Budd-dal Tai
Trosolwg
Beth yw Budd-dal Tai?
Mae Budd-dal Tai ar gael i bobl ar incwm isel sy'n gosod eu cartrefi i helpu iddynt fforddio talu'r rhent.
Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Tai os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi gwneud cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am Gredyd Cynhwysol, ac yn agored i dalu Treth y Cyngor yn yr eiddo lle'r ydych yn byw, bydd angen i chi hefyd wneud cais i'r Cyngor am Ostyngiad Treth y Cyngor.
Gaf i hawlio?
I wneud cais am Fudd-dal Tai rhaid i chi:
- Byw fel arfer yn yr eiddo'r ydych yn gwneud cais amdano
- Bod yn agored i dalu rhent am yr eiddo
- Bod â hawl i un o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (cysylltiedig ag incwm)
- neu fod ag incwm isel.
Fel arfer, ni fydd gan bobl gyda thros £16,000 o gynilion hawl i unrhyw fudd-dal oni bai eich bod yn derbyn Gwarant Credyd Pensiwn.
Os ydych eisiau gwneud cais am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth Gyngor bydd angen i chi lenwi ffurflen cais sydd ar gael gan y Gwasanaethau Refeniw, byddwch gystal â ffonio 01437 764551.
Sut mae ei gyfrifo?
Bob blwyddyn mae'r Llywodraeth yn rhoi ffigurau i ni sy'n dangos faint o arian y dylai pobl gael i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol. Mae'r ffigurau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae faint a gewch yn dibynnu hefyd ar eich incwm, eich cyfalaf, cyfansoddiad eich teulu a chyfradd y lwfans tai lleol sydd gennych hawl iddo.
Fe all swm y budd-dal gael ei ostwng hefyd os oes oedolion eraill yn byw ar yr aelwyd, er enghraifft plant annibynnol dros 18 oed.
Faint o ystafelloedd gwely sydd arnaf angen?
Y meini prawf maint:
Caiff un ystafell wely ei chaniatáu ar gyfer pob un o’r deiliaid canlynol:
Un ystafell wely ar gyfer:
- Pob pâr
- Pawb 16 oed neu hŷn
- Dau blentyn dan 16 oed o’r un rhyw
- Dau blentyn dan 10 oed o unrhyw ryw
- Pob plentyn arall
Mae modd caniatáu un neu fwy o ystafelloedd gwely ychwanegol i riant maeth, gofalwr dros nos dibreswyl, plant anabl sydd angen eu hystafelloedd gwely eu hunain hyd at uchafswm o bedair ystafell wely. I fod â hawl i ystafell wely ychwanegol, bydd angen i chi gyrraedd y meini prawf cymhwyso. Cysylltwch â'r swyddfa i gael rhagor o gyngor.
Ar gyfer tenantiaid unigol dan 35 oed bydd cyfradd LHA ‘ar y cyd' sy'n disodli'r rhent ystafell sengl. Bydd y gyfradd hon hefyd yn berthnasol i bobl ddi-briod dros 35 a pharau heb neb arall yn byw yno sy'n dewis byw yn llety ar y cyd.
Fe all rhai tenantiaid unigol gael eu heithrio rhag y gyfradd LHA ‘ar y cyd', er enghraifft os oes ganddynt hawl i bremiwm anabledd difrifol wrth asesu eu Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith.
Nid oes unrhyw newidiadau i'r rheolau hawl i fudd-dal tai, sy'n dal yn ar seiliedig ar amgylchiadau'r unigolyn. Dim ond man cychwyn y cyfrifiad yw'r gyfradd LHA.
I weld ym mha ardal mae eich cod post ewch i Gwasanaethau Rhent.
Hawliadau àl-ddyddiedig
Os tybiwch fod gennych ‘rheswm da' dros wneud hawliad hwyr cofiwch sicrhau eich bod yn llenwi ffurflen gais am y cyfnod dan sylw.
Sylwch mai'r mwyaf y mae modd ôl-ddyddio hawliad yw un mis i gwsmeriaid oed gwaith.
Os oes gennych gynilion o £16,000 neu fwy, ni fydd gennych hawl i Fudd-dal tai oni bai eich bod yn derbyn Gwarant Credyd Pensiwn.
Pryd fydd fy mudd-dal yn dechrau?
I sicrhau bod eich budd-dal / gostyngiad yn dechrau o'r dyddiad cynharaf posibl, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y bydd arnoch angen budd-dal i ddweud wrthym eich bod yn bwriadu hawlio. Fel arfer mae budd-dal yn dechrau o'r dydd Llun ar ôl i ni dderbyn eich hawliad.
Hysbysu newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Tai
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai a mae'ch amgylchiadau’n newid (neu amgylchiadau aelod o'ch aelwyd yn newid) rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith oherwydd y gall hyn effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Rhaid i chi ddweud wrthym hefyd os byddwch yn newid cyfeiriad.
Dylai landlordiaid sy'n derbyn taliadau Budd-dal Tai uniongyrchol ar gyfer tenant hefyd hysbysu newidiadau y deuant i wybod amdanynt.
Os ydych wedi symud cartref ac eisiau dal i hawlio Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor bydd angen i chi lenwi Ffurflen Newid Cyfeiriad. Ffoniwch y Gwasanaethau Cyllid ar 01437 764551 i ofyn am y ffurflen. I ddweud wrthym am unrhyw newidiadau eraill all effeithio ar eich Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor, ffoniwch ni ar 01437 764551 gyda manylion y newid, yn enwedig os yw’n golygu nad ydych mwyach eisiau hawlio budd-dal o ganlyniad. Gallwn ddal i ofyn i chi gadarnhau’r manylion yn ysgrifenedig.
Gallwch ein ffonio ar 01437 764551 gyda manylion y newid, yn enwedig os yw'n golygu nad ydych mwyach eisiau hawlio budd-dal o ganlyniad, ond gallwn ddal i ofyn i chi gadarnhau'r manylion yn ysgrifenedig.
Byddwch gystal ag ysgrifennu atom – Gwasanaethau Refeniw, BLWCH SP 42, Hwlffordd SA61 1YH
Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn gwasanaethau.refeniew@sir-benfro.gov.uk
Os na fyddwch yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau cyn pen mis ar ôl y newid, gallech fethu unrhyw gynnydd mewn budd-dal neu, os oes gostyngiad mewn budd-dal, gallech gael eich hun gyda gordaliad, y byddwch yn gorfod ei dalu'n ôl.
Dyma rai enghraifft o newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt:
- Os byddwch chi neu eich partner yn derbyn Credyd Cynhwysol.
- Newid yn eich incwm neu incwm aelod o'r aelwyd (e.e. partner, plant neu bobl eraill sy'n byw gyda chi).
- Os byddwch chi, eich partner neu aelod o'r aelwyd yn darfod derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ar sail incwm) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant).
- Os byddwch chi, eich partner neu aelod o'r aelwyd yn dechrau gweithio.
- Newidiadau yn nifer y bobl sy'n byw gyda chi.
- Os ydych yn newid cyfeiriad (o ran tenantiaid preifat, mae hyn yn cynnwys newid ystafell yn yr un eiddo).
- Os byddwch yn mynd i'r carchar
- Os bydd unrhyw un o'ch plant yn gadael ysgol.
- Os bydd swm eich taliadau gofal plant newid.
- Os yw'r rhent a dalwch yn newid (tenantiaid preifat yn unig).
- Os byddwch yn penderfynu aros yn barhaol mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio.
- Os byddwch yn gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro, e.e. os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu ofal preswyl.
- Os byddwch yn mynd ar wyliau am 4 wythnos neu fwy.
Os ydych yn ansicr ynghylch pa newidiadau sydd angen eu hysbysu, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am dystiolaeth o'r newid ond byddwn yn siarad â chi ynghylch hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol mae angen i chi hysbysu unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau i Ganolfan Gwasanaethau'r Credyd Cynhwysol drwy ffonio 0345 6000 723 neu 0845 6000 723. Yna byddant yn dweud wrthym am y newid yn eich Credyd Cynhwysol.
Sut gaiff Budd-dal Tai ei dalu?
Os oes gennych hawl i Fudd-dal Tai, mae modd ei dalu mewn nifer o ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar ba fath o eiddo yr ydych yn byw ynddo. Efallai y gwelwch fod eich taliad cyntaf yn fwy na'ch swm rheolaidd arferol oherwydd ei fod yn cynnwys ôl-daliad o'r dyddiad yr hawlioch. Os ydych chi'n denant preifat bydd y taliad cyntaf yn cael ei dalu fel arfer yn uniongyrchol i'ch landlord.
Tenantiaid y Cyngor
Os ydych chi'n denant y cyngor, bydd eich Budd-dal Tai'n cael ei dalu i'ch cyfrif rhent unwaith yr wythnos (ac eithrio wythnosau dim rhent). Bydd unrhyw fudd-dal a gewch yn cael ei dynnu o'ch rhent llawn gan eich gadael gyda llai o rent, neu ddim rhent, i'w dalu. Sylwch na all budd-dal tai gynorthwyo tuag at eich trethi dŵr os ydynt yn rhan o'ch rhent.
Tenantiaid preifat
Caiff y rhan fwyaf o denantiaid preifat eu talu bob, fel ôl-daliad. Os ydych yn cael eich talu trwy gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc (BACS), fe welwch yr arian yn cyrraedd eich cyfrif bob yn ail ddydd Llun.
Y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel i ni dalu Budd-dal Tai i denantiaid preifat yw trwy gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Dim ond i chi lenwi'r Ffurflen Talu Budd-dal Tai a'i dychwelyd i'r Gwasanaethau Cyllid, Blwch Post 42, Hwlffordd SA61 1YH i sefydlu hyn.
Os byddwn yn anfon siec atoch, bydd yn cael ei phostio atoch bob yn ail ddydd Llun.
Taliadau'n uniongyrchol i landlordiaid
Os caiff eich Budd-dal Tai ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord, bydd yn cael ei dalu pob pedair wythnos fel ôl-daliad. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â Chymdeithas Dai fel eu landlord.
I'r rhan fwyaf o bobl mewn eiddo rhentu preifat, nid oes modd talu Budd-dal Tai heblaw'n uniongyrchol i'r landlord pan na all yr hawlwyr reoli eu materion ariannol, pan fyddant yn annhebygol o dalu eu rhent neu pan fo ganddynt wyth wythnos neu fwy o ôl-ddyledion rhent.
Taliadau Tai Dewisol
Fe all y cynllun Taliad Tai Dewisol (DHP) roi cymorth byrdymor cyfyngedig i chi wrth dalu eich rhent.
Cyn i ni allu rhoi DHP i chi:
- Ni allwch wneud cais heblaw os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai (HB) neu os yw'r elfen dai'n rhan o'ch Credyd Cynhwysol (UC)
- Rhaid eich bod angen cymorth ychwanegol gyda'ch costau tai h.y. bod â diffyg rhwng eich rhent a'ch hawl i fudd-dal
- Rhaid eich bod eisoes wedi siarad â'ch darparwr tai ynghylch eich taliadau rhent
- Rhaid bod gan y Cyngor ddigon o arian ar gael i dalu am eich DHP.
Ni allwch ei ddefnyddio ar gyfer:
- Taliadau gwasanaeth anghymwys ar gyfer HB
- Codiadau rhent oherwydd ôl-ddyledion rhent heb eu talu
- Cosbau a gostyngiadau mewn budd-dal
- Cymorth Treth y Cyngor drwy'r Cynllun lleol Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Rydym yn ystyried:
- Y diffyg rhwng HB a chydran dai UC a'r rhent a gontractiwyd
- Eich incwm a'ch gwariant chi a'ch aelwyd
- Unrhyw gynilion neu gyfalaf sydd gennych chi neu eich aelwyd
- Unrhyw gamau a gymrwyd i leihau eich atebolrwydd rhent. Er enghraifft, ydych chi wedi rhoi cynnig ar neu ydych chi wrthi'n chwilio am lety arall rhatach
- Unrhyw newid amgylchiadau yn y dyfodol fydd yn arwain at gynnydd mewn hawl i HB neu UC
- Wnaethoch chi gael gwybod beth fyddai eich Lwfans Tai Lleol cyn symud i'r eiddo?
- Oeddech chi'n ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau ar HB oherwydd nad oes digon o bobl yn byw yno?
- Ydych chi wedi gwneud cais am holl ffynonellau incwm sydd ar gael i chi?
- Maint eich dyledion a gwariant ymrwymedig chi a'ch teulu.
Sut i wneud cais
- Darllenwch y Nodyn Esboniadol y Taliad Tai Dewisol cyn i chi lenwi'r ffurflen gais
- Lawrlwythwch a llenwch Ffurflen Gais am Daliad Tai Dewisol
- Rhaid i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch gwariant cyfredol.
Apeliadau
Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad ar eich budd-dal tai, gallwch ofyn am adolygiad. I wneud hyn mae angen i chi roi eich rhesymau'n ysgrifenedig ynghylch pam yr ydych yn anghytuno â'r penderfyniad.
Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch apelio. Rhaid gwneud unrhyw apêl cyn pen un mis calendr ar ôl dyddiad y penderfyniad.
Lleihau Budd-dal Tai a Threth y Cyngor - Llyfryn Apelio
Cyfradd lwfans tai lleol
Mae cyfradd lwfans tai lleol (LHA) fydd yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo budd-dal tai'n dibynnu ar gyfansoddiad eich teulu a'ch cod post.
Capiwyd lwfans tai lleol ar y gyfradd 4 ystafell wely, hyd yn oed os byddai cyfansoddiad eich teulu fel arfer yn gofyn eiddo mwy na 4 ystafell wely a bydd eich budd-dal ar sail cyfradd 4 ystafell wely.