Beicio Sir Benfro

|Name like '%Westfield Trail%'|Route like '%Westfield Trail%'

Llwybr Westfield

Overview
Information

    Mae'r Llwybr yn dilyn hen wely'r Rheilffordd Orllewinol Fawr a adeiladwyd rhwng 1852 ac 1856 dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, yr enwocaf o holl Beirianwyr Oes Fictoria. Mae'n rhedeg drwy Warchodfa Natur Westfield Pil, Marina Neyland ac ymlaen i'r maes parcio y tu draw i gei Brunel.

    Prynwyd y rhan fwyaf o wely'r rheilffordd oddi ar British Rail gan y Cyngor Dosbarth gynt yn 1982 a chafodd rhannau eu clirio'n wreiddiol i'w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr yn y 1990au cynnar. Fe'i galwyd yn llwybr Westfield yr adeg honno a chafodd ei wella a'i ymestyn yr holl ffordd i fyny i Hwlffordd, oddeutu 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd y Llwybr Brunel hirach ei ddatblygu.

    Ffeil Ffeithiau

     

    Uchafbwyntiau

     Cyswllt oddi ar y ffordd gan mwyaf rhwng Johnston a Chei Brunel, Neyland - unwaith yn derfynell Rheilffordd Orllewinol Fawr Brunel. Mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd hen reilffordd sydd wedi cau. Mae'r safleoedd yn cynnwys coetiroedd, Gwarchodfa Natur Westfield Pil, Hafan Gychod, Cei Brunel ac aber tlws yr afon Cleddau

    Gradd: Hawdd                                                                                

    Pellter:

    8½ milltir (14 cilometr)

    Amser:

    2 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant

    Man cychwyn/gorffen: 

    Maes parcio Parc Greenhall, Johnston (Cyfeirnod Grid SM934103, Sat Nav SA62 3PT). Maes parcio am ddim.

    O ffordd yr A4076 trowch wrth y gyffordd yn ymyl y groesfan i gerddwyr (sy’n dwyn yr arwydd Rosemarket a Llangwm). Ar ôl ychydig dros 100 llath, croeswch bont y rheilffordd a chymerwch y tro cyntaf i'r dde a'r cyntaf i'r dde eto. Ym mhen draw y maes parcio mae'r Llwybr yn cychwyn.

    Grsaf Drenau Agosaf: 

    Johnston ½ milltir (trowch i'r chwith i fyny'r allt i ymuno â llwybr beicio, i'r  chwith dros bont y rheilffordd ac i'r chwith eto. Dilynwch yr arwydd i Neyland sy'n eich arwain ar hyd y rheilffordd o dan bont. Mae hon yn mynd â chi heibio cychwyn y Llwybr ar ôl oddeutu 400 llath).

    Tirwedd:

    Yn bennaf ar lwybr tarmac heb drafnidiaeth gydag ychydig o groesfannau ar draws isffyrdd. Rhesymol wastad neu lethrau ysgafn yr holl ffordd.

    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 146 metr

    Lluniaeth:

    Caffi ar Gei Brunel (gyda standiau beic) a Johnston 

    Toiledau

    Cei Brunel.

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0 Man cychwyn. Trowch i'r chwith allan o faes parcio Parc Greenhall, Johnston. Dilynwch yr hen reilffordd hon sydd wedi cau yr holl ffordd i lawr i Warchodfa Natur Westfield Pil a Marina Neyland. Ar y ffordd cymerwch ofal wrth 3 croesfan ar draws isffyrdd. Croesfannau lefel fyddai'r rhain wedi bod yn wreiddiol ac mae rhai o fythynnod ceidwaid y groesfan yn dal i fod o hyd.

    3.3 Ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr isel gan ddilyn y Llwybr dan y bont uchel. Mae'r olygfa tua'r de yn awr yn llawn o hwylbrennau Marina Neyland.

    3.5 Cychwyn yr adran o'r Llwybr gerllaw marina Neyland. Cymerwch ofal gan nad yw'r ffordd hon bellach yn rhydd o drafnidiaeth er mai ychydig o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd a bod trafnidiaeth yn cael ei arafu. Mae'r Llwybr yn mynd ymlaen heibio caffi ar lan y môr ac ymlaen heibio nifer o iardiau cychod i faes parcio Cei Brunel.

    4.3 Maes parcio Cei Brunel. Trowch yn ôl a dilyn yr un ffordd yn ôl i Johnston.

    8.6 Maes parcio Parc Greenhall, Johnston – diwedd y Llwybr

     

     

    Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    Gwarchodfa Natur Westfield Pil

    Cilfach gysgodol gyda morlynnoedd ac ynysoedd sy'n cynnig lloches i gannoedd o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid gan gynnwys y crëyr glas, dyfrgwn a thros 20 math o löyn byw. Caiff y safle hwn ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

    Marina Neyland

    Un o'r hafanau cychod mwyaf a delaf yng Nghymru

    Cei Brunel

    Hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pentref pysgota tawel oedd Neyland. Yn 1856, sefydlodd Brunel, y peiriannydd enwog, Wasanaeth Paced Gwyddelig yn yr hyn a elwid bryd hynny yn 'Gleddau Newydd', a datblygodd amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith gan gynnwys cei a chyswllt rheilffordd i gefnogi gwasanaeth y fferi. Mae nifer o fyrddau gwybodaeth wrth y cei yn disgrifio hanes y prosiect cyffrous hwn. Daeth gwasanaeth y fferi i ben ym 1906 a chaeodd y rheilffordd yn 1964. Bu'r rhan hon o Neyland yn dirywio nes iddi gael ei thrawsnewid dan gynllun adfywio uchelgeisiol a luniwyd yng nghanol yr 80au. O Gei Brunel ceir golygfeydd trawiadol o Bont ac Aber y Cleddau ac yn yr ardal o gwmpas y Cei ceir darnau o offer llong hanesyddol yn cael eu dangos ynghyd â rhai o reilffyrdd Brunel sydd wedi cael eu defnyddio fel ffens ar ochr yr afon. Arferai gwasanaeth fferi redeg i ac o Ddoc Penfro hyd nes iddo gael ei wneud yn ddiangen yn 1975 pan agorwyd Pont Cleddau.

    ID: 3711, revised 04/06/2024