Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys (un taliad fesul cartref) sut bynnag rydych chi’n talu am eich tanwydd, p'un a yw hynny, er enghraifft, ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, neu drwy dalu bil yn chwarterol. Gellir hefyd ei hawlio p’un a ydych chi’n defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi arno.
Gall ymgeiswyr ond hawlio am y taliad am eiddo yng Nghymru a dim ond os mai eu prif breswylfa yw’r eiddo hwn.
Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Bil Ynni sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a'r Taliad Tanwydd y Gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’r Cyngor wedi talu’r Taliad Cymorth Tanwydd o £200.00 i oddeutu 7000 o gartrefi cymwys sy’n cael gostyngiadau’r dreth gyngor sy’n dibynnu ar brawf modd, ac sydd wedi cael y taliad costau byw o £150 yn ddiweddar.
Mae'r taliad hwn wedi'i wneud i'r un cyfrif banc enwebedig â'r taliad costau byw. Dylid credydu'r taliad i'r cyfrif hwn erbyn 3.10.22.
Os na fyddwch wedi cael y taliad hwn erbyn 3.10.22 mae'n bosibl eich bod ymhlith y cartrefi na allem eu talu'n awtomatig. Bydd angen i chi, felly, wneud cais gan ddilyn y ddolen isod.
Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu ar y rheolau ynglŷn â chymhwyster taliadau Cymorth Tanwydd. Nid oes gennym unrhyw ddisgresiwn i wneud taliadau y tu allan i'r rheolau hynny.
Gallwch hawlio os:
Mai chi sy’n uniongyrchol gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd am yr eiddo rydych chi'n byw ynddo. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hynny'n golygu bod eich enw(au) yn ymddangos ar unrhyw filiau a gyhoeddir gan y cyflenwr. Os nad yw eich enw ar y bil tanwydd, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn taliad.
Os na chaiff biliau eu rhoi i'r deiliad tŷ sy'n uniongyrchol gyfrifol am gostau tanwydd, er enghraifft, oherwydd eich bod yn defnyddio mesurydd rhagdalu, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Cymorth Tanwydd o hyd ond bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gyfrifol am y costau tanwydd.
Byddwch yn cwrdd â'r amod o fod yn gyfrifol am daliadau tanwydd os ydych chi (neu eich partner) yn atebol am Dreth y Cyngor gan yr ystyrir bod eich atebolrwydd am Dreth y Cyngor yn nodi y byddech yn atebol i dalu am danwydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio aelwyd gymwys ar gyfer y cynllun hwn fel yr eglurir isod:
Gall aelwyd ond gwneud un cais amDaliad Cymorth Tanwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd unrhyw un sydd eisoes wedi derbyn taliad o dan y cynllun, naill ai fel person sengl neu fel rhan o'r un cwpl neu gwpl gwahanol, yn gallu hawlio ail daliad.
Os nad ydych chi'n gwpl ond yn gyd-berchnogion neu’n cyd-denantiaid ac mae'r ddau ohonoch yn cael eich enwi ar y biliau tanwydd, bydd modd i chi wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd. Bydd angen i bob aelwyd wneud ei chais ei hun.
Bydd gan gyplau hawl i hawlio un Taliad Cymorth Tanwydd rhyngddyn nhw. Bydd pobl sengl yn gallu gwneud cais yr un. Er enghraifft:
Mae pedwar o bobl yn byw mewn eiddo, cwpl a 2 ddeiliad sengl. Maen nhw i gyd yn atebol am Dreth y Cyngor ac yn cydatebol am y biliau tanwydd sy'n ddyledus am yr eiddo maen nhw'n byw ynddo, ac mae pob un yn cael ei enwi ar y biliau a anfonir gan y cyflenwyr. Gan gymryd bod yr amodau eraill yn cael eu bodloni:
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y bydd y cymorth a roddir drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd o fudd anghymesur i'r mathau hyn o drefniadau byw.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am y taliad a heb dderbyn taliad awtomatig o £200 erbyn 3 Hydref 2022, gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Os nad ydych yn atebol am dreth y cyngor yn yr eiddo, bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth mai chi yw'r person sy'n gorfod talu am y biliau tanwydd.
Os ydych yn berchennog/meddiannydd ar y cyd, llenwch y ffurflen ymholiadau a byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich cynghori sut i wneud cais.
Os oes angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gyfrifol am filiau tanwydd yn yr eiddo, bydd y dystiolaeth ganlynol yn dderbyniol:
Ni fyddwn byth yn cysylltu â chi i ofyn am ffi i dalu am y gost o wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd.
Ni fyddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich manylion banc a manylion ariannol eraill dros y ffôn oni bai eich bod yn cysylltu â ni yn gyntaf i ofyn am help oherwydd na allwch lenwi'r ffurflen gais eich hun neu mae'r manylion yr ydych wedi eu nodi ar y cais yn anghywir. Os felly, bydd angen i chi ddarparu'r holl fanylion sydd eu hangen arnom i allu eich cynorthwyo.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw'r person yr ydych yn siarad â hwy am eich Taliad Cymorth Tanwydd o’r cyngor, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch yr Adran Budd-daliadau ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost atom ar Winterfuelpayments@pembrokeshire.gov.uk.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am y taliad a heb dderbyn taliad awtomatig o £200 erbyn 3 Hydref 2022, gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ddolen isod:
Ymgeisio am Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5:00pm, dydd Mawrth, 28 Chwefror 2023
Os na fyddwch yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau, ni fyddwn yn gallu gwneud Taliad Tanwydd i chi. Nid oes gennym ddisgresiwn i dderbyn ceisiadau hwyr.
Os cewch broblemau gyda llenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â ni ar 01437 764551 a byddwn yn eich helpu i lenwi'r ffurflen.
Mae'n ofynnol i ni gynnal rhai croeswiriadau er mwyn cadarnhau pwy sy'n gymwys. Mae hon yn dasg anferthol ac felly gall fod yn beth amser cyn i chi dderbyn eich taliad. Mae'n debygol y bydd taliadau yn dechrau cael eu gwneud yn ystod Hydref 2022, ac fe fyddant yn parhau tan ddiwedd Mawrth 2023.
Byddwn yn anfon e-bost i'r cyfeiriad e-bost rydych yn ei roi i ni i ddweud wrthych fod eich cais wedi cael ei gymeradwyo. Dylai'r taliad fod yn eich cyfrif banc 14 diwrnod gwaith ar ôl i'r e-bost hwnnw gael ei anfon.
Bydd eich cais yn cael ei wrthod os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwyso. Byddwn yn anfon e-bost atoch i esbonio pam nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
Os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud camgymeriad, neu os anghofioch chi ddweud rhywbeth perthnasol wrthym yn eich cais, yna gallwch anfon e-bost at Winterfuelpayments@pembrokeshire.gov.uk a byddwn yn adolygu eich cais.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Byddwn yn defnyddio ein cofnodion treth y cyngor, cofnodion gostyngiadau treth y cyngor i wirio cymhwysedd, a manylion banc a ddarperir ar gyfer y cynllun costau byw i dalu aelwydydd cymwys.
Gallwch. Os ydych yn atebol am Dreth y Cyngor, caiff hyn ei dderbyn fel rhywbeth sydd gyfystyr â bod yn gyfrifol am gostau tanwydd yn y cyfeiriad. Fodd bynnag, os nad ydych yn atebol am Dreth y Cyngor, efallai y bydd angen tystiolaeth bellach i ddangos bod eich rhent yn cynnwys tâl am danwydd.
Na allwch. Dim ond un taliad y gallwch chi ei hawlio ac mae'n rhaid i hynny fod ar gyfer eich prif breswylfa yng Nghymru.
Gallwch. Fodd bynnag, rhaid talu'r Taliad Cymorth Tanwydd i gyfrif banc yn enw'r person y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer.
Er enghraifft, pe bai rhywun yn gwneud cais ar ran rhiant sy'n rhy sâl i'w wneud eu hunain, byddai'r taliad yn cael ei wneud yng nghyfrif banc y rhiant.
Bydd angen i'r sawl sy'n gwneud y cais ddarparu rhai manylion personol er mwyn atal twyll.
Os oes gennych hawl i un o'r buddion sydd ar y rhestr uchod ac sy'n atebol am dreth y cyngor a bod gennych gyfalaf sy’n llai na £16,000, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael cymorth ar ffurf prawf modd Gostyngiad Treth y Cyngor. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Refeniw am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn parhau i brofi caledi ariannol difrifol, efallai y byddwch am wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) am gymorth pellach.