Budd-dal Tai
Sut ydych chi’n cyfrifo faint o’r Budd-dal Tai y mae gen i hawl iddo
Ar y dudalen hon:
Tenantiaid y cyngor neu gymdeithas dai
Tenantiaid y cyngor neu gymdeithas dai
Mae faint o’r Budd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
- Eich rhent ‘cymwys*’
- Os oes gennych ystafell sbâr
- Incwm eich cartref, gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
- Eich amgylchiadau, er enghraifft oedran y bobl ar yr aelwyd neu os oes gan rywun anabledd
*Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch hawliad am y Budd-dal Tai. Dyma’ch rhent gwirioneddol ynghyd ag unrhyw ffioedd gwasanaeth rydych chi’n eu talu (e.e. ar gyfer cynnal a chadw lifft, neu am olchdy cymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi ar gyfer eich cartref.
Sut rydym yn cyfrifo’r Budd-dal Tai yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sbâr
Ystafelloedd gwely sbâr
Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol ac mae gennych chi ystafell wely sbâr. Y gostyngiad yw:
- 14% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 1 ystafell wely sbâr
- 25% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 2 ystafell wely sbâr neu ragor
Enghraifft
Eich rhent cymwys yw £100 yr wythnos, ond mae gennych un ystafell wely sbâr. Mae hynny’n golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng 14%, i £86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r ffigur hwnnw.
Sylwer: dim ond os ydych chi o dan oedran pensiwn y mae’r gostyngiad mewn Budd-dal Tai ar gyfer ystafelloedd gwely sbâr yn berthnasol.
Rhannu ystafelloedd gwely
Disgwylir i’r canlynol rannu:
- Cwpl sy’n oedolion
- Dau blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
- Dau blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)
Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:
- Oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
- Plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond y mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes wedi’u llenwi; er enghraifft, mae gennych chi dri o blant ac mae dau ohonynt eisoes yn rhannu
- Cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
- Gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall. Dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi, ond weithiau’n gorfod aros dros nos, y mae hyn yn berthnasol
Caniateir un ystafell wely sbâr ar gyfer y canlynol:
- Gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau, ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
- Gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os nad oes plentyn yn cael ei leoli gyda nhw yn ystod y cyfnod hwnnw
Sylwer: ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai ‘sbâr’ os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.
Tenantiaid preifat
Mae faint o’r Budd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
- Eich cyfradd Lwfans Tai Lleol, neu
- Eich rhent ‘cymwys*’
**Pa un bynnag sydd isaf**
- Incwm eich cartref, gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion
*Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch hawliad am y Budd-dal Tai. Dyma’ch rhent gwirioneddol ynghyd ag unrhyw ffioedd gwasanaeth rydych chi’n eu talu (e.e. ar gyfer cynnal a chadw lifft, neu am olchdy cymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi ar gyfer eich cartref.
Lwfans Tai Lleol
Bydd eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar y canlynol:
- Faint o ystafelloedd gwely y mae eu hangen arnoch chi
- Nifer y bobl yn eich cartref
- Yr ardal rydych chi’n byw ynddi
Sylwer: dim ond y gyfradd llety a rennir o’r Lwfans Tai Lleol y mae’r rhan fwyaf o rentwyr preifat sengl o dan 35 oed yn ei gael, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhannu eu cartref ag unrhyw un.
Mae rhai amgylchiadau lle nad yw’r gyfradd llety a rennir yn berthnasol, hyd yn oed os ydych chi o dan 35 oed, gan gynnwys os ydych chi:
- o dan 25 oed ac wedi bod mewn gofal
- yn unigolyn ag anabledd difrifol
- yn rhannu ag oedolyn arall sy’n aelod o’ch teulu (a elwir yn berson nad yw’n ddibynnydd)
- rhwng 16 a 34 oed ac wedi treulio tri mis mewn hostel ar gyfer unigolion digartref
Nifer yr ystafelloedd gwely
Y nifer uchaf o ystafelloedd gwely y caniateir i chi hawlio amdanynt o dan y Lwfans Tai Lleol yw pedair ystafell.
Gallwch chi dal rentu tŷ mwy, ond dim ond am hyd at bedair ystafell wely y byddwch chi’n cael budd-dal.
Rydych chi’n cael eich asesu fel rhywun sydd angen ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:
- Cwpl sy’n oedolion
- Oedolyn arall dros 16 oed neu’n hŷn
- Dau blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
- Dau blentyn o dan 10 oed, waeth beth fo’u rhyw
- Unrhyw blentyn arall
- Gofalwr dibreswyl os ydych chi’n hawlio, ar gyfradd canolig neu uwch, Lwfans Byw i’r Anabl (yn agor mewn tab newydd) neu Lwfans Gweini (yn agor mewn tab newydd)
- Aelod o gwpl na all rannu ystafell wely oherwydd anabledd
- Plentyn anabl o dan 16 oed na all rannu ystafell oherwydd ei anabledd
- Plentyn yn y lluoedd arfog sydd i ffwrdd ar ddyletswydd ac a oedd yn byw gyda chi cyn iddo fynd i ffwrdd ac sy’n bwriadu dychwelyd.
Caniateir ystafell wely ychwanegol os oes ei hangen arnoch ar gyfer y canlynol:
- Plentyn neu blant maeth
- Gofalwr dibreswyl (neu dîm o ofalwyr) sy’n aros dros nos yn rheolaidd i ddarparu gofal i chi neu aelod arall o’r aelwyd oherwydd anabledd
Gallwch ddefnyddio gwefan y Lwfans Tai Lleol (yn agor mewn tab newydd) i’ch helpu i gyfrifo’r nifer uchaf o ystafelloedd gwely y caniateir i chi hawlio amdanynt.