilffordd yn Johnston, mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd hen wely'r Rheilffordd Orllewinol Fawr gynt, sy'n arwain yn y pen draw i Warchodfa Natur Westfield Pill, Marina Neyland ac ymlaen i ben deheuol y Llwybr Yng Nghei Brunel.
Wedi dychwelyd i Hwlffordd, ymlaciwch ar lan yr afon wrth ymyl Neuadd y Sir ac edmygu'r golygfeydd, neu cerddwch at weddillion Castell neu Briordy'r dref. Croeswch y bont droed ac mae'r Priordy oddeutu 300 llath i'r chwith wrth ochr yr afon. Fel arall, croeswch y bont ffordd ac mae'r castell i fyny'r grisiau sy'n arwain o Sgwâr y Castell ar y dde.
Mae standiau beic ar gael ar benwythnosau wrth ochr Neuadd y Sir sydd agosaf at yr afon ac mae eraill ar gael bob amser ar ben gogledd-ddwyreiniol a gogledd-orllewinol y maes parcio aml-lawr gerllaw, ac yn yr orsaf reilffordd.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Oddi ar y ffordd gan mwyaf yn cysylltu Hwlffordd â Johnston a Neyland - man terfyn Rheilffordd Orllewinol Fawr Brunel ar un adeg. Mae'r safleoedd yn cynnwys coetiroedd, gwarchodfa bywyd gwyllt, Cei Brunel ac aber y Cleddau fel darlun. Wrth i chi ddychwelyd gwelwch gastell canoloesol a phriordy. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys Llwybr byrrach Westfield. |
|---|---|
Pellter: |
19 milltir (30 cilometr) |
Amser |
4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen |
Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeirnod Grid SM956155, Sat Nav SA61 1TP). Gellir gweld Neuadd y Sir o Gylchdro Sgwâr Salutation, Hwlffordd ac mae arwydd ar y fynedfa. Mae'r maes parcio ar gael (am ddim) ar y penwythnosau i ddefnyddwyr y Llwybr. Mae meysydd parcio eraill ar gael ar ddyddiau'r wythnos (codir tâl) ac mae llwybrau beiciau ynddynt i gyd (ar ochr y ffordd) sy'n cysylltu â man cychwyn y Llwybr. |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Hwlffordd 1/4 milltir (llwybr beiciau yn arwain at gychwyn y Llwybr) |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar lwybr tarmac heb drafnidiaeth gydag ychydig o groesfannau ar draws isffyrdd. Mae rhai darnau i fyny allt isel rhwng Hwlffordd a Johnston ond fel arall mae'r tir yn rhesymol wastad neu ar lethr bychan |
Codiad tir |
Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 317 metr |
Lluniaeth: |
Caffi ar Gei Brunel (gyda standiau beic), Johnston a Hwlffordd |
Toiledau |
Cei Brunel a Hwlffordd |
Man cychwyn gwahanol: |
Cei Brunel, Neyland (Cyfeirnod Grid SM966048, Sat Nav SA73 1LS) (5 milltir o Orsaf Johnston) |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i'r dde allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beiciau sy’n agos i ffordd brysur Freeman's Way.
1.1 Ewch ymlaen yn syth wrth ochr y cylchdro, croeswch y ffordd wrth y signalau gan ddilyn arwyddion Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i gyfeiriad Neyland. Yn syth y tu draw i gaffi McDonald mae'r llwybr yn croesi'r ffordd eto ac yn mynd ymlaen am oddeutu 250 llath. Trowch i'r chwith wrth y troad cyntaf.
1.5 Ewch ymlaen yn syth heibio i'r fynedfa i Faes Carafanau Under the Hills . Ar ôl oddeutu150 llath, trowch i'r chwith dros y bont gan ddilyn arwydd Llwybr 4 i gyfeiriad Neyland. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn am bron i 2 filltir.
3.5 Croeswch y ffordd ac ewch ymlaen ar y llwybr drwy Goedwig Bryn Bolton. Llwybr ceffylau gydag arwyneb yw'r adran nesaf gyda giatiau bychain y bydd angen eu hagor a'u cau.
4.3 Wrth y gyffordd ‘T’ ar y Llwybr, trowch i'r chwith dros grid gwartheg. Mae'r adran fer nesaf hefyd yn lôn fferm ac felly cofiwch ei bod yn bosibl y daw ambell i gerbyd modur ar ei hyd. Ar ôl croesi pont y rheilffordd, trowch i'r dde ar y llwybr heb drafnidiaeth.
4.9 Ewch yn syth ymlaen (mae'r llwybr i'r chwith yn mynd i bentref Johnston a gorsaf y rheilffordd). Byddwch yn fuan yn dilyn llwybr hen reilffordd sy'n mynd yr holl ffordd i lawr i Warchodfa Natur Westfield Pill a Marina Neyland. Wrth gerdded byddwch yn ofalus wrth 3 croesfan ar draws isffyrdd.
8.5 Ewch ymlaen yn syth ar hyd y llwybr isel (mae Llwybr 4 yn gadael Llwybr Brunel yn y fan hon, gan arwain i fyny'r bryn i'r dde a thros y bont uchel a welwch o'ch blaen). Dilynwch y Llwybr dan y bont.
8.9 Cychwyn yr adran o'r Llwybr gerllaw marina Neyland. Cymerwch ofal gan nad yw'r ffordd hon bellach yn rhydd o drafnidiaeth er mai ychydig o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd a bod trafnidiaeth yn cael ei arafu. Mae'r Llwybr yn mynd ymlaen heibio caffi ar lan y dŵr (gyda standiau beic) ac ymlaen heibio nifer o iardiau cychod i faes parcio Cei Brunel.
9.5 Maes parcio Cei Brunel. Trowch yn ôl a dilyn yr un ffordd yn ôl i Hwlffordd.
19.0 Neuadd y Sir, Hwlffordd – diwedd y llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell Hwlffordd
Gweddillion diddorol castell Normanaidd sy'n edrych allan dros y dref a'r ardal o'i chwmpas. Yn ddiweddarach fe'i defnyddid fel carchar hyd 1878. Mae Amgueddfa'r Dref wedi ei lleoli yn yr hyn a arferai fod yn dŷ'r Rheolwr gynt o fewn tir y castell. Mae mynediad i'r castell am ddim bob amser ond codir ffi am fynediad i'r amgueddfa sydd ar agor o fis Ebrill i fis Hydref (10 y bore hyd 4 y prynhawn) Dydd Llun i Ddydd Sadwrn.
Priordy Hwlffordd
Gweddillion priordy Awstinaidd o'r drydedd ganrif ar ddeg gyda'r unig ardd ganoloesol eglwysig sy'n dal i fod ym Mhrydain.
Coedwig Bryn Bolton
Coedwig lydanddail draddodiadol gyda nant guddiedig. Ceir tystiolaeth o hen lofa yn y goedwig.
Gwarchodfa Natur Westfield Pill
Cilfach gysgodol gyda morlynnoedd ac ynysoedd sy'n cynnig lloches i gannoedd o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid gan gynnwys y crëyr glas, dyfrgwn a thros 20 math o löyn byw.
Marina Neyland
Un o'r hafanau cychod mwyaf a delaf yng Nghymru.
Cei Brunel
Hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pentref pysgota tawel oedd Neyland. Yn 1856, sefydlodd Brunel, y peiriannydd enwog, Wasanaeth Paced Gwyddelig yn y fan a elwid bryd hynny yn 'Gleddau Newydd', a datblygu amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith gan gynnwys cei a chyswllt rheilffordd i gefnogi gwasanaeth y fferi. Mae nifer o fyrddau gwybodaeth wrth y cei yn disgrifio hanes y prosiect cyffrous hwn. Daeth gwasanaeth y fferi i ben yn 1906 a chaeodd y rheilffordd yn 1964. Bu'r rhan hon o Neyland yn dirywio nes cael ei thrawsnewid dan gynllun adfywio uchelgeisiol a luniwyd yng nghanol yr 80au. Yng Nghei Brunel ceir golygfeydd trawiadol o Bont ac Aber yr afon Cleddau.
Llwybr y Cardi Bach
Mae'r Llwybr yn cychwyn gerllaw yr hen orsaf reilffordd yn Aberteifi ac mae'n fuan iawn yn ymdroelli i mewn i Sir Benfro ar hyd rhan o reilffordd sydd wedi cau a elwir y Cardi Bach.
Caeodd y rheilffordd yn gynnar yn y 60au fel y gwnaeth cymaint o ganghennau eraill yn y wlad. Mae yna obeithion yn y dyfodol agor y llwybr i fyny eto o Aberteifi yr holl ffordd i Hendy-gwyn ar Daf fel llwybr cerdded a beicio cymunedol, ond bydd cynnydd yn hyn o beth, wrth gwrs, yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Ar y Llwybr cewch y cyfle i ymweld â Chastell Cilgerran a'r eglwys, yn ogystal â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru.
Mae'n werth ymweld hefyd â Chastell Aberteifi os bydd amser yn caniatáu ar ddiwedd y Llwybr - ewch ymlaen ar hyd y llwybr beiciau wrth ochr yr afon at gasgliad o standiau beic yn agos i ddiwedd yr hen bont. Mae'r castell ar ochr arall y bont gyda'r fynedfa i fyny'r bryn.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Yr Afon Teifi a'r corsydd, bywyd gwyllt a chestyll Gradd: Hawdd |
|---|---|
Pellter |
5½ milltir (9 cilometr) |
Amser: |
1¼ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn /gorffen: |
Yr Hen Orsaf, Aberteifi (Cyfeirnod Grid SN181458, Sat Nav SA43 3AD) Mynd tuag at dref Aberteifi o'r de (B4546) ac ar waelod y bryn trowch i'r dde i mewn i Heol yr Orsaf (lle mae arwydd Stad Ddiwydiannol Pentood ar y ffordd i lawr yr allt). Lle mae Heol yr Orsaf yn gwyro i'r dde, trowch i'r chwith ac yn syth i'r dde heibio adeilad gorsaf yr hen reilffordd sydd wedi cau a'r platfform ar y chwith. Ar ben y lôn hon mae'r llwybr yn dechrau. |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Dim o fewn 5 milltir |
Tirwedd |
Lonydd tawel a rhydd o drafnidiaeth. Gwastad yn bennaf gydag un neu ddau o fryniau isel ar ben Cilgerran o'r Llwybr a'r ffordd tuag at y Ganolfan Bywyd Gwyllt. |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 89 metr |
Lluniaeth: |
Canolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran ac Aberteifi |
Toiledau: |
Castell Aberteifi, Canolfan Bywyd Gwyllt, Castell Cilgerran, Canolfan Gwryglau |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn: Yn union y tu hwnt i'r Hen Orsaf yn Aberteifi, reidiwch eich beic dan y bont ac ymlaen drwy Warchodfa Natur Corsydd Teifi ar hyd llwybr rhydd o drafnidiaeth.
0.7: Ewch yn syth ymlaen wrth y fynedfa i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar y chwith.
2.1: Trowch i'r chwith wrth waelod y bryn bychan (yn union cyn cyffordd ‘T’) gan ddilyn arwydd y llwybr beiciau. Dilynwch y ffordd gefn hon tuag at Gilgerran. Byddwch yn mynd heibio Eglwys St Llawddog ar y dde.
2.6: Yn syth ar ôl troad sydyn i'r dde yn y ffordd, trowch i'r chwith ar hyd ffordd gul. Ychydig iawn o ffordd i fyny'r heol hon mae Castell Cilgerran ar y chwith. Ar ôl ymweld â'r castell, trowch yn ôl a dilyn yr un llwybr yn ôl i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Os oes arnoch eisiau treulio mwy o amser yng Nghilgerran, trowch yn syth i'r chwith y tu allan i fynedfa’r castell ar hyd llwybr cul iawn sy'n arwain at gyffordd ‘T’. Mae yna standiau beic os byddwch yn troi i'r dde allan o’r gyffordd hon. Cymerwch amser i archwilio'r pentref ar droed neu cerddwch i lawr i'r Ganolfan Gwryglau wrth ymyl yr afon. Wedyn dychwelwch heibio i fynedfa'r castell ar hyd yr un llwybr cul ag o'r blaen.
4.5: Trowch i'r dde i ymweld â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Mae yna standiau beic ar y safle. Wedyn dychwelwch, trowch i'r dde wrth y fynedfa i'r Ganolfan ac ewch ymlaen drwy'r Warchodfa Natur unwaith eto ac ymlaen i ddiwedd y Llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell Aberteifi
Mae'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a dyma safle Eisteddfod gyntaf Cymru yn 1176. Ar agor o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn (11 tan 3 yn y gaeaf). Mae yna ffioedd i'w talu.
Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi
Un o'r gwarchodfeydd corstir gorau yng Nghymru. Gadewch amser i gymryd seibiant lawer gwaith i edrych ar fywyd gwyllt. Efallai y gwelwch fflach las Glas y Dorlan yn hedfan, dyfrgi neu’r ychen gwyllt sy'n pori ar y corstir.
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr hon, sydd wedi ei lleoli yng nghanol y tir ffrwythlon ar hyd glannau'r Afon Teifi, wedi ennill gwobrau. Mae'n cynnwys y Caffi Tŷ Gwydr godidog a'r siop. Ar agor o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn (10 tan 4 yn y gaeaf).
Eglwys Cilgerran
Eglwys o'r canol oesoedd cynnar a godwyd ar safle eglwys Geltaidd o'r chweched ganrif. Enwog am ei maen hir megalithig ym mynwent yr eglwys lle y gellir gweld yr arysgrif Ogam hynafol o hyd. Yn anffodus mae'r eglwys ei hun ar glo ambell waith.
Castell Cilgerran
Castell hyfryd o'r drydedd ganrif ar ddeg sydd bellach yn adfail. Dywedir ei fod yn un o'r rhai mwyaf darluniadol yng Nghymru; cafodd ei beintio a'i ddarlunio lawer gwaith gan yr arlunydd Turner. Saif mewn safle awdurdodol, ar bentir creigiog, yn uchel uwchben yr Afon Teifi. Ar agor o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn (10 tan 4 yn y gaeaf). Mae ffioedd i'w talu ac eithrio yn y gaeaf.
Canolfan Gwryglau
Enwog am ras flynyddol y cwryglau ym mis Awst a mynediad i lwybrau hyfryd ar hyd yr afon drwy Geunant Teifi.
Llwybr o Gastell i Gastell
Mae'r Llwybr diddorol hwn yn galluogi defnyddwyr i weld ac archwilio adfeilion cestyll trawiadol Penfro a Chaeriw, a'r dyfrffyrdd hyfryd sy'n eu hamgylchynu'n rhannol, gan gynnwys gwarchodfeydd natur lleol. Byddwch yn ymweld â melin lanw hynafol, eglwys ganoloesol a hyd yn oed adeilad a ddefnyddid ar un adeg i gadw esgyrn dynol.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Mae'r Llwybr oddi ar y ffordd gan mwyaf, ac yn cynnwys rhai safleoedd godidog, yn cynnwys cestyll, melin lanw a nifer o ddyfrffyrdd hardd a gwarchodfeydd natur. Gradd: Canolig |
|---|---|
Pellter |
13.4 milltir (21.7 cilometr) |
Amser |
2½ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn /gorffen |
Maes Parcio West Street, Penfro (Cyfeirnod Grid SM982013, Nav SA71 4ET) sy'n faes parcio am ddim. Trowch i mewn i West Street o Ffordd y Comin, Penfro (y gyffordd yn agos i Groesfan Pelican). Ar ôl ychydig dros 100 llath, trowch i'r dde o dan rwystr uchder o 6’6” i mewn i'r maes parcio. Cofiwch dynnu beiciau oddi ar do ceir cyn gyrru i mewn i'r maes parcio. Mae meysydd parcio (gyda ffioedd) ar gael gerllaw os yw'r rhwystr yn achosi problem. Ym mhen draw y maes parcio mae'r Llwybr yn cychwyn. |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Penfro 0.6 milltir (Trowch i'r chwith allan o'r orsaf ar hyd llwybr cul o dan bont ac wedyn i'r chwith ar hyd llwybr am 50 llath at gyffordd ‘T’. Trowch i'r dde ac ymunwch â llwybr ar y dde ychydig cyn y gyffordd 'T'. Croeswch y ffordd cyn y cylchdro a throi i'r chwith ymhen 30 llath i lawr Goose's Lane. Ewch ymlaen wrth ochr hen furiau’r dref, croeswch wrth y goleuadau ac ewch ymlaen gan ddilyn ochr y parc i faes parcio West Street). |
Tirwedd |
Mae oddeutu hanner y llwybr ar lwybr wedi ei arwynebu ond yn rhydd o drafnidiaeth sy'n rhedeg yn gyfochrog â phriffyrdd. Mae nifer o groesffyrdd ond mae ynysoedd traffig a goleuadau traffig ar y rhai prysuraf yn ei gwneud yn haws croesi. Bydd angen, fodd bynnag, goruchwylio beicwyr iau yn ofalus yn y mannau hyn. Isel yw'r graddiannau ar y cyfan ond ychydig yn fwy serth yn agos i'r dechrau, ar ôl Caeriw Cheriton (yr adran hiraf i fyny allt), ac ar y ffordd yn ôl i ddod i mewn i Benfro. Ni ddylai’r un o'r bryniau hyn achosi problem i unrhyw un sy'n gyfarwydd â beicio. |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 249 metr |
Lluniaeth |
Penfro, Milton a Chaeriw |
Toiledau |
Penfro a Chaeriw |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn: Dilynwch y llwybr gwastad ar hyd ymyl y parc, croeswch y ffordd a pharhau ar hyd y llwybr llydan o amgylch y tu allan i Bwll Castell Penfro. Mae mynedfa'r Castell ar y dde i fyny'r allt ar y ffordd sydd â'r arwydd 'Canol y Dref'). Oddeutu 100 llath ar ôl croesi gwrthglawdd Pwll y Castell, trowch i'r chwith a gwyro i'r chwith ac wedyn i'r dde, lle mae'r llwybr yn ymuno a ffordd stad tai. Dilynwch y ffordd stad hon i fyny allt fach am oddeutu 200 llath nes dod yn agos at gyffordd 'T' yn ymyl gorsaf betrol.
0.6: Ymunwch â'r llwybr ar y chwith cyn y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn at dop y bryn ac ewch yn syth ymlaen gan groesi'r ffordd sy'n dwyn yr arwydd Canolfan Hamdden a Maes Golff. Dilynwch y llwybr i lawr y bryn, ewch drwy'r rhwystr a chroesi'r gyffordd sy'n dwyn yr arwydd Ysbyty a Dociau. Wrth waelod y bryn, mae'r llwybr yn eich arwain drwy dwnnel byr ac wedyn byddwch yn nesáu at gyffordd sy'n cael ei rheoli gan signalau.
1.7: Trowch i'r dde ar draws y gyffordd a dilynwch y llwybr wrth ochr ffordd brysur yr A477 am bron i 1½ milltir.
3.0: Yn syth y tu hwnt i groesfan ar draws lôn i'r ochr, mae'r llwybr yn croesi'r briffordd. Ewch ymlaen ar draws y gyffordd ar lôn i'r ochr sy'n dwyn yr arwydd Cosheston a dilynwch y llwybr wrth ochr y briffordd am 2½ filltir arall at bentref Milton. Mae'r llwybr yn troi i gyfeiriad Tafarn Bragdy Milton. Croeswch y ffordd ar yr ochr a dilynwch y llwybr wrth y ciosg ffôn coch.
6.0: Wrth y cylchdro dilynwch y llwybr i'r chwith tuag at Caeriw. Ar ôl 500 llath byddwch yn cyrraedd maes parcio Castell Caeriw ac, os ydych yn dymuno, cewch dalu ymweliad gwerth chweil ag adfeilion y Castell a Chroes Caeriw. Mae standiau beic ar gael wrth y fynedfa i'r maes parcio gyda thoiledau gyferbyn. Cymerwch y lôn sy'n rhedeg gyda'r muriau ar ymylon tir y castell. Yn union y tu draw i ddiwedd y mur hwn, gwyrwch i'r dde ac fe gyrhaeddwch Felin Lanw Caeriw a'r gwrthglawdd, gyda golygfeydd dymunol, dros bwll y felin, o’r castell a'r bont ganoloesol yn y pellter. Ystyriwch gael egwyl yn y fan hon cyn cychwyn yn ôl yr un ffordd i faes parcio'r castell ac ymlaen i'r cylchdro.
7.5: Wrth y cylchdro, ewch ymlaen yn syth ar draws ffordd yr A477. Cymerwch ofal gan y gall y groesfan hon fod yn eithaf prysur. Ar ôl 50 llath, ailymunwch â ffordd dawel wrth y groesffordd ac ewch ymlaen i lawr y ffordd sydd â'r arwydd Caeriw Cheriton. Mae dargyfeiriad dewisol a byr iawn (llai na milltir fel taith gron) i'r dwyrain o'r groesffordd uchod yn dod â chi at dŵr rheoli o amser y rhyfel sydd wedi cael ei adfer ar hen Faes Awyr Caeriw. Yn anffodus, nid yw ar agor ond yn ystod misoedd yr haf ac fel rheol ar foreau Sadwrn a Sul. ond mae'n werth mynd i'w weld. Gan fynd i lawr i gyfeiriad Caeriw Cheriton am bron i 300 llath byddwch yn cyrraedd Eglwys y Santes Fair a’r Esgyrndy. Ar ôl arhosiad byr, croeswch y bont gul iawn ar ochr arall y ffordd a dilynwch y llwybr hwn am oddeutu 1/3 milltir. Mae'n rhaid gwthio'r beic dros yr adran gyntaf o'r llwybr cul hwn am resymau diogelwch. Os bydd amser yn caniatáu gellir mynd am dro hamddenol o gwmpas Llwybr Natur y Felin Wlân.
8.0: Trowch i'r chwith ar ddiwedd y llwybr y tu draw i adeilad coch yr hen waith dŵr a reidiwch i fyny bryn am bron i filltir. Trowch i'r dde cyn cyrraedd pen y bryn i ffordd sydd â'r arwydd Lôn Parc y Ceirw. Dilynwch y lôn hon am oddeutu 2½ milltir.
11.3: Cymerwch ofal wrth groesi priffordd yr A4075 i'r Golden Lane (ar y dde i'r bwthyn). Dilynwch y lôn hon am bron i filltir nes i chi fynd o dan bont reilffordd ar ôl rhan gymharol fer i fyny bryn. Oddeutu 50 llath y tu draw i'r bont, trowch i'r chwith i lwybr sydd ar y chwith i'r fynedfa i Feithrinfa Golden Manor. Dewch oddi ar eich beic a'i wthio ymlaen ar hyd rhan gyntaf y llwybr hwn nes iddo ledu a pharhau wrth ochr Pwll y Felin Penfro.
12.8: Croeswch y ffordd wrth Bont Pwll y Felin (argymhellir eich bod yn cerdded ac yn gwthio eich beic ar draws gan ddefnyddio'r groesfan sebra) ac fe welwch gerflun efydd Harri'r Vll a ddadorchuddiwyd yn 2017. Gwnewch eich ffordd dros y bont (gwthiwch eich beic ar hyd y llwybr troed cul), trowch i'r chwith a chewch glymu eich beic yn sownd i’r rheiliau ar ymyl y dŵr yn agos i'r Storfa Ŷd. Wedyn medrwch archwilio'r dref, cael rhywbeth i'w fwyta neu ymweld â'r castell ar ben y bryn gyferbyn. Ar ôl hynny, dilynwch y llwybr yr holl ffordd o gwmpas Pwll y Castell, ar draws y ffordd ac ar hyd y llwybr i'r lle y cychwynasoch ar y Llwybr.
13.4: Gorffennwch wrth Faes Parcio West Street, Penfro
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell Penfro
Wedi ei sefydlu'n wreiddiol yn 1093, mae hwn yn un o'r cestyll Normanaidd mwyaf trawiadol yn Ne Cymru. Mae'r strwythur cerrig yn arglwyddiaethu ar y dref ac wedi ei amgylchynu'n rhannol gan Bwll darluniadol Castell Penfro. Mae dryswch o dwneli, grisiau, tyrrau a bylchfuriau yn disgwyl i gael eu harchwilio a chynhelir nifer o ddigwyddiadau y tu mewn i'r castell drwy gydol y flwyddyn. Mae iddo hanes canoloesol cyfoethog, a dyma fan geni Harri'r VII, y Brenin Tuduraidd cyntaf. Ar wahân i'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae'r castell ar agor yn ddyddiol o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn (oriau hirach yn yr haf). Mae yna ffioedd i'w talu.
Pwll Castell Penfro
Dim ond ers i wrthglawdd Afon Penfro gael ei adeiladu yn niwedd y 70au y mae hwn wedi bod yn bwll ac mae'n awr yn lleoliad perffaith i'r castell. Gellir gweld amrywiaeth o adar o gwmpas y pwll, hyd yn oed i lawr yr afon oddi wrth y gwrthglawdd lle y gellir gweld adar hirgoes yn aml yn bwydo yn y gwaddodion mwd.
Castell Caeriw
Adfail godidog castell ag iddo hanes yn cwmpasu dwy fil o flynyddoedd. Wedi ei leoli ar safle arbennig yn edrych allan dros 23 acer o bwll melin, datblygodd y castell allan o gaer Normanaidd i fod yn Blasty yn oes Elizabeth. Mae yna ddigonedd i'w weld a'i wneud gyda rhaglen o weithgareddau amrywiol. Mae ar agor yn ddyddiol o 10 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn. Mae angen talu ffi sydd hefyd yn cynnwys mynediad i'r Felin Lanw gerllaw.
Croes Caeriw
Croes Geltaidd ragorol o'r unfed ganrif ar ddeg, wedi ei haddurno, wrth y fynedfa i dir y castell. Saif y groes 13 troedfedd o uchder ac mae hi wedi ei cherfio ar bedair ochr â gwaith clymau Celtaidd tlws a phatrymau allweddol.
Melin Lanw Caeriw
Wedi ei hadeiladu fel melin flawd yn y 1800au cynnar, hon yw'r unig felin lanw yng Nghymru sydd wedi ei hadfer. Mae ganddi ddwy olwyn sy'n gyrru chwe phâr o feini melin. Er ei bod wedi ei hadfer i gyflwr gweithio, nid yw'n gweithio ar hyn o bryd, ond mae'r peirianwaith, yr arddangosfa, y sylwebaeth sain a'r arddangosfeydd rhyngweithiol yn dangos sut y mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni ar hyd yr oesau. Gellwch gerdded ar draws y sarn gerllaw ac yn wir o amgylch pwll y felin i gyd os bydd gennych amser.
Caeriw Cheriton
Pentref bach diddorol a thlws. Yn yr eglwys ganoloesol sydd wedi ei chysegru i'r Santes Fair, ac sydd wedi cael ei chadw'n eithriadol o dda, mae beddrod Sir Nicholas de Carew (fu farw 1311), a adeiladodd y castell gerllaw, a enwyd ar ôl ei deulu. Ym mynwent yr eglwys mae esgyrndy o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (a adeiladwyd i storio esgyrn dynol a ddatgladdwyd) gyda chapel uwchben. Yn ddiweddarach, cafodd ei droi’n ysgol o oddeutu 1625 hyd 1872. Mae'r tyllau y gosodid yr esgyrn drwyddynt yn amlwg ar ochrau'r adeilad.
Pwll Melin Penfro a'r Warchodfa Natur
Mae hwn yn lle gwych i ymweld ag ef ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae elyrch yn byw yma drwy'r flwyddyn a gellir gweld mulfrain a’r crëyr glas fel arfer ar y pen uchaf, agosaf at adeilad a elwir yn Dŵr Barnard. Mae'r twr amddiffynnol hwn o'r drydedd ganrif ar ddeg yn un o chwech oedd yn ffurfio rhan o furiau tref ganoloesol Penfro.
Llwybr y Tramffordd
Llwybr beiciau dymunol a diddorol sy'n cychwyn ac yn gorffen yn agos i'r hen Weithfeydd Haearn yn Stepaside. Mae'r llwybr cymharol fyr a gwastad, yn dilyn lein hen Reilffordd Saundersfoot a adeiladwyd yn 1835 i gysylltu'r gweithfeydd haearn a'r pyllau glo gerllaw â'r harbwr yn Saundersfoot.
Defnyddid y rheilffordd yn bennaf i gludo dramiau o lo i longau hwylio masnachol oedd wedi eu hangori wrth waliau'r harbwr. Ar ddiwedd y Llwybr cymerwch amser i gerdded i fyny i weld adfeilion diddorol Glofa'r Gelli (Grove Colliery).
Mae grisiau wrth ochr y gweithfeydd haearn gerllaw yn arwain at lwybr yr inclein ac mae'r lofa wedi ei lleoli oddeutu 300 llath i fyny'r inclein hwn.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Olion oes ddiwydiannol, gan gynnwys gweithfeydd haearn, glofa a rheilffordd fwynau. Traethau, golygfeydd gwych o'r môr a thwneli Gradd: Hawdd |
|---|---|
Pellter |
4.0 milltir (6.5 cilometr) |
Amser |
1 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio Gweithfeydd Haearn Stepaside (Cyfeirnod Grid SN140073, Sat Nav SA67 8LT). Maes parcio am ddim. Trowch oddi ar adran y ffordd ddeuol o briffordd yr A477, i'r dwyrain o bentref Cilgeti gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Stepaside. Croeswch y bont ar waelod yr allt a throwch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd i'r Cwm Difyr (Pleasant Valley). Trowch i'r chwith eto wrth waelod yr allt. Ar ôl bron i ½ milltir trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd i'r Gweithfeydd Haearn. Mae'r maes parcio yn syth ymlaen. |
Grsaf Drenau Agosaf |
Cilgeti 1 filltir (Trowch i'r dde allan o ffordd yr orsaf a chymerwch y tro cyntaf i'r dde ar ôl Ysgol Stepaside). Croeswch y bont uchel a throwch i'r chwith wrth y groesffordd. Ar waelod allt serth iawn, gwyrwch i'r dde cyn y gyffordd â'r briffordd. Dilynwch y llwybr heibio, ond nid dros, bont gerrig gul ac ewch ymlaen hyd nes cyrraedd y gyffordd sy'n arwain at y maes parcio wrth ymyl Gweithfeydd Haearn Stepaside. |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar lwybr wedi ei arwynebu, heb drafnidiaeth, gydag un isffordd yn croesi. Un adran fer ar ffordd wledig dawel ac adran arall ar ffordd bengaead drefol yn Saundersfoot. |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 5 metr |
Lluniaeth |
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge), Neuadd Coppet (adeilad ‘Coast’) a Saundersfoot |
Toiledau |
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge), Neuadd Coppet (adeilad ‘Coast’) a Saundersfoot |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Ar ôl cymryd peth amser i edmygu hen adeiladau'r Gweithfeydd Haearn, ewch ar eich beic tuag at yr allanfa o'r parc ac ymunwch â'r llwybr beiciau ar y dde cyn y gyffordd 'T'. Ewch ar eich beic ar hyd ochr y nant drwy'r Cwm Difyr (Pleasant Valley). Yn dibynnu ar yr amser o'r flwyddyn y byddwch yn beicio ar y llwybr hwn, fe fydd yna fel arfer bentwr o blanhigion a bywyd gwyllt i'w wylio. Mae'r adran hon o'r llwybr yn llwybr ceffylau ac felly byddwch yn barod i weld pobl yn marchogaeth ceffylau yn ogystal â beicwyr eraill a llawer o bobl yn cerdded.
0.8 Ewch heibio Bwthyn y Tramffordd ar y dde ac ymunwch ag isffordd wledig o'ch blaen. Ewch yn syth ymlaen a cheisio cael cipolwg os gellwch ar y nant ar y chwith. Cafodd hon ei throi yn gamlas yn y 1790au ond heb lawer o lwyddiant gan fod y graddiant yn rhy serth.
0.9 Croeswch y ffordd ac ymuno â'r llwybr i'r dde sy'n rhedeg wrth ochr y traeth wrth Bont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge). Mae yna doiledau ar y chwith cyn y groesfan a thafarn yn darparu bwyd y tu draw i'r toiledau y pen arall i'r traeth. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr uchel nes cyrraedd twnnel. Ychydig ymhellach ymlaen mae yna ail dwnnel, sydd wedi ei dorri i blanau haenu o graig waddod ysblennydd, sy'n mynd â chi allan wrth ochr traeth Neuadd Coppet ac adeilad ‘Coast’. Dilynwch y llwybr o gwmpas ochr y tir i'r maes parcio i mewn i drydydd twnnel. Nid yw beicio'n cael ei ganiatáu yn y twneli hyn am resymau diogelwch ac felly cerddwch a gwthiwch eich beic drwodd i'r pen arall. Hefyd, gall yr adran hon o'r Llwybr fod yn brysur iawn gyda cherddwyr ac felly cymerwch ofal.
1.7 Pan fyddwch yn dod allan o'r trydydd twnnel byddwch yn dod i mewn i gyrchfan arfordirol Saundersfoot. Ewch yn syth ymlaen ar hyd y ffordd. Rydych yn dal ar lwybr yr hen reilffordd ond byddwch yn ofalus, gan fod yr adran hon yn cael ei defnyddio gan gerbydau eraill hefyd, er mai ychydig ohonynt sydd yna ar y cyfan a byddant yn araf yn symud. Yn fuan fe fyddwch mewn stryd gyda siopau bob ochr ac mae amlinelliad o'r lle y byddai'r rheilffordd yn arfer rhedeg wedi ei ddangos yn glir yng nghanol y ffordd. Peidiwch â dilyn y ffordd hon o amgylch i'r dde. Yn hytrach, ewch yn syth ymlaen ar hyd ymyl Maes Parcio'r Harbwr am oddeutu 50 llath nes i chi gyrraedd adeilad mawr ar y dde - hen Swyddfa Lo Saundersfoot, a arferai fod yn ganolbwynt gweithrediadau'r diwydiant glo yn yr ardal.
2.0 Swyddfa Lo Saundersfoot yw'r pwynt lle y byddwch yn troi'n ôl ac yn dilyn yr un Llwybr yn ôl i Stepaside. Ond cyn gwneud hynny, mae'n werth clymu eich beic i’r standiau sy'n agos i'r adeilad fel y gellwch fynd i weld y pentref a'r harbwr.
4.0 Diwedd y Llwybr
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Stepaside
Roedd y pentref bychan hwn, sydd wedi ei leoli yn nghanol peth o gefn gwlad harddaf Sir Benfro, yn gymuned ddiwydiannol ffyniannus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gartref i waith glo a gwaith haearn. Rhoddwyd ei enw anghyffredin iddo pan wnaeth Oliver Cromwell a'i fyddin fynd drwodd ar eu ffordd i Benfro yn 1648 a gofyn i bobl oedd ar ei ffordd gamu o'r neilltu.
Glofa'r Gelli (Grove Colliery)
Pwll glo caled oedd hwn ac un o lawer yn ardal Stepaside. Fe'i datblygwyd yn 1853 ac mae ganddo un o'r siafftiau pwll dyfnaf yn Sir Benfro, sy'n 182 metr. Bum mlynedd ar ôl i'r lofa gael ei hagor fe'i cysylltwyd â Glofa Cilgeti gerllaw drwy dwnnel ½ milltir o hyd. Câi glo o Lofa'r Gelli ei ollwng i lawr i Reilffordd Saundersfoot ar inclein oedd yn rhedeg ohoni ei hun. Roedd gan Lofa’r Gelli ei hefail ei hun, gweithdy saer, storfa a stablau oedd yn gartref i ferlynnod y pwll. Mae olion y lofa sydd bellach wedi eu hadfer yn awr yn Gofadail Rhestredig.
Gweithfeydd Haearn Stepaside
Wedi eu hagor yn 1849 gan Gwmni Glo a Gweithfeydd Haearn Sir Benfro, roedd y gweithfeydd haearn yn cynnwys dwy ffwrnais chwyth gyda pheiriannau chwythu, gweithdai, odynnau calch, ffyrnau golosg a ffowndri. Tynnid y mwyn haearn yn bennaf o siafftiau oedd wedi eu gyrru i mewn i'r creigiau rhwng Saundersfoot ac Amroth. Gellir gweld y fynedfa i ddwy o'r rhain wrth fynd o Bont y Gŵr Doeth at dwnnel hir y Llwybr. Mae adeiladau'r Gweithfeydd Haearn yn dal i greu argraff hyd heddiw, yn enwedig olion adeilad y peiriant chwythu a'r adeilad bwrw haearn. Mae tu blaen hwn yn drawiadol gyda thri thalcen bae o gerrig nadd a thri bwa. Fel Glofa'r Gelli, mae'r adfeilion bellach yn Gofadail Rhestredig.
Pont y Gŵr Doeth (Wiseman’s Bridge)
Yn nythu rhwng Amroth a Saundersfoot, mae'r pentref bychan hwn, y tu ôl i gefnen gerrig gyda thraeth tywodlyd llydan, yn boblogaidd iawn ymhlith teuluoedd. Ar adegau, pan fydd y môr yn arw a'r llanw'n isel, bydd y tywod yn cael ei olchi i gyd i ffwrdd i amlygu olion llonydd coedwig a foddwyd. Ar un adeg, câi glo caled o'r ansawdd gorau ei lwytho ar fadlongau hwylio ar y traeth i ddiwallu’r galw mewn dinasoedd fel Bryste, Abertawe a Chaerdydd. Ymwelodd Winston Churchill a chadlywyddion y Cynghreiriaid â Thafarn Pont y Gŵr Doeth yn 1943, pan ddefnyddiwyd y traeth fel man hyfforddi ar gyfer glaniadau D-Day
Neuadd Coppet
Traeth poblogaidd arall gyda thywod euraid a chysylltiadau drwy dwneli â Phont y Gŵr Doeth a Saundersfoot. Fe'i gelwid yn Coalpit Hall yn wreiddiol, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gâi glo ei gludo allan mewn llongau o'r pyllau ychydig gannoedd o lathenni i fyny'r dyffryn.
Saundersfoot
Pentref pysgota wedi ei leoli yng nghanol y Parc Cenedlaethol a dyma un o'r cyrchfannau gwyliau glan y môr mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Flynyddoedd maith yn ôl, dim ond ychydig o fythynnod canoloesol ydoedd mewn llannerch yn y goedwig, a ddefnyddid fel tir hela gan Ieirll Normanaidd Penfro. Wedyn, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd yn borthladd glo llewyrchus a châi 30,000 o dunelli o lo eu hallforio'n flynyddol o'i harbwr. Gyda diflaniad y diwydiant glo datblygodd Saundersfoot yn gyrchfan wyliau glan y môr
Llwybr yr Ymosodiad Olaf
Mae'r Llwybr yn galluogi beicwyr i brofi'r golygfeydd ysblennydd yn yr ardal hon o Sir Benfro ac ymweld â nifer o safleoedd diddorol gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig ag Ymosodiad Ffrainc yn 1797. Ar brynhawn yr 22ain o Chwefror y flwyddyn honno, glaniodd pedair llong gyda 1400 o filwyr ac arfau ar lannau creigiog Carreg Wastad, ychydig filltiroedd i'r gogledd-orllewin o Abergwaun. Roedd y llu ymosodol dan reolaeth Americanwr o'r enw William Tate.
Y rheswm pam y bu rhaid iddynt ildio ddau ddiwrnod yn ddiweddarach oedd y diffyg disgyblaeth cyffredinol ac ysbryd isel y milwyr, yr oedd llawer ohonynt wedi meddwi ar alcohol oedd wedi ei ddwyn. Bu llawer o bobl leol yn gwrthsefyll yr ymosodwyr. Y fwyaf nodedig oedd Jemima Nicholas, y dywedir iddi ddal deuddeg o wyr Ffrainc â dim ond fforch.
Os bydd amser yn caniatáu ar ddiwedd y Llwybr, mae'n werth ymweld â’r safle claddu Neolithig mawr y tu draw i faes parcio Pentref yr Harbwr, lle mae nifer o feddrodau wedi eu datgelu. Hefyd ym mhen draw Pentref yr Harbwr ceir golygfeydd anhygoel o'r harbwr, yr arfordir (yn cynnwys Caer Abergwaun), a chadwyn mynyddoedd y Preseli tu draw. Mae nifer o gaffis. tai bwyta, siopau a thafarndai ar gael ar gyfer lluniaeth i lawr yn Wdig ei hun.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Safle'r Ymosodiad Olaf a safleoedd hanesyddol eraill, golygfeydd rhagorol y tu mewn i'r tir a thros yr arfordir, traethau pellennig a melin wlân sy'n gweithio. Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
18 milltir (29 cilometr) |
Amser |
4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Maes parcio Pentref yr Harbwr, Wdig. (Cyfeirnod Grid SM947388, Sat Nav SA64 0DU). Ewch i fyny'r allt heibio gorsaf y rheilffordd, trowch i'r chwith wrth Dafarn y Rose & Crown ac wedyn i’r dde i fyny New Hill. Ar ben y bryn trowch i'r chwith ac mae'r maes parcio ar y dde. |
Grsaf Drenau Agosaf |
Abergwaun ac Wdig ½ milltir (ar waelod bryn Wdig) |
Tirwedd |
Lonydd tawel yn bennaf. Un rhan yn dueddol o fod yn fwdlyd ar dywydd gwlyb. Un neu ddwy allt serth ond llwybr ar lethr ysgafn gan mwyaf. |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 467 metr |
Lluniaeth |
Melin Wlân Tre-gwynt ac Wdig |
Toiledau |
Melin Wlân Tre-gwynt a thraeth Wdig |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Mae'r Llwybr yn cychwyn gyferbyn â'r fynedfa i faes parcio Pentref yr Harbwr.
0.7 Ymunwch â ffordd y stad ar hyd ochr y cae chwarae
0.8 Trowch i'r dde wth y gyffordd ‘T’
1.4 Trowch i'r chwith tuag at Dremarchog (St Nicholas)
4.4 Syth ymlaen wrth y groesffordd. (Trowch i'r dde, os ydych yn dymuno, am lwybr dargyfeiriol byr iawn at Dremarchog)
4.9 Trowch i'r dde ac ymlaen heibio Melin Wlân Tre-gwynt
5.3 Trowch i'r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac wedyn i'r dde tuag at Abermawr (Mae Plasty Tre-gwynt yn uwch i fyny'r bryn ar y dde)
5.8 Abermawr. Trowch o gwmpas (tro dewisol i lawr i'r traeth)
6.5 Trowch i'r chwith wrth y 'brif' ffordd ac ewch ymlaen i fyny'r allt heibio i'r gyffordd am y felin
8.3 Trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd am Bwllderi a'r Hostel Ieuenctid
9.1 Pwllderi. Trowch o gwmpas (troeon dewisol ar hyd adrannau o lwybr yr arfordir gerllaw)
9.7 Trowch i'r chwith wrth y bwthyn cerrig, i'r chwith eto wrth y bwthyn nesaf, ac i'r chwith eto gan ddilyn yr arwydd i Ben-caer. Yr adran nesaf yw'r fwyaf serth o'r darnau o'r Llwybr sy’n mynd i fyny allt ond daw darn i lawr yr allt yn fuan wedyn. Yn union cyn y pwynt uchaf mae mynediad ar y chwith i'r llwybr i fyny i Gaer y Garn Fawr o'r Oes Haearn (tro byr o'r maes parcio wrth ymyl y ffordd)
11.4 Trowch i'r chwith am Ben-caer
12.6 Pen-caer. Trowch o gwmpas (tro byr dewisol i'r arsyllfa adar)
14.9 Trowch i'r chwith ar hyd llwybr heb wyneb arno sy'n dwyn yr arwydd ‘Anaddas i Gerbydau’. Sylwch - gall hwn fod yn fwdlyd ar dywydd gwlyb
15.7 Trowch i'r dde yn Llanwnda a dilynwch yr arwyddion yn ôl i Wdig
16.8 Trowch i'r chwith cyn arwyddion y parth 20 m.y.a. i ddilyn llwybr yn ôl at gychwyn y Llwybr (neu ewch yn syth ymlaen os am ffordd fwy uniongyrchol i lawr i Wdig a glan y môr)
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Traeth Wdig
Y man yr ildiodd y Ffrancwy
Parc y Ffrancwr
Safle brwydr farwol yn erbyn lluoedd Ffrainc
Tremarchog
Pentref tlws gyda safle'r eglwys yn dyddio'n ôl i amser y Rhufeiniaid
Melin Wlân Tre-gwynt
Siop, caffi a gwylio'r broses nyddu. Mae'r felin sy'n gweithio ar agor o 9 y bore tan 4.40 o'r gloch y prynhawn ar ddyddiau'r wythnos, ac mae'r siop/caffi hefyd ar agor ar y penwythnos.
Plasty Tre-gwynt
Roedd y Cyrnol Knox, y swyddog oedd yn gyfrifol am y 'Fishguard Fencibles', mewn cinio a dawns pan gyrhaeddodd y newyddion am yr ymosodiad. Gadawodd Knox ar unwaith am Gaer Abergwaun a ffodd y gwahoddedigion eraill i ddiogelwch.
Caer Abergwaun
Cafodd llynges Ffrainc ei gorfodi i fynd i gyfeiriad y gorllewin gan y gynnau'n cael eu tanio o'r gaer.
Abermawr
Pan fydd y llanw'n isel iawn, gellir gweld olion coedwig wedi ei gorlifo, wedi ei boddi gan lifeiriant cyflym wrth i’r len iâ ddadmer 8000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Abermawr ac Aberbach (yn syth i'r gogledd) wedi eu hen gysylltu â môr-ladrad. Abermawr oedd y terfyn ar gyfer cebl telegraff tanfor o Brydain i America ac fe'i hystyriwyd hefyd fel terfynell i gyswllt rheilffordd Brunel rhwng Prydain ac Iwerddon.
Pwllderi
Lleoliad pen craig delfrydol yn cynnig golygfeydd gwych ar hyd yr arfordir i lawr i Dyddewi
Caer y Garn Fawr o'r Oes Haearn
Golygfeydd 360o eithriadol gyda Phen-caer i'r gogledd a'r arfordir ar y dde iddi lle y glaniodd lluoedd Ffrainc yn 1797. Gellir gweld Eryri a Mynyddoedd Wicklow ar ddiwrnod clir.
Caerlem
Cafodd Mary Williams, wrth ffoi o'i thŷ, ei saethu yn ei choes gan y Ffrancwyr a'i 'cham-drin fel arall'. Dyfarnwyd pensiwn blynyddol iddi o £40 a bu'n ei gasglu am y 56 o flynyddoedd wedi hynny.
Pen-caer
Enwog am ei oleudy, ei fywyd gwyllt (a welir orau o'r arsyllfa adar) ac am ei olygfeydd ardderchog.
Trehywel
Cartref John Mortimer, oedd ar fin priodi ar adeg yr ymosodiad. Cafodd danteithion y briodas eu llyncu'n gyflym gan filwyr Ffrainc a daeth Trehywel yn bencadlys dros dro i'r fyddin ymosodol.
Carreg Wastad
Y lleoliad y daeth y milwyr i'r lan. Mae cofgolofn, a godwyd yn 1897, yn edrych allan dros y cildraeth. Gellir mynd ati ar hyd llwybr o Drehywel a Llanwnda
Llanwnda
Safle siambr gladdu Neolithig a ffynnon sanctaidd. Yn y pentref mae hefyd eglwys hardd mewn arddull Geltaidd gyda chlochdy dwbl a cherrig gydag arysgrif Gristnogol gynnar a thrawstiau to canoloesol gyda cherfiadau. Anrheithiodd y milwyr Ffrengig yr eglwys a cheisio ei llosgi i’r llawr.
Llwybr Man Cyfarfod y Dyfroedd
Mae’r Daith ar gyrion ffindiroedd gogledd-ddwyrain Sir Benfro ar hyd rhan o hen linell reilffordd o’r enw’r Cardi Bach. Mae torreth o fywyd gwyllt, afonydd a rhaeadrau yno yn ogystal â chestyll hynafol, eglwysi a hyd yn oed straeon o’r Isfyd.
Mae’n werth ymweld â Chastell Aberteifi ar ddiwedd y Daith os yw amser yn caniatáu - ewch ymlaen ar hyd y ffordd feiciau ger yr afon at stondinau beiciau ger pen yr hen bont. Mae’r castell ar ochr arall y bont ac mae’r fynedfa i fyny’r bryn.
Ffeil Feithiau
Uchafbwyntiau: |
Afonydd, bywyd gwyllt, cestyll, eglwysi hanesyddol a’r isfyd. Mae’n cynnwys Llwybr y Cardi Bach sy’n fyrrach Gradd: Cymhedrol |
|---|---|
Pellter: |
171/2 milltir (28 km) |
Amser: |
4 awr ac amser ychwanegol i gael seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Yr Hen Orsaf, Aberteifi. Cyfeiriad Sat Nav SA43 3AD |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dim un o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Lonydd tawel ran fwyaf. Un adran serth ar i fyny hanner ffordd drwy’r daith - graddiannau cyfforddus fel arall |
Codiad Tir: |
Cyfanswm dringo o tua 510 metr |
Lluniaeth: |
Y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, Abercych ac Aberteifi |
Toiledau: |
Castell Aberteifi, Y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Castell Cilgerran, Canolfan y Cwrwgl |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Man Cychwyn. Yr Hen Orsaf, Aberteifi. Ewch i dref Aberteifi o gyfeiriad y de (B4546) ac ar waelod y bryn trowch i’r dde i mewn i Heol yr Orsaf (mae arwydd Ystad Ddiwydiannol Pentood wrth fynd i lawr y rhiw). Pan mae Heol yr Orsaf yn anelu i’r dde, trowch i’r chwith ac yna’n syth i’r dde heibio hen adeilad yr orsaf reilffordd a’r platfform ar y chwith. Mae’r Daith yn dechrau ar waelod y lôn hon, o dan y bont a thrwy Warchodfa Bywyd Gwyllt Corsydd Teifi ar lwybr heb draffig
0.7 Ewch syth ymlaen wrth fynedfa Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar y chwith
2.1 Trowch i’r chwith ar waelod rhiw fer (yn union cyn cyffordd ‘T’) a dilynwch arwydd llwybr seiclo. Dilynwch y ffordd gefn hon i mewn i Gilgerran. Byddwch yn pasio eglwys ar y dde a mynedfa’r castell ar y chwith, ac mae’n werth ymweld â’r ddau yn ystod y Daith.
2.6 Trowch i’r chwith yn y gyffordd ‘T’ i mewn i’r brif stryd sy’n mynd drwy’r pentref. Mae stondinau ar gyfer beiciau yng nghyffordd y ffordd ochr nesaf ac mae cyfle i chi gerdded lawr i’r Ganolfan Cwrwgl a cheunant yr afon
3.6 Trowch i’r chwith ger y ciosg coch (sy’n gartref i amgueddfa bocsys ffôn sy’n deyrnged i’r ffotograffydd lleol Tom Mathias sy’n byw yma) ac i’r chwith yn y gyffordd nesaf
4.6 Trowch i’r dde’n union cyn Pont Llechryd. Mae rhan nesaf y Daith yn rhedeg ochr yn ochr â hen gamlas a cyn bo hir byddwch yn gallu gweld Eglwys Manordeifi ar y chwith. Ar ôl ymweld â’r Eglwys cariwch ymlaen i fyny’r rhiw fechan ac o gwmpas bachdro
7.1 Anelwch i’r chwith yn y gyffordd a dilynwch arwydd Abercych. O’r gyffordd hon gallwch weld y man ble mae afon Cych yn ymuno ag afon Teifi. Dyma ‘Driphwynt’ (neu ffin) tair sir Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion – 'Man cyfarfod y Dyfroedd' ble mae golygfa arall o’r Triphwynt. Ar ôl anelu i’r chwith, byddwch yn seiclo trwy bentref bychan Abercych
8.0 Trowch i’r chwith ar y brif ffordd ac yna i’r dde (yn ofalus) ar waelod y rhiw tuag at Gwmcych
9.1 Ar ôl pont fechan trowch i’r dde am i fyny allan o’r cwm neu gallwch grwydro Cwmcych hudolus yn hirach os yw amser yn caniatáu (hyd at 10 milltir o daith yn ôl a blaen) cyn mynd yn ôl i droi ar y gyffordd hon. Ar ôl troi, byddwch yn dringo ychydig drwy droad dwbl ac ymlaen at adran fwy serth y llwybr. Peidiwch â phoeni, byddwch yn cyrraedd maes parcio ar y chwith cyn bo hir. Stopiwch yno a chlymu eich beic i goeden (nid oes stondinau yno). Ar droed, dilynwch gât metal ar lwybr uwchben gored ac argae bychan. Cerddwch ar hyd lwybr ar ochr dde’r tŷ gan ddilyn ymyl llyn bychan nes cyrraedd Rhaeadr Ffynnonau. Mae’n cymryd tua hanner awr i gerdded yno ac yn ôl ond cofiwch ychwanegu amser am seibiant. Ar ôl ailymuno â’r Llwybr mae’n siŵr y byddwch eisiau gwthio eich beic am ychydig drwy’r goedwig i ben y bryn
11.1 Syth ymlaen ar y groesffordd
12.6 Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a dilyn arwydd Llechryd
13.0 Trowch i’r chwith (drwy Bontrhydyceirt) wrth y groesffordd a dilyn arwydd Cilgerran
15.1 Trowch i’r dde ar ôl seiclo drwy Gilgerran a dilyn arwydd y Ganolfan Bywyd Gwyllt
16.6 Trowch i’r dde er mwyn ymweld â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Mae stondinau ar gyfer beiciau ar y safle. Yna ewch yn ôl, trowch i’r dde ym mynedfa’r Ganolfan ac ewch drwy’r Warchodfa Bywyd Gwyllt eto ac ymlaen at ddiwedd y Daith.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell Aberteifi
Mae’n dyddio o’r 12fed ganrif a dyma leoliad Eisteddfod gyntaf Cymru yn 1176. Ar agor o 10am – 4pm (11am – 3pm yn y gaeaf). Bydd angen talu
Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi
Un o warchodfeydd gwlypdir gorau Cymru
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi ennill gwobrau ac mae’n nythu mewn cefn gwlad ffrwythlon ar lan afon Teifi. Mae Caffi Glasshouse a siop yma hefyd. Ar agor 10am – 5pm (10am – 4pm yn y gaeaf)
Eglwys Cilgerran
Eglwys ganoloesol ar safle eglwys Geltaidd o’r 6ed ganrif. Mae’n enwog am y garreg fegalithig sy’n sefyll yn y fynwent ac mae ysgrifen hynafol Ogam arni. Yn anffodus mae’r eglwys ei hun ar glo ar brydiau
Castell Cilgerran
Castell hyfryd wedi adfeilio o’r 13eg ganrif. Yn ôl y sôn dyma un o gestyll prydferthaf Cymru. Cafodd ei baentio a’i fraslunio sawl gwaith gan yr arlunydd Turner. Mae’n sefyll mewn safle awdurdodol, yn nythu ar bentir creigiog, yn uchel uwchben afon Teifi. Ar agor 10am – 5pm (10am – 4pm yn y gaeaf). Mae angen talu heblaw am yn y gaeaf
Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl
Mae’n enwog am y ras cwrwgl flynyddol ym mis Awst a theithiau cerdded hyfryd ar hyd yr afon drwy Geunant Teifi
Pont Llechryd
Pont garreg o’r 17eg ganrif â sawl bwa sy’n cael ei boddi’n llwyr gan yr afon pan fo llifogydd uchel. Ar draws y bont mae adeilad carreg crwn sy’n llawn gwybodaeth ddiddorol am Lechryd a’i hanes
Eglwys Manordeifi
Eglwys o’r 13eg ganrif â seddi bocs anarferol, mae gan ddwy ohonynt lefydd tân. Byddai’r eglwys yn aml yn cael ei hynysu gan yr afon oedd yn gorlifo ac mae cwrwgl yn cael ei gadw’n y cyntedd gorllewinol er mwyn helpu addolwyr sy’n sownd yno
Cwmcych
Mae hanes cyfoethog i’r cwm ym mytholeg Cymru ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y Mabinogi fel mynedfa i isfyd Annwn. Ychydig i fyny’r cwm mae plasty Gothig Lancych, mae tri ysbryd yno yn ôl y sôn, a dyma un o dai harddaf Sir Benfro, heb os.
Rhaeadr Ffynnonau
Rhaeadr ynysig, prydferth sy’n nwfn yng Nghoedwig Ffynnonau. Mae padlo’n y dŵr rhewllyd yn brofiad gwych
Llwybr Meini Preseli
Mae'r Llwybr yn rhedeg ar hyd y bryniau isel i'r de wrth odre Mynyddoedd y Preseli ac yn cynnig golygfeydd hardd ym mhob cyfeiriad. Mae'n cychwyn wrth yr hen orsaf reilffordd yn Rosebush ac yn ymdroelli drwy Faenclochog ac ymlaen i Fynachlog Ddu a Chomin Rhos Fach.
Ar y Comin fe welwch frigiadau creigiog Carn Menyn, ffynhonnell y 'meini gleision' enwog sy'n ffurfio'r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri. O'r Llwybr hwn gellir gweld detholiad bychan o'r myrdd o feini a godwyd gan ein cyndadau dair i bum mil o flynyddoedd yn ôl.
Ar un adeg credid bod pwerau goruwchnaturiol yn perthyn iddynt ond mae eu hunion bwrpas yn dal yn ddirgelwch hyd heddiw. Cymerwch amser ar ddiwedd y Llwybr i edrych o gwmpas pentref bychan Rosebush a'i hen dafarn sinc, olion rheilffordd a'r chwareli llechi gerllaw. Mae llwybrau beic mynydd niferus ar gael gyda mynediad uniongyrchol o'r pentref.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr llawn golygfeydd ar hyd y bryniau isaf wrth odre Mynyddoedd y Preseli. Mae olion cynhanesyddol yn lluosog gan gynnwys meini hirion, cylch o gerrig a safleoedd hen frwydrau. Gradd: Canolig |
|---|---|
Pellter |
12 milltir (19 cilometr) |
Amser |
2½ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Y Maes Parcio, Rosebush (Cyfeirnod Grid SN075295, Sat Nav SA66 7QU) Trowch oddi ar y ffordd B4313 i mewn i bentref Rosebush gan ddilyn yr arwydd brown i Dafarn Sinc. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd o gwmpas Tafarn sinc gan gadw'r dafarn ar eich chwith. Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith cyn y ciosg ffôn coch. Mae'r maes parcio ar waelod allt fer. |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Dim o fewn 5 milltir |
Tirwedd |
Lonydd tawel yn bennaf a graddiannau cyfforddus. |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 264 metr |
Lluniaeth |
Rosebush a Maenclochog |
Toiledau: |
Maes parcio Castell Maenclochog |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Beiciwch i fyny'r bryn byr at y gyffordd 'T', trowch i'r dde ac ymhen oddeutu 40 llath ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd ‘Ildiwch le’.
0.4 Gwyrwch i'r chwith wrth yr arwydd ‘Ildiwch Le’. Cymerwch ofal ar yr adran nesaf hon gan ei bod yn rhedeg ar hyd ffordd 'B' er nad yw llif y drafnidiaeth yn drwm iawn.
1.2 Yn syth ar ôl arwyddion 30 m.y.a. Maenclochog, tynnwch i mewn i gyffordd â ffordd i’r ochr ar y chwith. Mae Meini Hirion Cornel Bach yn y cae cyntaf ar y dde i lawr y ffordd ochr hon. Ewch ymlaen ar hyd y briffordd i mewn i bentref Maenclochog.
1.6 Ar ôl seibiant i edrych o gwmpas y pentref, trowch i'r chwith wrth Gaffi’r Sgwâr gan ddilyn yr arwyddion i Langolman. Unwaith y byddwch allan o'r pentref ac wedi dringo ychydig, mae'r ffordd yn gwyro ychydig i'r dde ac yma gellir gweld Maen y Galchen Fach ar y chwith yn y bwlch rhwng dau gae.
4.5 Trowch i'r chwith (y trydydd cyffordd ar y chwith ar ôl gadael Maenclochog) gan ddilyn yr arwydd am Mynachlog Ddu a Crymych. Mae yna arwydd hefyd yn dweud 'Anaddas i Gerbydau Llydan'. Ar ôl oddeutu hanner milltir mae darn i fyny'r allt wrth ochr Eglwys Llandudoch. Efallai y bydd arnoch eisiau dod i lawr oddi ar y beic a'i wthio i fyny'r allt hon a thalu ymweliad â'r eglwys ddymunol yma ar eich ffordd. Mae dwy ystlys yn yr eglwys hon.
5.7 Mae modd cyrraedd Cylch Cerrig Gors Fawr drwy gerdded am dro byr ar ôl dringo dros y gamfa ar ochr chwith y ffordd wrth ymyl plac sydd wedi ei osod ar garreg.
6.5 Yn union cyn cyrraedd pentref Mynachlog Ddu, trowch i'r chwith gan ddilyn arwydd am Rosebush.
6.8 Maes parcio Rhos Fach. Edrychwch allan am Garreg Waldo ar ochr chwith y ffordd a Heneb y Cerrig Gleision ar ochr dde’r ffordd.
8.3 Glynsaithmaen.
11.3 Trowch i'r dde wth y gyffordd 'T' (beiciwch ar y llwybr amlddefnydd os ydych yn dymuno) ac i'r dde eto ar ôl 300 llath gan ddilyn y ffordd i mewn i Rosebush.
11.9 Gorffennwch wrth y Maes Parcio, Rosebush
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Rosebush
Pentref bychan a ddaeth i fod yn sgil y chwareli llechi sydd bellach wedi cau. Roedd gan bob chwarel ei llawr naddu a'i thramffyrdd ei hun. Ceisiodd perchen tir lleol un tro newid y pentref yn gyrchfan Sba Fictoraidd ac fe arweiniodd cyrhaeddiad y rheilffordd yn 1876 at nifer o ddatblygiadau. Cloddiwyd y tir i greu llynnoedd a gerddi addurniadol ac adeiladwyd Tafarn Haearn y Preseli sy’n awr wedi ei hailenwi'n Dafarn Sinc. Yn anffodus, methiant fu'r datblygiad gan nad oedd priodoleddau arbennig i'r dŵr, methodd y rheilffordd oherwydd bod Brunel wedi adeiladu rheilffordd well i'r de, a chaeodd y chwareli. Buddsoddodd taid Barbara Cartland arian y teulu yn y rheilffordd ond collodd y cyfan a dyma a'i hysgogodd hi i ddechrau ysgrifennu, er mwyn cynorthwyo i gynnal gweddill y teulu. Mae'r rhan fwyaf o'r hen chwareli ychydig y tu draw i'r rhes o fythynnod chwarelwyr ac maent yn werth mynd i'w gweld i ddarganfod pyllau cuddiedig a milltiroedd o lwybrau i gerdded a reidio beic mynydd.
Meini Hirion Cornel Bach
Mae dau faen hir, oedd o bosibl ar un adeg yn ffurfio cromlech neu gell gladdu, a gafodd ei chwythu i fyny, mae'n ymddangos, gan bobl leol â phowdwr gwn yn y ddeunawfed ganrif. Mewn dogfennaeth hanesyddol cyfeirir at faen mawr, oedd yn pwyso nifer o dunelli, oedd wedi ei osod mor gywrain ar ben tri maen hir fel ei fod yn dirgrynu ar y cyffyrddiad lleiaf ac a swniai yn debyg i gloch pan gâi ei daro. Mae cyseiniant yn ffenomenon acwstig neilltuol sy'n perthyn i rai o greigiau'r Preseli. Mae ganddynt y briodoledd brin o fod yn 'soniarus' a gallant ganu fel cloch neu gong pan drewir hwy â morthwyl bach carreg. Dyma a roddodd ei enw i'r pentref – Maenclochog, sef carreg yn canu.
Maenclochog
Pentref â thystiolaeth o breswyliad cynhanesyddol. Mae ymchwilwyr wedi darganfod olion castell o'r drydedd ganrif ar ddeg yn y maes parcio ar ben isaf y stryd fawr. Roedd Rheilffordd Maenclochog yn arfer gwasanaethu'r pentref ar un adeg a daeth twnnel i'r de o'r gymuned yn adnabyddus yn ystod y rhyfel pan gafodd ei ddefnyddio fel safle i brofi bom naid Barnes Wallis. Mae'r eglwys ar lain y pentref yn cynnwys cerrig ac arysgrifen arnynt o'r 5ed a'r 6ed ganrif sydd wedi eu cyflwyno i ddau frawd o’r enw Andagelws a Choemagnws
Carreg y Galchen Fach
Maen 8’ 6” o uchder a'r top ychydig yn grwn a sylfaen 2' sgwâr. Saif ar garnedd a chyfeirir ato weithiau fel Maen Hir Parc-y-Tywydd.
Cylch Cerrig y Gors Fawr
Cylch cynhanesyddol o 16 o feini (yn cynnwys 8 maen glas) y tybir eu bod wedi eu cysylltu ar un adeg drwy rodfa gerrig â dau faen ar y tu allan, 150 llath i ffwrdd, ar ochr ogledd-ddwyrain y cylch. Mae'r ddau faen mawr allanol wedi eu halinio â'r heuldro ac mae gan un ohonynt nodweddion magnetig cryf ac adnabyddir hwn yn lleol fel y 'Garreg Freuddwydio'.
Mynachlog Ddu
Mae'r pentref bychan hwn wedi ei leoli ar lwyfandir gwastad yng nghanol Mynyddoedd y Preseli. Rhwng 1839 a 1843 cychwynnodd y pentrefwyr yn y fan hon wrthryfel yn erbyn Cyfreithiau'r Tollbyrth, a ledaenodd ar draws y rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth Cymru. Arweinid Terfysgoedd Rebecca gan gawr o ddyn lleol o'r enw Thomas Rees (Twm Carnabwth) a saif ei garreg fedd yng nghapel Bethel yn y pentref. Tybir mai Mynachlog Ddu hefyd oedd safle Brwydr Mynydd Carn yn 1081 rhwng lluoedd yn ymrafael am reolaeth dwy deyrnas Gymreig.
Rhos Fach
Ar un ochr i'r ffordd mae carreg goffa i Waldo, er cof am Waldo Williams, un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Roedd yn heddychwr adnabyddus, yn ymgyrchu yn erbyn rhyfel ac yn Genedlaetholwr Cymreig. Ar ochr arall y ffordd mae Heneb y Meini Gleision, a thu hwnt yn y pellter gellwch weld brigiadau creigiog Carn Menyn, y cyfeirir atynt weithiau fel Cefn y Ddraig. Pen y bryn hwn oedd ffynhonnell y 'meini gleision' sy'n ffurfio’r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri. Anelwch at y clawdd a'r ffens ar ymyl y comin (gan gadw Carn Menyn mewn golwg ar y dde i chi) ac fe welwch ddau faen hir Rhos Fach yn y cae cyfagos.
Glynsaithmaen
Enw fferm, sef cwm y saith maen. Gall dod o hyd i'r meini hynny fod fel helfa drysor. Y rhai enwocaf yw Cerrig Meibion Arthur. Yn ôl y chwedl fe'u codwyd gan y Brenin Arthur wrth feddau ei ddau fab a laddwyd yn yr union fan hon yn ystod brwydr yn erbyn creadur tebyg i fwystfil sydd wedi osgoi cael ei ddal gan ei ryfelwyr. Mae'r cerrig ychydig oddi ar y lôn sy'n arwain i'r gogledd at Cwm Garw ond gellir eu gweld yn y pellter ar y dde i'r ffordd ar bwynt lle mae hi'n mynd i lawr at bont ger arwydd y grid gwartheg. Mae maen hir y Giât ychydig yn haws ei lleoli - ar y dde, led 3 lled cae ar ôl y tro sydyn y tu hwnt i Glynsaithmaen. Mae pen y maen i'w weld oddi wrth giât y cae ond gellir gweld y strwythur yn gliriach os ymdrechwch i ben y clawdd ychydig ymhellach i fyny'r bryn. Mae iddo dop siâp cŷn a dywed rhai ei fod yn debyg i siâp tylluan. Wrth y fynedfa i Glynsaithmaen mae monolith coffa W R Evans, bardd, athro a hanesydd lleol a aned ac a fagwyd ar y fferm hon. Cynhaliwyd y cyntaf o gyfarfodydd terfysgoedd Rebecca mewn ysgubor ar y fferm hon ac roedd Thomas Rees, eu harweinydd, yn byw ac yn gweithio yn y fferm gerllaw.
Llwybr Westfield
Mae'r Llwybr yn dilyn hen wely'r Rheilffordd Orllewinol Fawr a adeiladwyd rhwng 1852 ac 1856 dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, yr enwocaf o holl Beirianwyr Oes Fictoria. Mae'n rhedeg drwy Warchodfa Natur Westfield Pil, Marina Neyland ac ymlaen i'r maes parcio y tu draw i gei Brunel.
Prynwyd y rhan fwyaf o wely'r rheilffordd oddi ar British Rail gan y Cyngor Dosbarth gynt yn 1982 a chafodd rhannau eu clirio'n wreiddiol i'w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr yn y 1990au cynnar. Fe'i galwyd yn llwybr Westfield yr adeg honno a chafodd ei wella a'i ymestyn yr holl ffordd i fyny i Hwlffordd, oddeutu 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd y Llwybr Brunel hirach ei ddatblygu.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Cyswllt oddi ar y ffordd gan mwyaf rhwng Johnston a Chei Brunel, Neyland - unwaith yn derfynell Rheilffordd Orllewinol Fawr Brunel. Mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd hen reilffordd sydd wedi cau. Mae'r safleoedd yn cynnwys coetiroedd, Gwarchodfa Natur Westfield Pil, Hafan Gychod, Cei Brunel ac aber tlws yr afon Cleddau Gradd: Hawdd |
|---|---|
Pellter: |
8½ milltir (14 cilometr) |
Amser: |
2 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Maes parcio Parc Greenhall, Johnston (Cyfeirnod Grid SM934103, Sat Nav SA62 3PT). Maes parcio am ddim. O ffordd yr A4076 trowch wrth y gyffordd yn ymyl y groesfan i gerddwyr (sy’n dwyn yr arwydd Rosemarket a Llangwm). Ar ôl ychydig dros 100 llath, croeswch bont y rheilffordd a chymerwch y tro cyntaf i'r dde a'r cyntaf i'r dde eto. Ym mhen draw y maes parcio mae'r Llwybr yn cychwyn. |
Grsaf Drenau Agosaf: |
Johnston ½ milltir (trowch i'r chwith i fyny'r allt i ymuno â llwybr beicio, i'r chwith dros bont y rheilffordd ac i'r chwith eto. Dilynwch yr arwydd i Neyland sy'n eich arwain ar hyd y rheilffordd o dan bont. Mae hon yn mynd â chi heibio cychwyn y Llwybr ar ôl oddeutu 400 llath). |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar lwybr tarmac heb drafnidiaeth gydag ychydig o groesfannau ar draws isffyrdd. Rhesymol wastad neu lethrau ysgafn yr holl ffordd. |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 146 metr |
Lluniaeth: |
Caffi ar Gei Brunel (gyda standiau beic) a Johnston |
Toiledau |
Cei Brunel. |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i'r chwith allan o faes parcio Parc Greenhall, Johnston. Dilynwch yr hen reilffordd hon sydd wedi cau yr holl ffordd i lawr i Warchodfa Natur Westfield Pil a Marina Neyland. Ar y ffordd cymerwch ofal wrth 3 croesfan ar draws isffyrdd. Croesfannau lefel fyddai'r rhain wedi bod yn wreiddiol ac mae rhai o fythynnod ceidwaid y groesfan yn dal i fod o hyd.
3.3 Ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr isel gan ddilyn y Llwybr dan y bont uchel. Mae'r olygfa tua'r de yn awr yn llawn o hwylbrennau Marina Neyland.
3.5 Cychwyn yr adran o'r Llwybr gerllaw marina Neyland. Cymerwch ofal gan nad yw'r ffordd hon bellach yn rhydd o drafnidiaeth er mai ychydig o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd a bod trafnidiaeth yn cael ei arafu. Mae'r Llwybr yn mynd ymlaen heibio caffi ar lan y môr ac ymlaen heibio nifer o iardiau cychod i faes parcio Cei Brunel.
4.3 Maes parcio Cei Brunel. Trowch yn ôl a dilyn yr un ffordd yn ôl i Johnston.
8.6 Maes parcio Parc Greenhall, Johnston – diwedd y Llwybr
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Gwarchodfa Natur Westfield Pil
Cilfach gysgodol gyda morlynnoedd ac ynysoedd sy'n cynnig lloches i gannoedd o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid gan gynnwys y crëyr glas, dyfrgwn a thros 20 math o löyn byw. Caiff y safle hwn ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt
Marina Neyland
Un o'r hafanau cychod mwyaf a delaf yng Nghymru
Cei Brunel
Hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pentref pysgota tawel oedd Neyland. Yn 1856, sefydlodd Brunel, y peiriannydd enwog, Wasanaeth Paced Gwyddelig yn yr hyn a elwid bryd hynny yn 'Gleddau Newydd', a datblygodd amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith gan gynnwys cei a chyswllt rheilffordd i gefnogi gwasanaeth y fferi. Mae nifer o fyrddau gwybodaeth wrth y cei yn disgrifio hanes y prosiect cyffrous hwn. Daeth gwasanaeth y fferi i ben ym 1906 a chaeodd y rheilffordd yn 1964. Bu'r rhan hon o Neyland yn dirywio nes iddi gael ei thrawsnewid dan gynllun adfywio uchelgeisiol a luniwyd yng nghanol yr 80au. O Gei Brunel ceir golygfeydd trawiadol o Bont ac Aber y Cleddau ac yn yr ardal o gwmpas y Cei ceir darnau o offer llong hanesyddol yn cael eu dangos ynghyd â rhai o reilffyrdd Brunel sydd wedi cael eu defnyddio fel ffens ar ochr yr afon. Arferai gwasanaeth fferi redeg i ac o Ddoc Penfro hyd nes iddo gael ei wneud yn ddiangen yn 1975 pan agorwyd Pont Cleddau.
Llwybr Cwm Gwaun
Dyma wybr tawel, paradwysaidd a hawdd ei feicio gyda mannau diddorol i aros ac archwilio. Un o olion oes yr iâ yw Cwm Gwaun, a ffurfiwyd o lif y dŵr tawdd wrth i’r rhewlifau gilio. Caiff ei ddisgrifio yn y Rough Guide fel un o ryfeddodau annisgwyl Sir Benfro. Mae ochrau’r cwm yn goediog iawn ac mae’r Llwybr yn dilyn rhan o Afon Gwaun wrth iddi ymlwybro o fynydd Preseli i lawr i Gwm Abergwaun. Bu llawer o deuluoedd yn byw yn y cwm ers cenedlaethau ac maent wedi cadw agweddau ar fywyd Cymru sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd. Bydd pobl leol yn dal i ddilyn traddodiad calendr Iŵl cyn 1752 ac yn dathlu’r Hen Galan ar 13eg Ionawr. Ar y Llwybr cewch gyfle i grwydro pentref tawel Pontfaen, ac i weld pileri carreg hynafol, eglwysi, a digonedd o fywyd gwyllt a blodau
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Rhywle i osgoi’r torfeydd ar hyd cwm hardd a diarffordd ag ochrau serth enwog am ei goetiroedd, bywyd gwyllt a thraddodiadau lleol sy’n mynd yn ôl genedlaethau |
|---|---|
Pellter: |
6 milltir (9.7 cilometr) |
Amser: |
11/4 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Maes Parcio a Safle Picnic Allt Clun. (Cyfeirnod Grid SN005348, Llywiwr Llo SA65 9SB) Dilyn y B4313 Ffordd Abergwaun i Arberth am filltir bron i’r de-ddwyrain o Lanychâr. Troi i ffordd groes gyda’r arwydd Cwm Gwaun. Dilyn y ffordd gul hon ar i waered am ½ milltir ac mae’r maes parcio ar y dde gyferbyn â chaban ffôn coch |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Mae Gorsaf Drenau Abergwaun ac Wdig fymryn dros 5 milltir i ffwrdd. Croesi’r ffordd oddi allan i’r orsaf a dilyn y llwybr beicio i lawr ac o amgylch y 2 gylchfan i fan cychwyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar lan y môr. Dilyn Llwybr 4 o Wdig i fan ychydig i’r gorllewin o Abergwaun, Llwybr 47 drwy Abergwaun i fan fron milltir heibio Llanychâr, a Llwybr 82 i fan dechrau’r Llwybr |
Tirwedd: |
Mae’r Llwybr yn dilyn lôn wledig ddistaw ar hyd llawr y dyffryn. Nid oes unrhyw riwiau serth oni bai y cewch eich temtio i ddilyn darnau ychwanegol dewisol byr y Llwybr sy’n cael eu crybwyll yn yr adran gyfarwyddiadau |
Codiad Tir: |
Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 175 metr |
Lluniaeth: |
Diodydd yn unig yn y Dyffryn Arms, Pontfaen |
Toiledau: |
Dim toiledau cyhoeddus. Toiledau cwsmeriaid yn unig yn y Dyffryn Arms, Pontfaen |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i’r dde allan o’r maes parcio, dros y bont ac aros ar y ffordd hon.
0.6 Mae Colofnau Llanychlwydog ar y chwith i chi ar dir yr hen eglwys. Mae’r tiroedd yn agored i’r cyhoedd ond nid adeilad yr eglwys. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd.
1.5 Rydych yn dod at bentrefan bach iawn Pontfaen gydag Eglwys Pontfaen ar y gyffordd ar y dde i chi. Mae’r Llwybr yn mynd yn syth yn ei flaen yn y fan hon ond gallwch ddewis troi i’r dde a thros y bont i ymweld ag Eglwys Brynach Sant i fyny’r rhiw ar ochr draw’r cwm. Mae’r daith gron oddeutu hanner milltir. Wedi cyrraedd yn ôl, daliwch ar y Llwybr fel cynt ac anwybyddu troi i’r chwith. Fymryn tu hwnt i’r gyffordd hon mae’r Dyffryn Arms (Bessie’s ar lafar). Ymhwn 240 llath byddwch yn mynd heibio Capel Jabes ar y chwith. Ewch ymlaen ar hyd ffordd y cwm.
3.0 Mae Safle Picnic a Phwll Sychpant ar y chwith i chi’n union cyn i’r ffordd droi i’r dde. Ar ôl aros am ennyd yma i archwilio, trowch i’r dde allan o’r safle picnic ac ailgydio yn eich llwybr drwy’r cwm unwaith eto cyn cyrraedd yn ôl i ddechrau’r Llwybr. Fodd bynnag, cyn dychwelyd i lawr y cwm o Sychpant, gallwch ddewis beicio ymhellach i fyny’r cwm cyn troi’n ôl. Mae hyn i gyd yn rhan o Lwybr 82 y Rwydwaith Beicio Cenedlaethol ond mae ychydig yn fwy bryniog na rhan isaf y cwm. Os penderfynwch feicio ymhellach i fyny’r cwm, byddwch yn fuan yn mynd heibio’r fynedfa serth iawn at Erddi ac Ystafell De Penlan Uchaf gyda golygfeydd trawiadol dros y cwm i fynydd Preseli yn y pellter. Ymhen 2 filltir wedyn byddwch yn cyrraedd canolfan fragu leol ac ymhellach fyth mae gweithdy canhwyllau diddorol ac amgueddfa fach.
6.0 Diwedd y Llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Colofnau Llanychlwydog
Pump o gerrig yw’r rhai sydd i’w weld yn eglur o’r ffordd ar dir yr hen eglwys, tŷ preifat erbyn heddiw. Naddwyd croesau o gynlluniau amrywiol yn y cerrig, yn ôl pob tebyg i Gristnogi creiriau credau cynharach. Ailadroddwyd yr arfer hwn mewn nifer o fannau yn y cylch. Cofnodwyd llwybr trwodd i fynwent gyffiniol mewn archifau Fictoraidd fel man lle gwelwyd rhagargoelion ‘rhagflaenwyr marwolaeth’ – gwell peidio aros yn rhy hir yn y man arbennig hwn ar y Llwybr
Eglwys Brynach Sant
Bydd gwyriad byr ond buddiol iawn dros yr afon ac i fyny’r rhiw ar yr ochr arall yn dod â chi at Eglwys Brynach Sant, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 540 OC. Yn y fynwent gron mae 2 biler gyda chroesau Lladinaidd arnynt, y credir eu bod yn dyddio o amser y Sant ei hun. Dywedwyd bod Brynach wedi cael gweledigaethau angylaidd ar Garn Ingli (Mynydd yr Angylion) gerllaw
Dyffryn Arms
Nid yw unrhyw daith i Gwm Gwaun yn gyflawn heb ymweliad â’r dafarn ystafell flaen hanesyddol hon, atgof byw o dafarnau gwledig cenedlaethau cynharach. Ei henw ar lafar yw “Bessie’s” - y perchenoges e bu ei theulu’n rhedeg y dafarn ers 1840. Nid oes bar fel y cyfryw; caiff diodydd eu gweini o ddrws bach yn y parlwr
Capel Jabes y Bedyddwyr
Wedi’i godi yn 1803 ac un o’r ychydig gapeli sy’n weddill yng Nghymru gyda bedyddfa awyr agored, a gaiff ei llenwi o’r afon leol
Safle Picnic a Phwll Sychpant
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n enwog am ei amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys 90 gwahanol rywogaeth o gen a 18 rhywogaeth o löynnod byw. Mae’r lle bach paradwysaidd hwn yn gwasanaethu fel llecyn gorffwys perffaith ond hefyd mae’n fan bendigedig i gychwyn ar droeon byrion i fyny drwy’r coetiroedd cyfagos i wylfannau uwchben
Llwybr yr Aberoedd
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Llwybr prydferth a diddorol dros ben yw hwn sy’n cychwyn a gorffen yn Hwlffordd. Ar y ffordd byddwch yn mynd heibio tŵr uchel Castell y Garn cyn cyrraedd aberoedd deniadol Arfordir Treftadaeth Porth Sain Ffraid, a oedd unwaith yn ganolfan menter codi glo ffyniannus. Mae rhai hen greiriau o’r cyfnod hwn yn dal yn y golwg i chi eu gweld. Ni weithiwyd yr haenau glo, rhai ohonynt yn amlwg yn y clogwyni, ers 1905 a’r amcangyfrif yw bod cronfa o 230 miliwn tunnell o lo carreg yn dal heb ei gyffwrdd dan y môr fymryn oddi ar yr arfordir. Ar hyd y Llwybr mae clogwyni uchel yn gwarchod y traethau tywodlyd ac ar y ffordd byddwch yn gweld golygfeydd arfordirol ysblennydd yr holl ffordd allan i’r ynysoedd ar bennau gogleddol a deheuol Porth Sain Ffraid Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
22.5 milltir (36 cilometr) |
Amser: |
4.5 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeirnod Grid SM956155, Llywiwr Llo SA61 1TP). Fe welwch Neuadd y Sir o Gylchfan Salutation Square, Hwlffordd ac mae arwyddion i’r fynedfa. Ar benwythnosau mae’r maes parcio ar gael (am ddim) i ddefnyddwyr y Llwybr. Ar ddyddiau gwaith mae meysydd parcio eraill i’w cael gerllaw (am dâl) ac mae ganddynt i gyd lwybrau beicio (ar fin y ffordd) sy’n cysylltu â dechrau’r Llwybr |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Hwlffordd ¼ milltir (gyda llwybr beicio’n arwain at ddechrau’r Llwybr) |
Tirwedd: |
Mae’r Llwybr yn mynd ar hyd llwybrau unswydd heb draffig a ffyrdd gwledig eithaf distaw. Mae’n fryniog mewn mannau, yn enwedig ar hyd yr arfordir |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 515 metr |
Lluniaeth: |
Hwlffordd, Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach |
Toiledau: |
Gorsaf Fysiau Hwlffordd (pen y maes parcio aml-lawr), Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i’r chwith allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beicio. Croeswch ar y goleuadau traffig i’r llwybr o flaen y County Hotel, ac yna croeswch y gyffordd ar bwys y drosbont gerdded. Ar ôl tua 150 llath, croeswch y 3 lôn fynediad (ochr yn ochr) ac ewch ymlaen drwy’r bolardiau ar y stryd led-gerdded sy’n croesi’r afon dros yr Hen Bont. Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde ar y gylchfan a dilyn y ffordd hon tuag at y gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith yn union cyn y gyffordd ar y llwybr beicio ac ar ôl ychydig lathenni croeswch 3 lôn gerbydau gyfagos gan ddefnyddio’r goleuadau traffig (mae’r 3edd groesfan yn troi i’r dde). Ar ôl croesi, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr beicio. Ar y gylchfan croeswch y ddwy ffordd gyswllt fach a dal ymlaen ar y llwybr. Ar y gylchfan nesaf croeswch y ffordd gyswllt fach a dal i fynd ar y llwybr gyda’r arwydd Pelcomb, Keeston a Chamros sy’n rhedeg ochr yn ochr â ffordd yr A487
2.1 Croeswch y ffordd groes (gydag arwydd Camros) ac, ar ôl ychydig ffordd, croeswch ffordd yr A487 yn ofalus iawn a mynd ymlaen ar hyd y llwybr ar yr ochr arall i fan rhyw ¼ milltir heibio Pelcomb Cross
3.4 Ar ben y llwybr, ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddistaw iawn heibio Canolfan Gymunedol Camros. Yna ymunwch â’r llwybr ochr yn ochr â ffordd yr A487 unwaith eto a pharhau dros ael y bryn (gyferbyn â’r orsaf betrol). Cyn cyrraedd gwaelod yr allt, mae’r llwybr yn croesi’r ffordd eto. Felly, croeswch gyda gofal mawr, a dilyn y llwybr i lawr ar yr ochr arall am ychydig ffordd cyn iddo gysylltu â lôn dawel. Trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Keeston ac, ar ôl ½ milltir ar i fyny, cyrraedd y pentref. Ewch yn syth ymlaen dros y groesffordd (gan ddilyn arwydd llwybr beicio i Simpson Cross) ac, ar ôl ychydig ffordd, trowch i’r dde ar gyffordd ‘T’. Dilynwch y ffordd hon am ¾ milltir bron (gan anwybyddu ffordd groes gynharach ar y dde).
5.5 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde ac yna i’r chwith fymryn ar ôl mynedfa Guffern Manor. Trowch i’r chwith ar y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn arwydd Y Garn. Mae hwn eto’n ddarn eithaf bryniog o ffordd.
7.0 Ewch i bentref y Garn ac yn fuan fe welwch adeiledd urddasol Castell y Garn ar y dde. Daliwch i feicio drwy’r pentref cyn cyrraedd y gyffordd gyda phriffordd yr A487. Croeswch y ffordd hon yn ofalus a bwrw ymlaen ar hyd yr isffordd gyferbyn.
9.0 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd i Nolton. Byddwch bellach yn dilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am ychydig filltiroedd. Ar ôl pellter byr iawn fe gewch gip ar olion Pwll Glo Clogwyn Trefran yn y pant ar y dde i chi ac ehangder Porth Sain Ffraid fymryn ymhellach.
9.9 Cyrraedd Nolton Haven (stondinau beiciau a thoiledau yn y maes parcio). Ar ôl aros yno, ewch ymlaen i fyny rhiw serth a throi i’r dde ar ffordd gydag arwydd Druidston Haven. Mae hwn eto’n serth iawn a gallai fod yn well gennych ddisgyn a gwthio eich beic. Arhoswch ar y ffordd hon, gan anwybyddu ffordd groes ar y chwith. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn eithaf serth ac yna’n dechrau codi eto. Ymhen rhyw 150 llath fwy neu lai ar i fyny fe sylwch ar dŷ tanddaearol eithaf anghyffredin yn y cae ar y dde i chi – ar lafar y ‘Tŷ Teletubby’. Ychydig ymhellach i fyny’r rhiw mae llwybr carreg yn arwain i lawr i Druidston Haven. Hefyd mae golygfeydd gogoneddus o’r aber a Phorth Sain Ffraid i gyd o diroedd y gwesty ymhellach i fyny’r rhiw ac o wylfa Haroldston Chins sydd i’w chyrraedd ar hyd llwybr ag wyneb iddo’n cysylltu gyda’r Llwybr fymryn dros ¼ milltirheibio’r gwesty. Mae 2½ filltir nesaf y Llwybr ar y gwastad neu ar i waered yn bennaf.
11.9 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Aberllydan.
13.2 Wrth i chi fynd i mewn i Aberllydan, ac ar waelod y rhiw, mae llwybr ar y chwith (fymryn heibio’r bont) yn arwain at doiledau a stondinau beiciau. Fel arall ewch yn syth ymlaen a throwch i’r dde ar y gyffordd ‘T’. Nawr mae’r Llwybr yn gadael y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am gyfnod byr. Mae stondinau beiciau wrth ymyl y seddau ar lan y môr a rhagor o doiledau yn y maes parcio ger y siopau, tafarn a chaffis. Ewch ymlaen i fyny’r rhiw serth ar ben arall y pentref. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn sydyn i lawr i’r Aber Bach a bydd angen i chi droi i’r dde ar gyffordd ‘T’ ar yr allt cyn cyrraedd canol y pentref (toiledau a stondinau beiciau yn y maes parcio). Ar ôl cael golwg o gwmpas, dychwelwch ar hyd yr un ffordd serth iawn i Aberllydan. Ar drai (amserau llanw i’w gweld yn eglur o Aberllydan a’r Aber Bach) gallwch ddewis teithio rhwng y ddwy gymuned ar hyd y traeth. Mae hyn yn osgoi’r rhiwiau serth ac mae’n dro hyfryd iawn. Gallwch naill ai adael eich beic ar y stondinau beiciau yn Aberllydan neu ei wthio ar hyd y traeth ar hyd y llithrfeydd ar y ddau ben. Cofiwch gadw golwg ar y llanw rhag gorfod cerdded yn ôl i Aberllydan ar hyd y ffordd.
14.8 Ar lan y môr yn Aberllydan, dilynwch y briffordd wrth iddi droi i’r dde oddi wrth y môr. Rydych bellach yn ôl ar Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
15.2 Wrth i chi ddringo allan o’r pentref, trowch i’r chwith ar isffordd gyda’r arwydd Long Lane ac ewch ymlaen ar hyd y lôn hon am dros 1½ filltir.
16.9 Trowch i’r dde ar y gyffordd ‘T’.
17.7 Ymunwch â’r llwybr beicio ar y chwith yn union cyn y gyffordd ‘T’. Dilynwch y llwybr hwn (gan gynnwys un groesfan) i Portfield Gate. Ailymunwch â’r ffordd drwy’r pentref a dilyn y llwybr ar y chwith wrth i chi adael y pentref.
19.6 Yn union cyn cyrraedd Hwlffordd, croeswch y ffordd a dilyn y llwybr ar yr ochr arall am ychydig ffordd i Park Corner Road. Ar ôl fymryn dros ½ milltir ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ac ar ôl ¼ milltir arall trowch i’r dde i ffordd gydag arwydd ‘Dim Ffordd Drwodd’. Dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r chwith ar waelod y rhiw a dal yn eich blaen i gyfeiriad Hwlffordd yn y fan lle mae Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn troi i’r dde. Ychydig ymhellach ewch yn syth ymlaen eto gan fynd heibio mynedfa Maes Carafanau Under the Hills ar y chwith.
21.1 Ar y gyffordd trowch i’r dde ar hyd y llwybr ochr yn ochr â’r ffordd. Yn union cyn McDonald’s mae’r llwybr yn croesi’r ffordd. Ewch ymlaen ar yr ochr arall a chroesi’r goleuadau traffig gan ddilyn arwydd y llwybr beicio i Ganol y Dref. Ewch ymlaen ar hyd llwybr beicio min y ffordd am ychydig dros filltir.
22.6 Gorffen ym maes parcio Neuadd y Sir
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell y Garn
Nodwedd drawiadol a godwyd yn 1195 ar frigiad o graig folcanig. Roedd yn un o nifer o adeileddau amddiffynnol ar hyd ‘Llinell y Landsger’, oedd yn gwahanu ardaloedd Cymraeg a Saesneg Sir Benfro. Arhosodd y castell yn gryf cyn i’r fyddin seneddol losgi llawer ohono’n ulw yn 1644 yn ystod y rhyfel cartref. Adferwyd o adfail i dŷ preifat yn 1910 a chafodd ei wella’n helaeth yn ddiweddar i greu gwesty cain
Pwll Glo Clogwyn Trefran
Mae adfail Pwll Glo Trefran, sy’n amlwg o simnai uchel ei dŷ peiriant, yn edrych dros ben deheuol traeth Niwgwl. Roedd y pwll ar waith o ganol y 19eg ganrif tan 1905, gyda rhai lefelydd yn rhedeg dan y môr. Byddai’r glo’n cael ei lwytho ar drolïau a byddai peiriant yn eu tynnu i Nolton Haven i anfon y glo dros y môr
Nolton Haven
Bae bach cysgodol yw hwn gyda thraeth tywodlyd yn bennaf rhwng clogwyni uchel. Mae cysylltiad hir rhwng y bae â môr-ladron. Roedd hwn unwaith yn borthladd lle byddai glo’n cael ei allforio mor bell yn ôl â’r canoloesoedd. Ar y traeth, mae ffosilau planhigion i’w cael weithiau mewn clogfeini mawr wrth droed y clogwyni ac mae modd gweld gwythiennau o lo carreg yn yr un clogwyni hefyd
Druidston Haven
Enwyd ar ôl ‘Drue’ Marchog Normanaidd o’r 12fed ganrif gynnar. Mae yma draeth tywodlyd hir, o’r neilltu, wedi’i gau gan glogwyni serth ar dair ochr. I’w gweld yn y bae mae nifer o ffurfiannau clogwyni, bwâu naturiol ac ogofâu trawiadol
Aberllydan
Pentref bach yw gyda thraeth ymdrochi diogel a deniadol o dywod euraid cadarn. Bu’n gyrchfan glan môr poblogaidd ers y 1800au. Yr unig dystiolaeth sydd ar ôl o’r diwydiant glo yw pwll ‘Slaes’ mawr 200 llath i mewn o’r traeth a ffurfiwyd yn y 19eg ganrif gan lowyr yn cloddio am lo mân. Erbyn hyn mae’r pwll cysgodol yn lloches o’r neilltu i garwyr natur. Yn y 1970au, honwyd gweld amryw UFO yn y gyrchfan a’r cylch a chafodd y llysenw Triongl Aberllydan. Ar drai mae modd cerdded o gwmpas y pentir ar yr ochr ddeheuol i fae o’r enw The Settlands, ac yna o gwmpas y pentir nesaf i’r Aber Bach
Yr Aber Bach
Dyma un o’r pentrefi bach glan môr mwyaf dymunol a hynod yng Nghymru gyfan. Yn sefyll mewn cwm ag ochrau serth, mae’r anheddiad yn dyddio’n ôl i Oes yr Haearn ac roedd unwaith yn ganolfan masnach y môr a smyglo. Ar un adeg byddai glo’n cael ei lwytho o byllau glo lleol i gychod o’r traeth. Ar ochr ddeheuol y bae mae llwybr llydan yn arwain at fan sy’n cael ei alw’n Wylfa, lle mae grisiau’n disgyn i ddau gildraeth bach creigiog o’r enw Sheep Wash a Rook’s Bay
Llwybr yr Aberoedd
Llwybr prydferth a diddorol dros ben yw hwn sy’n cychwyn a gorffen yn Hwlffordd. Ar y ffordd byddwch yn mynd heibio tŵr uchel Castell y Garn cyn cyrraedd aberoedd deniadol Arfordir Treftadaeth Porth Sain Ffraid, a oedd unwaith yn ganolfan menter codi glo ffyniannus. Mae rhai hen greiriau o’r cyfnod hwn yn dal yn y golwg i chi eu gweld. Ni weithiwyd yr haenau glo, rhai ohonynt yn amlwg yn y clogwyni, ers 1905 a’r amcangyfrif yw bod cronfa o 230 miliwn tunnell o lo carreg yn dal heb ei gyffwrdd dan y môr fymryn oddi ar yr arfordir. Ar hyd y Llwybr mae clogwyni uchel yn gwarchod y traethau tywodlyd ac ar y ffordd byddwch yn gweld golygfeydd arfordirol ysblennydd yr holl ffordd allan i’r ynysoedd ar bennau gogleddol a deheuol Porth Sain Ffraid
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Golygfeydd arfordirol gwych, castell, olion cyfnod codi glo hanesyddol a chyfoeth o flodau gwyllt ac adar |
|---|---|
Gradd |
Egnïol |
Pellter |
22.5 milltir (36 km) |
Amser |
4.5 awr ynghyd ag amser aros ychwanegol |
Tirwedd |
Mae’r Llwybr yn mynd ar hyd llwybrau unswydd heb draffig a ffyrdd gwledig eithaf distaw. Mae’n fryniog mewn mannau, yn enwedig ar hyd yr arfordir |
Codiad Tir |
Dringfa lawn (cyfanswm yr holl ddarnau ar i fyny) - 515 metr |
Man Cychwyn/Gorffen |
Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeirnod Grid SM956155, Llywiwr Llo SA61 1TP). Fe welwch Neuadd y Sir o Gylchfan Salutation Square, Hwlffordd ac mae arwyddion i’r fynedfa. Ar benwythnosau mae’r maes parcio ar gael (am ddim) i ddefnyddwyr y Llwybr. Ar ddyddiau gwaith mae meysydd parcio eraill i’w cael gerllaw (am dâl) ac mae ganddynt i gyd lwybrau beicio (ar fin y ffordd) sy’n cysylltu â dechrau’r Llwybr |
Gorsaf drenau agosaf |
Hwlffordd ¼ milltir (gyda llwybr beicio’n arwain at ddechrau’r Llwybr) |
Lluniaeth |
Hwlffordd, Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach |
Toiledau |
Gorsaf Fysiau Hwlffordd (pen y maes parcio aml-lawr), Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Trowch i’r chwith allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beicio. Croeswch ar y goleuadau traffig i’r llwybr o flaen y County Hotel, ac yna croeswch y gyffordd ar bwys y drosbont gerdded. Ar ôl tua 150 llath, croeswch y 3 lôn fynediad (ochr yn ochr) ac ewch ymlaen drwy’r bolardiau ar y stryd led-gerdded sy’n croesi’r afon dros yr Hen Bont. Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde ar y gylchfan a dilyn y ffordd hon tuag at y gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith yn union cyn y gyffordd ar y llwybr beicio ac ar ôl ychydig lathenni croeswch 3 lôn gerbydau gyfagos gan ddefnyddio’r goleuadau traffig (mae’r 3edd groesfan yn troi i’r dde). Ar ôl croesi, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr beicio. Ar y gylchfan croeswch y ddwy ffordd gyswllt fach a dal ymlaen ar y llwybr. Ar y gylchfan nesaf croeswch y ffordd gyswllt fach a dal i fynd ar y llwybr gyda’r arwydd Pelcomb, Keeston a Chamros sy’n rhedeg ochr yn ochr â ffordd yr A487.
2.1 Croeswch y ffordd groes (gydag arwydd Camros) ac, ar ôl ychydig ffordd, croeswch ffordd yr A487 yn ofalus iawn a mynd ymlaen ar hyd y llwybr ar yr ochr arall i fan rhyw ¼ milltir heibio Pelcomb Cross
3.4 Ar ben y llwybr, ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddistaw iawn heibio Canolfan Gymunedol Camros. Yna ymunwch â’r llwybr ochr yn ochr â ffordd yr A487 unwaith eto a pharhau dros ael y bryn (gyferbyn â’r orsaf betrol). Cyn cyrraedd gwaelod yr allt, mae’r llwybr yn croesi’r ffordd eto. Felly, croeswch gyda gofal mawr, a dilyn y llwybr i lawr ar yr ochr arall am ychydig ffordd cyn iddo gysylltu â lôn dawel. Trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Keeston ac, ar ôl ½ milltir ar i fyny, cyrraedd y pentref. Ewch yn syth ymlaen dros y groesffordd (gan ddilyn arwydd llwybr beicio i Simpson Cross) ac, ar ôl ychydig ffordd, trowch i’r dde ar gyffordd ‘T’. Dilynwch y ffordd hon am ¾ milltir bron (gan anwybyddu ffordd groes gynharach ar y dde).
5.5 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde ac yna i’r chwith fymryn ar ôl mynedfa Guffern Manor. Trowch i’r chwith ar y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn arwydd Y Garn. Mae hwn eto’n ddarn eithaf bryniog o ffordd.
7.0 Ewch i bentref y Garn ac yn fuan fe welwch adeiledd urddasol Castell y Garn ar y dde. Daliwch i feicio drwy’r pentref cyn cyrraedd y gyffordd gyda phriffordd yr A487. Croeswch y ffordd hon yn ofalus a bwrw ymlaen ar hyd yr isffordd gyferbyn.
9.0 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd i Nolton. Byddwch bellach yn dilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am ychydig filltiroedd. Ar ôl pellter byr iawn fe gewch gip ar olion Pwll Glo Clogwyn Trefran yn y pant ar y dde i chi ac ehangder Porth Sain Ffraid fymryn ymhellach.
9.9 Cyrraedd Nolton Haven (stondinau beiciau a thoiledau yn y maes parcio). Ar ôl aros yno, ewch ymlaen i fyny rhiw serth a throi i’r dde ar ffordd gydag arwydd Druidston Haven. Mae hwn eto’n serth iawn a gallai fod yn well gennych ddisgyn a gwthio eich beic. Arhoswch ar y ffordd hon, gan anwybyddu ffordd groes ar y chwith. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn eithaf serth ac yna’n dechrau codi eto. Ymhen rhyw 150 llath fwy neu lai ar i fyny fe sylwch ar dŷ tanddaearol eithaf anghyffredin yn y cae ar y dde i chi – ar lafar y ‘Tŷ Teletubby’. Ychydig ymhellach i fyny’r rhiw mae llwybr carreg yn arwain i lawr i Druidston Haven. Hefyd mae golygfeydd gogoneddus o’r aber a Phorth Sain Ffraid i gyd o diroedd y gwesty ymhellach i fyny’r rhiw ac o wylfa Haroldston Chins sydd i’w chyrraedd ar hyd llwybr ag wyneb iddo’n cysylltu gyda’r Llwybr fymryn dros ¼ milltirheibio’r gwesty. Mae 2½ filltir nesaf y Llwybr ar y gwastad neu ar i waered yn bennaf.
11.9 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Aberllydan.
13.2 Wrth i chi fynd i mewn i Aberllydan, ac ar waelod y rhiw, mae llwybr ar y chwith (fymryn heibio’r bont) yn arwain at doiledau a stondinau beiciau. Fel arall ewch yn syth ymlaen a throwch i’r dde ar y gyffordd ‘T’. Nawr mae’r Llwybr yn gadael y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am gyfnod byr. Mae stondinau beiciau wrth ymyl y seddau ar lan y môr a rhagor o doiledau yn y maes parcio ger y siopau, tafarn a chaffis. Ewch ymlaen i fyny’r rhiw serth ar ben arall y pentref. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn sydyn i lawr i’r Aber Bach a bydd angen i chi droi i’r dde ar gyffordd ‘T’ ar yr allt cyn cyrraedd canol y pentref (toiledau a stondinau beiciau yn y maes parcio). Ar ôl cael golwg o gwmpas, dychwelwch ar hyd yr un ffordd serth iawn i Aberllydan. Ar drai (amserau llanw i’w gweld yn eglur o Aberllydan a’r Aber Bach) gallwch ddewis teithio rhwng y ddwy gymuned ar hyd y traeth. Mae hyn yn osgoi’r rhiwiau serth ac mae’n dro hyfryd iawn. Gallwch naill ai adael eich beic ar y stondinau beiciau yn Aberllydan neu ei wthio ar hyd y traeth ar hyd y llithrfeydd ar y ddau ben. Cofiwch gadw golwg ar y llanw rhag gorfod cerdded yn ôl i Aberllydan ar hyd y ffordd.
14.8 Ar lan y môr yn Aberllydan, dilynwch y briffordd wrth iddi droi i’r dde oddi wrth y môr. Rydych bellach yn ôl ar Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
15.2 Wrth i chi ddringo allan o’r pentref, trowch i’r chwith ar isffordd gyda’r arwydd Long Lane ac ewch ymlaen ar hyd y lôn hon am dros 1½ filltir.
16.9 Trowch i’r dde ar y gyffordd ‘T’.
17.7 Ymunwch â’r llwybr beicio ar y chwith yn union cyn y gyffordd ‘T’. Dilynwch y llwybr hwn (gan gynnwys un groesfan) i Portfield Gate. Ailymunwch â’r ffordd drwy’r pentref a dilyn y llwybr ar y chwith wrth i chi adael y pentref.
19.6 Yn union cyn cyrraedd Hwlffordd, croeswch y ffordd a dilyn y llwybr ar yr ochr arall am ychydig ffordd i Park Corner Road. Ar ôl fymryn dros ½ milltir ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ac ar ôl ¼ milltir arall trowch i’r dde i ffordd gydag arwydd ‘Dim Ffordd Drwodd’. Dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r chwith ar waelod y rhiw a dal yn eich blaen i gyfeiriad Hwlffordd yn y fan lle mae Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn troi i’r dde. Ychydig ymhellach ewch yn syth ymlaen eto gan fynd heibio mynedfa Maes Carafanau Under the Hills ar y chwith.
21.1 Ar y gyffordd trowch i’r dde ar hyd y llwybr ochr yn ochr â’r ffordd. Yn union cyn McDonald’s mae’r llwybr yn croesi’r ffordd. Ewch ymlaen ar yr ochr arall a chroesi’r goleuadau traffig gan ddilyn arwydd y llwybr beicio i Ganol y Dref. Ewch ymlaen ar hyd llwybr beicio min y ffordd am ychydig dros filltir.
22.6 Gorffen ym maes parcio Neuadd y Sir.
Pethau o Ddiddordeb
Castell y Garn
Nodwedd drawiadol a godwyd yn 1195 ar frigiad o graig folcanig. Roedd yn un o nifer o adeileddau amddiffynnol ar hyd ‘Llinell y Landsger’, oedd yn gwahanu ardaloedd Cymraeg a Saesneg Sir Benfro. Arhosodd y castell yn gryf cyn i’r fyddin seneddol losgi llawer ohono’n ulw yn 1644 yn ystod y rhyfel cartref. Adferwyd o adfail i dŷ preifat yn 1910 a chafodd ei wella’n helaeth yn ddiweddar i greu gwesty cain
Pwll Glo Clogwyn Trefran
Mae adfail Pwll Glo Trefran, sy’n amlwg o simnai uchel ei dŷ peiriant, yn edrych dros ben deheuol traeth Niwgwl. Roedd y pwll ar waith o ganol y 19eg ganrif tan 1905, gyda rhai lefelydd yn rhedeg dan y môr. Byddai’r glo’n cael ei lwytho ar drolïau a byddai peiriant yn eu tynnu i Nolton Haven i anfon y glo dros y môr
Nolton Haven
Bae bach cysgodol yw hwn gyda thraeth tywodlyd yn bennaf rhwng clogwyni uchel. Mae cysylltiad hir rhwng y bae â môr-ladron. Roedd hwn unwaith yn borthladd lle byddai glo’n cael ei allforio mor bell yn ôl â’r canoloesoedd. Ar y traeth, mae ffosilau planhigion i’w cael weithiau mewn clogfeini mawr wrth droed y clogwyni ac mae modd gweld gwythiennau o lo carreg yn yr un clogwyni hefyd
Druidston Haven
Enwyd ar ôl ‘Drue’ Marchog Normanaidd o’r 12fed ganrif gynnar. Mae yma draeth tywodlyd hir, o’r neilltu, wedi’i gau gan glogwyni serth ar dair ochr. I’w gweld yn y bae mae nifer o ffurfiannau clogwyni, bwâu naturiol ac ogofâu trawiadol
Aberllydan
Pentref bach yw gyda thraeth ymdrochi diogel a deniadol o dywod euraid cadarn. Bu’n gyrchfan glan môr poblogaidd ers y 1800au. Yr unig dystiolaeth sydd ar ôl o’r diwydiant glo yw pwll ‘Slaes’ mawr 200 llath i mewn o’r traeth a ffurfiwyd yn y 19eg ganrif gan lowyr yn cloddio am lo mân. Erbyn hyn mae’r pwll cysgodol yn lloches o’r neilltu i garwyr natur. Yn y 1970au, honwyd gweld amryw UFO yn y gyrchfan a’r cylch a chafodd y llysenw Triongl Aberllydan. Ar drai mae modd cerdded o gwmpas y pentir ar yr ochr ddeheuol i fae o’r enw The Settlands, ac yna o gwmpas y pentir nesaf i’r Aber Bach
Yr Aber Bach
Dyma un o’r pentrefi bach glan môr mwyaf dymunol a hynod yng Nghymru gyfan. Yn sefyll mewn cwm ag ochrau serth, mae’r anheddiad yn dyddio’n ôl i Oes yr Haearn ac roedd unwaith yn ganolfan masnach y môr a smyglo. Ar un adeg byddai glo’n cael ei lwytho o byllau glo lleol i gychod o’r traeth. Ar ochr ddeheuol y bae mae llwybr llydan yn arwain at fan sy’n cael ei alw’n Wylfa, lle mae grisiau’n disgyn i ddau gildraeth bach creigiog o’r enw Sheep Wash a Rook’s Bay
Llwybr Crymych
Mae’r Llwybr yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghrymych, pentref mawr sy’n cael ei ystyried yn eang fel prifddinas Preseli – yr ardal o amgylch Mynydd Preseli. Mae’r golygfeydd oddi ar y llwybr yn ogoneddus ac mae’r llwybr yn mynd â chi drwy rai cymunedau cudd diddorol gyda straeon i’w dweud o flynyddoedd gynt. Mae cyfle i ymweld â chaer o’r Oes Efydd ddiweddar a phentref ecolegol cyfoes sydd â diwrnodau agored rheolaidd
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Golygfeydd trawiadol, aneddiadau hynafol, pentrefi anghysbell, chwedlau o drysor cladd, pentref ecolegol a chymuned fwyngloddio flaenorol Gradd: Cymhedrol |
|---|---|
Pellter: |
181/2 milltir (30 cilomedr) |
Amser: |
4 awr ag amser ychwanegol i gael seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Maes Parcio Maes Ploveilh, Crymych (Cyfeirnod Grid SN182338, Llywiwr Llo SA41 3QE) Ar ffordd yr A478 trwy Grymych, troi ar y gyffordd gydag arwydd Eglwyswrw (gyferbyn â Neuadd y Farchnad gyda’i wyneb cloc), yna troi i’r chwith ar unwaith i Heol Parc y Ffair. Troi i’r chwith i’r maes parcio |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dim un o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Lonydd tawel yn bennaf ond gyda darnau byrion ar ffordd yr A487 yn y dechrau a’r diwedd, y ddau o fewn terfyn cyflymder. Mae un darn serth iawn ar i waered lle mae angen gofal arbennig |
Codiad Tir: |
Cyfanswm dringo o tua 440 metr |
Lluniaeth: |
Crymych, Tegryn (Butchers Arms), Siop Bob Peth Croes Glandy |
Toiledau: |
Toiledau cwsmeriaid yn y Crymych Arms a Butchers Arms, Tegryn |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Gadewch y maes parcio ar hyd y ffordd a throi i’r dde. Trowch i’r dde ar y gyffordd T ger y Crymych Arms ac yna i’r chwith ar unwaith ar ffordd yr A478 i gyfeiriad Aberteifi. Ar y dechrau mae’r Llwybr yn dilyn Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Trowch i’r cyntaf ar y dde i gyfeiriad Tegryn wrth adael y pentref. Yn dilyn mae dringfa eithaf cyson am filltir gyda golygfeydd hardd o’r Frenni Fawr yn y pellter ar y chwith. Wrth i’r Llwybr ymdroelli ar hyd cyfuchliniau rhai bryniau isel cewch eich gwobrwyo’n ddirybudd gyda golygfeydd trawiadol i’r de dros dir amaeth tonnog canoldir Sir Benfro'r holl ffordd o Fynydd Preseli i Sir Gâr gyfagos. Mae’r ychydig filltiroedd nesaf ar i waered gan mwyaf a ddylai roi peth rhyddhad.
2.0 Trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Tegryn. (Mae llwybr cyhoeddus yn union gyferbyn â’r gyffordd hon yn mynd â chi’r holl ffordd i fyny at gopa’r Frenni Fawr, tro buddiol a diddorol iawn ar ddeudroed os oes gennych amser. Caniatewch awr ar gyfer y daith gron.)
3.2 Ar y gyffordd T trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Tegryn. Ar ôl mynd i mewn i’r pentref, trowch i’r dde fymryn heibio’r Butchers Arms ac yna i’r chwith ar unwaith gan ddilyn arwydd Capel Llwynyrhwrdd. Ar ôl mynd heibio’r capel, mae disgyniad y llwybr yn mynd yn serthach a serthach ac fe all wyneb y ffordd fod yn eithaf gwlyb dan y canopi coed. Cofiwch fod yn ofalus ar y darn hwn. Mae’r llwybr yn gwastatáu’n fuan ac efallai y cewch gip ar alpaca neu ddau’n pori ar diroedd gwersyll pebyll crwyn ar y dde. Wrth i chi fynd i mewn i Lanfyrnach byddwch yn mynd heibio rhes o hen fythynnod mwynwyr ar y dde. Roedd yr ardal gyfan hon unwaith yn llawn pyllau arian a phlwm ac mae olion rhai o’r lefelydd yn dal i’w gweld yn y coed a’r prysgwydd. Mae llwybr hen reilffordd y Cardi Bach yn union ar bwys y ffordd
4.9 Trowch i’r dde ar y gyffordd T ac, ar ôl ¼ milltir, trowch i’r dde eto i gyfeiriad Hermon. Wrth i chi adael y pentref trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Eglwys Llanfyrnach. Ar ôl tua 100 llath byddwch yn mynd heibio’r eglwys ar y chwith ac mae’r hen domen ar dir preifat yr ochr draw i’r ffordd.
7.2 Ewch heibio’r fynedfa i ecobentref Lammas ar y dde (gwelwch y wefan am ddiwrnodau agored). Ychydig ymhellach ymlaen mae’r Llwybr yn mynd â chi drwy bentref bach tlws Glandwr. Ewch ymlaen heibio’r caban ffôn coch ym mhen pellaf y pentref ac fe welwch Garreg Ogam Glandwr yn agos at y ffordd ar dir y capel ar y dde. Ewch ymlaen drwy Hebron, y pentref nesaf, a throi i’r chwith tua milltir allan o’r pentref. Dilynwch y ffordd goediog hon ar i fyny hyd nes cyrhaeddwch gyffordd T gyferbyn â’r porth bwa castellog Gothig sy’n arwain at eglwys fechan Cledwyn Sant. Trowch i’r dde i gyfeiriad Efailwen.
11.7 Ym mhentref bach nesaf Pant-y-caws (heb arwydd) trowch i’r dde i gyfeiriad Croes Glandy.
12.2 Yng Nghroes Glandy croeswch briffordd yr A478 yn ofalus iawn i gyfeiriad Maenclochog. Ar ôl dim ond 205 llath, fe allwch gyrraedd olion heneb Meini Gwyr trwy gât mochyn ar y chwith. Ar ôl arosfa ddewisol, trowch yn ôl a dilyn y Llwybr yn ôl i ffordd yr A487. Trowch i’r cyntaf ar y chwith ar hyd isffordd i gyfeiriad Mynachlog-ddu.
14.7 Wedi cyrraedd Mynachlog-ddu trowch i’r dde ar y gyffordd T. Rhyw ¾ milltir y tu hwnt i’r pentref, mae amlinell arw Carn Menyn i’w gweld yn eglur ar y chwith. Ymhen milltir arall mae’r ffordd yn lledu i ffurfio cilfan yn union ar ôl arwydd rhybudd Defaid. Ar draws y cae i gyfeiriad y mast trawsyrru mae tarddle Cleddy Ddu. Fe aiff y llwybr ceffylau ar y chwith â chi ryw 250 llath i ddechrau llwybr troed sy’n mynd i ben Foel Drygarn. Yn anffodus, nid oes unrhyw stondinau beiciau ac, os ydych yn bwriadu cerdded i’r copa, bydd angen i chi naill ai guddio eich beic neu ei rwymo wrth rywbeth arall gan sicrhau na fyddwch yn rhwystro’r briffordd. Mae’r daith gron i’r copa ac yn ôl yn cymryd tuag awr. Ar ôl yr arosfa ddewisol hon, ewch ymlaen ar hyd yr un ffordd. Ymhen ¼ milltir, anwybyddwch y ffordd groes a throwch i’r dde.
17.9 Trowch i’r chwith ar y gyffordd T a dilyn ffordd yr A478 i Grymych. Mae canolfan hamdden ar y dde gyferbyn â’r orsaf betrol lle gallech fynd i nofio a/neu gael cawod nawr neu ar ôl cwblhau’r llwybr.
18.5 50 llath y tu hwnt i Gapel Seion, trowch i’r chwith trwy’r rhwystrau i’r maes parcio a diwedd y llwybr.
Pethau o Diddordeb ar hyd y Ffordd
Crymych
Mae enw’r pentref wedi bodoli ers yr Oesoedd Tywyll ond, fel cymuned, ni ddechreuodd ddatblygu mewn gwirionedd tan tuag 1874 yn dilyn adeiladu’r Cardi Bach, y rheilffordd rhwng Hendy-gwyn ac Aberteifi sydd wedi cau erbyn hyn. Mae’n sefyll ar yr hen ffordd dyrpeg rhwng Dinbych-y-pysgod ac Aberteifi gyda phedair ffordd arall yn cyfarfod yno gan wneud y lle’n boblogaidd gyda phorthmyn a gasglai yn y pentref cyn gyrru eu gwartheg i nifer o wahanol gyfeiriadau. Wrth i’r lle ehangu, roedd ferandâu ar lawer o’r busnesau a siopau lle gellid clymu ceffylau. Roedd yn debyg i rywle yn y Gorllewin Gwyllt a dim rhyfedd iddi gael ei galw’n ‘Dre’r Cowbois’. Mae’r diwylliant Cymreig yn gryf yma a’r Gymraeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o’r trigolion. Crymych yw tarddle afonydd Taf a Chleddy Ddu
Y Frenni Fawr
Cadair Facsen oedd yr enw gynt a dyma’r bryn honedig lle daeth Magnus Maximus, yr Ymerawdwr Rhufeinig (335 – 388 OC), i hela. Mae cysylltiad hefyd â chwedlau’r Tylwyth Teg. Mae’r llwybr troed i fyny a thros y mynydd yn mynd heibio amrywiol feddrodau o’r Oes Efydd Gynnar, ac fe all un ohonynt ddal trysor chwedlonol y Frenni Fawr sy’n cael ei warchod gan ysbryd llai na chyfeillgar yn ôl y sôn
Llanfyrnach
Mae’n enwog am ei phyllau arian a phlwm Fictoraidd ar ochr ogleddol y pentref, er y gellid bod wedi cloddio mwynau yma mor bell yn ôl â’r 16eg ganrif. Ehangwyd y mwyngloddiau’n fawr yn y 1840au o ganlyniad i’r galw mawr am blwm. Erbyn i fwyngloddio ddod i ben yn 1890, roedd lefelydd gweithio wedi cyrraedd ymhell dros 500 metr dan ddaear. Mae pobl yn dal i fyw yn hen fythynnod y mwynwyr ac mae rhywfaint o dystiolaeth eto o’r lefelydd gwreiddiol er bod y rhan fwyaf ohonynt bellach yn guddiedig dan lystyfiant trwchus. Mae amlinell mwnt Normanaidd bach i’w gweld yn union gyferbyn â’r eglwys
Ecobentref Lammas
Dyma enghraifft lewyrchus o ddatblygiad gwledig bach ei effaith. Mae’r llain 74 erw’n hollol annibynnol ar bob prif wasanaeth, ac fe ddyluniwyd ac adeiladwyd yr holl gartrefi yn Lammas gan y trigolion gyda deunyddiau lleol, naturiol ac eildro. Ni chostiodd un ohonynt fwy na £14,000 i’w godi. Mae’r ecobentref, yn Nhir y Gafel ger Glandwr, yn cynnal teithiau tywysedig pob dydd Sadwrn o fis Ebrill i fis Hydref – gwelwch y wefan lammas.org.uk i gael rhagor o wybodaeth
Carreg Ogam Glandwr
Ar dir capel Glandwr, ysgythrwyd croes ar un wyneb ac arysgrif Ogam ar un ymyl o’r garreg 5 troedfedd hon. Daethpwyd â hi yma o fferm leol lle gweithredodd fel postyn gât ond ei safle gwreiddiol, yn ôl y sôn, oedd ar Fynydd Stambar ger Llanfrynach. Yn anffodus, mae’n anodd dehongli’r marciau oherwydd eu taro gan fogeiliau olwynion troliau a’u difrodi pan oedd yn bostyn gât. Un ddamcaniaeth yw ei fod yn nodiant cerddorol o ryw fath
Meini Gwyr
Mae’r heneb hwn yn unigryw ym mhensaernïaeth gynhanesyddol Cymru, fel yr unig feingylch dyrchafedig hysbys. Gwaetha’r modd, y cyfan sy’n weddill o’r adeiledd hwn a fu’n drawiadol unwaith yw dwy garreg unig mewn cae, er bod amlinell y meingylch yn dal i’w gweld. Mae lleoliad yr adeiledd ‘defodol’ pwysig hwn mor agos at darddle Cerrig Gleision Côr y Cewri a chylch y Gors Fawr yn ei gwneud yn debygol ei bod unwaith yn rhan annatod o’r dirwedd Neolithig leol
Mynachlog-ddu
Mae’r pentref bach hwn yn sefyll ar lwyfandir wrth galon Mynydd Preseli. Rhwng 1839 a 1843 ysgogodd y pentrefwyr yma wrthryfel yn erbyn Deddfau’r Tyrpeg a ledaenodd dros y rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth Cymru. Arweinydd Terfysgoedd Beca oedd Thomas Rees (Twm Carnabwth), cawr o ddyn lleol, ac mae carreg ei fedd yn sefyll yng Nghapel Bethel y pentref (ar y dde wrth i chi ddilyn y Llwybr i’r pentref). Y dyb hefyd yw mai Mynachlog-ddu yw safle Brwydr Mynydd Carn yn 1081 rhwng lluoedd yn ymgiprys dros reoli dwy deyrnas Gymreig
Carn Menyn
Y gred yw mai Carn Menyn yw un o brif ffynonellau’r Cerrig Gleision a ddefnyddiwyd yng Nghôr y Cewri. Mae’n sefyll yn agos at osodiad cerrig Bedd Arthur, sy’n cael ei hystyried yn brototeip ar gyfer Côr y Cewri ei hun ac sy’n cael ei hawlio yn ôl llên gwerin lleol fel man gorwedd terfynol y brenin Prydeinig chwedlonol
Foel Drygarn
Mae’r gaer hon o’r Oes Efydd Ddiweddar yn sefyll ym mhen eithaf Mynydd Preseli ac mae’n un o’r caerau mwyaf dramatig ei lleoliad a thrawiadol ei golwg yng Nghymru. Ar ei phen mae tair carnedd sy’n weledol am filltiroedd o gwmpas. Dangosodd ffotograffau o’r awyr gylchoedd cutiau niferus ar y copa. Chwedl gysylltiedig â’r copa yw bod craig wastad fawr, o’r enw Ffald y Brenin, yn gorchuddio celc o aur. Ar ddechrau’r daith i fyny at y gaer mae plac carreg yn coffáu Brwydr y Preseli pan enillodd pobl leol yn 1948 eu hymgyrch yn erbyn cynnig y Swyddfa Ryfel i droi Mynydd Preseli’n dir hyfforddi milwrol
Llwybr Maes Awyr Tyddewi
Llwybr tawel a hawdd iawn ei feicio. Prynwyd y rhan fwyaf o’r maes awyr gwreiddiol gan y Parc Cenedlaethol ynghanol y 1990au a chafodd ei dirlunio i ail-greu’r cynefinoedd bywyd gwyllt oedd yma unwaith. Bydd merlod a gwartheg yn pori’r rhostir gwlyb a gweirgloddiau, gan gynorthwyo gwarchod y bywyd gwyllt. Mae llwybrau troed a lonydd beicio’n rhoi mynediad i’r cyhoedd drwy’r darnau tir sy’n cael eu cynnal gan y Parc. Fe all beicwyr dibrofiad sydd eisiau cael ychydig mwy o hyder ddilyn llwybr ar y ffordd sy’n mynd ymhellach (gan gynnwys rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) o gwmpas terfyn allanol deheuol a dwyreiniol safle’r maes awyr. Ychydig iawn o draffig sydd ar y ffordd hon ac mae’n gyffredinol wastad. Mae cyfeiriad ati yng Nghyfarwyddiadau’r Llwybr
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr gwastad, tawel ac ystyriol o’r teulu ar hen faes awyr. Golygfeydd o weundir i bob cyfeiriad a bryniau creigiog tua’r gorllewin. Yn ystod y gwanwyn a’r haf byddwch yn clywed nifer o adar yn canu, gan gynnwys ehedyddion Gradd: Hawdd |
|---|---|
Pellter |
2.5 milltir (4 cilometr) |
Amser |
45 munud ynghyd â rhywfaint o amser ychwanegol os byddwch yn dilyn y llwybr atodol hwy o gwmpas terfyn allanol de-ddwyreiniol y maes awyr |
Man Cychwyn/Gorffen |
Maes Parcio ger Fachelych (1½ milltir i’r dwyrain o Dyddewi) Maes Parcio i’r de o Gaerfarchell |
Grsaf Drenau Agosaf |
Dim gorsaf drenau o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Llwybr rhydd o draffig, hawdd ac eithaf gwastad ar lwybrau concrid yn bennaf. Rhai tyllau bach a thuswau gwair ond ni ddylai’r rhain beri problem |
Codiad tir |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 20 metr |
Lluniaeth |
Dim lluniaeth ar gael |
Toiledau |
Dim toiledau cyhoeddus ar y Llwybr. Toiledau cyhoeddus agosaf yn Nhyddewi a Solfach |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Dilynwch y llwybr o’r maes parcio o gwmpas terfyn allanol yr hen faes awyr
1.0 Fymryn heibio Cylch Cerrig yr Orsedd, ewch yn syth ymlaen
1.3 Ar ddiwedd llwybr y terfyn allanol fe gyrhaeddwch adwy’n arwain at y man cychwyn arall ar ffordd y terfyn allanol. Trowch yn ôl a dilyn y llwybr yn ôl i’r cylch cerrig
1.6 Trowch i’r chwith yn union cyn y cylch cerrig a dilyn y llwybr hwn am ryw 400 llath nes gwelwch yr agoriad i’r brif redfa. Trowch i’r dde a dilyn y rhedfa’r holl ffordd yn ôl i lwybr y terfyn allanol
2.4 Trowch i’r chwith ar lwybr y terfyn allanol eto
2.5 Diwedd y llwybr
Sylwch: Os dymunwch ymestyn y Llwybr, mae modd beicio ar ffordd ddistaw ac eithaf gwastad o gwmpas terfyn allanol deheuol a dwyreiniol y maes awyr. Mae hwn yn cysylltu’r ddau fan cychwyn y cyfeiriwyd atynt yn y Ffeil Ffeithiau. Mae hefyd yn eich tywys drwy bentref bach Tre-groes a gallwch hefyd gyrraedd pentrefannau Caerfarchell a Fachelych gerllaw ar ffyrdd cyswllt o’r Llwybr
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Maes Awyr Tyddewi
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gweithgaredd cyson ym Maes Awyr Tyddewi fel canolfan RAF Amddiffyn y Glannau ar gyfer Brwydr yr Iwerydd. Roedd confois cyflenwi yn yr Iwerydd dan fygythiad cyson llongau tanfor. Yn un o wyth maes awyr yn y sir, agorwyd Tyddewi yn haf 1943. Roedd yno dair rhedfa ar gyfer hedfan sgwadronau o awyrennau bomio Fortress, Halifax a Liberator i batrolio’r môr. Yno hefyd roedd ysbyty, barics, siediau awyrennau, tŵr rheoli a gwersyll carcharorion rhyfel hyd yn oed. Daliodd awyrennau milwrol i ddefnyddio’r maes awyr tan 1960 ac, yn ddiweddarach, daeth yn ardal lanio wrth gefn. Yn dilyn atgyweirio sylweddol a phrosiect tirweddu yn y 1990au, caiff rhan o’r maes awyr ei ddosbarthu bellach fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Cylch yr Orsedd
Y casgliad cerrig ar bwys y Llwybr yw’r unig atgof o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar safle’r maes awyr yn 2002. Mae adeileddau coffaol tebyg i’w gweld ar hyd a lled Cymru, gan ddangos bod yr Eisteddfod wedi ymweld â chymuned. Mae pob adeiledd cerrig ar ffurf cylch, yn nodweddiadol yn cynnwys deuddeg maen a charreg fawr wastad, y Maen Llog, yn y canol. Mae’r meini’n fan pwysig ar gyfer defod cyhoeddi Eisteddfod yn y dyfodol a chaiff ei chynnal yn ôl traddodiad flwyddyn ac undydd cyn ei hagoriad swyddogol. Mae meini porth sy’n ffurfio rhan o’r adeiledd yn dangos sefyllfa codiad haul ar hirddydd yr haf a byrddydd y gaeaf
Llwybr Cemaes
Mae’r Llwybr yn cychwyn ac yn gorffen yn hen borthladd Trefdraeth ac yn mynd â chi drwy rannau o Farwniaeth hynafol Cemaes yng Ngogledd-ddwyrain Sir Benfro. Mae’n cynnig golygfeydd mawreddog o aberoedd Nanhyfer a’r Teifi, ffurfiadau creigiau arfordirol dramatig a golygfeydd i mewn i’r tir o gadwyn mynyddoedd y Preseli. Mae’n mynd drwy bentrefi del ac yn cysylltu nifer o safleoedd diddorol hanesyddol a chyn hanes.
Ffeil Feithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr gweddol hir gyda golygfeydd trawiadol i mewn i’r tir, dros yr arfordir a’r aber, aneddiadau hynafol, eglwysi hanesyddol, abaty adfeiliedig, a melin ddŵr weithredol Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
25 milltir (40 km) |
Amser: |
5 awr ac amser ychwanegol i gael seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Maes Parcio Carrog, Trefdraeth (Cyfeirnod Grid SN051396, Sat Nav SA42 0RW). Dilynwch yr arwydd i’r Parrog o briffordd yr A487 drwy Drefdraeth. Mae’r maes parcio ym mhen draw Ffordd Parrog ar y dde. Man cychwyn gwahanol: Maes Parcio’r Stryd Fawr, Llandudoch (Cyf. Grid SN164460, Sat Nav SA43 3ED) |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dim un o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Ffyrdd distaw yn bennaf sy’n cynnwys rhai gelltydd serth a goriwaered |
Codiad Tir: |
Cyfanswm y pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 718 metr |
Lluniaeth: |
Trefdraeth, Llandudoch, Trewyddel |
Toiledau: |
Meysydd Parcio Trefdraeth a Llandudoch, a thoiledau i gwsmeriaid yn Nhrewyddel |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr(pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Cychwyn. Trowch i'r chwith allan o’r maes parcio. Ar ôl 150 llath (y tu hwnt i gongl ar y dde) trowch i’r chwith i’r llwybr arfordirol. Defnyddir y rhan hon o’r llwybr yn aml gan feicwyr ond mewn gwirionedd mae wedi ei ddynodi’n llwybr cerdded ac felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i gerddwyr. Ar ôl bron i ½ milltir, byddwch yn mynd heibio safle’r Hen Gastell ar y dde i chi. Ewch ymlaen nes dod i giât bren lle mae’r llwybr yn ymuno â ffordd. Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd hon dros y bont gul.
1.6 Bron i filltir ar ôl y bont, a thu hwnt i fferm fawr ar y dde, trowch i’r dde i ffordd gul a gwyrwch i’r chwith ar ôl ½ milltir arall i ffordd gulach fyth.
2.9 Ym mhentref bach Gethsemane, gwyrwch i’r dde wrth y gyffordd. Ar ôl oddeutu milltir, anwybyddwch y gyffordd i’r dde a throwch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ y tu draw. Oddeutu ¼ milltir y tu hwnt i’r gyffordd hon mae lle i dynnu i mewn ar y chwith a mynediad drwy giât i safle Castell Nanhyfer. Tua 200 llath ymhellach i lawr y ffordd mae yna lwybr (ar ochr allanol tro pedol) sy’n mynd â chi i safle enwog Croes y Pererinion. Gellir gweld y groes ar wyneb y graig i’r dde oddeutu 35 llath o’r ffordd.
4.5 Cyrraedd pentref bach Nanhyfer. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac ewch ymlaen heibio’r eglwys (argymhellir ymweld â hon) ac wedyn i fyny allt eithaf serth allan o’r pentref. Ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith wrth gyffordd gyda’r arwydd y Beifil (dim ffordd drwodd). Trowch i’r chwith eto am Eglwys y Beifil ychydig o ffordd i lawr y lôn hon. Ar ôl ymweld â’r eglwys, dychwelwch ar hyd y lôn i’r briffordd a throwch i’r chwith. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am 1½ milltir ymhellach (gan fynd yn syth ymlaen wrth y groesffordd) nes i chi gyrraedd lle i dynnu i mewn ar y chwith. O’r fan hon gellwch gerdded yr ychydig o ffordd ar hyd llwybr glaswelltog i fyny i Grugiau Cemaes. Ar ôl seibiant dewisol, ewch ymlaen am 2 filltir arall drwy bentref bach Glan-rhyd (anwybyddwch unrhyw droadau i’r ochr).
10.1 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ â phrif ffordd yr A487 (gyda’r arwydd Aberteifi) a throwch bron yn syth i’r chwith i ffordd dawelach (yn dwyn yr arwydd Trewyddel). Dilynwch y ffordd fechan hon am 1½ milltir (gan anwybyddu’r groesffordd gyntaf wrth ymyl tŷ) a throwch i’r dde wrth gyffordd ar dro gan ddilyn arwydd Llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Beiciwch yr holl ffordd i lawr drwy Gwm coediog Degwel i Landudoch.
13.2 Ewch ymlaen am 20 llath y tu hwnt i gyffordd i mewn i stryd a elwir Mwtshwr ar y dde, a throwch i’r chwith yn dilyn arwydd Llwybr Beicio 82. Mae hwn yn mynd â chi ar hyd ochr yr Abaty a’r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae’r Felin ychydig o lathenni i lawr y ffordd i’r dde y tu draw i bwll y felin. Mae’r Llwybr ei hun yn gwyro i’r chwith ar ôl pwll y felin ac yn mynd â chi heibio i’r fynedfa i’r eglwys. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’, gerllaw y Swyddfa Bost a dilynwch Stryd Fawr Llandudoch heibio’r fynedfa i’r maes parcio a’r holl ffordd i fyny drwy’r pentref gan anwybyddu’r tro yn dwyn yr arwydd Traeth Poppit ar y dde. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried gwthio’ch beic i fyny’r rhan neilltuol o serth hon o’r Llwybr. Dilynwch y ffordd i’r dde drwy’r tro sydyn ar y top (yn dwyn yr arwydd Trewyddel). Mae’r graddiant serth yn fuan yn lleddfu a byddwch yn cael cipolwg ar Aber afon Teifi i’r dde i chi. Dilynwch y ffordd hon am 2 filltir arall a throwch i’r chwith gyferbyn â blwch llythyrau coch gan ddilyn arwydd am Trewyddel (anwybyddwch 2 gyffordd gynharach i’r chwith - trowch wrth y 3edd ar ôl gadael Llandudoch).
17.1 Cyrraedd pentref bychan Trewyddel. Ar eich ffordd byddwch yn mynd heibio’r fynedfa i Ganolfan Arddio Penrallt, lle mae yna gaffi a thoiled i gwsmeriaid. Dilynwch yr arwydd i Drefdraeth yn y pentref a throwch i’r dde ar yr allt wrth ymyl Capel Bethel (gyda’r arwydd Ceibwr). Mae’r ffordd yn mynd yn eithaf serth eto ar ôl Bae Ceibwr ond byr yw’r bryn hwn. Ewch yn syth ar draws wrth groesffordd a throwch i’r dde wrth gyffordd ‘T’ ychydig bach ymhellach ymlaen (gyda’r arwydd Trefdraeth). Anwybyddwch y ddwy gyffordd gyntaf i ffyrdd ar y chwith.
22.5 Trowch i’r chwith yn dilyn yr arwydd am Drefdraeth (peidiwch â mynd ymlaen ar hyd y ffordd sy’n dwyn arwydd y Traeth).
24.2 Ar ôl y bont gul, trowch i’r dde drwy giât bren a dilynwch y llwybr yn ôl i’r Parrog, Trefdraeth. Ar ddiwedd y llwybr, trowch i’r dde ac i’r dde eto i mewn i’r maes parcio.
25.0 Diwedd y Llwybr.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Trefdraeth
Tref ganoloesol fechan a phorthladd wrth lethrau isaf mynydd Carningli. Mae yna Gastell Normanaidd ac Eglwys a strydoedd hynafol a llwybrau yn arwain i lawr i Aber Nanhyfer sy’n llawn bywyd gwyllt. Arferai’r Parrog (lle mae’r llwybr yn cychwyn) fod yn borthladd adeiladu llongau a masnach pwysig am ganrifoedd lawer, lle câi nwyddau eu mewnforio yn cynnwys glo a charreg galch, a nwyddau eraill yn cynnwys gwlân, llechi a phenwaig eu hallforio. Ceir olion yr hen odynnau calch a storfa (clwb cychod erbyn hyn) o gwmpas ymyl y Parrog ar hyd waliau llechi’r cei
Yr Hen Gastell, Trefdraeth
Safle’r castell gwreiddiol o’r 12fed ganrif a lleoliad yr anheddiad cyntaf yn Nhrefdraeth. Y cyfan sy’n aros yw ambell i gefnen laswelltog a phantiau sy’n nodi’r cloddiau amddiffynnol a’r ffosydd oedd yn amgylchynu’r castell o goed. Hwn hefyd oedd safle caer gynharach o’r Oes Haearn a adeiladwyd i amddiffyn yr harbwr. Unwaith yr oedd eu grym wedi ei sefydlu, adeiladodd y Normaniaid gastell newydd o gerrig ymhellach i fyny’r bryn
Castell Nanhyfer
Gweddillion castell tomen a beili oedd ar un adeg yn gadarnle Cymreig. Nid oes llawer ohono ar ôl erbyn heddiw yn anffodus ond gellwch gael teimlad o’i safle grymus o hyd. Mae’n lle tangnefeddus hyfryd i aros a chymryd seibiant byr ar y Llwybr
Croes y Pererinion
Wedi ei lleoli ar yr hyn a gredir oedd llwybr y pererinion i Dyddewi, mae’r groes wedi ei cherfio ar gerfwedd wyneb y graig. O dan y groes ceir yr hyn sy’n ymddangos fel ogof wedi ei chau i fyny lle y tybir yn ôl traddodiad bod darn o’r ‘Groes Wir’
Nanhyfer
Pentref bychan tlws a arferai fod yn ganolfan weinyddol bwysig yn y canol oesoedd. Yn ei ganol mae eglwys Normanaidd Brynach Sant o’r 12fed ganrif a sefydlodd le o addoliad yma yn y 5ed ganrif. Mae’r eglwys a’r fynwent yn hynod oherwydd nifer o gerrig yn dwyn arysgrif Ladin ac Ogam Wyddelig, ac un o’r croesau Celtaidd mwyaf cywrain ym Mhrydain. Mae rhodfa o goed Yw, 700 mlwydd oed, yn arwain at yr eglwys, ac mae un ohonynt yn ‘gwaedu’ nodd coch yn barhaus o’i changhennau. Mae llawer o hanesion a chwedlau yn ymwneud â’r ywen waedlyd enwog hon
Eglwys Andreas Sant, y Beifil
Eglwys o ddechrau’r 9fed ganrif nad yw’n cael ei defnyddio bellach, sydd yng ngofal Cyfeillion Eglwysi heb Gyfeillion. Mae wedi cael ei hadfer yn ofalus gyda’i dodrefn gwreiddiol yn gyfan fwy neu lai, gan gynnwys seddau siâp bocs a phulpud tri llawr
Crugiau Cemaes
Mynwent grugiau o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn. Golygfeydd rhagorol o Ogledd Sir Benfro ym mhob cyfeiriad o’r copa
Llandudoch
Saif hwn, y pentref mwyaf yng Nghymru ar un adeg, mewn lleoliad hardd yn edrych allan dros yr afon Teifi gyferbyn â thref Aberteifi. Mae adfeilion yr abaty Tironaidd Benedictaidd yn edrych dros y gymuned ac yn un o atyniadau hanesyddol harddaf Sir Benfro. Mae’r eglwys yn ymyl yr abaty, fel y mae Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr y Cerbyty. Mae’r Ganolfan hon yn cynnwys dehongliad hanesyddol o’r pentref a’r abaty, ynghyd ag amgueddfa a chaffi. Gerllaw mae’r Felin sy’n un o’r melinau dŵr gweithredol olaf yng Nghymru ac yn gynhyrchu blawd traddodiadol wedi ei falu â maen
Trewyddel
Pentref hynafol o fythynnod traddodiadol wedi eu peintio ac yn nythu mewn dyffryn cysgodol. Daw ei enw Saesneg o ‘Matilda’s Grove’, gan mai Matilda oedd gwraig Arglwydd Normanaidd y Plas a sefydlodd Abaty Llandudoch ac a adeiladodd Gastell Nanhyfer. Mae ei enw Cymreig, Trewyddel, yn golygu Pentref Gwyddelig, a Lladin a Gwyddeleg (nid Cymraeg) a siaredid yma cyn i’r Normaniaid gyrraedd
Ceibwr
Mae’r gilfach fechan hon a’r ardal o amgylch yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a hwy sy’n gofalu amdani. Mae’n adnabyddus yn bennaf am ei bywyd gwyllt morol cyfoethog a’r plygiadau trawiadol yn haenau’r graig yn y clogwyni. Yn hongian dros ei hochr gogledd-ddwyreiniol mae caer ben clogwyn o’r Oes Haearn, ac oddeutu ½ milltir ar hyd llwybr yr arfordir yn y cyfeiriad arall mae ogof anferth wedi cwympo a adwaenir fel Crochan y Gwrachod
Llwybr Dewisland
Llwybr pellter hir golygfaol sy’n archwilio ardal arfordirol gogledd orllewin Sir Benfro gan ymweld â Thyddewi, sef y ddinas leiaf ym Mhrydain, ar y ffordd. Mae’n cychwyn ac yn gorffen ar lan y môr yn Wdig wrth ymyl porthladd fferi Môr Iwerddon. Dyma hefyd fan cychwyn/gorffen Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n rhedeg am 432 milltir i Greenwich yn Llundain ac oddi yno. Ar Lwybr Dewisland, byddwch yn mwynhau golygfeydd mewndirol ac arfordirol syfrdanol, nifer o bentrefi tlws, maes awyr segur o’r Ail Ryfel Byd, melinau gwlân, gwarchodfeydd natur a nifer o gilfachau arfordirol deniadol, safleoedd hanesyddol a golygfannau. Mae’r llwybr yn cysylltu’n uniongyrchol â Llwybr Cefnwlad y Preseli, y Llwybr Aneddiadau, Llwybr yr Ymosodiad Olaf, Llwybr Gorllewin y Ddinas a Llwybr Maes Awyr Tyddewi
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Dewch i ddarganfod harddwch mewndirol ac arfordirol syfrdanol gogledd orllewin Sir Benfro, a elwid gynt yn Dewisland ac sy’n gartref i’r ddinas leiaf ym Mhrydain. Bydd y daith hirach hon yn mynd â chi drwy ardal o ddiddordeb golygfaol a diwylliannol, sydd â’i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i’r cyfnod Cristnogol a Cheltaidd cynnar a thu hwnt Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
50 milltir (80 cilometr) |
Amser: |
Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr mewn mannau penodol o ddiddordeb |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol |
Grsaf Drenau Agosaf: |
Abergwaun ac Wdig, 200 llath. Mae llwybr beiciau yn arwain i lawr at ddechrau’r llwybr |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar ffyrdd gwledig tawel gyda rhannau byr ar ffordd yr A487 yn Solfach a Thyddewi. Mae graddiannau’n esmwyth yn gyffredinol ond yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig ger dechrau’r llwybr ac yn arbennig mewn lleoliadau lle mae’r llwybr yn mynd trwy gymunedau bach arfordirol. Ni ddylai unrhyw un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sydd wedi arfer â beicio. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gwthio’ch beic i fyny rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddwch chi’n eu cael yn anodd, a dylech gymryd gofal arbennig ar unrhyw rannau serth tuag i lawr. Mewn gwirionedd, ni fydd dod oddi ar eich beic ar fryniau serth yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith a bydd yn rhoi rhywfaint o saib o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 905 metr |
Lluniaeth: |
Wdig, Solfach, Felinganol, Tyddewi, Porthstinian, Porth Mawr, Porth-gain, Tre-fin, Tre-gwynt (ar gael yn dymhorol yn unig mewn rhai mannau) |
Toiledau: |
Wdig, Solfach, Tyddewi, Porth Mawr, Porth-gain, Abercastell, a rhai cyfleusterau i gwsmeriaid ar hyd y llwybr |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Ymunwch â llwybr y promenâd o flaen y maes parcio a throwch i’r dde. Mae’r Llwybr yn dilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4) i ddechrau, felly bydd yr arwyddion perthnasol yn helpu gyda chyfarwyddiadau. Ar ddiwedd glan y môr, dilynwch y llwybr beicio i fyny’r bryn, croeswch y briffordd ac ewch i fyny trwy ardal goediog a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd â NCN47. Ewch yn syth ymlaen ar hyd NCN4
1.3 Trowch i’r dde o dan bont ac wedyn i’r chwith ar unwaith, i lwybr beicio gweddol serth arall. Ar ben y bryn, mae’r llwybr yn rhedeg ochr yn ochr â phriffordd cyn cysylltu â ffordd ochr. Croeswch y ffordd ochr hon (gan adael NCN4), yna croeswch y briffordd a pharhewch i’r dde ar hyd y llwybr
3.0 Ym mhentref Scleddau, croeswch y briffordd eto a pharhewch i’r chwith am 30 llath cyn troi i’r dde i ffordd fach wrth ochr The Gate Inn. Ar ôl bron i 1/2 milltir, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen ar y ffordd hon o dan bont reilffordd ac i fyny’r bryn. Trowch i’r chwith ar yr ail groesffordd 11/2 milltir y tu hwnt i’r bont reilffordd, h.y. y gyffordd gyferbyn â fferm. Ar ôl mynd trwy bentrefan Llangloffan gyda chapel ar y chwith, ewch ymlaen i lawr y bryn a thros bont gul Llangloffan. Ar eich chwith, mae un o’r mynedfeydd i gerddwyr i Warchodfa Natur Corsydd Llangloffan. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ac i fyny’r bryn i Gasmorys
6.9 Ewch yn syth ymlaen ar groesffordd Casmorys gan ddilyn arwydd Croes Cas-lai. Ar ôl gadael y pentref, anwybyddwch y cyffyrdd ar y naill ochr a’r llall wrth Fferm a Bythynnod Penfeidr. Ewch ymlaen i groesffordd a throwch i’r dde. Dilynwch y ffordd hon ac anwybyddwch gyffordd i’r chwith a chyffordd i’r dde ychydig ymhellach ymlaen. Dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith wrth yr ail gyffordd hon ac ewch ymlaen i gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i fwthyn bach.
10.1 Cadwch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ a dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r dde ar ôl 100 llath. Ewch ymlaen am 1/2 milltir ac wedyn trowch i’r dde (gan ddilyn arwydd Solfach). Ewch ymlaen yn syth ar y groesffordd nesaf (gan ddilyn arwydd Solfach unwaith eto) a pharhewch am 2.7 milltir gan anwybyddu pob troad ochr. Trowch i’r chwith 250 llath y tu hwnt i Barc Birtwick (gan ddilyn arwydd Solfach unwaith eto). Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd nesaf
15.2 Wrth y gyffordd ‘T’ â phriffordd yr A487, trowch i’r dde i gyfeiriad Tyddewi. Beiciwch yn ofalus i lawr y bryn eithaf cul a serth i mewn i bentref Solfach, dros y bont ac ar hyd y brif stryd i’r maes parcio ar y chwith. Ar ôl saib os dymunwch er mwyn crwydro’r harbwr, trowch i’r dde allan o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd y brif stryd. Trowch i’r chwith cyn y bont (gan ddilyn arwydd Felinganol). Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am filltir hyd nes y cyrhaeddwch y pentrefan a Melin Wlân Solfach ar y dde
17.1 Ar ôl saib os dymunwch, ewch ymlaen ar yr un ffordd i fyny’r bryn allan o’r pentrefan. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf ac ar ôl tua 1/3 milltir byddwch yn gweld man parcio wrth ochr y ffordd ar y dde. Ewch drwy’r gât gyfagos a dilynwch y llwybr o amgylch perimedr y maes awyr segur gan gadw’r cylch meini ar eich ochr chwith. Trowch i’r dde pan fydd y llwybr yn ailymuno â’r ffordd. Anwybyddwch y troad cyntaf i’r chwith (i Fachelych) a throwch i’r chwith wrth yr ail gyffordd a pharhewch hyd nes y cyrhaeddwch gyffordd ‘T’ yn Nhyddewi
20.9 Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a beiciwch yn ofalus ar hyd ffordd yr A487. Ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan fach ac i lawr i’r ddinas. Byddwch yn pasio Oriel y Parc ar y chwith. Cadwch i’r chwith ym mhen isaf Sgwâr y Groes gan ddilyn arwydd Porth Clais. Ewch ymlaen allan o ganol y ddinas gan basio cyffordd â ffordd ochr ar y chwith sy’n arwain at Gapel Non (gallwch ddilyn taith gron 1/2 milltir os dymunwch, i weld man geni Dewi Sant, nawddsant Cymru). Ganllath y tu hwnt i gyffordd Capel Non, trowch i’r dde i lawr yr allt ac wedyn i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ (mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llys yr Esgob i lawr lôn fer ar y dde). Ewch ymlaen i lawr dros y bont ac i fyny’r bryn ar yr ochr arall am 1/4 milltir
21.9 Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Treginis. Ar y groesffordd, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Porthstinian, ac wrth y gyffordd ‘T’ nesaf, trowch i’r chwith ac ewch ymlaen i Borthstinian
23.9 Trowch yn ôl ym Mhorthstinian ac ewch yn ôl ar hyd yr un ffordd. Ar ôl pasio dwy gyffordd ar y dde, trowch i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwydd Traeth Mawr. Ar ôl tua 1/4 milltir, dilynwch dro siarp i’r chwith. Ewch ymlaen ar y ffordd hon tuag at Draeth Mawr, ac wrth y gyffordd ‘T’ nesaf dilynwch yr arwydd i’r chwith. Wedyn, ar ôl bron i 1/4 milltir, trowch i’r dde oddi ar ffordd Traeth Mawr gan ddilyn arwydd yr Hostel Ieuenctid (gellir gwneud taith 1/2 milltir i lawr i Draeth Mawr os dymunwch, i weld golygfeydd neu ar gyfer toiledau/lluniaeth)
26.7 Ar ôl troi i’r ffordd ochr gan ddilyn arwydd yr Hostel Ieuenctid, anwybyddwch arwydd nesaf yr Hostel Ieuenctid ac ewch ymlaen ar hyd yr un ffordd hyd nes i chi gyrraedd cyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith, ac i’r chwith eto wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan anwybyddu cyffyrdd ochr eraill i’r chwith. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am dros 4 milltir hyd nes i chi gyrraedd pentrefan Llanrhian
32.9 Yn Llanrhian, trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Porth-gain. Ym Mhorth-gain, cadwch i’r chwith wrth y ciosg ffôn coch, gan fynd i lawr i’r harbwr. Ewch mewn cylch hyd nes i chi basio’r ciosg ffôn unwaith eto a dychwelwch ar hyd yr un ffordd i fyny at groesffordd Llanrhian. Trowch i’r chwith
36.0 Ar waelod y bryn byddwch yn pasio’r llwybr byr i lawr i Aberfelin ar eich chwith. Ewch ymlaen i fyny’r bryn i bentref Tre-fin. Cadwch i’r chwith ym mhen draw’r pentref gan ddilyn arwydd Abercastell. Tua 1/3 milltir y tu hwnt i’r pentref, mae lôn ar y chwith sy’n arwain at The Longhouse. Os dewiswch, bydd gwyriad byr o’r llwybr (500 llath) yn mynd â chi at gromlech Carreg Samson mewn cae i’r dde o fuarth y fferm. Bydd angen i chi gerdded pellter byr ar hyd llwybr troed cyhoeddus o ddiwedd tramwyfa’r fferm i gyrraedd Carreg Samson ei hun. Ar ôl dychwelyd i’r llwybr, ewch ymlaen i lawr y ffordd i bentref glan môr Abercastell
37.4 Ar waelod y bryn yn Abercastell, ceir mynediad i’r harbwr ar ffordd bengaead 100 llath o hyd ar y chwith. Wedyn, ewch ymlaen i fyny’r bryn a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd croesffordd. Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Abermawr. Ar ôl tua milltir ac ar waelod bryn arall, fe welwch lwybr sy’n arwain i’r chwith ar ochr allanol tro ger rhai bythynnod. (Os bydd amser yn caniatáu, gellir gwneud gwyriad byr ar hyd y llwybr hwn ar droed trwy Goedwig Pen-yr-allt i draeth Abermawr – pellter o 1/2 milltir). Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, heibio’r bythynnod ac i fyny’r bryn i gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith
41.1 Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ac i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwyddion Melin Wlân Tregwynt. Dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith ychydig y tu hwnt i’r felin a throwch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac i fyny’r bryn
43.5 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac yn syth i’r chwith eto gan ddilyn arwydd Pwll Deri a’r Hostel Ieuenctid. Yn dilyn saib fer ym Mhwll Deri, trowch yn ôl a dilynwch y ffordd yn ôl i’r gyffordd gyntaf ar y chwith wrth ochr bwthyn. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd hon, ac wedyn i’r chwith eto ger y bwthyn nesaf. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am ychydig dros 11/2 milltir gan anwybyddu’r troad i’r chwith i Ben-caer
46.6 Trowch i’r dde wrth y gyffordd â ffordd Rhos-y-caerau. Anwybyddwch y gyffordd nesaf ar y dde ac ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith ac wedyn i’r dde wrth y gyffordd nesaf
49.2 Ewch yn syth ymlaen ar draws y briffordd i lôn ag arwydd Ivybridge. Ar ôl mynd o dan yr hen bont, ymunwch â llwybr beicio ar y chwith a dilynwch hwn yr holl ffordd i’r llwybr glan môr yn Wdig gan gymryd gofal wrth groesi priffordd yr A40. Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr yn ôl ar hyd y promenâd
50.0 Gorffennwch ym Maes Parcio’r Parrog
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Wdig
Bu gynt yn bentref pysgota bach, ond bellach mae’n gartref i derfynfa fferi Môr Iwerddon ac arddangosfa bywyd gwyllt morol Ymddiriedolaeth y Môr yn Ocean Lab wrth ochr y llwybr. Traeth Wdig oedd man ymgynnull llu ymosod o Ffrainc cyn iddo gael ei drechu ac felly ildio ym 1797
Gwarchodfa Natur Corsydd Llangloffan
Ceir llwybrau estyll a phaneli gwybodaeth ar y safle 50 erw hwn sy’n un o’r mignenni dyffryn mwyaf sydd wedi goroesi yng Nghymru, ac mae’n gynefin prin i lawer o rywogaethau a geir yma yn Sir Benfro yn unig. Mae ar gau weithiau am resymau ecolegol
Solfach
Pentref pysgota bach hyfryd sydd â harbwr trawiadol a llu o siopau crefftau, orielau a thai bwyta diddorol
Felinganol
Clwstwr bach o adeiladau tlws wrth ymyl Afon Solfach, gan gynnwys y felin wlân weithredol hynaf yn Sir Benfro
Maes Awyr Tyddewi
Maes awyr segur o’r Ail Ryfel Byd a ddefnyddiwyd fel Canolfan Rheoli Arfordirol y Llu Awyr Brenhinol yn ystod Brwydr yr Iwerydd. Bellach, mae wedi’i adfer a’i dirlunio fel cynefin bywyd gwyllt
Tyddewi
Y ddinas leiaf ym Mhrydain, gydag Eglwys Gadeiriol, Llys yr Esgob a safleoedd treftadaeth Gristnogol a Cheltaidd cynnar eraill gerllaw. Mae canol hanesyddol y ddinas yn llawn orielau, siopau anrhegion a chaffis. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld ag oriel tirwedd a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc wrth i chi ddod i mewn i’r ddinas
Porthstinian
Lleoliad trawiadol sydd â dwy orsaf bad achub ac adfeilion capel canoloesol yn nodi man claddu honedig Sant Stinian o’r 6ed ganrif (ar dir preifat)
Traeth Mawr
Traeth eang o dywod mân gyda brigiad folcanig mawreddog Carn Llidi yn codi uwchlaw iddo. Dywedir i Sant Padrig hwylio o Draeth Mawr i Iwerddon yn y 5ed ganrif ar ôl cael gweledigaeth o droi Iwerddon at Gristnogaeth
Porth-gain
Pentref bach poblogaidd â harbwr. Bu gynt yn borthladd diwydiannol prysur yn allforio llechi, brics a cherrig ffyrdd
Aberfelin
Cildraeth bach garw lle mae adfeilion melin rawn
Carreg Samson
Cromlech Neolithig sy’n 5,000 mlwydd oed. Saif mewn lleoliad godidog yn edrych dros y bae
Abercastell
Pentref bach tlws â thraeth, wedi’i leoli mewn cildraeth cysgodol. Yr harbwr oedd safle glanio’r dyn cyntaf i hwylio dros Fôr Iwerydd ar ei ben ei hun (o’r gorllewin i’r dwyrain) ym 1876
Pen-yr-allt
Gwyriad byr hyfryd ar droed trwy goedwigoedd yn llawn clychau’r gog hudolus i Draeth Abermawr, sef safle arfaethedig porthladd trawsiwerydd a therfynfa reilffordd Brunel, ond ni wireddwyd y cynlluniau
Melin Wlân Tregwynt
Melin weithredol ddiddorol â siop a chaffi
Pwll Deri
Lleoliad swynol ar glogwyn, â golygfeydd gwych ar hyd arfordir Dewisland i lawr i Dyddewi
Llwybr Cefnwlad y Preseli
Dyma lwybr pellter hir diddorol o amgylch ardal bryniau’r Preseli yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’n cychwyn ac yn gorffen ar lan y môr yn Wdig wrth ymyl mynedfa porthladd fferi Môr Iwerddon. Dyma hefyd ddechrau/diwedd Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4). Mae’r llwybr yn cysylltu â NCN47 a NCN82, a Llwybr Dewisland, y Llwybr Aneddiadau, Llwybr yr Ymosodiad Olaf, Llwybr Meini Preseli a Llwybr Crymych. Mae’n dilyn cwrs Afon Gwaun i fyny trwy Gwm Gwaun ac ymlaen trwy gwm Afon Nyfer cyn dringo i fyny ac o amgylch godre dwyreiniol a deheuol bryniau’r Preseli. Heblaw am y golygfeydd gwych, mae cymaint i’w weld wrth i chi feicio ar hyd y llwybr hwn, gan gynnwys nifer o safleoedd hanesyddol, cymunedau anghysbell, a chymysgedd o dirweddau cyferbyniol o ddyffrynnoedd coediog hynafol i fynyddoedd a rhostiroedd
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr pellter hirach golygfaol drwy dirweddau hudolus godreon bryniau’r Preseli. Byddwch yn ymweld â phentrefi anghysbell, coetiroedd hynafol, rhostiroedd a nifer o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
51 milltir (81 cilometr) |
Amser: |
Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol |
Grsaf Drenau Agosaf: |
Abergwaun ac Wdig, 200 llath. Mae llwybr beiciau yn arwain i lawr at ddechrau’r llwybr |
Tirwedd: |
Yn bennaf ar ffyrdd gwledig tawel ond gyda rhan fer iawn ar hyd y briffordd trwy Abergwaun (terfyn cyflymder 20 mya) ger y man cychwyn a rhan 31/2 milltir o hyd (i lawr allt yn gyffredinol) ar hyd ffordd dawelach yr A487 wrth nesáu at Wdig ar y diwedd. Mae’r graddiannau yn weddol fas ar y cyfan ond maent yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig ger dechrau’r llwybr, wrth nesáu at Bentre Ifan, ac mewn lleoliadau lle mae’r llwybr yn codi allan o rai o’r cymoedd. Ni ddylai unrhyw un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sydd wedi arfer â beicio, ond mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gwthio’ch beic i fyny rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddwch chi’n eu cael yn anodd. Mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith a bydd yn rhoi rhywfaint o saib o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 1215 metr |
Lluniaeth: |
Wdig, Abergwaun a Maenclochog |
Toiledau: |
Wdig, Abergwaun, Maenclochog, a chyfleusterau i gwsmeriaid ar hyd y llwybr (mewn tafarnau yn bennaf) |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Ymunwch â llwybr y promenâd o flaen y maes parcio a throwch i’r dde gan ddilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4). Ar ddiwedd glan y môr, dilynwch y llwybr beicio i fyny’r bryn, croeswch y briffordd a pharhewch ar y llwybr beicio i fyny trwy ardal goediog a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd â NCN47. Trowch i’r chwith i NCN4 a pharhewch ar y llwybr i fyny’r bryn
1.2 Lle mae’r llwybr yn ymuno â ffordd, trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd hon am bron i 300 llath. Wrth y gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i orsaf dân, trowch i’r dde. Cymerwch ofal ar y rhan nesaf hon gan ei bod yn briffordd, er bod terfyn cyflymder o 20 mya ar waith. Ar ôl 1/4 milltir, trowch i’r chwith ar y gylchfan ar Sgwâr Abergwaun. Trowch i’r dde ychydig ar ôl yr eglwys ac i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwyddion NCN47. Dilynwch y ffordd hon allan o’r dref gan anwybyddu unrhyw gyffyrdd â ffyrdd ochr
3.8 Ewch ymlaen trwy bentref bach Llanychaer ac ar ôl 1/2 milltir dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith. Ychydig gannoedd o lathenni ar ôl y tro hwn, edrychwch am yr hen ffermdy (Garn) ar y dde sydd ag un o’r ‘simneiau Ffleminaidd’ mewn cyflwr da gorau yng Nghymru. Chwarter milltir ymhellach ymlaen, trowch i’r chwith i ffordd ochr ag arwydd NCN82 a Chwm Gwaun (Gwaun Valley). Dilynwch y ffordd i lawr i’r cwm, dros bont gul, ac wedyn ar hyd llawr y cwm am oddeutu 5 milltir, gan godi allan o’r cwm unwaith eto yn y pen pellaf
10.3 Ym mhentrefan bach iawn Cilgwyn, trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Trefdraeth. Byddwch chi’n mynd heibio Canolfan Ymwelwyr Bragdy Bluestone ar eich ochr chwith. Ar ôl 250 llath, trowch i’r dde i ffwrdd o NCN82 gan ddilyn arwydd Nanhyfer. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am dros 11/2 milltir gan anwybyddu unrhyw droadau ochr
12.1 Ar y groesffordd ag arwyddion, trowch i’r dde ac i’r dde eto ar ôl 11/4 milltir gan ddilyn arwyddion y Siambr Gladdu. Ewch ymlaen i fyny’r bryn eithaf serth am bron i 3/4 milltir ac mae Siambr Gladdu Pentre Ifan ar hyd llwybr byr i’r dde. Mae standiau beiciau ar gael wrth ochr y ffordd. Ar ôl ymweld os dymunwch, ewch ymlaen ar y ffordd am bron i filltir
14.9 Trowch i’r chwith ar y groesffordd (ar ôl mynd heibio hen ysgol ar y dde). Ar ôl bron i 1/2 milltir, ewch ymlaen heibio arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Llydan’. Wrth i chi ddisgyn yn serth i lawr y ffordd droellog i mewn i gwm, byddwch yn gweld brigiad creigiog Craig Rhos-y-felin yn union o’ch blaen. Mae’r ffordd yn disgyn i ryd – defnyddiwch y bont droed ar y dde i osgoi gwlychu. Gellir cael mynediad i Graig Rhos-y-felin ar lwybr troed ar y dde ychydig cyn y rhyd. Ar ben y bryn (ar ôl y rhyd) trowch i’r chwith ac ewch ymlaen yn ofalus ar hyd y briffordd am 1/4 milltir
16.5 Ym mhentrefan bach Ffynnongroes, trowch i’r dde ar y groesffordd. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am ychydig dros 3 milltir gan anwybyddu pob troad ffordd ochr
19.7 Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac i’r dde eto ar ôl 200 llath. Bydd Foel Drygarn â’i fryngaerau i’w weld yn glir ar y dde o’ch blaen. Ar ôl 11/4 milltir arall trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’. Mae dau lwybr mynediad ar gyfer cerdded i fyny i Foel Drygarn ar y dde tua 300 llath y tu hwnt i’r gyffordd hon. Ar ôl 2 filltir arall byddwch yn mynd trwy bentref Mynachlog-ddu. Ym mhen draw’r pentref, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Rosebush. Ar ôl ychydig dros 1/4 milltir, edrychwch am Garreg Waldo ar y chwith a Heneb y Meini Gleision ar y dde. Ewch ymlaen dros grid gwartheg a dilynwch dro siarp i’r chwith. Anwybyddwch y gyffordd gyntaf i’r chwith tua 1/2 milltir y tu hwnt i’r tro hwn ac ewch ymlaen wrth y gyffordd nesaf i’r chwith
26.8 Trowch i’r chwith i’r ffordd ochr a dilynwch y ffordd syth hon am 1/2 milltir. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac ymlaen i bentref Maenclochog. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ yn y pentref wrth ymyl y caffi (mae toiledau cyhoeddus yn y maes parcio, 70 llath i’r chwith). Ewch ymlaen allan o’r pentref a chymryd y troad cyntaf i’r chwith gan ddilyn arwydd Tufton. Yn fuan, mae’r ffordd yn mynd dros hen bont a heibio fferm ar y chwith. Trowch i’r chwith yn syth ar ôl y fferm hon
30.3 Ar y groesffordd, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Llys-y-frân. Trowch i’r dde wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwydd Tufton (mae arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Hir’ yno hefyd). Ar ôl disgyn i gwm a chodi allan ohono, anwybyddwch y gyffordd ffordd ochr ar y dde. Ewch ymlaen i mewn i gwm arall ac allan ohono a byddwch yn cyrraedd croesffordd. Ewch yn syth ymlaen dros y briffordd gan ddilyn arwydd Treletert. Lai na 1/2 milltir ymhellach ymlaen, trowch i’r dde ar y groesffordd gan ddilyn arwydd Cas-fuwch
35.2 Yng Nghas-fuwch, ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ar hyd y ffordd gydag arwydd uchdwr isel. Mae’r 21/2 milltir nesaf hon o’r llwybr yn mynd trwy gymuned anghysbell Morfil ac mae’n bosibl y bydd gât ar draws y ffordd y bydd angen ei hagor. Peidiwch ag anghofio ei chau eto ar ôl mynd heibio. Cyn mynd i lawr i’r cwm, mae’n bosibl y byddwch yn gweld llwybr hen reilffordd segur Gogledd Sir Benfro ac Abergwaun ar ochr arall llawr y cwm. Bu’r rhan hon yn weithredol rhwng 1899 a 1952 ac mae iddi hanes diddorol iawn. Gobeithir y gellir ei hadfer fel llwybr cerdded a beicio yn y dyfodol, o bosibl fel gwelliant i NCN47
37.7 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ a pharhewch ar hyd y ffordd hon am bron i 2 filltir hyd nes y dewch i bentref Cas-mael. Trowch i’r dde ychydig ar ôl y Drovers Arms gan ddilyn arwydd Trecŵn. Bydd y ffordd hon yn mynd â chi heibio darn o rostir gyda golygfa bell o fryniau’r Preseli i’r dde. Ar ôl tua 2 filltir, dilynwch y ffordd o gwmpas y tro i’r chwith (anwybyddwch y gyffordd i’r dde) ac ar ôl tua 1/4 milltir arall, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Wedyn, ar ôl 50 llath trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Treletert ac ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd nesaf ar hyd y ffordd gydag arwydd uchdwr isel
44.4 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ i briffordd yr A40 ac wedyn trowch i’r dde ar ôl 50 llath gan ddilyn arwydd Mathri. Cymerwch ofal mawr oherwydd mae’r briffordd hon yn gallu bod yn eithaf prysur ar brydiau. Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno dod oddi ar eich beic a’i wthio ar hyd rhan o ymyl y briffordd a chroesi drosodd yn uniongyrchol i’r ffordd ochr pan fydd y briffordd yn glir. Ewch ymlaen ar y ffordd ochr am ychydig dros 1/4 milltir a throwch i’r dde ar y groesffordd. Ar ôl ychydig dros 11/2 milltir byddwch yn pasio Eglwys Trefwrdan ar eich ochr chwith
46.8 Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd gan ddilyn arwydd Wdig. Ar ben y bryn, ac yn union wrth ymyl y gwrych ar eich ochr chwith, mae’n bosibl y gallwch weld golygfa o glostir mawr â chloddiau o’i amgylch o’r Oes Haearn o’r enw Castell Hendre-wen. Ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’ a throwch i’r dde i ffordd yr A487. Dilynwch y ffordd hon (yn ofalus) am ychydig dros 2 filltir hyd nes y dewch i Wdig
49.8 Ar ôl pasio arwydd enw lle ‘Wdig’, trowch i’r dde i lôn ag arwydd Ivybridge. Ar ôl mynd o dan yr hen bont, ymunwch â llwybr beicio ar y chwith a dilynwch hwn yr holl ffordd i’r llwybr glan môr yn Wdig gan fod yn ofalus wrth groesi priffordd yr A40. Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr yn ôl ar hyd y promenâd
50.7 Gorffennwch ym Maes Parcio’r Parrog
Pethau o ddidordeb ar hyd y Ffordd
Mynydd Preseli
Nifer o fryniau (neu fynyddoedd) wedi’u ffurfio o greigiau igneaidd folcanig caled iawn. Y brigiadau uchel yn y pen dwyreiniol yw ffynhonnell cerrig gleision Côr y Cewri. Oherwydd eu lleoliad strategol rhwng Iwerddon a Phrydain, daeth bryniau’r Preseli i’r amlwg fel un o ganolfannau mawr y diwylliant Celtaidd. Mae’r bryniau’n frith o garneddau a meini hirion. Mae llawer o hen straeon y Mabinogi wedi’u canoli yma ac mae straeon am y Brenin Arthur yn gyffredin
Wdig
Bu gynt yn bentref pysgota bach, ond bellach mae’n gartref i derfynfa fferi Môr Iwerddon ac arddangosfa bywyd gwyllt morol Ymddiriedolaeth y Môr yn Ocean Lab wrth ochr y llwybr. Traeth Wdig oedd man ymgynnull llu ymosod o Ffrainc cyn iddo ildio ym 1797
Abergwaun
Tref farchnad gyda harbwr bach hardd gerllaw. Wrth ymyl y llwybr yn Sgwâr Abergwaun mae Neuadd y Dref lle gallwch weld Tapestri enwog yr Ymosodiad Olaf, sy’n 100 troedfedd o hyd
Cwm Gwaun
Cwm dwfn â choedwigoedd ffawydd ar hyd ei ochrau. Ffurfiwyd y cwm yn ystod oes yr iâ, ac weithiau cyfeirir ato fel y cwm cudd. Yn sicr, mae’n gam yn ôl mewn amser – mae pobl leol yn dal i gadw at galendr Iŵl fel yr oedd cyn 1752, ac maen nhw’n dathlu’r Flwyddyn Newydd yng nghanol mis Ionawr
Pentre Ifan
Heb os, dyma’r safle megalithig mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda lleoliad sy’n wirioneddol drawiadol. Mae’r siambr gladdu/cromlech ysblennydd yn dyddio’n ôl i tua 3500 CC
Craig Rhos-y-felin
Brigiad creigiog nodedig o fewn dyffryn dwfn diarffordd. Tarddodd o leiaf un o gerrig gleision enwog Côr y Cewri o’r safle hwn
Foel Drygarn
Bryngaer o’r Oes Efydd hwyr (â thair carnedd ar y brig) a saif ym mhen draw bryniau’r Preseli. Mae’n un o’r bryngaerau mwyaf dramatig o ran lleoliad a mwyaf trawiadol yng Nghymru
Mynachlog-ddu
Cymuned fach lle, yn y 19eg ganrif, y cychwynnodd y pentrefwyr wrthryfel mewn gwrthwynebiad i’r Deddfau Tyrpeg – dyma oedd dechrau Terfysg Rebeca, a ymledodd yn ddiweddarach o amgylch llawer o’r wlad. Ychydig ar ôl gadael y pentref, byddwch yn mynd heibio Heneb y Meini Gleision a Charreg Goffa Waldo er cof am un o feirdd pwysicaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif
Maenclochog
Pentref sydd wedi’i enwi ar ôl creigiau yn yr ardal sydd â nodwedd gerddorol ac sy’n gallu canu fel cloch neu gong wrth gael eu taro. Defnyddiwyd twnnel rheilffordd segur ychydig i’r de o’r pentref fel safle profi bom sboncio Barnes Wallis yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Morfil
Man unig â gwasgariad o ffermydd – cyfeirir ato weithiau fel ‘y pentref coll’. Mae’n nodedig yn bennaf oherwydd straeon am bobl yn gweld brwydrau rhithiol yn yr awyr uwchben Mynydd Morfil, sef y bryn sydd o’ch blaen wrth i chi feicio i lawr i’r cwm
Cas-mael
Pentref anghysbell sydd â chysylltiad cryf â hen ddyddiau’r porthmyn, y cyfeiriwyd atynt ar un adeg fel ‘cowbois’ Gorllewin Gwyllt Cymru. Defnyddiwyd llwybrau’r porthmyn i symud gwartheg ar draws y wlad gan gadw’n glir rhag y nifer cynyddol o ffyrdd tyrpeg er mwyn osgoi talu tollau
Eglwys Trefwrdan
Eglwys fach wedi’i chysegru i Sant Cwrda, sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Mae gan yr eglwys gysylltiad â nifer o gymeriadau hanesyddol, gan gynnwys David Lloyd George (Prif Weinidog 1916 – 1922). Roedd ei deulu’n ffermio yma ac mae ei dad, ei neiniau, ei deidiau a pherthnasau eraill wedi’u claddu ym mynwent yr eglwys
Llwybr Arfordir Treftadaeth
Mae Arfordir Treftadaeth De Sir Benfro’n ymestyn o Ynys Bŷr yn y gorllewin i Angle Bay. Er nad oes modd mynd ar rywfaint o’r morlin hyn ar gefn beic oherwydd y dringfeydd serth, y clogwyni a maes milwrol mawr, ymwelir â chymaint â phosibl ohono ar y llwybr. Mae nifer o ddolenni byrion wedi’u cynnwys i ddarparu mynediad uniongyrchol i’r arfordir neu i leoliadau gyda golygfeydd helaeth o’r morlin. Mae’r dirwedd yn syfrdanol gyda chlogwyni garw, penrhynion, baeau tywodlyd euraidd, twyni a rhostir wedi’i ffurfio gan y gwynt. Mae’r llwybr yn dechrau ac yn gorffen ym Mhenfro, yn agos at gaer Normanaidd, sef yr unig gastell yng Nghymru sydd heb fod yn destun ymosodiad erioed ac sy’n fan geni i Harri Tudur
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Dyma lwybr pellter hirach llawn golygfeydd trwy gornel de-orllewinol gwyllt, garw a gwyntog Sir Benfro. Ewch i weld traethau, cildraethau, pentrefi, safleoedd hanesyddol a golygfannau niferus lle gallwch stopio ac edmygu rhannau o’r morlin amrywiol ac ysblennydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
51 milltir (81 cilometr) |
Amser: |
Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Maes Parcio West Street (am ddim), Penfro (Cyfeirnod Grid SM982013, Offer Llywio â Lloeren SA71 4ET). Trowch i mewn i West Street o Common Road, Penfro (y gyffordd gerllaw’r Groesfan Pelican). Ar ôl 100 llath, trowch i’r dde dan rwystr uchder o 6’6” i mewn i’r maes parcio. Tynnwch feiciau sydd wedi’u gosod ar y to i lawr cyn mynd i mewn neu defnyddiwch y maes parcio gerllaw (mae ffi i’w thalu ar gyfer hwn) |
Tirwedd: |
Ar ffyrdd bach gwledig gan mwyaf ond gyda rhannau byr ar hyd ffyrdd Dosbarth II a rhan fer iawn ar hyd ffordd brysurach yr A4139. Mae’r dringfeydd yn gymharol isel ar gyfer y rhan helaeth ond yn fwy serth ychydig ar ôl gadael Penfro ac mewn mannau lle mae’r llwybr yn dringo allan o rai o’r cymoedd a’r ardaloedd arfordirol. Ni ddylai’r un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sy’n arfer beicio ond efallai yr hoffech ddod oddi ar eich beic a’i wthio i fyny ar hyd rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddant yn anodd i chi. Mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at barhad y daith. Mae’n cynnig egwyl fer o’r beicio ac yn rhoi cyfle ichi amsugno’r golygfeydd ac edmygu’r cloddiau deniadol |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 795 metr |
Lluniaeth: |
Penfro, Maenorbŷr, Freshwater East, Cei Ystangbwll, Bosherston, De Aberllydan (ciosg), Freshwater West (ciosg) a Bae Gorllewin Angle (rhai ohonynt ar agor yn dymhorol yn unig) |
Toiledau: |
Penfro, Traeth Maenorbŷr, Freshwater East, Cei Ystangbwll, Bosherston, De Aberllydan, Freshwater West a Bae Gorllewin Angle |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Wrth y fynedfa i gerbydau i mewn i’r maes parcio, dilynwch y llwybr beicio i ochr chwith y rhwystr uchder, croeswch y ffordd ac ewch ymlaen ar y lôn nesaf at y parc. Can llath ar ôl cyffordd Thomas Street, dilynwch y llwybr i gyfeiriad y chwith (gydag NCN4 ar yr arwydd) cyn i’r lôn ymuno â’r brif ffordd. Defnyddiwch y groesfan dros y brif ffordd a dilynwch y llwybr arwyneb coch rhwng y ffordd fach nesaf ato a’r parc am ryw 350 llath. Byddwch yn mynd heibio i ran o hen wal y dref ar yr ochr chwith. Trowch i’r chwith lle mae’r llwybr yn rhannu, ewch drwy’r rhwystrau ac yna trowch i’r dde i’r ffordd fach i fyny’r bryn. Ychydig cyn y gyffordd â’r brif ffordd ar ben ucha’r bryn byr (ond eithaf serth), ymunwch â’r llwybr cul ar y chwith a defnyddiwch y groesfan dros y brif ffordd ychydig rownd y gornel. Pan fyddwch chi wedi’i chroesi, dilynwch y llwybr nesaf at y ffordd am 75 llath arall a throwch i’r dde i’r lôn lle mae arwydd Mill Pond Walk wrth ochr y toiledau cyhoeddus a’r stand beiciau. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i ymyl pwll y felin ei hun. Trowch i’r dde a dilynwch y llwybr hwn o gwmpas rhan o’r pwll, dros bont gul ac yna o gwmpas i’r ochr chwith ochr yn ochr â Golden Manor Nursery hyd nes i chi ymuno ag isffordd. Mae rhan fer iawn o’r llwybr sy’n arwain at yr isffordd yn gul a hwyrach y bydd angen i chi ddod oddi ar eich beic i fynd heibio i ddefnyddiwr arall.
0.9 Wrth y gyffordd â’r isffordd (ochr yn ochr â’r fynedfa i Golden Manor Nursery), trowch i’r dde a pharhewch o dan y bont ac i lawr y bryn i’r dde. Byddwch yn ofalus ger gwaelod y bryn gan fod y ffordd yn gul gyda gwelededd cyfyngedig o’ch blaen o gwmpas tro. Mae’r ddringfa serth i fyny ychydig y tu hwnt i’r fan hon yn lleddfu’n fuan wrth i chi symud ymlaen ar hyd y llwybr.
1.7 Croeswch dros brif ffordd yr A4075 yn ofalus iawn, ac ewch ymlaen am bron i 2½ filltir gan anwybyddu unrhyw droeon i ffyrdd ochr. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn yr arwydd am Faenorbŷr. Ar ôl 2½ filltir arall, trowch i’r dde wrth y groesffordd ychydig y tu hwnt i’r gyffordd lle mae arwydd i orsaf drenau Maenorbŷr. Dilynwch y ffordd hon i lawr y bryn ac ymlaen o dan bont reilffordd.
8.3 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd (croeswch y brif ffordd yn ofalus) gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Maenorbŷr.
8.8 Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd ar gyfer yr Hostel Ieuenctid, ac i’r chwith eto wrth Gatiau’r Maes Milwrol. Beiciwch heibio i’r Hostel Ieuenctid ac ewch ymlaen i Olygfannau Skrinkle Haven (gyda standiau beiciau). Fe welwch Ynys Bŷr yn glir o’r olygfan gyntaf ac ar ben dwyreiniol Arfordir Treftadaeth De Sir Benfro. Pan fyddwch yn barod, dychwelwch i’r brif gyffordd ‘T’ a throwch i’r chwith i Faenorbŷr.
11.4 Tuag at ddiwedd y pentref, dilynwch y ffordd i lawr y bryn gan fwrw i’r chwith ac yna i’r dde heibio i’r gyffordd sy’n arwain i lawr at y traeth a’r toiledau. Mae’r fynedfa i Gastell Maenorbŷr ar yr ochr chwith ychydig ar ôl y gyffordd i’r traeth. Cadwch i’r chwith ac ewch ymlaen ar y brif ffordd hon allan o’r pentref am ½ milltir, yna trowch i’r chwith gyferbyn â Rose Cottage. Trowch i’r chwith eto wrth y groesffordd gyntaf ac ewch ymlaen i dynnu i mewn ar y dde ychydig y tu hwnt i fyngalo. O’r fan hon, fe welwch olygfa odidog o Draeth Maenorbŷr a’r morlin o’ch blaen yr holl ffordd draw i Benrhyn Sant Gofan). Ewch yn ôl at y groesffordd a throwch i’r chwith. (Sylwch – gellir hefyd troi at yr olygfan uchod yn uniongyrchol trwy ffordd Traeth Maenorbŷr o’r pentref. Mae hyn yn lleihau hyd y llwybr gan filltir ond mae’r ddringa gul i fyny o’r traeth yn eithaf serth).
14.4 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ i’r brif ffordd ac ar ôl 150 llath, trowch i’r chwith i ffordd ochr lle mae arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Modur’. Mae’r rhan fer o’r brif ffordd yn eithaf cul a gall fod yn brysur yn ystod y tymhorau prysur, felly cymerwch ofal mawr.
15.5 Anwybyddwch y troad i’r dde lle mae arwydd ‘Dim Cerbydau Modur’ ac ewch yn syth ymlaen
15.6 Gallech ddewis stopio ychydig y tu hwnt i’r arwyddion 30mya am daith gerdded o 2 funud i olygfan Freshwater East.
15.9 Trowch i’r chwith rhwng y bolardiau i’r ffordd ochr wrth hysbysfwrdd y pentref ac i’r chwith eto wrth y gyffordd ‘T’ nesaf. Parhewch i lawr y bryn a gellir mynd at y traeth ar y chwith ychydig cyn y bont gul (standiau beiciau gerllaw). Yna, ewch ymlaen i fyny’r bryn serth allan o Freshwater East, gan basio trwy bentrefan bach East Trewent (gan anwybyddu’r ddwy gyffordd sy’n troi i’r dde). Ar ben y bryn, mwynhewch y golygfeydd godidog yn ôl i Faenorbŷr ac arfordir Gŵyr yn y pellter. Ar ôl teithio milltir y tu hwnt i East Trewent, trowch i’r chwith wrth y gyffordd gan ddilyn yr arwydd am Gei Ystangbwll. Ar ôl stop dewisol yn y cei, ewch yn ôl i fyny’r gyffordd a throwch i’r chwith. Yna ewch ymlaen i lawr y ffordd i mewn i bentref Ystangbwll a thrwyddo.
21.4 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd am Bosherston. Ar ôl ychydig dros ¼ milltir, trowch i’r chwith eto gan ddilyn arwydd arall am Bosherston. Ar ôl i chi fynd i mewn i’r pentref, mae ffordd ochr i’r chwith ychydig ar ôl yr eglwys yn eich tywys i lawr i faes parcio (a standiau beiciau) lle gallwch fynd ar daith gerdded fer ddewisol i’r Pyllau Lili. Yna ewch ymlaen trwy’r pentref heibio i’r caffi a’r dafarn a throwch i’r chwith gan ddilyn arwydd am Aberllydan. Dilynwch y ffordd hon am filltir nes i chi gyrraedd y maes parcio’n edrych dros draeth De Aberllydan. Ar ôl egwyl ddewisol arall, trowch yn ôl am Bosherston ac yna trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn arwydd Sant Gofan (sylwch fod y mynediad i’r ffordd yn Sant Gofan ar gau weithiau yn ystod ymarferion tanio byw ar Faes Castellmartin gerllaw. Os ydyw ar gau, ewch yn ôl trwy Bosherston fel y gwelir isod).
26.3 Cyrraedd Sant Gofan (standiau beiciau yn y maes parcio). O’r fan hon, gallwch fynd ar y llwybr wrth ochr y clogwyn a Chapel bach Sant Gofan sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r clogwyn. Ar ôl ymweliad byr ond gwerth chweil, trowch yn ôl a dilynwch y ffordd yn ôl trwy Bosherston. Pan fyddwch allan o’r terfyn cyflymder 30mya, ewch ymlaen am bron i ¾ milltir a throwch i’r chwith i ffordd ochr ar dro yn y ffordd ar y llaw dde. Ar ôl ½ milltir arall, trowch i’r dde (osgowch y rhan syth ar y ffordd gyda’r arwydd ‘Anaddas i Gerbydau’).
29.7 Ychydig ar ôl canolfan ‘Lyserry Barns’, ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf. Ar ôl bron i ½ milltir, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ochr yn ochr ag Eglwys St Twynnells. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn yr arwydd am Gastellmartin. Wrth i chi adael pentref St Twynnells, ewch tua’r dde i ffordd ochr unwaith eto lle mae arwydd am Gastellmartin.
31.7 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd. Ar ôl ychydig dros ¼ milltir, byddwch yn mynd heibio Ardal Wylwyr Maes Castellmartin ar y chwith. Ar ôl ¾ milltir, byddwch yn cyrraedd hen Bownd Castellmartin yng nghanol y ffordd. Ewch yn syth ymlaen gan ddilyn yr arwydd am Freshwater West. Ar ôl 1½ milltir, fe welwch eich golygfa gyntaf o Freshwater West a thwyni neu dyllau helaeth yn ymestyn tua’r tir o’r traeth. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd trwy’r twyni a thu hwnt.
36.0 Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn yr arwydd am Angle. Ewch ymlaen am dros 2 filltir gan anwybyddu’r ddwy gyffordd ar y dde (gan gynnwys yr un gyda’r arwydd am Angle). Dilynwch y bachdro yn y ffordd i gyfeiriad y dde ac ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith.
39.0 Ar ôl stop dewisol byr yn Bae Gorllewin Angle (mae standiau beiciau yn y maes parcio wrth fynedfa’r caffi), trowch yn ôl a dilyn y ffordd yn ôl trwy Angle. Ewch ymlaen yr holl ffordd drwy’r pentref gan fynd heibio’r eglwys ar y chwith. Trowch i’r chwith ar ôl yr eglwys ac ar ôl i chi fynd dros y bont fach, ewch i gyfeiriad y dde a dilyn y llwybr heb arwyneb ac ychydig yn anwastad ar hyd y blaendraeth am bron i ½ milltir i’r Old Point House Inn sy’n edrych dros Angle Bay (byddwch yn ymwybodol y gall y llwybr sy’n arwain i’r Point House neu oddi yno fod dan ddŵr ar adegau o lanw mawr iawn). Yna trowch yn ôl am y pentref gan droi i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’.
40.9 Trowch i’r dde wrth y gyffordd lle mae arwydd am Benfro ac ar ôl ychydig dros ½ milltir, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen am bron i 3 milltir (gan anwybyddu’r troad i’r dde gydag arwydd am Freshwater West). Trowch i’r chwith ychydig ar ôl Fferm Newton wrth y gyffordd lle mae arwydd am Roscrowdder. Bron i filltir i lawr y ffordd hon, trowch i’r dde wrth y groesffordd. Dros y cwpl o filltiroedd diwethaf, byddwch chi wedi cael golwg glir o Burfa Olew Valero gerllaw, sy’n gyferbyniad llwyr â’r olygfa arfordirol flaenorol.
46.6 Wrth y gyffordd Aros cyn Troi, trowch i’r dde a throwch i’r chwith bron yn syth i ffordd fach gul. Ar ôl 200 llath, mae’r ffordd yn mynd heibio i rywfaint o dir heb ei ffensio. Trowch am y dde lle mae’r ffordd yn rhannu ar y rhan hon. Ewch ymlaen i bentref Hundleton. Wrth y gyffordd ‘T’ yn y pentref, trowch i’r chwith (yn ofalus) a throwch i’r chwith bron yn syth ger y gysgodfan fysiau. Dilynwch y ffordd ochr hon am bellter byr hyd nes i chi adael y pentref a throwch i’r dde wrth y gyffordd gyntaf. Bydd hon yn dod â chi ochr yn ochr â mornant llanwol prydferth Quoits Mill (byddwch yn ofalus ar y bryn serth i lawr i’r mornant a byddwch yn ymwybodol fod y ffordd hon yn destun llifogydd am gyfnodau byr adeg y llanw mawr). Ewch i fyny’r bryn wrth y gyffordd ‘T’, ewch i’r chwith ac ymunwch â’r llwybr defnydd ar y cyd cul ar y chwith. Efallai y teimlwch yn fwy cyfforddus yn dod oddi ar eich beic am bellter byr iawn hyd nes i’r llwybr defnydd ar y cyd hwn ledaenu. Ewch ymlaen ar y llwybr ar ochr y ffordd am dros ½ milltir.
50.4 Ychydig ar ôl croesi’r gyffordd lydan ar y ffordd ochr nesaf at Eglwys y Prior Monkton (ar y chwith), croeswch y brif ffordd yn ofalus ac ewch ymlaen ar y llwybr defnydd ar y cyd i lawr y bryn ac o gwmpas y tro i’r chwith. Pellter byr ar ôl y tro, mae’r llwybr yn troi i’r dde i ffwrdd o’r ffordd ac yn ymddolennu i lawr i’r maes parcio ar y dde.
50.6 Gorffen ym Maes Parcio West Street
Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Penfro
Tref gaerog swynol sy’n dyddio’n ôl dros 900 o flynyddoedd. Mae’n enwog am ei Chastell Normanaidd, bod yn fan geni i Harri VII a sylfaenydd llinach y Tuduriaid. Yn ogystal, mae gan y dref amgueddfa, teithiau cerdded hyfryd o gwmpas pwll y castell a muriau’r dref ac amrywiaeth eang o leoedd i fwyta ac yfed
Golygfannau Skrinkle Haven
Mae’r olygfan gyntaf yn edrych dros Ynys Bŷr (eithafiaeth ddwyreiniol yr Arfordir Treftadaeth) ac mae’r ail olygfan yn edrych dros Gildraeth Skrinkle Haven a Church Doors (mae modd cyrraedd yr un olaf trwy risiau 140 stepen ychydig ar hyd llwybr yr arfordir). Mae siapiau’r clogwyn sydd wedi’u cerfio gan y môr yn yr ardal hon yn eithaf trawiadol
Maenorbŷr
Pentref glan môr hyfryd gyda chastell canoloesol cain yn edrych dros y bae. Mae gan y pentref Eglwys Normanaidd ddiddorol hefyd, Tŷ Elor wedi’i adfer a cholomendy islaw muriau’r castell
Freshwater East
Cyrchfan poblogaidd gyda thraeth tywodlyd llydan, a arferai fod yn ffefryn gyda’r smyglwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r pentref ar y clogwyn yn edrych dros y bae
Cei Ystangbwll
Harbwr bach ond prydferth sy’n swatio ymhlith y clogwyni ar Ystâd Ystangbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os bydd gennych ddigon o amser, ewch ar daith gerdded 10 munud o hyd ar hyd llwybr yr arfordir i Fae Barafundle. Gyda thwyni a choed pinwydd y tu cefn iddo, mae gan y traeth diarffordd hwn ymdeimlad o drysor sydd heb ei ddarganfod. Mae wedi cael ei bleidleisio sawl gwaith fel un o’r traethau gorau ym Mhrydain a’r Byd
Bosherston
Pentref bach wedi’i glystyru o gwmpas eglwys. Mae’r pentref yn darparu mynedfa i Byllau Lili Bosherston - casgliad trawiadol o lynnoedd a grëwyd yn y 18fed ganrif ac sydd bellach yn warchodfa natur
De Aberllydan
Bae tywodlyd llydan sy’n wynebu’r de gyda golygfeydd clogwyn dramatig a phentwr calchfaen eiconig a adwaenir fel Church Rock ychydig allan i’r môr. Mae twyni tywod a choetir helaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y tu cefn i’r traeth ei hun. Nodwedd ddeniadol yw’r llif o ddŵr glân sy’n llifo allan trwy ddyffryn tywodlyd i gefn y traeth o’r pyllau lili gerllaw
Capel Sant Gofan
Cell meudwy bychan mewn hollt rhwng clogwyni. Mae’n un o adeiladau mwyaf hudol Cymru, a godwyd yn y 13eg ganrif ac sy’n nodi’r safle lle dewisodd Sant Gofan, meudwy o’r 6ed ganrif, i fyw bywyd crefyddol gyda dim ond adar y môr yn gwmni
Castellmartin
Pentref bach cysglyd gyda gweddillion castell mwnt a beili Normanaidd, ac eglwys wedi’i chysegru i Sant Martin sy’n lletya organ a arferai fod yn eiddo i Mendelssohn. Saif y pentref yn uniongyrchol i gyfeiriad y gogledd o faes hyfforddiant milwrol mawr iawn dan berchnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn
Freshwater West
Mae’r traeth llydan, tywodlyd hwn gyda system helaeth o dwyni y tu cefn iddo wedi dod yn gyfystyr â pharadwys i syrffwyr. Mae ei dirwedd ddramatig a garw’n ei wneud yn un o’r traethau gorau i ymweld ag ef gydol y flwyddyn. Mae sawl ffilm wedi’u saethu yma gan gynnwys Robin Hood, Their Finest a Harry Potter
Bae Gorllewin Angle
Traeth bach ond dymunol gyda thywod euraidd wedi’i ddiogelu gan frigiad creigiog ar bob ochr. Golygfan berffaith i arsylwi llongau yn mynd i’r porthladd ac yn ei adael. Ychydig y tu hwnt i benrhyn y traeth ar y dde mae Ynys Thorn gyda’i gaer Napoleonaidd hanesyddol
Angle
Pentref bach cyfareddol mewn cwm cysgodol gyda thraddodiad hwylio hir a balch. Saif yr eglwys o’r 13eg ganrif yng nghanol y pentref ac mae’r tir yn cynnwys beddau dioddefwyr Prydeinig a thramor y Rhyfeloedd Byd. Mae’r Capel bach diddorol i Forwyr y tu cefn i’r eglwys yn cynnwys crypt. Yn wreiddiol, man derbyn, neu Esgyrndy, ydoedd ar gyfer cyrff y morwyr a foddwyd. Dyddia’r Point House Inn i’r 16eg ganrif ac mae’r chwedlau’n olrhain tân a losgodd yn barhaus yn ei le tân am dros 200 o flynyddoedd. Roedd yn enwog fel man cwrdd i fôr-ladron a smyglwyr
Llwybr Arfordir a Ffin
Mae’r Llwybr yn dechrau yng nghyrchfan arfordirol Dinbych-y-pysgod ac yn troelli tua’r tir i ymweld â nifer o bentrefi darluniadwy ar y ffordd i Sir Gaerfyrddin a thref aberol Talacharn, a fu’n gartref ar un adeg i fardd iaith Saesneg enwocaf Cymru, Dylan Thomas. Mae’n dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod ar hyd y llwybr arfordirol godidog gan fynd heibio i gyrchfannau Amroth, Wisemans Bridge a Saundersfoot
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr hirach hardd sy’n cynnwys golygfeydd hyfryd o’r arfordir, trefi a phentrefi hanesyddol, cyrchfannau glan môr godidog a thaith ar draws y ffin i Sir Gaerfyrddin gyfagos Gradd: Egnïol |
|---|---|
Pellter: |
45 milltir (72 cilometr) |
Amser: |
Trwy’r dydd – gan gynnwys amser ar gyfer seibiannau byr |
Man cychwyn/gorffen |
Maes Parcio Traeth y Gogledd, Gas Lane, Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid SN132011, cod post Llywio â Lloeren SA70 8AG). Mae taliadau’n berthnasol. Ar yr A478 i mewn i Ddinbych-y-pysgod, trowch i’r chwith wrth y gylchfan a dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Dref Gaerog ac Ysbyty Bwthyn. Ar waelod y bryn, trowch i’r chwith i mewn i Gas Lane a dilynwch y ffordd i’r maes parcio |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dinbych-y-pysgod 0.6 milltir. Trowch i’r chwith allan o’r orsaf. Ewch ymlaen yn syth wrth y groesffordd ger yr eglwys a throwch i’r chwith wrth y gylchfan fach sy’n edrych dros y traeth. Ar ôl 1/4 milltir, trowch i’r dde i mewn i’r ffordd sy’n dangos yr arwydd Maes Parcio Traeth y Gogledd |
Tirwedd: |
Ffyrdd gwledig tawel yn bennaf gyda rhan fer ar yr A4066 i Dalacharn a rhan fer iawn ar yr B4316 yn Saundersfoot. Mae’r graddiannau’n gymedrol ar y cyfan ond yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig lle mae’r llwybr yn gadael cyrchfannau arfordirol Talacharn, Amroth a Saundersfoot. Ni ddylai’r un o’r bryniau achosi problem i unrhyw un sy’n gyfarwydd â beicio, ond fe allech ddymuno dod oddi ar eich beic a’i wthio i fyny rhai o’r rhannau serthaf os ydynt yn anodd i chi. Ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith. Mae’n rhoi seibiant byr o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd ac edmygu’r perthi deniadol |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 964 metr |
Lluniaeth: |
Dinbych-y-pysgod, St Florence, Croesfan Old Tenby Road, Talacharn, Amroth, a Saundersfoot |
Toiledau: |
Dinbych-y-pysgod, Talacharn, Amroth, Wisemans Bridge, Saunderfoot, ac mae cyfleusterau i gwsmeriaid ar gael ar hyd y llwybr (tafarndai yn bennaf) |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Dechrau. Gadewch y maes parcio a throwch i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd. Ewch ymlaen yn syth wrth y gylchfan fach i ganol y dref. Trowch i’r dde yn union ar ôl Eglwys y Santes Fair a dilynwch y ffordd hon o amgylch i’r dde. Trowch i’r chwith i Stryd y Santes Fair wrth y Three Mariners a throwch i’r dde ar ddiwedd y ffordd hon. Ewch ymlaen trwy’r bwa carreg a throwch i’r chwith. Dilynwch y ffordd hon sy’n edrych dros y traeth ac ymunwch â’r llwybr trwy’r bolardiau ar y diwedd. Ewch ymlaen yn syth ar hyd y llwybr hwn gan fynd heibio i ardal chwarae i’r dde (ildiwch i gerddwyr wrth i chi fynd), yna dilynwch y rhan o’r ffordd sy’n disgyn yn serth ar ddiwedd y llwybr. Ar waelod y bryn, ewch yn syth ymlaen gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ar ôl mynd heibio i 3 thŷ ar y dde, ymunwch â llwybr culach ar y chwith ac ewch ymlaen yn syth ar ôl mynd trwy rwystr. Bydd y llwybr yn mynd â chi wrth ymyl cwrs golff
1.5 Trowch i’r dde dros y bont reilffordd a throwch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ yng Nghanolfan Wyliau Parc Kiln. Ewch i’r chwith yn union ar ôl y farchnad fach ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon. Ar eich chwith, byddwch yn mynd heibio i’r cyfadeilad odyn galch mwyaf sy’n goroesi yn Sir Benfro, a gaeodd ym 1902. Mae’n werth mynd i mewn yn gyflym i weld y strwythur tebyg i ‘eglwys gadeiriol’ y tu mewn. Y tu hwnt i’r odynau calch, mae’r ffordd yn troi i’r dde. Trowch i’r chwith yn union ar ôl y tro hwn ac ewch ymlaen i brif ffordd yr A4139. Croeswch y brif ffordd hon wrth y goleuadau traffig, ewch i’r dde ar yr ynys draffig a chroeswch y ffordd ymyl gan ddilyn yr arwydd Llwybr 4 i’r chwith. Ar ôl 100 llathen, trowch i’r dde i ymuno â ffordd ymyl gulach ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am fwy na 21/2 milltir tan i chi gyrraedd pentref St Florence
5.0 Ewch yn syth ymlaen wrth y llinell Ildio yn y pentref gan fynd heibio i’r hen Simnai Ffleminaidd ar y dde, yna trowch i’r dde ar ôl 100 llathen. Ar ôl 200 llathen arall, ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd. Dilynwch y ffordd hon am fwy na 3/4 milltir gan anwybyddu troeon ymyl i’r chwith a’r dde
6.0 Croeswch ffordd brysur y B4318 gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Redberth
7.0 Ar ôl croesi’r bont dros brif ffordd yr A477, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’. Cymerwch y tro nesaf i’r chwith tuag at Jeffreyston ac ewch ymlaen am 11/4 milltir cyn troi i’r dde wrth gyffordd ‘T’. Bydd hyn yn mynd â chi i gyrion pentref Jeffreyston a byddwch yn mynd heibio i Ysgol Sant Oswald ar eich chwith. Wrth y llinell Ildio, trowch i’r chwith i ymuno â ffordd y B4386 a dilynwch y ffordd hon am bron 1 filltir
9.7 Lle mae ffordd y B4386 yn gwyro i’r chwith ar ôl pont gul, cymerwch y ffordd ymyl i’r dde gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Reynalton. Ewch ymlaen am oddeutu milltir ar ôl pentref Reynalton tan i chi gyrraedd cyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith tuag at Yerbeston a throwch i’r dde wrth y gyffordd nesaf tuag at Arberth
13.0 Wrth y gyffordd â ffordd yr A4115 ewch yn syth ymlaen tuag at Arberth. Yna cymerwch y tro nesaf i’r dde tuag at Templeton. Ar ôl ychydig dros filltir byddwch yn cyrraedd Templeton. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac yna croeswch brif ffordd yr A478 gan ddilyn ffordd y B4315 i Cold Blow. Ar ôl mynd trwy Cold Blow ewch ymlaen am 3/4 milltir i bentref Princes Gate. Er gwybodaeth, roedd y rhan fer hon o’r ffordd yn rhan o lwybr tyrpeg pellter hir 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn arwain o Lundain a Bryste i Iwerddon trwy bacedlongau a hwyliai o Aberdaugleddau. Trowch i’r dde wrth y groesffordd yn Princes Gate gan ddilyn yr arwydd i’r Eglwys Lwyd, ac ar ôl bron 1 filltir trowch i’r chwith wrth y groesffordd tuag at Tavernspite. Ar ddiwrnod clir, fe welwch Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint ar y dde. Mae’r man uchaf yn ne Sir Benfro i’r chwith, a dywedir yn lleol mai dyna lle y glaniodd Arch Noa ar ôl y dilyw mawr. Mae rhai enwau lleol yn gysylltiedig â’r chwedl hon. Dilynwch y ffordd hon am bron 3 milltir tan i chi gyrraedd pentref Tavernspite
20.1 Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ger pympiau’r pentref ac yna cymerwch yr 2il gyffordd i’r chwith gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llanddowror. Ar ôl tua 3 milltir, trowch i’r dde wrth ymyl eiddo o’r enw Cnwce. Bydd hyn yn mynd â chi i bont dros brif ffordd yr A477. Dilynwch yr is-ffordd hon am bron 11/2 milltir tan i chi gyrraedd Croesfan Old Tenby Road lle mae caffi ar y chwith. Trowch i’r chwith ac yna’n syth i’r dde gan ddilyn yr arwydd ar gyfer New Mill. Ewch ymlaen i fyny’r bryn a thu hwnt tan i chi gyrraedd cyffordd ‘T’
25.4 Wrth y gyffordd ‘T’, trowch i’r chwith tuag at Dalacharn. Hanner ffordd i fyny’r bryn, trowch i’r dde ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon tan i chi gyrraedd ffordd yr A4066 i Dalacharn. Trowch i’r dde, a byddwch yn ofalus wrth feicio ar hyd y brif ffordd hon sy’n disgyn yn bennaf
28.5 Wrth gyrraedd Talacharn, byddwch yn mynd heibio i Eglwys Sant Martin ar y chwith lle mae’r bardd a’r awdur Dylan Thomas wedi’i gladdu o dan groes wen syml. Ar ôl 1/4 milltir arall, trowch i’r chwith yn syth ar ôl Gwesty Brown (hoff dafarn Dylan Thomas). Ewch ar hyd y ffordd ymyl hon gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Tŷ Cychod Dylan Thomas, a fydd yn eich arwain at ffordd bengaead lle y gwelwch ei sied ysgrifennu enwog a’i gartref (y tŷ cychod) ar y pen. Mae’r ddau wedi cael eu gwarchod gan gadw’r dodrefn gwreiddiol a phethau cofiadwy. Ar ôl saib dewisol, dychwelwch ar hyd yr un llwybr a throwch i’r chwith yn union ar ôl y fynwent. Byddwch yn mynd heibio i fan arall lle y bu Dylan Thomas yn byw ar y dde – y tŷ tal o’r enw Seaview. Dyma lle’r oedd y bardd yn croesawu llu o bersonoliaethau gan gynnwys T.S. Elliot. Wrth y gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i Seaview, trowch i’r dde ac yna i’r chwith pan fyddwch yn cyrraedd y brif ffordd. Ewch ymlaen i lawr y bryn i ganol y dref fach, gan fynd heibio i’r fynedfa i Gastell Talacharn ar eich chwith. Ewch ymlaen i’r maes parcio ar y chwith i weld golygfeydd trawiadol o’r castell yn edrych dros aber Taf
29.7 Ailymunwch â’r ffordd gyfagos gan droi i’r dde ac yna’n union i’r chwith heibio i’r groes garreg yn Sgwâr Grist. Dilynwch y ffordd droellog, gul ac eithaf serth i fyny allan o’r dref. Mae’r bryn oddeutu 1 filltir o hyd ac mae ei enw anarferol, sef The Lacques, yn ymwneud â’r les a arferai gael ei gwau gan y Ffleminiaid niferus a ymgartrefodd yn yr ardal. Efallai y byddai’n well gan feicwyr llai abl ddod oddi ar eu beiciau a’u gwthio i fyny rhannau o’r bryn. Ni ddylai hyn ychwanegu mwy na 10 munud at hyd cyfan y daith ac fe allech deimlo’n fwy egnïol ar gyfer gweddill y Llwybr. Ar gopa’r bryn, ewch ymlaen i feicio am 3 milltir arall gan anwybyddu unrhyw droeon ffyrdd ymyl
33.9 Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Amroth. Ar ôl 11/4 milltir, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a dilynwch y ffordd hon am 4 milltir tan i chi gyrraedd pentref glan môr Amroth. Wrth fynd allan o’r pentref, dilynwch y ffordd i fyny’r bryn am 300 llathen a chymerwch y gyffordd gyntaf i’r chwith sy’n dangos arwydd Dim Ffordd Drwodd. Ar ôl 200 llathen arall eithaf serth, byddwch yn mynd trwy giât i ymuno â llwybr beicio sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir ar y chwith. Dilynwch y llwybr cyfan hwn, a arferai fod yn ffordd a oedd yn cysylltu pentrefi arfordirol ar un adeg tan i rannau ohoni ddisgyn i mewn i’r môr
40.2 Ewch ymlaen trwy’r giât ar ddiwedd y llwybr ac i lawr y bryn, gan fynd i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Bydd hyn yn mynd â chi i lawr i bentrefan glan môr bach Wisemans Bridge. Ar ddiwedd y traeth, dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith a throwch i’r chwith trwy linell o folardiau i ymuno â’r llwybr Dramway (a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer rheilffordd a oedd yn cludo ‘dramiau’ o lo o byllau lleol i Harbwr Saundersfoot). Dilynwch y llwybr uchel hwn tan i chi gyrraedd twnnel. Wrth fynd ychydig ymhellach fe welwch ail dwnnel sy’n mynd â chi allan wrth ymyl traeth Neuadd Coppet a’r adeilad ‘Coast’. Dilynwch y llwybr o amgylch ochr dir y maes parcio i drydydd twnnel. Ni chaniateir beicio yn y twneli hyn, felly ewch oddi ar eich beic a gwthiwch ef drwodd i’r pen arall. Hefyd, gall y rhan hon o’r Llwybr fod yn brysur iawn gyda cherddwyr, felly byddwch yn ofalus. Wrth fynd allan o’r trydydd twnnel, byddwch yn cyrraedd cyrchfan arfordirol Saundersfoot. Ewch ymlaen yn syth ar hyd y ffordd heibio i nifer o siopau, a phan fydd yn troi, ewch yn syth ymlaen ar hyd ymyl maes parcio’r harbwr. Ar ôl tua 50 llathen, byddwch yn mynd heibio i hen adeilad Swyddfa Lo Saundersfoot ar y dde. Mae standiau beiciau ar gael gerllaw os hoffech aros i fynd am dro o amgylch y pentref
41.9 Ychydig y tu hwnt i’r hen Dŷ Glo, trowch i’r dde wrth allanfa’r maes parcio ac yna i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd. Ar y tro chwith ysgubol ar y bryn, ewch i’r lôn ganol a throwch i’r dde. Gall hyn fod yn symudiad anodd a braidd yn anghyfforddus i feicwyr llai hyderus. Os felly, fe allai fod yn well ganddynt fynd oddi ar eu beiciau cyn dechrau mynd i fyny’r bryn a gwthio eu beiciau ar hyd y llwybr troed gerllaw hyd at ac i mewn i’r gyffordd ffordd ymyl ar y dde. Dilynwch y ffordd ymyl hon allan o’r pentref
42.9 Ymunwch â’r llwybr beiciau ar y chwith yn syth ar ôl y fynedfa i ganolfan arddio Sandyhill Nurseries a chyn y gyffordd â phrif ffordd yr A478. Dilynwch y llwybr hwn o amgylch i’r chwith wrth y gylchfan gyfagos a chroeswch ffordd y B4316 ychydig y tu hwnt i’r gyffordd sy’n dangos arwydd ar gyfer New Hedges. Ar ôl tua 50 llathen, bydd y llwybr yn cysylltu â’r ffordd sy’n arwain i lawr i bentref New Hedges. Dilynwch y ffordd hon trwy’r pentref
43.7 Ym mhen pellaf New Hedges, ymunwch â’r llwybr ar y chwith yn union cyn i’r ffordd gysylltu â phrif ffordd yr A478. Ar ddiwedd y llwybr hwn, trowch i’r chwith i ymuno ag is-ffordd. Ar ôl 1/4 milltir, mae’r ffordd yn arwain at lwybr. Dilynwch y llwybr hwn tan iddo ledu i is-ffordd unwaith eto a fydd yn mynd â chi i lawr bryn eithaf serth i gyffordd â phrif ffordd sy’n arwain at Ddinbych-y-pysgod. Byddwch yn ofalus iawn wrth nesáu at y gyffordd hon ar y bryn a throwch i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd pan fydd yn glir. Ar ôl pellter byr, trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Maes Parcio Traeth y Gogledd.
45.0 Gorffennwch ym Maes Parcio Traeth y Gogledd
Pethau o ddiddorrdeb ar hyd y Ffordd
Dinbych-y-pysgod
Tref harbwr a chyrchfan glan môr brydferth sy’n llawn hanes hynafol ac y mae ei ‘Hen Dref’ wedi’i gwarchod gan furiau carreg canoloesol
St Florence
Pentref bach dymunol a hen ffasiwn sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Normanaidd gyda bythynnod tlws a simneiau ‘Ffleminaidd’. Roedd yn borthladd llanw bach ar un adeg cyn i rwystr gael ei adeiladu rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun ym 1820
Reynalton
Pentref bach gwledig tawel, sy’n wahanol iawn i 100 mlynedd yn ôl pan gloddiwyd am lo carreg o ansawdd uchel yma. Roedd ganddo ei reilffordd fwynau ei hun yn cysylltu’n ôl â’r harbwr yn Saundersfoot, hyd yn oed
Talacharn
Tref glan afon ddarluniadwy fach yn Sir Gaerfyrddin, sy’n fwyaf adnabyddus am fod yn gartref i’r bardd a’r awdur Dylan Thomas. Yn ogystal â’r holl dai tlws, ceir hefyd gastell adfeiliedig o’r 13eg ganrif a’r Tŷ Cychod byd-enwog lle’r oedd Dylan Thomas yn byw a lle yr ysbrydolwyd cynifer o’i greadigaethau mawr
Amroth
Traeth tywodlyd hir, gwastad, hanner milltir o hyd lle y gwelir olion fforest foddedig betraidd pan fydd y llanw’n isel iawn. Cyn i’r amddiffynfeydd môr gael eu hadeiladu, achosodd stormydd gaeaf difrifol erydu mawr, gan sgubo cartrefi a busnesau ymaith ar yr ochr o’r ffordd trwy’r pentref sy’n wynebu’r môr
Wisemans Bridge
Pentref bach arall y tu ôl i draeth tywodlyd eang gyda phyllau trai diddorol. Ar un adeg, roedd glo carreg o’r pyllau glo lleol yn cael ei lwytho ar fadlongau hwylio ar y traeth yn barod i fynd i ddinasoedd fel Bryste, Abertawe a Chaerdydd. Ymwelodd Winston Churchill a chadlywyddion y Cynghreiriaid â’r Wisemans Bridge Inn ym 1943 pan ddefnyddiwyd y traeth fel maes hyfforddi ar gyfer glaniadau D-Day
Saundersfoot
Cyrchfan glan môr fach gyda thraeth tywodlyd euraid mawr. Mae’n llai na Dinbych-y-pysgod, ond mae ganddi swyn a chymeriad unigryw. Datblygwyd yr harbwr fel porthladd glo yn wreiddiol, ond caeodd y pyllau lleol a oedd yn ei gyflenwi dros 70 mlynedd yn ôl
Seiclo Sir Benfro
Beth am fynd i weld beth a welwch yn yr ardal wledig yn eich milltir sgwâr? Mae gan Gyngor Sir Penfro nifer o reidiau beic o drefi a lleoliadau o gwmpas y sir.