Beth sydd ar gael

Llawn Bywyd yn 50 Plws

Amcan yr adran yw eich cynorthwyo i fanteisio i’r eithaf ar fod dros 50 oed ac i gynllunio at y dyfodol

Rydym ni, ar hyn o bryd, yn nhrydydd cyfnod y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Cymru 2013 -2023

Mae’r cyfnod hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan y bobl hŷn yng Nghymru, yr adnoddau y mae arnynt eu hangen er mwyn ymdopi â’r tasgau anodd a’r cyfleoedd y maent yn mynd i’w cael. 

Isod fe welir y canlyniadau y dymunir eu cael ar gyfer y cyfnod hwn yn y Strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru: 

  • Cyfranogiad cymdeithasol - Bydd pobl hŷn yn cael gwell ansawdd bywyd, yn byw bywydau cymdeithasol egnïol (os taw hynny yw eu dymuniad), ac mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol dieisiau yn cael eu lleihau hyd yr eithaf. Ni fydd pobl yn cael eu cam-drin na’u difrïo.
  • Amrywiaeth - Ni fydd gwahaniaeth yn erbyn pobl hŷn yn digwydd oherwydd eu hoedran, ac ni fydd gwahaniaeth lluosog yn digwydd iddynt chwaith oherwydd rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, crefydd a chredo, cyfeiriadedd rhywiol, na chwaith oherwydd eu hoedran.
  • Mynediad at wybodaeth - Bydd pobl hŷn yn cael mynediad at wybodaeth a chyngor ynghylch gwasanaethau a chyfleoedd, ac ni fyddant yn cael eu dodi dan anfantais pan maent yn eu cyrchu. 
  • Dysgu a gweithgareddau - Bydd pobl hŷn yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes a gweithgareddau cymdeithasol priodol eraill.
  • Heneiddio’n Iach - Bydd pobl hŷn yn cael iechyd a lles da, o ran y corff, y meddwl a’r emosiynau, er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol yn hirach a byw bywyd gwell ei ansawdd, a pharhau i weithio a chymryd rhan yn eu cymunedau.
  • Mannau agored a rennir - Bydd mannau cyhoeddus yn fannau croesawgar, diogel a hygyrch ar gyfer pobl hŷn.
  • Byw yn y gymuned - Bydd pobl hŷn yn gallu cymryd rhan yn eu cymunedau a chyfrannu atynt. Byddant hefyd yn gallu manteisio ar wasanaethau a gweithgareddau.
  • Cludiant - Bydd pobl hŷn yn gallu manteisio ar gludiant fforddiadwy a phriodol sy’n eu cynorthwyo i chwarae rhan lawn ym mywyd eu teulu, eu cymdeithas a’u cymuned. 
  • Tai - Bydd pobl hŷn yn cael darpariaeth tai a gwasanaethau sy’n rhoi cymorth i’w hanghenion ac sydd hefyd yn hybu eu hannibyniaeth
  • Pensiynau ac incymau eraill - Bydd pobl hŷn yn cael incwm o safon ddigonol a byddant yn cael yr holl fuddion ariannol y mae gyda hwy hawl i’w cael.
  • Ynni - Bydd pobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy’n ynni-effeithlon a byddant yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi yn ôl y tymheredd angenrheidiol er mwyn diogelu eu hiechyd.
  • Cynhwysiant ariannol - Bydd pobl hŷn yn gallu cael gafael ar gyngor a gwasanaethau ariannol priodol ac ni fyddant yn orddyledus i neb. 
  • Cyflogaeth - Bydd y bobl hŷn sy’n dymuno gweithio yn gallu gwneud hynny a hefyd yn gallu cael cymorth i gael eu hailhyfforddi a mabwysiadu sgiliau newydd.

Mae Fforwm Canolog 50+ Sir Benfro yn cyfarfod bob mis heblaw ym mis Awst a Rhagfyr.

Mae'r cyfarfodydd yn digwydd ar drydydd dydd Iau y mis am 10:30am

Yn Sir Benfro mae gyda ni gorff cynrychiadol a hoffai glywed gennych chi, sef:-

Fforwm 50+ Sir Benfro: pembrokeshire50plusforum@gmail.com

Y Tîm Cymunedau Heb Ragfarn Oed: 01437 764551

 

 

ID: 2273, adolygwyd 16/03/2023