Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2021-22

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2021-22

Croeso i Adroddiad Blynyddol BGC Sir Benfro ar gyfer 2021-22, lle rydym yn myfyrio nid yn unig ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond hefyd ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni dros bum mlynedd ddiwethaf ein Cynllun Llesiant cyntaf.

Ym mis Ionawr 2022 fe ymrwymon ni i gymryd rhan mewn prosiect sy'n gweithio gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, sy'n rhoi cymorth i weithredu lefel fwy o gyd-gynhyrchu ac ymwneud â dinasyddion a chymunedau. Roedd llawer o'n ffocws yn ystod ail hanner y llynedd ar gynhyrchu ein hail Asesiad Llesiant, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2022. Mae'r Asesiad yn nodi'r materion allweddol i bobl a chymunedau yn Sir Benfro a bydd yn sail i'n Cynllun Llesiant nesaf. 

Mae tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yn dal i fod yn llawn heriau - adferiad ar ôl pandemig Covid, materion o ran adnoddau ac ansicrwydd ariannol - ac mae'r rhain i gyd wedi cael effaith ar ein cynnydd eleni.  Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio fel partneriaid yn Sir Benfro ac yn rhanbarthol, gan adeiladu ar y perthnasoedd yr ydym wedi'u ffurfio dros y pum mlynedd ddiwethaf, a byddwn yn parhau i symud ymlaen i geisio dod o hyd i ffyrdd o wneud cynnydd tuag at ein nodau. 

Hoffwn achub ar y cyfle hwn wrth i mi roi’r gorau i Gadeirio'r BGC i ddiolch i'r holl asiantaethau partner am eu cyfraniadau i waith y Bwrdd dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar hyn yn ein gwaith gyda'n gilydd i gyflawni’r Cynllun Llesiant nesaf.

Tegryn Jones

Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro - Mai 2017 - Mai 2022

ID: 9270, adolygwyd 17/11/2022