Beicio Sir Benfro

|Name like '%Havens Trail%'|Route like '%Havens Trail%'

Llwybr yr Aberoedd

Overview
Information

    Ffeil Ffeithiau 

     

    Uchafbwyntiau

    Llwybr prydferth a diddorol dros ben yw hwn sy’n cychwyn a gorffen yn Hwlffordd. Ar y ffordd byddwch yn mynd heibio tŵr uchel Castell y Garn cyn cyrraedd aberoedd deniadol Arfordir Treftadaeth Porth Sain Ffraid, a oedd unwaith yn ganolfan menter codi glo ffyniannus. Mae rhai hen greiriau o’r cyfnod hwn yn dal yn y golwg i chi eu gweld. Ni weithiwyd yr haenau glo, rhai ohonynt yn amlwg yn y clogwyni, ers 1905 a’r amcangyfrif yw bod cronfa o 230 miliwn tunnell o lo carreg yn dal heb ei gyffwrdd dan y môr fymryn oddi ar yr arfordir.

    Ar hyd y Llwybr mae clogwyni uchel yn gwarchod y traethau tywodlyd ac ar y ffordd byddwch yn gweld golygfeydd arfordirol ysblennydd yr holl ffordd allan i’r ynysoedd ar bennau gogleddol a deheuol Porth Sain Ffraid

    Gradd: Egnïol 

    Pellter:

    22.5 milltir (36 cilometr)

    Amser:

    4.5 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man Cychwyn / Gorffen:

    Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeirnod Grid SM956155, Llywiwr Llo SA61 1TP). Fe welwch Neuadd y Sir o Gylchfan Salutation Square, Hwlffordd ac mae arwyddion i’r fynedfa. Ar benwythnosau mae’r maes parcio ar gael (am ddim) i ddefnyddwyr y Llwybr. Ar ddyddiau gwaith mae meysydd parcio eraill i’w cael gerllaw (am dâl) ac mae ganddynt i gyd lwybrau beicio (ar fin y ffordd) sy’n cysylltu â dechrau’r Llwybr

    Gorsaf Drenau Agosaf:

    Hwlffordd ¼ milltir (gyda llwybr beicio’n arwain at ddechrau’r Llwybr)

    Tirwedd:

    Mae’r Llwybr yn mynd ar hyd llwybrau unswydd heb draffig a ffyrdd gwledig eithaf distaw. Mae’n fryniog mewn mannau, yn enwedig ar hyd yr arfordir

    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 515 metr

    Lluniaeth:

    Hwlffordd, Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach

    Toiledau:

    Gorsaf Fysiau Hwlffordd (pen y maes parcio aml-lawr), Nolton Haven, Aberllydan, Yr Aber Bach

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn. Trowch i’r chwith allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beicio. Croeswch ar y goleuadau traffig i’r llwybr o flaen y County Hotel, ac yna croeswch y gyffordd ar bwys y drosbont gerdded. Ar ôl tua 150 llath, croeswch y 3 lôn fynediad (ochr yn ochr) ac ewch ymlaen drwy’r bolardiau ar y stryd led-gerdded sy’n croesi’r afon dros yr Hen Bont. Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde ar y gylchfan a dilyn y ffordd hon tuag at y gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith yn union cyn y gyffordd ar y llwybr beicio ac ar ôl ychydig lathenni croeswch 3 lôn gerbydau gyfagos gan ddefnyddio’r goleuadau traffig (mae’r 3edd groesfan yn troi i’r dde). Ar ôl croesi, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr beicio. Ar y gylchfan croeswch y ddwy ffordd gyswllt fach a dal ymlaen ar y llwybr. Ar y gylchfan nesaf croeswch y ffordd gyswllt fach a dal i fynd ar y llwybr gyda’r arwydd Pelcomb, Keeston a Chamros sy’n rhedeg ochr yn ochr â ffordd yr A487

    2.1 Croeswch y ffordd groes (gydag arwydd Camros) ac, ar ôl ychydig ffordd, croeswch ffordd yr A487 yn ofalus iawn a mynd ymlaen ar hyd y llwybr ar yr ochr arall i fan rhyw ¼ milltir heibio Pelcomb Cross

    3.4 Ar ben y llwybr, ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddistaw iawn heibio Canolfan Gymunedol Camros. Yna ymunwch â’r llwybr ochr yn ochr â ffordd yr A487 unwaith eto a pharhau dros ael y bryn (gyferbyn â’r orsaf betrol). Cyn cyrraedd gwaelod yr allt, mae’r llwybr yn croesi’r ffordd eto. Felly, croeswch gyda gofal mawr, a dilyn y llwybr i lawr ar yr ochr arall am ychydig ffordd cyn iddo gysylltu â lôn dawel. Trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Keeston ac, ar ôl ½ milltir ar i fyny, cyrraedd y pentref. Ewch yn syth ymlaen dros y groesffordd (gan ddilyn arwydd llwybr beicio i Simpson Cross) ac, ar ôl ychydig ffordd, trowch i’r dde ar gyffordd ‘T’. Dilynwch y ffordd hon am ¾ milltir bron (gan anwybyddu ffordd groes gynharach ar y dde).

    5.5 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde ac yna i’r chwith fymryn ar ôl mynedfa Guffern Manor. Trowch i’r chwith ar y gyffordd ‘T’ nesaf gan ddilyn arwydd Y Garn. Mae hwn eto’n ddarn eithaf bryniog o ffordd.

    7.0 Ewch i bentref y Garn ac yn fuan fe welwch adeiledd urddasol Castell y Garn ar y dde. Daliwch i feicio drwy’r pentref cyn cyrraedd y gyffordd gyda phriffordd yr A487. Croeswch y ffordd hon yn ofalus a bwrw ymlaen ar hyd yr isffordd gyferbyn.

    9.0 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd i Nolton. Byddwch bellach yn dilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am ychydig filltiroedd. Ar ôl pellter byr iawn fe gewch gip ar olion Pwll Glo Clogwyn Trefran yn y pant ar y dde i chi ac ehangder Porth Sain Ffraid fymryn ymhellach.

    9.9 Cyrraedd Nolton Haven (stondinau beiciau a thoiledau yn y maes parcio). Ar ôl aros yno, ewch ymlaen i fyny rhiw serth a throi i’r dde ar ffordd gydag arwydd Druidston Haven. Mae hwn eto’n serth iawn a gallai fod yn well gennych ddisgyn a gwthio eich beic. Arhoswch ar y ffordd hon, gan anwybyddu ffordd groes ar y chwith. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn eithaf serth ac yna’n dechrau codi eto. Ymhen rhyw 150 llath fwy neu lai ar i fyny fe sylwch ar dŷ tanddaearol eithaf anghyffredin yn y cae ar y dde i chi – ar lafar y ‘Tŷ Teletubby’. Ychydig ymhellach i fyny’r rhiw mae llwybr carreg yn arwain i lawr i Druidston Haven. Hefyd mae golygfeydd gogoneddus o’r aber a Phorth Sain Ffraid i gyd o diroedd y gwesty ymhellach i fyny’r rhiw ac o wylfa Haroldston Chins sydd i’w chyrraedd ar hyd llwybr ag wyneb iddo’n cysylltu gyda’r Llwybr fymryn dros ¼ milltirheibio’r gwesty. Mae 2½ filltir nesaf y Llwybr ar y gwastad neu ar i waered yn bennaf.

    11.9 Ar y gyffordd ‘T’ trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Aberllydan.

    13.2 Wrth i chi fynd i mewn i Aberllydan, ac ar waelod y rhiw, mae llwybr ar y chwith (fymryn heibio’r bont) yn arwain at doiledau a stondinau beiciau. Fel arall ewch yn syth ymlaen a throwch i’r dde ar y gyffordd ‘T’. Nawr mae’r Llwybr yn gadael y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am gyfnod byr. Mae stondinau beiciau wrth ymyl y seddau ar lan y môr a rhagor o doiledau yn y maes parcio ger y siopau, tafarn a chaffis. Ewch ymlaen i fyny’r rhiw serth ar ben arall y pentref. Yn fuan mae’r ffordd yn disgyn yn sydyn i lawr i’r Aber Bach a bydd angen i chi droi i’r dde ar gyffordd ‘T’ ar yr allt cyn cyrraedd canol y pentref (toiledau a stondinau beiciau yn y maes parcio). Ar ôl cael golwg o gwmpas, dychwelwch ar hyd yr un ffordd serth iawn i Aberllydan. Ar drai (amserau llanw i’w gweld yn eglur o Aberllydan a’r Aber Bach) gallwch ddewis teithio rhwng y ddwy gymuned ar hyd y traeth. Mae hyn yn osgoi’r rhiwiau serth ac mae’n dro hyfryd iawn. Gallwch naill ai adael eich beic ar y stondinau beiciau yn Aberllydan neu ei wthio ar hyd y traeth ar hyd y llithrfeydd ar y ddau ben. Cofiwch gadw golwg ar y llanw rhag gorfod cerdded yn ôl i Aberllydan ar hyd y ffordd.

    14.8 Ar lan y môr yn Aberllydan, dilynwch y briffordd wrth iddi droi i’r dde oddi wrth y môr. Rydych bellach yn ôl ar Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

    15.2 Wrth i chi ddringo allan o’r pentref, trowch i’r chwith ar isffordd gyda’r arwydd Long Lane ac ewch ymlaen ar hyd y lôn hon am dros 1½ filltir.

    16.9 Trowch i’r dde ar y gyffordd ‘T’.

    17.7 Ymunwch â’r llwybr beicio ar y chwith yn union cyn y gyffordd ‘T’. Dilynwch y llwybr hwn (gan gynnwys un groesfan) i Portfield Gate. Ailymunwch â’r ffordd drwy’r pentref a dilyn y llwybr ar y chwith wrth i chi adael y pentref.

    19.6 Yn union cyn cyrraedd Hwlffordd, croeswch y ffordd a dilyn y llwybr ar yr ochr arall am ychydig ffordd i Park Corner Road. Ar ôl fymryn dros ½ milltir ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ac ar ôl ¼ milltir arall trowch i’r dde i ffordd gydag arwydd ‘Dim Ffordd Drwodd’. Dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r chwith ar waelod y rhiw a dal yn eich blaen i gyfeiriad Hwlffordd yn y fan lle mae Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn troi i’r dde. Ychydig ymhellach ewch yn syth ymlaen eto gan fynd heibio mynedfa Maes Carafanau Under the Hills ar y chwith.

    21.1 Ar y gyffordd trowch i’r dde ar hyd y llwybr ochr yn ochr â’r ffordd. Yn union cyn McDonald’s mae’r llwybr yn croesi’r ffordd. Ewch ymlaen ar yr ochr arall a chroesi’r goleuadau traffig gan ddilyn arwydd y llwybr beicio i Ganol y Dref. Ewch ymlaen ar hyd llwybr beicio min y ffordd am ychydig dros filltir.

    22.6 Gorffen ym maes parcio Neuadd y Sir

     

     

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Castell y Garn

    Nodwedd drawiadol a godwyd yn 1195 ar frigiad o graig folcanig. Roedd yn un o nifer o adeileddau amddiffynnol ar hyd ‘Llinell y Landsger’, oedd yn gwahanu ardaloedd Cymraeg a Saesneg Sir Benfro. Arhosodd y castell yn gryf cyn i’r fyddin seneddol losgi llawer ohono’n ulw yn 1644 yn ystod y rhyfel cartref. Adferwyd o adfail i dŷ preifat yn 1910 a chafodd ei wella’n helaeth yn ddiweddar i greu gwesty cain

    Pwll Glo Clogwyn Trefran

    Mae adfail Pwll Glo Trefran, sy’n amlwg o simnai uchel ei dŷ peiriant, yn edrych dros ben deheuol traeth Niwgwl. Roedd y pwll ar waith o ganol y 19eg ganrif tan 1905, gyda rhai lefelydd yn rhedeg dan y môr. Byddai’r glo’n cael ei lwytho ar drolïau a byddai peiriant yn eu tynnu i Nolton Haven i anfon y glo dros y môr

    Nolton Haven

    Bae bach cysgodol yw hwn gyda thraeth tywodlyd yn bennaf rhwng clogwyni uchel. Mae cysylltiad hir rhwng y bae â môr-ladron. Roedd hwn unwaith yn borthladd lle byddai glo’n cael ei allforio mor bell yn ôl â’r canoloesoedd. Ar y traeth, mae ffosilau planhigion i’w cael weithiau mewn clogfeini mawr wrth droed y clogwyni ac mae modd gweld gwythiennau o lo carreg yn yr un clogwyni hefyd

    Druidston Haven

    Enwyd ar ôl ‘Drue’ Marchog Normanaidd o’r 12fed ganrif gynnar. Mae yma draeth tywodlyd hir, o’r neilltu, wedi’i gau gan glogwyni serth ar dair ochr. I’w gweld yn y bae mae nifer o ffurfiannau clogwyni, bwâu naturiol ac ogofâu trawiadol

    Aberllydan

    Pentref bach yw gyda thraeth ymdrochi diogel a deniadol o dywod euraid cadarn. Bu’n gyrchfan glan môr poblogaidd ers y 1800au. Yr unig dystiolaeth sydd ar ôl o’r diwydiant glo yw pwll ‘Slaes’ mawr 200 llath i mewn o’r traeth a ffurfiwyd yn y 19eg ganrif gan lowyr yn cloddio am lo mân. Erbyn hyn mae’r pwll cysgodol yn lloches o’r neilltu i garwyr natur. Yn y 1970au, honwyd gweld amryw UFO yn y gyrchfan a’r cylch a chafodd y llysenw Triongl Aberllydan. Ar drai mae modd cerdded o gwmpas y pentir ar yr ochr ddeheuol i fae o’r enw The Settlands, ac yna o gwmpas y pentir nesaf i’r Aber Bach

    Yr Aber Bach

    Dyma un o’r pentrefi bach glan môr mwyaf dymunol a hynod yng Nghymru gyfan. Yn sefyll mewn cwm ag ochrau serth, mae’r anheddiad yn dyddio’n ôl i Oes yr Haearn ac roedd unwaith yn ganolfan masnach y môr a smyglo. Ar un adeg byddai glo’n cael ei lwytho o byllau glo lleol i gychod o’r traeth. Ar ochr ddeheuol y bae mae llwybr llydan yn arwain at fan sy’n cael ei alw’n Wylfa, lle mae grisiau’n disgyn i ddau gildraeth bach creigiog o’r enw Sheep Wash a Rook’s Bay               

    ID: 4962, revised 04/06/2024