Bioamrywiaeth

Cyngor Rheoli Safleoedd

Os ydych wedi cyrraedd y wefan hon trwy sganio’r cod QR ar arwydd yn y maes, fe welwch gyngor rheoli penodol i safle isod.

Ymylon Ffyrdd Comin Dowrog, Tyddewi 

Rhwng y marcwyr yn y fan hon mae ardal allweddol oherwydd nifer o blanhigion prin. Peidiwch â thorri gwair yn ystod y tymor blodeuo (gwanwyn a haf cynnar) er mwyn i’r planhigion fwrw hadau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trevor Theobald ar 01437 764551 neu e-bostio biodiversity@pembrokeshire.gov.uk 

Mynydd Sutton

Caiff yr ardal hon ei rheoli i hybu seren y gwanwyn (Scilla verna). Tra bo’r blodyn hwn yn gyffredin ar yr arfordir, nid yw’n gyffredin tua’r tir. Cyn torri gwair yn yr ardal hon, cysylltwch â Trevor Theobald ar 01437 764551 neu e-bostio biodiversity@pembrokeshire.gov.uk

Sydney Rees Way, Hwlffordd

Mae tegeirianau gwenynog (Ophrys apifera) yn tyfu yn yr ardal hon. Peidiwch â thorri'r lawnt rhwng mis Mawrth a mis Awst na phigo'r blodau - dylech eu gadael i eraill eu mwynhau ac i'r planhigion osod hadau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Trevor Theobald ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at biodiversity@pembrokeshire.gov.uk

Amlosgfa Parc Gwyn

Mae ardaloedd bach o flodau gwyllt brodorol wedi'u plannu o fewn y mannau gwyrdd mwy ar safle'r amlosgfa hon. Nid yw'r ardaloedd hyn yn cael eu torri yn ystod y tymor blodeuo (mis Ebrill i fis Medi) i ganiatáu i flodau hadu. Pan gânt eu torri yn gynnar yn yr hydref, mae'n bwysig cael gwared ar yr holl doriadau. I gael rhagor o wybodaeth am ddolydd blodau gwyllt, ewch i Pembrokeshire Meadows (yn agor mewn tab newydd) ac 'Iddyn nhw' YouTube (yn agor mewn tab newydd)

Mae cennin Pedr brodorol wedi'u plannu o dan y goedlan ar safle'r amlosgfa hon. Mae'r cennin Pedr hyn yn blodeuo rhwng mis Chwefror a mis Mawrth. Mae'n bwysig nad yw'r dail yn cael eu torri nes eu bod wedi dechrau troi'n felyn a gwywo (o ganol mis Ebrill ymlaen).

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Bioamrywiaeth ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at biodiversity@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 2061, adolygwyd 31/10/2023