Mae’n ofynnol hefyd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyhoeddi Adroddiadau Blynyddol sy’n dangos sut y maen nhw wedi cyflawni eu dyletswyddau yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn eu Cynlluniau Llesiant.
Mae Adroddiad Blynyddol cyntaf Sir Benfro yn amlinellu’r gwaith y mae partneriaid PSB wedi ei gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf tuag at gyflawni ei 'dyletswydd llesiant’ i wella lles economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac i’r dyfodol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut mae’r Bwrdd yn cynnwys pobl ifanc yn eu gwaith ac yn amlinellu ein hymrwymiad i weithio’n rhanbarthol gyda’u cydweithwyr yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys ar faterion sy’n gyffredin ym mhob un o’n Cynlluniau Llesiant. Yn olaf, mae’r adroddiad yn edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd a all godi yn ystod y 12 mis nesaf.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2023-24
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2021-22
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2020-21
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2019-20
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: Adroddiad Blynyddol 2018-19