Briffio Cyfranogwyr, Staff ac Eraill
Briffio Cyfranogwyr, Staff ac Eraill
Bydd angen i drefnydd digwyddiad sicrhau bod sesiynau briffio yn ddigonol ar gyfer eu digwyddiad. Bydd gan bob digwyddiad ffactorau gwahanol y mae angen eu trafod. Isod ceir nifer o sesiynau briffio y gellid bod eu hangen.
Briffio Cyfranogwyr
Mae'n bwysig rhoi gwybodaeth berthnasol i unrhyw gyfranogwyr mewn da bryd. Gallai hyn gynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Materion penodol lleol
- Materion sensitif yn ymwneud â’r amgylchedd a bywyd gwyllt
- Codau ymddygiad fel y rhai a geir yn nheulu’r Codau Cefn Gwlad (yn agor mewn tab newydd)
Os yw'ch digwyddiad ar lwybr yr arfordir neu hawl tramwy cyhoeddus rhowch wybod i’r cyfranogwyr beth i'w wneud pan fyddwch chi'n cwrdd â rhywun yn syth o’ch blaen, yn goddiweddyd ac yn pasio pobl eraill.
Y mater diogelwch allweddol ar Lwybr yr Arfordir yw cadw at y llwybr a sicrhau nad yw cyfranogwyr na defnyddwyr eraill y llwybr fyth yn camu i ochr y môr.
Mae'n bwysig sicrhau bod yr holl staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr (lle bo hynny'n briodol):
- yn ymwybodol o gynnwys y brîff i’r cyfranogwyr fel y gallant ateb unrhyw ymholiadau
- wedi'u briffio'n llawn ar bob agwedd ar y digwyddiad, gan gynnwys rheoli'r dorf a threfniadau argyfwng
- yn cael cyfarwyddiadau ysgrifenedig, cynlluniau safle a rhestrau gwirio
- yn ymwybodol o beryglon posibl a allai ddatblygu yn ystod digwyddiad
- yn ymwybodol o'r ardaloedd y maent yn eu stiwardio.
Mae'n bwysig fod stiwardiaid:
- yn hawdd eu hadnabod trwy wisgo siacedi melyn
- yn cyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd, eu goruchwyliwr, y person sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch, a rheolwr cyffredinol y digwyddiad.
Briffiwch yr holl bartïon perthnasol eraill
Mae'n arfer da rhannu cynllun eich digwyddiad i'r holl bartïon perthnasol yn fuan cyn y digwyddiad er mwyn sicrhau bod gan bawb ddealltwriaeth glir o gyfrifoldebau, amseriadau ac effeithiau posibl y digwyddiad.
Mae cyfathrebu'n allweddol ac mae tirfeddianwyr yn gwerthfawrogi'n fawr fod pob pryder wedi cael ei ystyried a'i fod wedi cael sylw a bod cynllun trefnus ar gyfer y diwrnod.