Cymorth i Aelwydydd

Mae Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn darparu cymorth o £400 ar gyfer biliau ynni i gartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban heb berthynas uniongyrchol â chyflenwr trydan domestig. Darperir y cymorth hwn gan Lywodraeth Ei Fawrhydi a chaiff ei ddarparu gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun bellach ar agor i bob cartref cymwys ledled Prydain Fawr tan 31 Mai 2023.

Cymhwystra

Ar yr amod bod ceisiadau’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, y bobl a fydd yn gallu cael cymorth o dan Gyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni fydd y canlynol:

  • preswylwyr cartrefi gofal ac eraill mewn cyfleusterau gofal/llety gwarchod (a ariennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol eu hun)
  • preswylwyr cartrefi parc, cychod preswyl a charafanau a all ddarparu prawf o gyfeiriad
  • tenantiaid cymdeithasol a phreifat sy'n talu am ynni drwy landlord ar gyflenwad masnachol
  • cartrefi ar rwydwaith gwres/gwifren breifat
  • cartrefi oddi ar y grid
  • ffermdai a ddefnyddir at ddibenion cwbl ddomestig

Sut i wneud cais

Os ydych yn gymwys ar gyfer Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, bydd angen i chi lenwi ffurflen fer ar-lein drwy wefan GOV.UK.

Gwneir ceisiadau yn uniongyrchol i Lywodraeth Ei Fawrhydi, nid drwy neu i awdurdodau lleol.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy ganolfan gyswllt ar 08081753287 lle bydd cynrychiolydd yn eich arwain drwy'r broses ymgeisio.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, bydd eich cais yn cael ei brosesu a'i ddilysu. Ar ôl hyn, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu rhannu ag awdurdodau lleol, a fydd yn darparu’r cymorth untro, nad oes angen ei ad-dalu. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc mewn un rhandaliad.

Ceir rhagor o wybodaeth ar GOV.UK.

 

Taliad Tanwydd Amgen

Os ydych yn defnyddio tanwydd amgen ar gyfer gwresogi, mae'n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Amgen o £200 os yw pob un o'r ddau beth canlynol yn wir:

  • nid yw eich cartref wedi'i gysylltu â'r prif gyflenwad nwy
  • rydych yn defnyddio tanwydd amgen fel eich prif ddull gwresogi

Mae hyn ar ben y £400 gan eich cyflenwr trydan.

Cymhwysedd

Rydych chi'n gymwys i gael y taliad hwn os yw'r brif ffordd rydych chi'n gwresogi eich cartref yn defnyddio:

  • nwy tanc neu botel
  • nwy petrolewm hylifol (LPG)
  • olew
  • pren
  • tanwydd solet

Bydd y rhan fwyaf o gartrefi sy’n gymwys ar gyfer y taliad hwn yn ei gael yn awtomatig fel credyd ar eu biliau trydan o fis Chwefror 2023.

Os credwch y dylech fod wedi cael taliad ond nad ydych wedi cael taliad, cysylltwch â'ch cyflenwr trydan.

Efallai na fyddwch yn cael y taliad yn awtomatig os yw eich cartref naill ai:

  • mewn ardal sydd wedi'i chysylltu'n bennaf â'r grid nwy
  • heb ei chysylltu â'r grid nwy na thrydan

Os na chewch y taliad hwn yn awtomatig

Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais am y taliad hwn drwy Gronfa Amgen y Taliad Tanwydd Amgen os na fyddwch yn ei gael yn awtomatig – er enghraifft, oherwydd nad oes gennych gontract gyda chyflenwr trydan.

Os ydych yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Amgen, bydd angen i chi lenwi ffurflen fer ar-lein drwy wefan GOV.UK.

Gwneir ceisiadau yn uniongyrchol i Lywodraeth Ei Fawrhydi, nid drwy awdurdodau lleol neu iddynt.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy ganolfan gyswllt ar 08081753287, lle bydd cynrychiolydd yn eich arwain drwy'r broses ymgeisio.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, bydd eich cais yn cael ei brosesu a'i ddilysu. Ar ôl hyn, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu rhannu ag awdurdodau lleol, a fydd yn darparu’r cymorth untro, nad oes angen ei ad-dalu. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc mewn un rhandaliad.

Ceir rhagor o wybodaeth ar GOV.UK.

 

 

ID: 9717, revised 28/03/2023