Bioamrywiaeth

Pam ydyn ni’n gadael i’r glaswellt dyfu?

Wedi’i dorri’n rheolaidd, efallai y bydd glaswellt wedi ei dorri yn fyr yn edrych yn daclus – ond nid yw’n fawr o fudd i fywyd gwyllt.

Drwy newid sut yr eir ati i dorri glaswellt a chasglu’r hyn a dorrwyd, gallwn, dros amser, greu dolydd mwy brodorol, a fydd yn llawn blodau gwyllt, mewn ardaloedd amwynder ac ar hyd ymylon y ffyrdd. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd drwy gefnogi bywyd gwyllt, gwella cysylltedd ecolegol, storio mwy o garbon yn ein priddoedd a meithrin mwy o wytnwch i wrthsefyll newid amgylcheddol.

Efallai mai ymylon ffyrdd neu laswelltiroedd amwynderau yw’r unig gyswllt rheolaidd sydd gan rai pobl yng Nghymru â natur. Bydd cael mwy o ardaloedd blodau gwyllt brodorol yn gwella cymeriad lleol, nodweddion gweledol a’n hiechyd a’n lles.

Gall newid sut y mae awdurdodau cyhoeddus yn torri glaswellt helpu i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol o dan ddyletswydd bioamrywiaeth Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, cofiwch gysylltu â ni:

Tîm Cadwraeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

 

Ffôn:01437 764551
E-bost: biodiversity@pembrokeshire.gov.uk

 

Ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder sy'n cynnal bywyd gwyllt (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 10290, adolygwyd 14/06/2023