Budd-dal Tai

Sut ydw i'n gwneud cais am y Budd-dal Tai?

Mae’r Budd-dal Tai yn destun prawf modd. Mae hyn yn golygu bod eich incwm a’ch cynilion yn cael eu hystyried wrth wneud cais.

 

Ar y dudalen hon:

Cyn i chi wneud cais

Gwneud cais

Ar ôl i chi wneud cais

Pryd fydd eich Budd-dal Tai yn dechrau



Cyn i chi wneud cais

Gwiriwch eich bod yn gymwys i hawlio’r Budd-dal Tai.

A allaf hawlio’r Budd-dal Tai?

 

Os ydych chi’n gymwys, gwnewch gais cyn gynted â phosibl gan na ellir ôl-ddyddio taliadau bob amser.

 

Bydd arnoch angen y canlynol:

  • Prawf o’ch hunaniaeth, e.e. trwydded yrru, pasbort, cyfriflen banc, tystysgrif priodas, bil cyfleustodau (i chi a’ch partner)
  • Dogfennau eraill fel eich cytundeb tenantiaeth, slipiau cyflog neu slipiau cyngor pensiwn



Gwneud cais

  1. Cwblhau ffurflen gais am y Budd-dal Tai
  2. Lanlwytho tystiolaeth ategol (os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn fel rhan o’ch cais cychwynnol)

 

Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

Yna bydd angen i chi ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif ac yna dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.

Yna dewiswch 'Hawliadau Newydd' a 'Gwneud Hawliad Newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.



Ar ôl i chi wneud cais

  • Nodwch gyfeirnod eich cais rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â ni.
  • Byddwn yn adolygu eich ffurflen gais ac yn cysylltu â chi os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth.

 

Pwysig

Dywedwch wrthym ar unwaith:

  • os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich gor-dalu
  • os yw eich amgylchiadau’n newid, e.e. incwm yn cynyddu neu’n gostwng, newidiadau i bensiwn neu gynilion, partner yn symud i mewn neu allan o’ch cartref, ac ati

Os ydych chi wedi cael eich gor-dalu, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu eich Budd-dal Tai.



Pryd fydd eich Budd-dal Tai yn dechrau

Fel arfer o’r dydd Llun ar ôl i’ch cais ddod i law.


Gallwch ofyn am ei ôl-ddyddio os oedd gennych reswm da dros beidio â gwneud cais yn gynt.

  • Oedran gweithio: hyd at un mis (os teimlir bod rheswm da dros yr oedi cyn gwneud cais)
  • Oedran pensiwn: hyd at dri mis (bydd hyn yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig)

 

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Gofyn am daliad ôl-ddyddio yn eich ffurflen gais ar-lein gychwynnol

neu

  • Ein ffonio ni i ofyn am ffurflen gais am daliad ôl-ddyddio
    • 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm)

 

Sylwer: mae’n rhaid i chi roi manylion pam na wnaethoch chi wneud cais yn gynharach.

 

ID: 14069, adolygwyd 21/11/2025