Beicio Sir Benfro

Staciau Heligog - Penrhyn St Gofan

Llwybr defnydd a rennir yw’r llwybr hwn felly cofiwch y bydd seiclwyr, cerddwyr, reidwyr ceffylau a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn ei ddefnyddio hefyd.

Llwybr ceffylau yw’r rhan hon o Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac mae gydag e arwyneb caregog ac ymylon clogwyni serth.

Er mwyn bod yn ddiogel, cofiwch ddilyn y llwybr trwy gydol yr amser.

 

Dull Seiclo a cherdded

Pellter 6.3 milltir (10.1 cilomedr)

Siopau beiciau Y siop feiciau agosaf yw Bierspool Cycles, London
Rd, Doc Penfro

Atyniadau
Gallwch gerdded er mwyn mynd i archwilio’r llecyn rhwng y llwybr cerrig a phen uchaf y clogwyni. Dyma’r uchafbwyntiau a welwch wrth ichi fynd:

Pont Werdd Cymru - Un o arweddion daearegol enwocaf Sir Benfro, a ffurfiwyd am fod y môr wedi erydu pentir cul a thorri drwyddo.

Pen-y-holt/Staciau Heligog - Dau bilar o galchfaen, a oedd ar un adeg yn rhan o fwa arall sydd bellach wedi cwympo. Yn y gwanwyn a’r haf bydd gwylogod, gweilch y penwaig ac adar môr eraill yn heidio yma i glwydo arnynt.

Ceyrydd Oes yr Haearn – adeiladwyd y ceyrydd hyn dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl a byddent wedi tremio dros gwm coediog. Ers hynny mae lefelau’r môr wedi codi, gan ffurfio Môr Hafren fel y mae heddiw.

Huntsman’s Leap - Cilfach gul ag ochrau serth iddi, a ffurfiwyd ar ôl iddi gael ei herydu gan y môr ar hyd ffawtlin yn y clogwyn. Yn ôl y sôn fe wnaeth heliwr sbarduno ei geffyl i neidio dros yr agendor, llwyddo i lanio’n ddiogel cyn bwrw golwg yn ei ôl a chwympo’n farw yn y fan a’r lle gan sioc ar ôl iddo weld yr hyn yr oedd e wedi neidio drosto.

Capel Sant Gofan - Mae modd cyrraedd y capel bychan hwn trwy fynd ar hyd rhes o risiau serth, anwastad. Mae’r capel yn dyddio o’r 13eg ganrif ond credir bod ei sylfeini’n llawer hŷn na hynny. Islaw’r capel mae ffynnon, y credir iddi allu iachau anhwylderau’r llygad, gwynegon a chloffni.

ID: 270, adolygwyd 24/10/2017