Beicio Sir Benfro
Llwybr Man Cyfarfod y Dyfroedd
Mae’r Daith ar gyrion ffindiroedd gogledd-ddwyrain Sir Benfro ar hyd rhan o hen linell reilffordd o’r enw’r Cardi Bach. Mae torreth o fywyd gwyllt, afonydd a rhaeadrau yno yn ogystal â chestyll hynafol, eglwysi a hyd yn oed straeon o’r Isfyd.
Mae’n werth ymweld â Chastell Aberteifi ar ddiwedd y Daith os yw amser yn caniatáu - ewch ymlaen ar hyd y ffordd feiciau ger yr afon at stondinau beiciau ger pen yr hen bont. Mae’r castell ar ochr arall y bont ac mae’r fynedfa i fyny’r bryn.
Ffeil Feithiau
Uchafbwyntiau: |
Afonydd, bywyd gwyllt, cestyll, eglwysi hanesyddol a’r isfyd. Mae’n cynnwys Llwybr y Cardi Bach sy’n fyrrach Gradd: Cymhedrol |
---|---|
Pellter: |
171/2 milltir (28 km) |
Amser: |
4 awr ac amser ychwanegol i gael seibiant |
Man Cychwyn / Gorffen: |
Yr Hen Orsaf, Aberteifi. Cyfeiriad Sat Nav SA43 3AD |
Gorsaf Drenau Agosaf: |
Dim un o fewn 5 milltir |
Tirwedd: |
Lonydd tawel ran fwyaf. Un adran serth ar i fyny hanner ffordd drwy’r daith - graddiannau cyfforddus fel arall |
Codiad Tir: |
Cyfanswm dringo o tua 510 metr |
Lluniaeth: |
Y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, Abercych ac Aberteifi |
Toiledau: |
Castell Aberteifi, Y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Castell Cilgerran, Canolfan y Cwrwgl |
Cyfarwyddiadau’r Llwybr (pellteroedd mewn milltiroedd)
0.0 Man Cychwyn. Yr Hen Orsaf, Aberteifi. Ewch i dref Aberteifi o gyfeiriad y de (B4546) ac ar waelod y bryn trowch i’r dde i mewn i Heol yr Orsaf (mae arwydd Ystad Ddiwydiannol Pentood wrth fynd i lawr y rhiw). Pan mae Heol yr Orsaf yn anelu i’r dde, trowch i’r chwith ac yna’n syth i’r dde heibio hen adeilad yr orsaf reilffordd a’r platfform ar y chwith. Mae’r Daith yn dechrau ar waelod y lôn hon, o dan y bont a thrwy Warchodfa Bywyd Gwyllt Corsydd Teifi ar lwybr heb draffig
0.7 Ewch syth ymlaen wrth fynedfa Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar y chwith
2.1 Trowch i’r chwith ar waelod rhiw fer (yn union cyn cyffordd ‘T’) a dilynwch arwydd llwybr seiclo. Dilynwch y ffordd gefn hon i mewn i Gilgerran. Byddwch yn pasio eglwys ar y dde a mynedfa’r castell ar y chwith, ac mae’n werth ymweld â’r ddau yn ystod y Daith.
2.6 Trowch i’r chwith yn y gyffordd ‘T’ i mewn i’r brif stryd sy’n mynd drwy’r pentref. Mae stondinau ar gyfer beiciau yng nghyffordd y ffordd ochr nesaf ac mae cyfle i chi gerdded lawr i’r Ganolfan Cwrwgl a cheunant yr afon
3.6 Trowch i’r chwith ger y ciosg coch (sy’n gartref i amgueddfa bocsys ffôn sy’n deyrnged i’r ffotograffydd lleol Tom Mathias sy’n byw yma) ac i’r chwith yn y gyffordd nesaf
4.6 Trowch i’r dde’n union cyn Pont Llechryd. Mae rhan nesaf y Daith yn rhedeg ochr yn ochr â hen gamlas a cyn bo hir byddwch yn gallu gweld Eglwys Manordeifi ar y chwith. Ar ôl ymweld â’r Eglwys cariwch ymlaen i fyny’r rhiw fechan ac o gwmpas bachdro
7.1 Anelwch i’r chwith yn y gyffordd a dilynwch arwydd Abercych. O’r gyffordd hon gallwch weld y man ble mae afon Cych yn ymuno ag afon Teifi. Dyma ‘Driphwynt’ (neu ffin) tair sir Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion – 'Man cyfarfod y Dyfroedd' ble mae golygfa arall o’r Triphwynt. Ar ôl anelu i’r chwith, byddwch yn seiclo trwy bentref bychan Abercych
8.0 Trowch i’r chwith ar y brif ffordd ac yna i’r dde (yn ofalus) ar waelod y rhiw tuag at Gwmcych
9.1 Ar ôl pont fechan trowch i’r dde am i fyny allan o’r cwm neu gallwch grwydro Cwmcych hudolus yn hirach os yw amser yn caniatáu (hyd at 10 milltir o daith yn ôl a blaen) cyn mynd yn ôl i droi ar y gyffordd hon. Ar ôl troi, byddwch yn dringo ychydig drwy droad dwbl ac ymlaen at adran fwy serth y llwybr. Peidiwch â phoeni, byddwch yn cyrraedd maes parcio ar y chwith cyn bo hir. Stopiwch yno a chlymu eich beic i goeden (nid oes stondinau yno). Ar droed, dilynwch gât metal ar lwybr uwchben gored ac argae bychan. Cerddwch ar hyd lwybr ar ochr dde’r tŷ gan ddilyn ymyl llyn bychan nes cyrraedd Rhaeadr Ffynnonau. Mae’n cymryd tua hanner awr i gerdded yno ac yn ôl ond cofiwch ychwanegu amser am seibiant. Ar ôl ailymuno â’r Llwybr mae’n siŵr y byddwch eisiau gwthio eich beic am ychydig drwy’r goedwig i ben y bryn
11.1 Syth ymlaen ar y groesffordd
12.6 Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a dilyn arwydd Llechryd
13.0 Trowch i’r chwith (drwy Bontrhydyceirt) wrth y groesffordd a dilyn arwydd Cilgerran
15.1 Trowch i’r dde ar ôl seiclo drwy Gilgerran a dilyn arwydd y Ganolfan Bywyd Gwyllt
16.6 Trowch i’r dde er mwyn ymweld â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Mae stondinau ar gyfer beiciau ar y safle. Yna ewch yn ôl, trowch i’r dde ym mynedfa’r Ganolfan ac ewch drwy’r Warchodfa Bywyd Gwyllt eto ac ymlaen at ddiwedd y Daith.
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Castell Aberteifi
Mae’n dyddio o’r 12fed ganrif a dyma leoliad Eisteddfod gyntaf Cymru yn 1176. Ar agor o 10am – 4pm (11am – 3pm yn y gaeaf). Bydd angen talu
Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi
Un o warchodfeydd gwlypdir gorau Cymru
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi ennill gwobrau ac mae’n nythu mewn cefn gwlad ffrwythlon ar lan afon Teifi. Mae Caffi Glasshouse a siop yma hefyd. Ar agor 10am – 5pm (10am – 4pm yn y gaeaf)
Eglwys Cilgerran
Eglwys ganoloesol ar safle eglwys Geltaidd o’r 6ed ganrif. Mae’n enwog am y garreg fegalithig sy’n sefyll yn y fynwent ac mae ysgrifen hynafol Ogam arni. Yn anffodus mae’r eglwys ei hun ar glo ar brydiau
Castell Cilgerran
Castell hyfryd wedi adfeilio o’r 13eg ganrif. Yn ôl y sôn dyma un o gestyll prydferthaf Cymru. Cafodd ei baentio a’i fraslunio sawl gwaith gan yr arlunydd Turner. Mae’n sefyll mewn safle awdurdodol, yn nythu ar bentir creigiog, yn uchel uwchben afon Teifi. Ar agor 10am – 5pm (10am – 4pm yn y gaeaf). Mae angen talu heblaw am yn y gaeaf
Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl
Mae’n enwog am y ras cwrwgl flynyddol ym mis Awst a theithiau cerdded hyfryd ar hyd yr afon drwy Geunant Teifi
Pont Llechryd
Pont garreg o’r 17eg ganrif â sawl bwa sy’n cael ei boddi’n llwyr gan yr afon pan fo llifogydd uchel. Ar draws y bont mae adeilad carreg crwn sy’n llawn gwybodaeth ddiddorol am Lechryd a’i hanes
Eglwys Manordeifi
Eglwys o’r 13eg ganrif â seddi bocs anarferol, mae gan ddwy ohonynt lefydd tân. Byddai’r eglwys yn aml yn cael ei hynysu gan yr afon oedd yn gorlifo ac mae cwrwgl yn cael ei gadw’n y cyntedd gorllewinol er mwyn helpu addolwyr sy’n sownd yno
Cwmcych
Mae hanes cyfoethog i’r cwm ym mytholeg Cymru ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y Mabinogi fel mynedfa i isfyd Annwn. Ychydig i fyny’r cwm mae plasty Gothig Lancych, mae tri ysbryd yno yn ôl y sôn, a dyma un o dai harddaf Sir Benfro, heb os.
Rhaeadr Ffynnonau
Rhaeadr ynysig, prydferth sy’n nwfn yng Nghoedwig Ffynnonau. Mae padlo’n y dŵr rhewllyd yn brofiad gwych