Budd-dal Tai
Rheoli fy Mudd-dal Tai ar-lein
Gallwch reoli eich Budd-dal Tai ar-lein gan ddefnyddio’r cyfrifon canlynol:
- Cyfrif Budd-dal Tai
Cyfrif Budd-dal Tai
Gallwch wneud y canlynol:
- Gweld taliadau sydd ar ddod a thaliadau a wnaed yn y gorffennol
- Cael prawf o’ch hawl
I gofrestru neu fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd arnoch angen y canlynol:
- Eich cyfeirnod Budd-dal Tai (fe welwch hwn ar unrhyw lythyrau Budd-dal Tai a anfonwyd gennym atoch chi)
- Eich rhif Yswiriant Gwladol
Sylwer: rhaid i chi fod yn hawlio Budd-dal Tai eisoes i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Yna bydd angen i chi ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif ac yna dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.
Yna dewiswch 'Hawliadau Newydd' a 'Gwneud Hawliad Newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.
Mewngofnodi i’ch cyfrif Budd-dal Tai
Sut ydw i'n gwneud cais am y Budd-dal Tai?
Mae’r Budd-dal Tai yn destun prawf modd. Mae hyn yn golygu bod eich incwm a’ch cynilion yn cael eu hystyried wrth wneud cais.
Ar y dudalen hon:
Pryd fydd eich Budd-dal Tai yn dechrau
Cyn i chi wneud cais
Gwiriwch eich bod yn gymwys i hawlio’r Budd-dal Tai.
A allaf hawlio’r Budd-dal Tai?
Os ydych chi’n gymwys, gwnewch gais cyn gynted â phosibl gan na ellir ôl-ddyddio taliadau bob amser.
Bydd arnoch angen y canlynol:
- Prawf o’ch hunaniaeth, e.e. trwydded yrru, pasbort, cyfriflen banc, tystysgrif priodas, bil cyfleustodau (i chi a’ch partner)
- Dogfennau eraill fel eich cytundeb tenantiaeth, slipiau cyflog neu slipiau cyngor pensiwn
Gwneud cais
- Cwblhau ffurflen gais am y Budd-dal Tai
- Lanlwytho tystiolaeth ategol (os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn fel rhan o’ch cais cychwynnol)
Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Yna bydd angen i chi ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif ac yna dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.
Yna dewiswch 'Hawliadau Newydd' a 'Gwneud Hawliad Newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.
Ar ôl i chi wneud cais
- Nodwch gyfeirnod eich cais rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â ni.
- Byddwn yn adolygu eich ffurflen gais ac yn cysylltu â chi os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth.
Pwysig
Dywedwch wrthym ar unwaith:
- os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich gor-dalu
- os yw eich amgylchiadau’n newid, e.e. incwm yn cynyddu neu’n gostwng, newidiadau i bensiwn neu gynilion, partner yn symud i mewn neu allan o’ch cartref, ac ati
Os ydych chi wedi cael eich gor-dalu, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu eich Budd-dal Tai.
Pryd fydd eich Budd-dal Tai yn dechrau
Fel arfer o’r dydd Llun ar ôl i’ch cais ddod i law.
Gallwch ofyn am ei ôl-ddyddio os oedd gennych reswm da dros beidio â gwneud cais yn gynt.
- Oedran gweithio: hyd at un mis (os teimlir bod rheswm da dros yr oedi cyn gwneud cais)
- Oedran pensiwn: hyd at dri mis (bydd hyn yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig)
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Gofyn am daliad ôl-ddyddio yn eich ffurflen gais ar-lein gychwynnol
neu
- Ein ffonio ni i ofyn am ffurflen gais am daliad ôl-ddyddio
- 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm)
Sylwer: mae’n rhaid i chi roi manylion pam na wnaethoch chi wneud cais yn gynharach.
Sut ydych chi’n cyfrifo faint o’r Budd-dal Tai y mae gen i hawl iddo
Ar y dudalen hon:
Tenantiaid y cyngor neu gymdeithas dai
Tenantiaid y cyngor neu gymdeithas dai
Mae faint o’r Budd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
- Eich rhent ‘cymwys*’
- Os oes gennych ystafell sbâr
- Incwm eich cartref, gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
- Eich amgylchiadau, er enghraifft oedran y bobl ar yr aelwyd neu os oes gan rywun anabledd
*Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch hawliad am y Budd-dal Tai. Dyma’ch rhent gwirioneddol ynghyd ag unrhyw ffioedd gwasanaeth rydych chi’n eu talu (e.e. ar gyfer cynnal a chadw lifft, neu am olchdy cymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi ar gyfer eich cartref.
Sut rydym yn cyfrifo’r Budd-dal Tai yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sbâr
Ystafelloedd gwely sbâr
Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol ac mae gennych chi ystafell wely sbâr. Y gostyngiad yw:
- 14% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 1 ystafell wely sbâr
- 25% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 2 ystafell wely sbâr neu ragor
Enghraifft
Eich rhent cymwys yw £100 yr wythnos, ond mae gennych un ystafell wely sbâr. Mae hynny’n golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng 14%, i £86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r ffigur hwnnw.
Sylwer: dim ond os ydych chi o dan oedran pensiwn y mae’r gostyngiad mewn Budd-dal Tai ar gyfer ystafelloedd gwely sbâr yn berthnasol.
Rhannu ystafelloedd gwely
Disgwylir i’r canlynol rannu:
- Cwpl sy’n oedolion
- Dau blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
- Dau blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)
Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:
- Oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
- Plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond y mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes wedi’u llenwi; er enghraifft, mae gennych chi dri o blant ac mae dau ohonynt eisoes yn rhannu
- Cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
- Gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall. Dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi, ond weithiau’n gorfod aros dros nos, y mae hyn yn berthnasol
Caniateir un ystafell wely sbâr ar gyfer y canlynol:
- Gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau, ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
- Gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os nad oes plentyn yn cael ei leoli gyda nhw yn ystod y cyfnod hwnnw
Sylwer: ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai ‘sbâr’ os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.
Tenantiaid preifat
Mae faint o’r Budd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
- Eich cyfradd Lwfans Tai Lleol, neu
- Eich rhent ‘cymwys*’
**Pa un bynnag sydd isaf**
- Incwm eich cartref, gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion
*Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch hawliad am y Budd-dal Tai. Dyma’ch rhent gwirioneddol ynghyd ag unrhyw ffioedd gwasanaeth rydych chi’n eu talu (e.e. ar gyfer cynnal a chadw lifft, neu am olchdy cymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi ar gyfer eich cartref.
Lwfans Tai Lleol
Bydd eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar y canlynol:
- Faint o ystafelloedd gwely y mae eu hangen arnoch chi
- Nifer y bobl yn eich cartref
- Yr ardal rydych chi’n byw ynddi
Sylwer: dim ond y gyfradd llety a rennir o’r Lwfans Tai Lleol y mae’r rhan fwyaf o rentwyr preifat sengl o dan 35 oed yn ei gael, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhannu eu cartref ag unrhyw un.
Mae rhai amgylchiadau lle nad yw’r gyfradd llety a rennir yn berthnasol, hyd yn oed os ydych chi o dan 35 oed, gan gynnwys os ydych chi:
- o dan 25 oed ac wedi bod mewn gofal
- yn unigolyn ag anabledd difrifol
- yn rhannu ag oedolyn arall sy’n aelod o’ch teulu (a elwir yn berson nad yw’n ddibynnydd)
- rhwng 16 a 34 oed ac wedi treulio tri mis mewn hostel ar gyfer unigolion digartref
Nifer yr ystafelloedd gwely
Y nifer uchaf o ystafelloedd gwely y caniateir i chi hawlio amdanynt o dan y Lwfans Tai Lleol yw pedair ystafell.
Gallwch chi dal rentu tŷ mwy, ond dim ond am hyd at bedair ystafell wely y byddwch chi’n cael budd-dal.
Rydych chi’n cael eich asesu fel rhywun sydd angen ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:
- Cwpl sy’n oedolion
- Oedolyn arall dros 16 oed neu’n hŷn
- Dau blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
- Dau blentyn o dan 10 oed, waeth beth fo’u rhyw
- Unrhyw blentyn arall
- Gofalwr dibreswyl os ydych chi’n hawlio, ar gyfradd canolig neu uwch, Lwfans Byw i’r Anabl (yn agor mewn tab newydd) neu Lwfans Gweini (yn agor mewn tab newydd)
- Aelod o gwpl na all rannu ystafell wely oherwydd anabledd
- Plentyn anabl o dan 16 oed na all rannu ystafell oherwydd ei anabledd
- Plentyn yn y lluoedd arfog sydd i ffwrdd ar ddyletswydd ac a oedd yn byw gyda chi cyn iddo fynd i ffwrdd ac sy’n bwriadu dychwelyd.
Caniateir ystafell wely ychwanegol os oes ei hangen arnoch ar gyfer y canlynol:
- Plentyn neu blant maeth
- Gofalwr dibreswyl (neu dîm o ofalwyr) sy’n aros dros nos yn rheolaidd i ddarparu gofal i chi neu aelod arall o’r aelwyd oherwydd anabledd
Gallwch ddefnyddio gwefan y Lwfans Tai Lleol (yn agor mewn tab newydd) i’ch helpu i gyfrifo’r nifer uchaf o ystafelloedd gwely y caniateir i chi hawlio amdanynt.
4. Sut mae taliadau’r Budd-dal Tai yn cael eu gwneud?
Tenantiaid y cyngor
- Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn wythnosol i’ch cyfrif rhent (ac eithrio ar wythnosau di-rent)
Tenantiaid preifat
- Bydd taliadau’n cael eu gwneud bob pythefnos i’ch cyfrif banc
Tenantiaid cymdeithas dai
- Bydd taliadau’n cael eu gwneud bob pythefnos i’ch cyfrif banc
- Gallwch ddewis iddynt gael eu talu i’ch landlord bob pedair wythnos
Efallai y byddwn yn talu landlordiaid yn uniongyrchol:
- os ydych chi dros wyth wythnos ar ei hôl hi’n talu’r rhent
- os ydych chi’n cael trafferth rheoli arian
- os ydych chi’n annhebygol o dalu’r rhent
A allaf hawlio Budd-dal Tai?
Beth yw'r Budd-dal Tai?
Gall y Budd-dal Tai eich helpu i dalu’ch rhent yn gyfan gwbl neu’n rhannol os ydych chi’n ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau.
Sylwer: mae’r Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan y Gredyd Cynhwysol (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer pobl o oedran gweithio.
Pwy a all barhau i hawlio’r Budd-dal Tai?
Mae’r Budd-dal Tai yn dal i fod yn opsiwn os ydych chi:
- eisoes yn ei gael
- wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
- mewn tai â chymorth, tai gwarchod, neu dai dros dro
Os ydych chi’n bodloni un o’r gofynion hyn, mae’r Budd-dal Tai ar gael i chi os ydych chi:
- yn denant cyngor neu gymdeithas tai
- mewn cydberchnogaeth (ar gyfer y rhent)
- yn rhentu gan landlord preifat
- yn talu rhent am angorfa cwch preswyl
- yn talu rhent am lain ar gyfer cartref symudol neu garafán
Gallwch hawlio’r Budd-dal Tai os ydych chi:
- yn gweithio neu’n ddi-waith
- yn cael budd-daliadau eraill, credydau treth, neu bensiynau
- yn gofalu am rywun
- yn methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
- wedi ymddeol
Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys os oes gennych chi £16,000 neu ragor mewn cynilion / asedau, oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn.
Cymorth gyda’r Dreth Gyngor
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Gostyngiad y Dreth Gyngor
Ddim yn siŵr a ydych chi’n gymwys?
Cysylltwch â ni:
- E-bost: revenue.services@pembrokeshire.gov.uk
- Rhif ffôn: 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm)
Sut ydw i’n rhoi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau?
Os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Ostyngiad y Dreth Gyngor, mae’n bwysig rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o’ch aelwyd) er mwyn osgoi problemau gyda’ch budd-daliadau.
Ar y dudalen hon:
Pryd i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Lanlwytho tystiolaeth ategol ar ôl rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Pryd i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am y canlynol:
- Os yw eich incwm yn newid, e.e.
- cyflog
- pensiynau
- Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant
- Rydych chi’n dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael unrhyw fudd-daliadau, e.e.
- Credyd Cynhwysol*
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Gofalwyr
Sylwer*
Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau i:
Canolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol
- Rhif ffôn: 0345 6000 723 neu 0845 6000 723
Byddant yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch Credyd Cynhwysol.
- Mae newidiadau ‘sylweddol’, e.e. cynnydd mewn arian o fwy na £16,000 yn eich:
- cyfrif(au) banc
- cynilion
- stociau neu gyfrannau
- Rydych chi’n symud i gyfeiriad newydd
- Mae rhywun yn symud i mewn neu allan o’ch cartref
- Mae rhywun rydych chi’n byw gyda nhw yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i weithio, felly mae eu hincwm yn newid
- Rydych chi neu rywun ar eich aelwyd yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal
- Mae gennych fabi newydd
- Mae plentyn yn gadael yr ysgol neu’n newid ysgol
- Rydych yn fyfyriwr
- Rydych chi’n cwblhau eich addysg neu hyfforddiant pellach
Os ydych chi’n rhentu’n breifat neu’n rhentu drwy gymdeithas dai, rhaid i chi ddweud wrthym am y canlynol:
- Mae swm eich rhent yn newid
- Mae unrhyw wasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent yn newid, e.e. taliadau cymunedol, gwresogi, dŵr ac ati
- Mae rhywbeth yn newid yn yr eiddo a rennir yr ydych chi’n byw ynddo, e.e. rydych chi’n symud i ystafell wahanol, neu rydych chi’n rhentu mwy o ystafelloedd yn yr un eiddo
- Os bydd eich landlord yn newid
Sylwer:
- nid oes angen i denantiaid cyngor ddweud wrthym am newidiadau i’w rhent
- rhaid i landlordiaid sy’n cael taliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau y maent yn dod yn ymwybodol ohonynt
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Tystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu
Bydd angen i ni weld prawf o’r newid rydych chi’n dweud wrthym amdano.
Gallai hyn gynnwys:
- hysbysiad o gynnydd mewn rhent
- slipiau cyflog
- cyfriflenni banc
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd arnom angen rhagor o dystiolaeth neu wybodaeth.
Os ydych chi’n symud tŷ ac yn denant preifat neu’n denant cymdeithas dai, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- Copi o’ch cytundeb tenantiaeth newydd yn dangos:
- eich enw
- dyddiad cychwyn y denantiaeth
- swm y rhent a pha mor aml rydych chi’n gwneud taliad rhent, e.e. yn wythnosol, yn fisol ac ati
- unrhyw ffioedd gwasanaeth ychwanegol sydd wedi’u cynnwys yn y rhent, e.e. gwresogi, dŵr
- Slipiau cyflog diweddar
- Cyfriflenni banc
- Hysbysiad o gynnydd mewn rhent
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Lanlwytho tystiolaeth ategol ar ôl rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Os ydych chi wedi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ond heb lanlwytho eich tystiolaeth ategol eto...
Gallwch wneud y canlynol:
- Lanlwytho dogfennau ar-lein
neu
- anfon lluniau / dogfennau wedi’u sganio drwy e-bost i: revenue.services@pembrokeshire.gov.uk
Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Yna bydd angen i chi ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif ac yna dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.
Yna dewiswch 'Hawliadau Newydd' a 'Gwneud Hawliad Newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.
Cofiwch nodi:
- cyfeirnod eich cais
neu
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Byddwn yn:
- cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth
- rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i swm eich budd-dal
- rhoi gwybod i chi os ydych chi wedi cael eich gor-dalu
- egluro sut y cafodd eich budd-dal ei ailgyfrifo
- rhoi arweiniad os ydych chi’n credu bod gwall yn swm / taliadau eich budd-dal
Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Os na fyddwch yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau cyn pen mis ar ôl y newid, gallai hyn olygu:
- ein bod wedi rhoi gor-daliad o’r Budd-dal Tai i chi; yna byddai angen i chi ad-dalu unrhyw arian ychwanegol rydych chi wedi’i gael
neu
- nad ydych chi’n hawlio’ch holl hawliau ac rydych chi’n colli budd-daliadau / taliadau ychwanegol
Beth os ydw i’n anghytuno â’r penderfyniad ar y Budd-dal Tai?
Gweithredwch yn gyflym
- Amserlen: Mae angen i chi ysgrifennu atom o fewn mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.
- Ceisiadau hwyr: Os oes mwy na mis wedi mynd heibio, gallwch barhau i ofyn am ailystyried eich cais neu apelio hyd at 13 mis o ddyddiad y penderfyniad, ond bydd angen i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi.
Rhaid i chi ysgrifennu atom os ydych chi eisiau:
- gofyn am ‘ddatganiad o’r rhesymau’: gofynnwch am esboniad manwl o’r penderfyniad
- gofyn am ‘ailystyried’ y cais: gofynnwch am gael y penderfyniad wedi’i adolygu eto
- apelio i dribiwnlys annibynnol: os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl ailystyried y cais, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol
I ofyn am adolygiad:
- anfonwch neges e-bost i: revenue.services@pembrokeshire.gov.uk
neu
- ysgrifennwch at y Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
- cofiwch gynnwys:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- cyfeirnod eich cais
Gwybodaeth i’w chynnwys yn eich cais
- Pa benderfyniad yr hoffech chi iddo gael ei egluro neu ei ailystyried.
- Pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir.
- Unrhyw ffactorau ychwanegol y credwch y dylid eu hystyried.
Sylwer: rhaid i’r sawl a gyflwynodd y cais am fudd-dal wneud y cais hwn.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os caiff y penderfyniad ei newid
- Bydd eich hawl i fudd-dal yn cael ei gywiro, a byddwch yn cael llythyr penderfyniad newydd.
Os yw’r penderfyniad yn aros yr un fath
- Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r penderfyniad.
- Gallwch barhau i apelio i dribiwnlys annibynnol os ydych chi’n anghytuno.
Os ydych chi’n apelio
- Bydd eich apêl yn cael ei hanfon at dribiwnlys annibynnol (ar wahân i’r cyngor).
- Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi gyda manylion am y camau nesaf a phryd y bydd eich apêl yn cael ei chlywed.
Taliadau Tai Dewisol
Fe all y cynllun Taliad Tai Dewisol (DHP) roi cymorth byrdymor cyfyngedig i chi wrth dalu eich rhent.
Cyn i ni allu rhoi DHP i chi:
- Ni allwch wneud cais heblaw os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai (HB) neu os yw'r elfen dai'n rhan o'ch Credyd Cynhwysol (UC)
- Rhaid eich bod angen cymorth ychwanegol gyda'ch costau tai h.y. bod â diffyg rhwng eich rhent a'ch hawl i fudd-dal
- Rhaid eich bod eisoes wedi siarad â'ch darparwr tai ynghylch eich taliadau rhent
- Rhaid bod gan y Cyngor ddigon o arian ar gael i dalu am eich DHP.
Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer:
- Taliadau gwasanaeth anghymwys ar gyfer HB
- Codiadau rhent oherwydd ôl-ddyledion rhent heb eu talu
- Cosbau a gostyngiadau mewn budd-dal
- Cymorth Treth y Cyngor drwy'r Cynllun lleol Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Rydym yn ystyried:
- Y diffyg rhwng HB a chydran dai UC a'r rhent a gontractiwyd
- Eich incwm a'ch gwariant chi a'ch aelwyd
- Unrhyw gynilion neu gyfalaf sydd gennych chi neu eich aelwyd
- Unrhyw gamau a gymrwyd i leihau eich atebolrwydd rhent. Er enghraifft, ydych chi wedi rhoi cynnig ar neu ydych chi wrthi'n chwilio am lety arall rhatach
- Unrhyw newid amgylchiadau yn y dyfodol fydd yn arwain at gynnydd mewn hawl i HB neu UC
- Wnaethoch chi gael gwybod beth fyddai eich Lwfans Tai Lleol cyn symud i'r eiddo?
- Oeddech chi'n ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau ar HB oherwydd nad oes digon o bobl yn byw yno?
- Ydych chi wedi gwneud cais am holl ffynonellau incwm sydd ar gael i chi?
- Maint eich dyledion a gwariant ymrwymedig chi a'ch teulu.
Sut i wneud cais
- Darllenwch y Nodyn Esboniadol y Taliad Tai Dewisol cyn i chi lenwi'r ffurflen gais
- Lawrlwythwch a llenwch Ffurflen Gais am Daliad Tai Dewisol
- Rhaid i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch gwariant cyfredol.