Budd-dal Tai
Cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai: Nodiadau arweiniol
Mae Taliad Disgresiwn at Gostau Tai yn daliadau dewisol i helpu pobl gyda'u costau tai h.y. rhent.
Rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal tai i allu derbyn Taliad Disgresiwn at Gostau Tai.
Mae'r gronfa'n gyfyngedig o ran arian ac felly gwneir taliad ar sail dros dro ac ni chaiff ei ddyfarnu am gyfnod amhenodol. Fel y nodir mewn rheoliadau, ni ellir talu Taliad Disgresiwn at Gostau Tai tuag at gostau unrhyw un o’r canlynol:
- taliadau gwasanaeth anghymwys, e.e. costau gwresogi, dŵr poeth, dŵr a charthffosiaeth, taliadau cymorth
- atebolrwydd rhent os oes gan y cwsmer hawl i Gymorth Treth y Cyngor yn unig
- cynnydd mewn rhent i dalu am ôl-ddyledion rhent, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sydd heb eu talu
- gostyngiadau mewn unrhyw fudd-dal o ganlyniad i sancsiynau Cynnal Plant neu Lwfans Ceisio Gwaith
- diffygion a achosir gan adennill gordaliad budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol
Felly, mae'r Cyngor wedi datblygu polisi cymhwyster a amlinellir dros y dudalen:
Categori 1
Eiddo a adeiladwyd/addaswyd yn benodol ar gyfer defnydd cadair olwyn unrhyw aelod o'r cartref h.y. oedolyn neu blant.
Categori 2
Ystafell wely ychwanegol o ganlyniad i faterion yn ymwneud â gofal plant e.e. plant mewn gofal - (mae angen ystafell pe baent yn dychwelyd), rhieni sydd wedi ymddieithrio gyda phlant yn aros yn ysbeidiol ac ati.
Categori 3
Eiddo wedi'i addasu ar gyfer yr anabl e.e. cawod cerdded i mewn, rampiau a rheiliau.
Categori 4
Agosáu at ben-blwydd hollbwysig e.e. oedran pensiwn sy'n eu heithrio o'r “dreth ystafell wely” neu ben-blwydd plant sy'n golygu ystafell wely ychwanegol.
Categori 5
O ran cwsmeriaid yng Nghategori 5, bydd pob achos yn cael ei benderfynu ar ei rinweddau unigol a bydd gwerth unrhyw ddyfarniad yn dibynnu ar amgylchiadau pob cais.
Bydd angen prawf ariannol o adnoddau yng nghategori 2 - 5 fodd bynnag, bydd y Cyngor yn diystyru Pensiynau Rhyfel Gwraig Weddw/Anabledd Rhyfel, gofal lwfans byw i'r anabl a thaliadau symudedd ac annibyniaeth bersonol.
a. Enw a chyfeiriad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’ch enw a’r cyfeiriad yr hoffech wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai ar ei gyfer mor glir â phosibl gan ddefnyddio LLYTHRENNAU BRAS ac mewn inc du.
b. Budd-dal tai
Atebwch y cwestiynau eraill yn yr adran hon mor llawn â phosibl hefyd. Dywedwch os oes angen help arnoch gyda rhent. RHAID i chi fod yn gymwys i gael o leiaf 50 ceiniog yr wythnos o Fudd-dal Tai cyn y gallwn dalu Taliad Disgresiwn at Gostau Tai.
c. A oes gennych ôl-ddyledion
Rhowch fanylion unrhyw ôl-ddyledion rhent a/neu dreth gyngor i ni a rhowch wybod i ni pa gamau (os o gwbl) a gymerwyd i adennill y rhain. Os nad oes gennych ôl-ddyledion dywedwch wrthym sut yr ydych wedi llwyddo i ariannu unrhyw ddiffyg rhwng y rhent a/neu’r dreth gyngor sy’n ddyledus a’r budd-dal yr ydych yn ei
dderbyn oddi wrthym.
ch Pam mae'r llety'n addas i chi?
Mae angen i chi ddweud wrthym pam mae'r llety yr ydych yn byw ynddo yn arbennig o addas i chi neu aelod o'ch teulu. Er enghraifft, a oes gennych unrhyw anableddau sydd angen llety llawr gwaelod, neu a yw eich eiddo wedi'i addasu mewn rhyw ffordd? A oes angen ystafell ychwanegol arnoch oherwydd bod angen gofalwr arnoch neu oherwydd bod gennych blant sydd ond yn aros gyda chi ar benwythnosau? Ydy'r llety o'r maint cywir i chi neu'ch teulu? Oes angen lifft neu intercom arnoch chi am ryw reswm?
Dywedwch wrthym a oes gennych unrhyw broblemau iechyd corfforol neu feddyliol sy'n golygu bod lle rydych yn byw yn arbennig o addas i chi neu aelod o'ch teulu. A fyddech chi'n cael anhawster dod o hyd i lety mwy addas? Os felly, dywedwch wrthym sut y byddai eich anabledd neu salwch yn effeithio ar
hyn.
dd. Ydych chi wedi chwilio am lety arall?
Dywedwch wrthym a ydych wedi ceisio dod o hyd i lety arall. Ydych chi wedi cofrestru gyda'r Cyngor neu Gymdeithas Tai?
e. Ydy'r ardal yn arbennig o addas i chi?
A yw'n agos at ysgol neu feithrinfa eich plant? Ydych chi'n agos at eich teulu sy'n rhoi cymorth o ryw fath i chi? A yw ger clinig neu ysbyty yr ydych yn ei fynychu'n rheolaidd?
Oes angen i chi fyw mewn fflat oherwydd eich anabledd a/neu yn agos at wasanaethau cyhoeddus?
f. All unrhyw un arall helpu?
Allwch chi gael help o unrhyw le arall? Teulu, ffrindiau, elusennau? Os felly, am ba hyd? Mae'r gronfa Taliad Disgresiwn at Gostau Tai yn gyfyngedig o ran arian felly yn anffodus ni allwn helpu pawb sy'n gwneud cais.
ff. Newidiadau yn y dyfodol neu newidiadau diweddar
Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau diweddar neu yn y dyfodol sydd wedi peri ichi ofyn am gymorth ychwanegol. Er enghraifft, rydych yn mynd i gael babi neu newydd gael un, profedigaeth ddiweddar, cynnydd mewn rhent, tor-perthynas, symud cartref, dechrau neu adael gwaith, newidiadau yn eich incwm, rhywun yn gadael eich cartref, ac ati.
g. Ffurflen asesiad ariannol
Cwblhewch y manylion hyn mor llawn â phosibl. Gall oedi eich cais os na chaiff hwn ei gwblhau. Os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill dywedwch wrthym a oes didyniadau yn cael eu gwneud am Gronfa Gymdeithasol neu Fenthyciad Cyllidebu.
ng. Llofnodi'r ffurflen
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi a dyddio'r ffurflen ac os oes gennych bartner, gwnewch yn siŵr ei fod yn ei llofnodi hefyd. Os oes rhywun wedi llenwi'r ffurflen ar eich rhan, dywedwch pam wrthym a gofynnwch iddo lofnodi yn yr adran hon hefyd.
h. Manylion pellach
Mae rhagor o fanylion am Bolisi Taliad Disgresiwn at Gostau Tai y Cyngor ar gael ar Wefan y Cyngor