Beth sydd ar gael
Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol
Yr hyn a Wnawn?
Mae Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Sir Benfro (GCC) a gyd-ariannir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro, yn darparu cyfarpar i'ch helpu i gynnal eich bywyd bob dydd a'ch annibyniaeth yn eich cartref. Caiff yr holl gyfarpar ei ddarparu am ddim, a hynny am gyhyd ag y bydd ei angen.
Ymhlith yr enghreifftiau o gyfarpar y gellid ei argymell y mae'r canlynol:
- seddi tai bach a chomodau
- codwyr dodrefn
- fframiau cerdded
- teclynnau codi
- gwelyau proffilio
- matresi briwiau pwyso
Pwy sy'n cael cymorth gennym?
Oedolion a phlant sydd ag anghenion wedi'u hasesu. Er mwyn i chi gael y cyfarpar cywir, bydd gweithiwr iechyd neu weithiwr gofal cymdeithasol yn ymweld â chi i asesu eich anghenion. Os ydych wedi bod yn yr ysbyty, cewch eich asesu cyn i chi gael eich rhyddhau. Os ydych gartref bydd un o'r gweithwyr canlynol yn eich asesu:
- Nyrs Ardal/Gymunedol, sy'n gysylltiedig â'ch practis meddyg teulu
- Therapydd Galwedigaethol
- Ffisiotherapydd
- Gweithiwr iechyd neu weithiwr gofal cymdeithasol arall sy'n ymwneud â'ch gofal sy'n asesydd y gellir ymddiried ynddo.
Atgyweiriadau
Yn achos methiannau ac atgyweiriadau mewn argyfwng y tu allan i oriau, yn ymwneud â gwelyau, teclynnau codi neu offer trydanol arall a ddarperir gan GCC, cysylltwch â Drive DeVilbiss Sidhil ar 01422 233136. Noder nad yw lifftiau grisiau a theclynnau codi â thrac nenfwd yn cael eu gosod gan GCC, ac nid yw GCC yn gyfrifol am y rhain.
Ydych chi am ddychwelyd cyfarpar?
Rydym yn eich annog i ddychwelyd cyfarpar llai o faint i'r siop yn uniongyrchol, lle y bo'n bosibl. Os yw'r cyfarpar yn fwy o faint neu os na allwch ei ddychwelyd eich hun, ffoniwch y swyddfa a gellir trefnu i'r cyfarpar gael ei gasglu o'ch eiddo.
Noder y dylid dychwelyd cadeiriau olwyn at y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS (yn agor mewn tab newydd)). Dylid dychwelyd ffyn cerdded a ffyn baglau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) at un o ysbytai’r GIG.
Cysylltu a ni
e-bost: ces@pembrokeshire.gov.uk