Budd-dal Tai
Adolygiad achos llawn
Os ydych chi wedi cael llythyr neu e-bost gennym ni yn gofyn i chi gwblhau adolygiad achos llawn, gallwch gael mynediad at y ffurflen ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod:
Adolygiad achos llawn (yn agor mewn tab newydd)
Mae angen yr adolygiad i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir a'n bod yn talu'r lefel gywir o fudd-dal i chi.
I gwblhau'r adolygiad bydd angen i chi gael yr allwedd mynediad sydd wedi'i chynnwys yn y llythyr/e-bost rydych chi wedi'i chael.
Dylai'r adolygiad gymryd 10-15 munud i'w gwblhau.
ID: 15273, adolygwyd 30/04/2026