Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro yn bartneriaeth strategol statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Diben y Ddeddf hon yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Sir. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau'r BGC gydweithio i wella llesiant yn Sir Benfro drwy feddwl mwy am y tymor hwy; gweithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a chyda'i gilydd; ac anelu at atal problemau cyn iddynt ddigwydd.
Gall aelodau'r cyhoedd ddod i gyfarfodydd y BGC. Rhestrir dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd hyd isod;
Amser: gweler isod
Lleoliad: Microsoft Teams meeting
Dyddiad:
- 9 Rhagfyr 2026 2yp
- 3 Chwefror 2026 10yb
- 19 Mai 2026 9yb
- 14 Gorfennaf 2026 10yb
- 6 Hydref 2026 10yb
- 8 Rhagfyr 2026 10yb
Anogir aelodau'r cyhoedd i gyflwyno cwestiynau i'w hystyried gan y BGC. Noder bod yn rhaid i gwestiynau o'r fath ymwneud â swyddogaethau statudol neu raglen waith y BGC. Ni chaiff cwestiynau sy'n ymwneud â gwaith sefydliadau unigol ymateb gan y BGC ond cânt eu hanfon i'r sefydliad unigol fel y bo'n briodol. Os hoffech gyflwyno cwestiwn, cysylltwch â ni psb@pembrokeshire.gov.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf yn Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn tab newydd)
Dolenni Perthnasol
- Llywiodd y Gymru a Garem ddatblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; am fwy o wybodaeth ymwelwch: Cenedlaethaur dyfodol (yn agor mewn tab newydd)
- Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol: Canllawiau Statudol (yn agor mewn tab newydd)