Beicio Sir Benfro
Llwybr Meini Preseli
Mae'r Llwybr yn rhedeg ar hyd y bryniau isel i'r de wrth odre Mynyddoedd y Preseli ac yn cynnig golygfeydd hardd ym mhob cyfeiriad. Mae'n cychwyn wrth yr hen orsaf reilffordd yn Rosebush ac yn ymdroelli drwy Faenclochog ac ymlaen i Fynachlog Ddu a Chomin Rhos Fach.
Ar y Comin fe welwch frigiadau creigiog Carn Menyn, ffynhonnell y 'meini gleision' enwog sy'n ffurfio'r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri. O'r Llwybr hwn gellir gweld detholiad bychan o'r myrdd o feini a godwyd gan ein cyndadau dair i bum mil o flynyddoedd yn ôl.
Ar un adeg credid bod pwerau goruwchnaturiol yn perthyn iddynt ond mae eu hunion bwrpas yn dal yn ddirgelwch hyd heddiw. Cymerwch amser ar ddiwedd y Llwybr i edrych o gwmpas pentref bychan Rosebush a'i hen dafarn sinc, olion rheilffordd a'r chwareli llechi gerllaw. Mae llwybrau beic mynydd niferus ar gael gyda mynediad uniongyrchol o'r pentref.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr llawn golygfeydd ar hyd y bryniau isaf wrth odre Mynyddoedd y Preseli. Mae olion cynhanesyddol yn lluosog gan gynnwys meini hirion, cylch o gerrig a safleoedd hen frwydrau. Gradd: Canolig |
---|---|
Pellter |
12 milltir (19 cilometr) |
Amser |
2½ awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen: |
Y Maes Parcio, Rosebush (Cyfeirnod Grid SN075295, Sat Nav SA66 7QU) Trowch oddi ar y ffordd B4313 i mewn i bentref Rosebush gan ddilyn yr arwydd brown i Dafarn Sinc. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd o gwmpas Tafarn sinc gan gadw'r dafarn ar eich chwith. Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith cyn y ciosg ffôn coch. Mae'r maes parcio ar waelod allt fer. |
Gorsaf Drenau Agosaf |
Dim o fewn 5 milltir |
Tirwedd |
Lonydd tawel yn bennaf a graddiannau cyfforddus. |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 264 metr |
Lluniaeth |
Rosebush a Maenclochog |
Toiledau: |
Maes parcio Castell Maenclochog |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn. Beiciwch i fyny'r bryn byr at y gyffordd 'T', trowch i'r dde ac ymhen oddeutu 40 llath ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd ‘Ildiwch le’.
0.4 Gwyrwch i'r chwith wrth yr arwydd ‘Ildiwch Le’. Cymerwch ofal ar yr adran nesaf hon gan ei bod yn rhedeg ar hyd ffordd 'B' er nad yw llif y drafnidiaeth yn drwm iawn.
1.2 Yn syth ar ôl arwyddion 30 m.y.a. Maenclochog, tynnwch i mewn i gyffordd â ffordd i’r ochr ar y chwith. Mae Meini Hirion Cornel Bach yn y cae cyntaf ar y dde i lawr y ffordd ochr hon. Ewch ymlaen ar hyd y briffordd i mewn i bentref Maenclochog.
1.6 Ar ôl seibiant i edrych o gwmpas y pentref, trowch i'r chwith wrth Gaffi’r Sgwâr gan ddilyn yr arwyddion i Langolman. Unwaith y byddwch allan o'r pentref ac wedi dringo ychydig, mae'r ffordd yn gwyro ychydig i'r dde ac yma gellir gweld Maen y Galchen Fach ar y chwith yn y bwlch rhwng dau gae.
4.5 Trowch i'r chwith (y trydydd cyffordd ar y chwith ar ôl gadael Maenclochog) gan ddilyn yr arwydd am Mynachlog Ddu a Crymych. Mae yna arwydd hefyd yn dweud 'Anaddas i Gerbydau Llydan'. Ar ôl oddeutu hanner milltir mae darn i fyny'r allt wrth ochr Eglwys Llandudoch. Efallai y bydd arnoch eisiau dod i lawr oddi ar y beic a'i wthio i fyny'r allt hon a thalu ymweliad â'r eglwys ddymunol yma ar eich ffordd. Mae dwy ystlys yn yr eglwys hon.
5.7 Mae modd cyrraedd Cylch Cerrig Gors Fawr drwy gerdded am dro byr ar ôl dringo dros y gamfa ar ochr chwith y ffordd wrth ymyl plac sydd wedi ei osod ar garreg.
6.5 Yn union cyn cyrraedd pentref Mynachlog Ddu, trowch i'r chwith gan ddilyn arwydd am Rosebush.
6.8 Maes parcio Rhos Fach. Edrychwch allan am Garreg Waldo ar ochr chwith y ffordd a Heneb y Cerrig Gleision ar ochr dde’r ffordd.
8.3 Glynsaithmaen.
11.3 Trowch i'r dde wth y gyffordd 'T' (beiciwch ar y llwybr amlddefnydd os ydych yn dymuno) ac i'r dde eto ar ôl 300 llath gan ddilyn y ffordd i mewn i Rosebush.
11.9 Gorffennwch wrth y Maes Parcio, Rosebush
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Rosebush
Pentref bychan a ddaeth i fod yn sgil y chwareli llechi sydd bellach wedi cau. Roedd gan bob chwarel ei llawr naddu a'i thramffyrdd ei hun. Ceisiodd perchen tir lleol un tro newid y pentref yn gyrchfan Sba Fictoraidd ac fe arweiniodd cyrhaeddiad y rheilffordd yn 1876 at nifer o ddatblygiadau. Cloddiwyd y tir i greu llynnoedd a gerddi addurniadol ac adeiladwyd Tafarn Haearn y Preseli sy’n awr wedi ei hailenwi'n Dafarn Sinc. Yn anffodus, methiant fu'r datblygiad gan nad oedd priodoleddau arbennig i'r dŵr, methodd y rheilffordd oherwydd bod Brunel wedi adeiladu rheilffordd well i'r de, a chaeodd y chwareli. Buddsoddodd taid Barbara Cartland arian y teulu yn y rheilffordd ond collodd y cyfan a dyma a'i hysgogodd hi i ddechrau ysgrifennu, er mwyn cynorthwyo i gynnal gweddill y teulu. Mae'r rhan fwyaf o'r hen chwareli ychydig y tu draw i'r rhes o fythynnod chwarelwyr ac maent yn werth mynd i'w gweld i ddarganfod pyllau cuddiedig a milltiroedd o lwybrau i gerdded a reidio beic mynydd.
Meini Hirion Cornel Bach
Mae dau faen hir, oedd o bosibl ar un adeg yn ffurfio cromlech neu gell gladdu, a gafodd ei chwythu i fyny, mae'n ymddangos, gan bobl leol â phowdwr gwn yn y ddeunawfed ganrif. Mewn dogfennaeth hanesyddol cyfeirir at faen mawr, oedd yn pwyso nifer o dunelli, oedd wedi ei osod mor gywrain ar ben tri maen hir fel ei fod yn dirgrynu ar y cyffyrddiad lleiaf ac a swniai yn debyg i gloch pan gâi ei daro. Mae cyseiniant yn ffenomenon acwstig neilltuol sy'n perthyn i rai o greigiau'r Preseli. Mae ganddynt y briodoledd brin o fod yn 'soniarus' a gallant ganu fel cloch neu gong pan drewir hwy â morthwyl bach carreg. Dyma a roddodd ei enw i'r pentref – Maenclochog, sef carreg yn canu.
Maenclochog
Pentref â thystiolaeth o breswyliad cynhanesyddol. Mae ymchwilwyr wedi darganfod olion castell o'r drydedd ganrif ar ddeg yn y maes parcio ar ben isaf y stryd fawr. Roedd Rheilffordd Maenclochog yn arfer gwasanaethu'r pentref ar un adeg a daeth twnnel i'r de o'r gymuned yn adnabyddus yn ystod y rhyfel pan gafodd ei ddefnyddio fel safle i brofi bom naid Barnes Wallis. Mae'r eglwys ar lain y pentref yn cynnwys cerrig ac arysgrifen arnynt o'r 5ed a'r 6ed ganrif sydd wedi eu cyflwyno i ddau frawd o’r enw Andagelws a Choemagnws
Carreg y Galchen Fach
Maen 8’ 6” o uchder a'r top ychydig yn grwn a sylfaen 2' sgwâr. Saif ar garnedd a chyfeirir ato weithiau fel Maen Hir Parc-y-Tywydd.
Cylch Cerrig y Gors Fawr
Cylch cynhanesyddol o 16 o feini (yn cynnwys 8 maen glas) y tybir eu bod wedi eu cysylltu ar un adeg drwy rodfa gerrig â dau faen ar y tu allan, 150 llath i ffwrdd, ar ochr ogledd-ddwyrain y cylch. Mae'r ddau faen mawr allanol wedi eu halinio â'r heuldro ac mae gan un ohonynt nodweddion magnetig cryf ac adnabyddir hwn yn lleol fel y 'Garreg Freuddwydio'.
Mynachlog Ddu
Mae'r pentref bychan hwn wedi ei leoli ar lwyfandir gwastad yng nghanol Mynyddoedd y Preseli. Rhwng 1839 a 1843 cychwynnodd y pentrefwyr yn y fan hon wrthryfel yn erbyn Cyfreithiau'r Tollbyrth, a ledaenodd ar draws y rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth Cymru. Arweinid Terfysgoedd Rebecca gan gawr o ddyn lleol o'r enw Thomas Rees (Twm Carnabwth) a saif ei garreg fedd yng nghapel Bethel yn y pentref. Tybir mai Mynachlog Ddu hefyd oedd safle Brwydr Mynydd Carn yn 1081 rhwng lluoedd yn ymrafael am reolaeth dwy deyrnas Gymreig.
Rhos Fach
Ar un ochr i'r ffordd mae carreg goffa i Waldo, er cof am Waldo Williams, un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Roedd yn heddychwr adnabyddus, yn ymgyrchu yn erbyn rhyfel ac yn Genedlaetholwr Cymreig. Ar ochr arall y ffordd mae Heneb y Meini Gleision, a thu hwnt yn y pellter gellwch weld brigiadau creigiog Carn Menyn, y cyfeirir atynt weithiau fel Cefn y Ddraig. Pen y bryn hwn oedd ffynhonnell y 'meini gleision' sy'n ffurfio’r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri. Anelwch at y clawdd a'r ffens ar ymyl y comin (gan gadw Carn Menyn mewn golwg ar y dde i chi) ac fe welwch ddau faen hir Rhos Fach yn y cae cyfagos.
Glynsaithmaen
Enw fferm, sef cwm y saith maen. Gall dod o hyd i'r meini hynny fod fel helfa drysor. Y rhai enwocaf yw Cerrig Meibion Arthur. Yn ôl y chwedl fe'u codwyd gan y Brenin Arthur wrth feddau ei ddau fab a laddwyd yn yr union fan hon yn ystod brwydr yn erbyn creadur tebyg i fwystfil sydd wedi osgoi cael ei ddal gan ei ryfelwyr. Mae'r cerrig ychydig oddi ar y lôn sy'n arwain i'r gogledd at Cwm Garw ond gellir eu gweld yn y pellter ar y dde i'r ffordd ar bwynt lle mae hi'n mynd i lawr at bont ger arwydd y grid gwartheg. Mae maen hir y Giât ychydig yn haws ei lleoli - ar y dde, led 3 lled cae ar ôl y tro sydyn y tu hwnt i Glynsaithmaen. Mae pen y maen i'w weld oddi wrth giât y cae ond gellir gweld y strwythur yn gliriach os ymdrechwch i ben y clawdd ychydig ymhellach i fyny'r bryn. Mae iddo dop siâp cŷn a dywed rhai ei fod yn debyg i siâp tylluan. Wrth y fynedfa i Glynsaithmaen mae monolith coffa W R Evans, bardd, athro a hanesydd lleol a aned ac a fagwyd ar y fferm hon. Cynhaliwyd y cyntaf o gyfarfodydd terfysgoedd Rebecca mewn ysgubor ar y fferm hon ac roedd Thomas Rees, eu harweinydd, yn byw ac yn gweithio yn y fferm gerllaw.