Budd-dal Tai

Beth os ydw i’n anghytuno â’r penderfyniad ar y Budd-dal Tai?

Gweithredwch yn gyflym

  • Amserlen: Mae angen i chi ysgrifennu atom o fewn mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.
  • Ceisiadau hwyr: Os oes mwy na mis wedi mynd heibio, gallwch barhau i ofyn am ailystyried eich cais neu apelio hyd at 13 mis o ddyddiad y penderfyniad, ond bydd angen i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi.

 

Rhaid i chi ysgrifennu atom os ydych chi eisiau:

  • gofyn am ‘ddatganiad o’r rhesymau’: gofynnwch am esboniad manwl o’r penderfyniad
  • gofyn am ‘ailystyried’ y cais: gofynnwch am gael y penderfyniad wedi’i adolygu eto
  • apelio i dribiwnlys annibynnol: os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl ailystyried y cais, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol

 

I ofyn am adolygiad:

neu

  • ysgrifennwch at y Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
  • cofiwch gynnwys:
    • eich enw
    • eich cyfeiriad
    • cyfeirnod eich cais

 

Gwybodaeth i’w chynnwys yn eich cais

  • Pa benderfyniad yr hoffech chi iddo gael ei egluro neu ei ailystyried.
  • Pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir.
  • Unrhyw ffactorau ychwanegol y credwch y dylid eu hystyried.

 

Sylwer: rhaid i’r sawl a gyflwynodd y cais am fudd-dal wneud y cais hwn.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os caiff y penderfyniad ei newid

  • Bydd eich hawl i fudd-dal yn cael ei gywiro, a byddwch yn cael llythyr penderfyniad newydd.

 

Os yw’r penderfyniad yn aros yr un fath

  • Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r penderfyniad.
  • Gallwch barhau i apelio i dribiwnlys annibynnol os ydych chi’n anghytuno.

 

Os ydych chi’n apelio

  • Bydd eich apêl yn cael ei hanfon at dribiwnlys annibynnol (ar wahân i’r cyngor).
  • Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi gyda manylion am y camau nesaf a phryd y bydd eich apêl yn cael ei chlywed.
ID: 73, adolygwyd 21/11/2025