Budd-dal Tai

Sut ydw i’n rhoi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau?

Os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Ostyngiad y Dreth Gyngor, mae’n bwysig rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o’ch aelwyd) er mwyn osgoi problemau gyda’ch budd-daliadau.

Ar y dudalen hon:

Pryd i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Lanlwytho tystiolaeth ategol ar ôl rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau



Pryd i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am y canlynol:

  • Os yw eich incwm yn newid, e.e.
    • cyflog
    • pensiynau
    • Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant

 

  • Rydych chi’n dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael unrhyw fudd-daliadau, e.e.
    • Credyd Cynhwysol*
    •  Lwfans Ceisio Gwaith
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
    • Cymhorthdal Incwm
    • Lwfans Gofalwyr

 

Sylwer*

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau i:

Canolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol

  • Rhif ffôn: 0345 6000 723 neu 0845 6000 723

Byddant yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch Credyd Cynhwysol.

 

  • Mae newidiadau ‘sylweddol’, e.e. cynnydd mewn arian o fwy na £16,000 yn eich:
    • cyfrif(au) banc
    • cynilion
    • stociau neu gyfrannau
  • Rydych chi’n symud i gyfeiriad newydd
  • Mae rhywun yn symud i mewn neu allan o’ch cartref
  • Mae rhywun rydych chi’n byw gyda nhw yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i weithio, felly mae eu hincwm yn newid
  • Rydych chi neu rywun ar eich aelwyd yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal
  • Mae gennych fabi newydd
  • Mae plentyn yn gadael yr ysgol neu’n newid ysgol
  • Rydych yn fyfyriwr
  • Rydych chi’n cwblhau eich addysg neu hyfforddiant pellach

 

Os ydych chi’n rhentu’n breifat neu’n rhentu drwy gymdeithas dai, rhaid i chi ddweud wrthym am y canlynol:

  • Mae swm eich rhent yn newid
  • Mae unrhyw wasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent yn newid, e.e. taliadau cymunedol, gwresogi, dŵr ac ati
  • Mae rhywbeth yn newid yn yr eiddo a rennir yr ydych chi’n byw ynddo, e.e. rydych chi’n symud i ystafell wahanol, neu rydych chi’n rhentu mwy o ystafelloedd yn yr un eiddo
  • Os bydd eich landlord yn newid

 

Sylwer:

  • nid oes angen i denantiaid cyngor ddweud wrthym am newidiadau i’w rhent
  • rhaid i landlordiaid sy’n cael taliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau y maent yn dod yn ymwybodol ohonynt



Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Tystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu

Bydd angen i ni weld prawf o’r newid rydych chi’n dweud wrthym amdano.

Gallai hyn gynnwys:

  • hysbysiad o gynnydd mewn rhent
  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc

 

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd arnom angen rhagor o dystiolaeth neu wybodaeth.

 

Os ydych chi’n symud tŷ ac yn denant preifat neu’n denant cymdeithas dai, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
  • Copi o’ch cytundeb tenantiaeth newydd yn dangos:
    • eich enw
    • dyddiad cychwyn y denantiaeth
    • swm y rhent a pha mor aml rydych chi’n gwneud taliad rhent, e.e. yn wythnosol, yn fisol ac ati
    • unrhyw ffioedd gwasanaeth ychwanegol sydd wedi’u cynnwys yn y rhent, e.e. gwresogi, dŵr
  • Slipiau cyflog diweddar
  • Cyfriflenni banc
  • Hysbysiad o gynnydd mewn rhent

 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau



Lanlwytho tystiolaeth ategol ar ôl rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

 

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ond heb lanlwytho eich tystiolaeth ategol eto...

Gallwch wneud y canlynol:

  • Lanlwytho dogfennau ar-lein

neu

Bydd angen Fy Nghyfrif arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

Yna bydd angen i chi ychwanegu eich cyfeirnod cyfrif Treth Gyngor i Hafan Fy Nghyfrif ac yna dewis 'Gweld fy Nghyfrif Treth Gyngor'.

Yna dewiswch 'Hawliadau Newydd' a 'Gwneud Hawliad Newydd' o dan y pennawd Budd-daliadau.

Cofiwch nodi:

  • cyfeirnod eich cais

neu

  • eich rhif Yswiriant Gwladol



Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Byddwn yn:

  • cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i swm eich budd-dal
  • rhoi gwybod i chi os ydych chi wedi cael eich gor-dalu
  • egluro sut y cafodd eich budd-dal ei ailgyfrifo
  • rhoi arweiniad os ydych chi’n credu bod gwall yn swm / taliadau eich budd-dal

 

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os na fyddwch yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau cyn pen mis ar ôl y newid, gallai hyn olygu:

  • ein bod wedi rhoi gor-daliad o’r Budd-dal Tai i chi; yna byddai angen i chi ad-dalu unrhyw arian ychwanegol rydych chi wedi’i gael

neu

  • nad ydych chi’n hawlio’ch holl hawliau ac rydych chi’n colli budd-daliadau / taliadau ychwanegol

 

ID: 67, adolygwyd 21/11/2025