Os ydych ar incwm isel

Mae Credyd Treth Gwaith yn daliad er mwyn ychwanegu at enillion pobl sy’n gweithio ar gyflog isel.

Er mwyn bod yn gymwys i Gredyd Treth Gwaith rhaid i chi fod:

  • rhwng 16 a 24, gyda phlentyn neu anabledd priodol
  • yn 25 neu drosodd, gyda neu heb blant, a rydych yn
    • gweithio nifer penodol o oriau’r wythnos
    • cael eich talu am y gwaith a wnewch (neu’n disgwyl cael eich talu)
    • derbyn incwm sy’n llai na lefel penodol

 

ID: 2163, adolygwyd 16/03/2023