Beth sydd ar gael
Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro
Gwasanaeth ffôn argyfwng yw gwasanaeth larwm cymunedol Sir Benfro sydd â nodweddion arbennig i fodloni anghenion pobl sydd â nam ar y golwg, sy'n drwm eu clyw neu sydd ag anawsterau symud ac anableddau eraill. Mae'n galluogi unigolion i gael sylw yn glou mewn argyfwng.
Technoleg Gynorthwyol
Technoleg Gynorthwyol ydy'r diffiniad cyffredinol o offer teleofal a theleiechyd gan gynnwys larymau cymunedol.
Mae technoleg gynorthwyol yn seiliedig ar y syniad y dylai pobl hŷn, anabl neu fregus fedru aros yn annibynnol gyhyd ag y bo modd os ydynt yn dewis gwneud hynny. Gall systemau teleofal gefnogi annibyniaeth a lles. Mae'n galluogi teulu, cyfeillion, cymdogion neu ofalwyr i ymateb i argyfwng yn fuan.
Gwasanaeth Larwm Cymunedol
Gwasanaeth ffôn argyfwng ydy gwasanaeth larwm cymunedol Sir Benfro gyda nodweddion arbennig i fod yn addas i rai â nam ar eu golwg, nam ar eu clyw a phobl ag anableddau symudedd ac anableddau eraill. Mae'n galluogi unigolion i dderbyn sylw'n gyflym mewn argyfwng.
Meini Prawf Hyb Clyfar Lifeline
- Soced drydanol o fewn yr ardal sy'n darparu'r signal symudol cryfaf.
- Rhaid cael dau rif cyswllt lleol o leiaf i fod yn ddalwyr allwedd.
Tai yn y Sector Breifat £3.90* TAW cyfradd sero neu ffi safonol o £4.68 yr wythnos o dâl monitro – i’w dalu bob chwarter.
Tenantiaid y Cyngor Bydd £4.22* TAW cyfradd sero neu ffi safonol o £5.06 yn cael ei ychwanegu at y cyfrif rhent.
Meini Prawf y Lifeline Vi
- Rhaid bod llinell ffôn BT yn ei lle
- Soced drydan o fewn 1 metr i soced y llinell dir ar yr un wal. Rhaid i hyn fod wedi ei ddarparu cyn gosod yr offer.
- Rhaid cael dau rif cyswllt lleol o leiaf i fod yn ddalwyr allwedd.
Tai yn y Sector Breifat £2.90* TAW cyfradd sero neu ffi safonol o £3.48 yr wythnos o dâl monitro – i’w dalu bob chwarter.
Tenantiaid y Cyngor Bydd £3.14* TAW cyfradd sero neu ffi safonol o £3.77 yn cael ei ychwanegu at y cyfrif rhent.
Teleofal
Gellir cysylltu synwyryddion amgylcheddol a diogelwch ychwanegol â'r larwm cymunedol. Mae mynediad at y math hwn o offer yn dibynnu ar asesiad o angen yr unigolyn.
CONNECT Sir Benfro
Rhaglen CONNECT gan Llesiant Delta yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ond yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro y mae ar gael. Mae'r Gwasanaeth ‘Connect’ yn darparu gwasanaeth teleofal a llinell bywyd. Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cymorth cofleidiol i helpu unigolion i fyw'n annibynnol am fwy o amser a helpu i adnabod unrhyw faterion iechyd a lles posibl yn gynnar. Mae Llesiant Delta Wellbeing yn cynnig llinell bywyd sylfaen a gwasanaeth theleofal hefyd. Mae mwy o wybodaeth a sut i gysylltu ar y wefan Delta Connect (yn agor mewn tab newydd).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â:
Ffôn: 01437 764551
E-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk