Beicio Sir Benfro
Llwybr Wizo
Mae'r Llwybr yn gwau drwy ran o ardal canol Sir Benfro a gâi ei rheoli ar un adeg gan Wizo, y pennaeth Ffleminaidd a rhyfelwr ffyrnig oedd yn farwn ffiwdal llawer o'r ystadau mawr yn yr ardal, gan gynnwys y rhai lle saif Castell Picton yn awr.
Ef adeiladodd y castell yng Nghas-wis, lle y gwnaeth ei gartref, a sefydlu'r eglwys gerllaw. Mae'r Llwybr yn mynd â chi i 3 chastell yn ogystal â nifer o adeiladau hynafol diddorol eraill. Gellwch hefyd ymweld â gerddi helaeth, rhai lleoliadau tlws ar lan y dŵr a hyd yn oed fragdy cwrw crefft lleol.
Ffeil Ffeithiau
Uchafbwyntiau: |
Llwybr gweddol hir sydd wedi ei enwi ar ôl Wizo’r Ffleminiad. Efallai y cymer y reid y rhan fwyaf o'r dydd i chi os byddwch yn aros i archwilio rhai o'r llu o bethau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Mae'r safleoedd godidog y byddwch yn eu gweld yn cynnwys cestyll, eglwysi, gerddi, pentrefi del a glannau'r Afon Cleddau Ddwyreiniol. Argymhellir pecyn cinio a diod. Gradd: Egnïol |
---|---|
Pellter: |
26 milltir (42 cilometr) |
Amser: |
5 awr yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer seibiant |
Man cychwyn/gorffen |
Neuadd y Sir, Hwlffordd (Cyfeiriad Grid SM956155, Sat Nav SA61 1TP). Gellir gweld Neuadd y Sir o Gylchdro Sgwâr Salutation, Hwlffordd ac mae arwydd ar y fynedfa. Mae'r maes parcio ar gael (am ddim) ar y penwythnosau i ddefnyddwyr y Llwybr. Mae meysydd parcio eraill ar gael ar ddyddiau'r wythnos (codir tâl) ac mae llwybrau beiciau ynddynt i gyd (ar ochr y ffordd) sy'n cysylltu â man cychwyn y Llwybr. |
Grsaf Drenau Agosaf: |
Hwlffordd 1/4 milltir (llwybr beic yn arwain at gychwyn y Llwybr) |
Tirwedd: |
Mae'r 2½ milltir cyntaf yn bennaf ar hyd llwybr rhydd o drafnidiaeth. Ar wahân i ran fer o lwybr ceffylau yn Llawhaden, mae gweddill y Llwybr (ac eithrio ar y diwedd) ar hyd lonydd gwledig tawel. Mae angen croesi rhai priffyrdd mewn mannau a bydd angen gofal, yn enwedig os oes beicwyr iau neu lai hyderus yn eich grŵp. Mae un o'r croesfannau ar ran o'r A40 lle mae'r terfyn cyflymder yn 60 m.y.a. Rhoddir cyngor ynghylch y dull mwyaf diogel i groesi yn y fan hon yng Nghyfarwyddiadau'r Llwybr. Isel yw'r graddiannau yn gyffredinol gyda rhai pantiau a bryniau lleol. Mae yna rannau i fyny allt wrth nesáu at Gas-wis ac un arall ar y ffordd at Plain Dealings. Ni ddylai yr un o'r bryniau hyn achosi problem i unrhyw un sy'n gyfarwydd â beicio. Mae'r arwyneb ar y llwybr ceffylau yn Llawhaden yn anwastad ac yn serth iawn ac felly argymhellir dod oddi ar y beic a'i wthio, i bawb ond y rhai eithafol o ffit sydd ar gefn beiciau mynydd. |
Codiad tir: |
Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 520 metr |
Lluniaeth: |
Hwlffordd a Chastell Picton |
Toiledau: |
Hwlffordd a Chastell Picton (pan fydd ar agor) |
Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)
0.0 Man cychwyn Trowch i'r chwith allan o Neuadd y Sir gan ddilyn y llwybr beiciau. Croeswch wrth y goleuadau i'r llwybr o flaen y County Hotel. Croeswch y gyffordd nesaf ac ewch ymlaen i nifer o groesfannau eraill gan ddilyn y llwybr ag arwyneb coch. Trowch i'r dde ar ôl yr ail danlwybr a dringwch y ramp wrth ymyl y ffordd. Dilynwch y llwybr i ben y bryn a chroeswch y fynedfa i'r parc adwerthu. Croeswch y ffordd wrth y goleuadau cyn mynedfa’r ysbyty ac wedyn parhau ar hyd y llwybr. Gwyrwch i'r dde y tu draw i'r fynedfa i Barc Adwerthu Springfield (gyferbyn) ac ewch yn syth ymlaen lle mae'r llwyr yn ymuno ag isffordd. Ar ôl darn byr iawn byddwch yn ailymuno â llwybr beiciau sy'n arwain yn syth at groesfan. Croeswch y ffordd hon yn ofalus iawn ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr (gan wyro i'r dde wrth y cylchdro) nes i chi gyrraedd croesfan arall gyferbyn â chanolfan gwerthu ceir. Trowch i'r dde ar ochr arall y ffordd a dilynwch y llwybr am oddeutu ½ milltir.
1.9 Trowch i'r dde i lôn â'r arwydd ‘Dim ffordd drwodd ond i feiciau’ ac ewch ymlaen ar hyd y lôn hon drwy 2 set o bolion sy'n atal cerbydau modur rhag cael mynediad.
2.5 Wrth gyffordd 'T' â ffordd y B4329 trowch i'r chwith. Cymerwch y tro cyntaf i'r dde (ar ôl oddeutu ¼ milltir), i mewn i Cross Lane, wedyn y dde eto wrth y gyffordd 'T' nesaf, ac wedyn y tro cyntaf i'r chwith i mewn i Lôn y Nant ymhen oddeutu 150 llath.
3.4 Croeswch y groesfan reilffordd lefel ac ewch ymlaen ar hyd y lôn am oddeutu 3 milltir nes i chi gyrraedd pentref Cas-wis. Mae'r lôn hon i fyny'r allt yn gyffredinol ond nid yw'r graddiannau yn rhy serth a cheir golygfeydd i'r pellter ar draws gwlad ar ddwy ochr y ffordd.
6.6 Tynnwch i mewn i'r lle parcio wrth ochr y ciosg ffôn coch yng Nghas-wis. Mae standiau beic ar gael i chi fedru cerdded i'r eglwys wrth ymyl y standiau a'r castell gyferbyn. Mae'r ddau yn werth ymweld â hwy, ac wedyn ewch ymlaen ar hyd y lôn a throwch i'r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Reidiwch i fyny heibio pwll bach del ar y chwith a throwch i'r dde wrth y gyffordd gyntaf ychydig ymhellach i fyny'r allt. Arhoswch ar y ffordd hon am bron i 2 filltir gan fwynhau golygfeydd pell o Fynyddoedd y Preseli ar y chwith.
8.9 Trowch i'r dde wrth y gyffordd ‘T’ gan ddilyn yr arwydd am Llawhaden, ac wedyn ar ôl milltir byddwch yn cyrraedd y pentref bychan heb arwydd a elwir Plain Dealings, lle mae angen i chi droi i'r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Fodd bynnag, os bydd amser yn caniatáu, gellir talu ymweliad sydyn â Bragdy Cwrw Crefft Caffle yn yr hen ysgol sydd oddeutu 200 llath i'r dde o'r gyffordd. Cysylltwch â'r Bragdy ymlaen llaw os oes gennych ddiddordeb mewn talu ymweliad neu gael taith dywysedig (Caffle Brewery am fanylion cyswllt). Wedi troi i'r chwith wrth y gyffordd uchod, cymerwch y tro cyntaf i'r dde (ar ôl bron i filltir).
12.0 Mae'r gyrchfan bysgota ar y chwith i chi yn werth ei gweld gyda'i llynnoedd tirluniedig atyniadol iawn.
12.3 Saif Eglwys Llawhaden ar y chwith. Tu draw i'r eglwys mae'n werth croesi am ychydig yr hen bont grwca sy'n croesi'r afon Cleddau Ddwyreiniol. Cewch eich gwobrwyo â golygfa hardd o'r afon a'r bont tri bwa ei hun a adeiladwyd yng nghanol y 18fed ganrif. Croeswch yn ôl drosti a dilyn y ffordd i fyny'r bryn am oddeutu 150 llath. Wedyn trowch i ffwrdd ar lwybr ceffylau ar y dde sy'n dwyn yr arwydd 'Dim cerbydau modur'. Os nad ydych wedi dechrau gwthio'ch beic yn barod, dyma'r amser i wneud hynny. Mae'r llwybr yn eithaf serth ond yn fyr ac yn eich arwain i fyny i ganol pentref Llawhaden. Trowch i'r dde ar y top gan ddilyn arwydd am y castell.
12.8 Cyrraedd Castell Llawhaden. Ar ôl ymweliad, trowch o gwmpas ac ewch yn ôl i ganol y pentref. Gwyrwch i'r dde wrth y gyffordd ac ewch ymlaen i fyny'r allt drwy weddill y pentref. Wrth y gyffordd gyntaf ewch yn syth ymlaen. Bydd hyn yn mynd â chi heibio gweddillion hosbis ganoloesol ar y chwith sydd hefyd yn werth ei gweld. Ar ddiwrnod clir mae'r golygfeydd i'r de yn arbennig. Y tu draw i safle'r hosbis, gwyrwch i'r chwith i isffordd yn dwyn yr arwydd Cas-wis. Dilynwch y ffordd hon am fymryn dros 2 filltir gan anwybyddu'r holl droeon i'r ochr.
15.0 Trowch i'r dde lle mae'r ffordd fawr yn troi’n siarp i'r chwith i fyny'r bryn. Dilynwch y lôn am 3 milltir, gan anwybyddu eto pob tro i'r ochr.
18.4 Wrth y gyffordd â phriffordd yr A40, mae'r Llwybr yn troi i'r chwith ac wedyn i'r dde ar isffordd oddeutu 50 llath i ffwrdd. Mae'r A40 yn brysur iawn ac nid argymhellir beicio arni hyd nes y byddwch yn brofiadol iawn. Awgrymir eich bod yn dod i lawr oddi ar eich beic ac yn ei wthio ar hyd yr ymyl laswelltog gerllaw nes y dewch gyferbyn â'r gyffordd nesaf. Wedyn croeswch yn ofalus dros ben pan fydd cyfle'n dod. Cofiwch edrych yn y ddau gyfeiriad a chadw mewn cof y gall trafnidiaeth yr A40 symud yn eithaf cyflym. Daliwch i feicio pan fyddwch ar yr isffordd gyferbyn, gan ddilyn yr arwyddion i'r Rhos.
19.9 Ym mhentref bychan y Rhos, trowch i'r dde cyn y ciosg ffôn coch gan ddilyn yr arwydd i Gastell Picton.
20.4 Y fynedfa i Gastell Picton a'r Gerddi. Ar ôl ymweld, os byddwch yn dewis, ewch ymlaen ar hyd y lôn fel o'r blaen.
21.2 Byddwch yn cyrraedd Fferi Picton ar lan ogleddol yr Afon Cleddau Ddwyreiniol, yn agos i'r fan lle mae'r Cleddau Ddwyreiniol a'r Cleddau Orllewinol yn cydgyfarfod. Tan y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel, dyma oedd lleoliad y fferi rhwng y tir a hon oedd yr hen ffordd o Hwlffordd tuag at Penfro. Ar ôl gorffwys byr, reidiwch yn ôl i fyny'r lôn a throwch i'r chwith ymhen 200 llath. Byddwch yn fuan yn mynd heibio Tŵr Castell Rhosyn ar y dde, un o'r adeiladau mwyaf anesboniadwy yn Sir Benfro. Nid oes neb i'w weld yn gwybod p'un ai gweddillion hen eglwys ydyw, tŷ a thŵr canoloesol, tŵr goleuni ynteu hyd yn oed ffoli Fictoraidd.
22.8 Trowch i'r chwith ar hyd lôn yn dwyn yr arwydd 'Ffordd Un Lôn'.
24.2 Trowch i'r chwith wrth y groesffordd a dilyn yr arwydd am Hwlffordd.
25.2 Wrth y gyffordd ‘T’ trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd am Hwlffordd. Cymerwch ofal gan fod y ffordd hon ychydig yn brysurach na'r rhai yr ydych wedi bod arnynt er ei bod o fewn parth 30 m.y.a.
25.9 Ar waelod yr allt trowch i'r chwith i ddarn byr iawn o lwybr beiciau yn syth y tu draw i gyffordd â ffordd i'r ochr. Wedyn croeswch y ffordd ddeuol gyda gofal a throi i'r chwith ar y llwybr beiciau.
26.0 Gorffennwch wrth Neuadd y Sir, Hwlffordd
Pethau o Ddiddordeb ar hyd y Ffordd
Cas-wis
Adeiladwyd y castell tomen a beili yn y pentref rywbryd yn hanner cyntaf y 12fed ganrif gan y Ffleminiad o'r enw Wizo. Adeiladwyd ef ar safle gwrthglawdd oedd yno eisoes o'r Oes Haearn. Ymhlith cestyll o'r math hwn mae’n un o’r rhai sydd wedi ei gadw orau yng Nghymru. (Ar agor bob dydd o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn, mynediad am ddim). Mae Eglwys Cas-wis gerllaw hefyd o darddiad Normanaidd ac yn cynnwys nifer o nodweddion amddiffynnol a gysylltir â'r cyfnod hwn. Cafodd anheddiad Cas-wis ei enwi ar ôl Wizo'r Ffleminiad.
Eglwys Llawhaden
Cysegrwyd yr eglwys i Aiden, mynach Gwyddelig o'r 6ed ganrif, oedd yn ddisgybl i Dewi Sant. Yn anarferol, mae ganddi ddau dŵr, tŵr 2 lawr o'r 13eg ganrif a thŵr tri llawr o'r 14eg ganrif yn sefyll wrth ei ymyl. Mae hanes diddorol i'r eglwys ac mae wedi ei lleoli mewn man hardd, tangnefeddus ar ochr yr afon. Hon yw eglwys plwyf Llawhaden, un o'r pentrefi hynaf yn Sir Benfro. Mae'r pentref yn gorwedd ar Linell y Landsger ac ar un o lwybrau'r pererinion i Dyddewi.
Castell Llawhaden
Llys caerog Esgob ydyw yn hytrach na chastell, ond wedi ei leoli'n drawiadol ar dir uchel, yn edrych allan dros ddyffryn yr Afon Cleddau Ddwyreiniol. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y 12fed ganrif ac mae'n debyg iawn i gastell o ran ei ymddangosiad. Mae'n ddifyr archwilio'r adfeilion mawreddog. (Ar agor bob dydd o 10 y bore hyd 4 o'r gloch y prynhawn, mynediad am ddim).
Hosbis Llawhaden
Mae'r adfail hwn o'r 13eg ganrif wedi ei leoli wrth ymyl Neuadd y Pentref. Arferai fod yn un o nifer o leoedd y gallai pererinion aros ynddynt ar eu taith i'r cysegr yn Nhyddewi. Roedd eu teithiau'n anodd ac yn beryglus ac yn aml yn cymryd misoedd lawer. Cynigiai hosbisau seibiant, lloches a meddyginiaeth, p'un a oedd pererinion yn gyfoethog, yn dlawd, yn glaf neu'n iach. Mae'r adfail, sy'n sefyll o hyd, yn strwythur hirsgwar uchel gyda tho fowtiau baril. Mae encilfa y tu mewn yn awgrymu y gallai hefyd fod wedi cael ei ddefnyddio fel capel yn gysylltiedig ag adeiladau eraill yr hosbis ar yr un safle sydd bellach wedi hen ddiflannu.
Castell Picton
Rhoddwyd stad Picton gan Wizo i un o'i farchogion Ffleminaidd ac ar yr amser yma yr adeiladwyd y castell cyntaf ar y safle. Cwblhawyd y castell cerrig sy'n bodoli’n awr yn y 13eg ganrif ac fe'i trawsnewidiwyd yn blasty yn y 18fed ganrif. Bellach saif mewn 40 acer o goetir godidog a gerddi o fewn muriau. Mae ganddo hefyd y casgliad mwyaf o dylluanod yng Nghymru, drysfa a chae chwarae antur i blant, Mae'r castell ar agor drwy gydol y flwyddyn (fel arfer o 9 y bore hyd 5 o'r gloch y prynhawn) gyda theithiau tywysedig o gwmpas y castell ar adegau penodedig drwy'r dydd (codir tâl mynediad). Mae lluniaeth a thoiledau ar gael ar y safle. Mae'n bosibl treulio oriau lawer yn archwilio'r castell a'r gerddi ac efallai y byddai'n well gan ddefnyddwyr y Llwybr gadw eu hymweliad ar gyfer rhywbryd arall, pan fydd mwy o amser ar gael i archwilio'r atyniad.