Budd-dal Tai
Taliadau Tai Dewisol
Fe all y cynllun Taliad Tai Dewisol (DHP) roi cymorth byrdymor cyfyngedig i chi wrth dalu eich rhent.
Cyn i ni allu rhoi DHP i chi:
· Ni allwch wneud cais heblaw os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai (HB) neu os yw'r elfen dai'n rhan o'ch Credyd Cynhwysol (UC)
· Rhaid eich bod angen cymorth ychwanegol gyda'ch costau tai h.y. bod â diffyg rhwng eich rhent a'ch hawl i fudd-dal
· Rhaid eich bod eisoes wedi siarad â'ch darparwr tai ynghylch eich taliadau rhent
· Rhaid bod gan y Cyngor ddigon o arian ar gael i dalu am eich DHP.
Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer:
· Taliadau gwasanaeth anghymwys ar gyfer HB
· Codiadau rhent oherwydd ôl-ddyledion rhent heb eu talu
· Cosbau a gostyngiadau mewn budd-dal
· Cymorth Treth y Cyngor drwy'r Cynllun lleol Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Rydym yn ystyried:
· Y diffyg rhwng HB a chydran dai UC a'r rhent a gontractiwyd
· Eich incwm a'ch gwariant chi a'ch aelwyd
· Unrhyw gynilion neu gyfalaf sydd gennych chi neu eich aelwyd
· Unrhyw gamau a gymrwyd i leihau eich atebolrwydd rhent. Er enghraifft, ydych chi wedi rhoi cynnig ar neu ydych chi wrthi'n chwilio am lety arall rhatach
· Unrhyw newid amgylchiadau yn y dyfodol fydd yn arwain at gynnydd mewn hawl i HB neu UC
· Wnaethoch chi gael gwybod beth fyddai eich Lwfans Tai Lleol cyn symud i'r eiddo?
· Oeddech chi'n ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau ar HB oherwydd nad oes digon o bobl yn byw yno?
· Ydych chi wedi gwneud cais am holl ffynonellau incwm sydd ar gael i chi?
· Maint eich dyledion a gwariant ymrwymedig chi a'ch teulu.
Sut i wneud cais
· Darllenwch y Nodyn Esboniadol y Taliad Tai Dewisol cyn i chi lenwi'r ffurflen gais
· Lawrlwythwch a llenwch Ffurflen Gais am Daliad Tai Dewisol
· Rhaid i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch gwariant cyfredol.