Beicio Sir Benfro
Taith Ddirgel Ganoloesol
Mae llawer o fannau diddorol ar hyd y Daith ac mae’n pasio heibio nifer o safleoedd hanesyddol gan gynnwys Palas canoloesol Llandyfái a Chastell Maenorbŷr. Mae golygfeydd godidog o’r tir a’r arfordir arni ac mae’n hawdd cyrchu traethau lleol ar droed. Wrth i chi deithio ar eich beic cewch weld amrywiaeth o adar a chlywed eu canu pêr yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf.
Os oes amser gennych chi ar ddiwedd y daith mae’n werth ymweld â bae bychan prydferth Maenorbŷr sydd ar siâp cragen a’r gromlech Neolithig sy’n cael ei galw’n King’s Quoit sy’n nythu ar y penrhyn sy’n edrych dros y bae. Mae hefyd yn werth cerdded at yr hen eglwys ar lwybr graean o’r maes parcio a’r Colomendy o lwybr o’r ffordd sydd o dan fynedfa’r maes parcio. Mae caffis, bwytai, siopau a thafarndai yn y pentrefi sydd ar hyd y llwybr er mwyn i chi stopio am fwyd a diod.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau |
Safleoedd canoloesol a hynafol, traethau a golygfeydd godidog o dir ac arfordir |
---|---|
Gradd |
Cymhedrol |
Pellter |
14 milltir (23 km) |
Amser |
3.0 awr ac amser ychwanegol i gael seibiant |
Tirwedd |
Lonydd tawel gan fwyaf gyda 2 adran fer ar ffordd brysur A4139. Dringfa eithaf serth ar y dechrau a hefyd ar y Gefnffordd |
Codiad Tir |
Cyfanswm dringo (o’r holl adrannau sydd ar i fyny) - 324 metr |
Man Cychwyn / Gwahanol |
Maes Parcio Traeth Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid SS063977, Sat Nav SA70 7SY). Mae arwyddion i’r Maes Parcio o ganol y pentref. Mae toiledau a stondinau ar gyfer beiciau ar y safle. Codir tâl tymhorol am |
Gorsaf drenau agosaf |
Maenorbŷr 11/4 milltir |
Man Cychwyn Arall |
Palas yr Esgob Llandyfái (Cyfeirnon Grid SN018010, Sat Nav SA71 5NT) (1/2 milltir o Orsaf Llandyfái) |
Lluniaeth |
Freshwater West, Llandyfái a Maenorbŷr |
Toiledau |
Maes Parcio Maenorbŷr, Palas Llandyfái (pan fo’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor) |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Man Cychwyn. Trowch i’r chwith allan o faes parcio Traeth Maenorbŷr ac i fyny rhiw eithaf serth. Beth am wthio eich beic ar y rhan hon er mwyn gallu edmygu golygfeydd o’r arfordir?
0.8 Trowch i’r chwith ar y groesffordd
1.8 Anelwch i’r chwith yn y gyffordd ‘T’ ar y brif ffordd ac ar ôl 150 llath arall trowch i’r chwith ar ffordd fechan sy’n dweud ‘Anaddas ar gyfer Cerbydau Modur’. Mae rhan fer y brif ffordd yn eithaf cul a gall fod yn brysur yn ystod y tymor twristaidd felly byddwch yn ofalus. Gallwch ddod oddi ar eich beic a’i wthio ar hyd yr adran fer hon os yw’n well gennych
2.8 Anwybyddwch y troad i’r dde sy’n dweud ‘Dim Cerbydau Modur’ ac ewch yn syth ymlaen
2.9 Gallwch stopio’n syth ar ôl yr arwyddion 30 mya i gerdded am 2 funud at Olygfan Freshwater East os hoffech
3.3 Trowch i’r dde i Chapel Lane sydd ag arwydd ‘Dim Cerbydau Modur’ ac anelwch i’r chwith ar ôl 1/2 milltir
4.4 Trowch i’r chwith ar y brif ffordd drwy Landyfái. Mae terfyn cyflymder 30mya a 20mya yn y pentref ond efallai y bydd beicwyr llai hyderus eisiau dod oddi ar y beic ar ôl yr orsaf betrol a defnyddio’r llwybr troed sydd gyferbyn er mwyn croesi’r bont reilffordd i’r gyffordd sy’n union ar ôl yr eglwys yn fwy diogel
4.8 Trowch i’r dde ac yna’n syth i’r chwith gan ddilyn arwyddion Palas Llandyfái. Gellir gweld Llys Llandyfái yn y pellter ar y chwith
5.2 Trowch rownd ym mynedfa Llys Llandyfái. Gallech ymweld â Phalas Llandyfái gerllaw hefyd os hoffech
5.6 Trowch i’r chwith ar ffordd hynafol Cefnffordd a byddwch yn barod i ddringo i fyny’n fuan ar ôl gadael y pentref
9.6 Trowch i’r dde ar y groesffordd yn syth ar ôl y gyffordd ble mae arwydd am orsaf reilffordd Maenorbŷr, a dilynwch y ffordd weddol droellog hon i lawr y bryn ac o dan bont reilffordd
10.7 Ewch syth ymlaen at groesffordd (croeswch y ffordd yn ofalus) a dilynwch arwydd Maenorbŷr
11.2 Trowch i’r chwith a dilynwch arwydd yr Hostel Ieuenctid, ac i’r chwith eto yn gatiau’r Maes Militaraidd. Seiclwch heibio i’r Hostel Ieuenctid ac ymlaen at faes parcio Golygfannau Skrinkle Haven sydd â stondinau ar gyfer beiciau. Pan fyddwch chi’n barod, ewch yn ôl i’r brif ffordd a throwch i’r chwith i mewn i Maenorbŷr
13.8 Gallwch ymweld â Chastell Maenorbŷr os hoffech. Mae’r fynedfa ar y chwith yn union tu ôl (gan anwybyddu) cyffordd y ffordd fechan sy’n arwain at faes parcio’r traeth. Mae’r Daith yn parhau ar hyd y ffordd gyferbyn â mynedfa’r castell, trowch i’r chwith ar ôl 50 llath ac yna i’r chwith gan ddilyn arwydd maes parcio’r traeth
14.0 Gorffen. Maes Parcio Traeth Maenorbŷr
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Golygfan Freshwater East
Mae’n edrych dros y gyrchfan boblogaidd hon sydd â thraeth tywodlyd llydan, ac a fu unwaith yn lleoliad poblogaidd i smyglwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r pentref ar y clogwyn sy’n edrych dros y bae.
Eglwys Llandyfái
Adeilad diddorol o’r canoloesoedd cynnar
Palas yr Esgob Llandyfái
Adfeilion encil ganoloesol i Esgobion Tyddewi, mewn lleoliad gwledig hyfryd. Mae digon o lecynnau i grwydro o’u cwmpas. Mae rhagor o fanylion yn y safle. Efallai bydd angen talu am fynediad yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r Palas ar agor bob dydd o 10am i 4pm. Mae sôn y gellir gweld cip o ysbryd y ‘Ladi Wen’ yn y nos rhwng y palas a’r pentref. Mae’n debyg ei bod hi’n aelod o’r teulu Devereux oedd yn arfer byw yn y palas
Y Gefnffordd
Hon oedd unig ffordd yr ardal am ganrifoedd a byddai porthmyn rhwng Penfro a Dinbych-y-pysgod yn teithio ar ei hyd. Mae’r nifer fawr o safleoedd â henebion hynafol ar hyd y Gefnffordd yn awgrymu ei bod hithau hefyd yn hynafol.
Golygfannau Skrinkle Haven
Mae un yn edrych dros Skrinkle Haven a Bae Church Doors sydd wedi eu gwahanu gan grib calchfaen tal, tenau. Gallwch fynd at Church Doors drwy 140 o risiau. Mae’r olygfan arall yn edrych allan dros Ynys Bŷr ac, ar ddiwrnod clir, arfordir gogledd Dyfnaint. Mae siapau’r clogwyn sydd wedi eu cerfio gan y môr yn rhan hon yr arfordir yn drawiadol tu hwnt
Castell Maenorbŷr
Dyma gartref yr awdur o’r 12fed ganirf, Gerallt Gymro. Mae’r castell mewn lleoliad trawiadol sy’n edrych dros y traeth ac mae grisiau, tyrrau, ystafelloedd a bylchfuriau i grwydro o’u hamgylch, a’r cyfan mewn cyflwr da. Mae ar agor o ganol Mawrth tan fis Tachwedd o 10am i 5pm ond mae weithiau ar gau ar gyfer digwyddiadau. Mae angen talu
Eglwys Maenorbŷr
Eglwys Normanaidd o’r 12fed ganrif a adeiladwyd ar ran o safle mynachaidd hŷn. Lleoliad gwych â golygfeydd o’r castell a thros Fae Maenorbŷr
Siambr Gladdu King’s Quoit
Mae’n dyddio o tua 3000CC
Colomendy
Adeilad hynafol cofrestredig a gafodd ei adnewyddu’n ddiweddar ac a adeiladwyd yn y 13eg ganrif i ddarparu cig ac wyau ffres i drigolion y castell cyfagos
Bae Maenorbŷr
Lle hyfryd i ymlacio ar ddiwedd y daith feicio. Gellir dod o hyd i ffosiliau yng ngwely’r nant sy’n rhedeg i’r bae’n aml