Bioamrywiaeth
Partneriaeth Natur Sir Benfro
Mae ‘natur’ yn golygu holl greaduriaid byw a’r cymhlethdodau ecolegol (gan gynnwys elfennau a phrosesau difywyd) y maent yn rhan ohonynt. Mae’n cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng rhywogaethau ac ecosystemau; cydnerthedd ecosystemau; y gwasanaethau a roddant i gymdeithas; a sut mae bodau dynol yn rhyngweithio gyda natur.
Mae natur ym mhobman: mewn gerddi, caeau, gwrychoedd, mynyddoedd, clogwyni ac yn y môr. Mae ei digonedd ac amrywiaeth yn elfen allweddol o’r cyfundrefnau naturiol sy’n ein cynnal drwy wasanaethau ecosystem fel peillio cnydau, lliniaru llifogydd, rheoli plâu a phuro dŵr. Mae mynediad at ardaloedd naturiol hefyd yn agwedd ar ansawdd bywyd, gan roi pleser, diddordeb a dealltwriaeth o’n hamgylchedd i ni.
Yn lleol, mae natur yn gydran arbennig o bwysig o hynodrwydd Sir Benfro. Mae’r Sir yn haeddiannol enwog am ei harfordir gogoneddus, yn llawn adar ac yn frith o flodau gwyllt yn y gwanwyn, ei haberoedd tawel, dyffrynnoedd coediog serth a gweundir eang ar Fynydd Preseli. Mae’r môr a gwely’r môr o gwmpas arfordir Sir Benfro’n llawn rhywogaethau, rhai ohonynt mae o gryn bwysigrwydd economaidd.
Mae llawer o sefydliadau’n cydweithio yn Sir Benfro i gynnal a gwella nodweddion naturiol lleol. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio Partneriaeth Natur Sir Benfro. Rydym yn adeiladu ar bartneriaethau a mentrau presennol ac yn datblygu rhwydweithiau a threfniadau newydd i gyflawni nodau gwarchod natur ar sail ein cynlluniau gweithredu lleol. Gallwch lawrlwytho Cynlluniau Gweithredu’r Bartneriaeth yma a dolenni i adroddiadau ar brosiectau a orffennwyd.
Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n bodoli i wneud y canlynol:
Cydgysylltu, hyrwyddo a chofnodi gweithrediadau presennol a newydd i warchod, hybu a chyfoethogi natur yn Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyfroedd y glannau a gwely’r môr o gwmpas arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir allan, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
I wirfoddoli mewn cadwraeth natur, i gael cyngor ar reoli eich tir er mwyn bywyd gwyllt, neu i gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, cofiwch gysylltu â ni:
Ant Rogers
Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth
Partneriaeth Natur Sir Benfro
Tîm Cadwraeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn:01437 764551
E-bost: biodiversity@pembrokeshire.gov.uk
Casglwn a defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu rhoi gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio i chi, datblygu prosiectau a rhannu arferion gorau mewn cadwraeth natur yn unol â’n Cylch Gorchwyl a Chanllawiau Gweithio Partneriaeth Natur Sir Benfro a’r Hysbysiad Prosesu Teg. Mae’r rhain ar gael isod, neu drwy gysylltu â’r Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth. Wnawn ni fyth ddefnyddio eich data at unrhyw ddiben heblaw swyddogaethau cyfreithlon Partneriaeth Natur Sir Benfro.
Gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
Aelodau Presennol Partneriaeth Natur Sir Benfro
- Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
- Ateb
- Canolfan Wyliau Bluestone
- Buglife
- Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn
- CLA Cymru
- Canolfan Darwin
- Dwr Cymru Welsh Water
- Undeb Amaethwyr Cymru
- Fferm Ffoli
- First Milk
- Ffrindiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cadwch Gymru’n Daclus
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
- Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cyngor Sir Penfro
- PLANED
- Plantlife
- Princes Gate
- RSPB Cymru
- Sea Trust
- Tir Coed
- Llywodraeth Cymru (ariennir gan)
- Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Cylch Gorchwyl Partneriaeth Natur Sir Benfro - Strwythur Rheoli
Partneriaeth Natur Sir Benfro - Cylch Gorchwyl
Cylch Gorchwyl Partneriaeth Natur Sir Benfro - Atodiad 2: Canllawiau Gwaith
Rhybudd Preifatrwydd – Partneriaeth Natur Sir Benfro