Mae'r Asesiad Llesiant yn ofyniad statudol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'i bwrpas yw pennu beth sy'n bwysig i bobl a chymunedau Sir Benfro ynglŷn â materion llesiant.
Bydd canfyddiadau o’r Asesiad Lles yn cael eu defnyddio gan y BGC i adnabod a chynllunio’r gweithrediadau casgliadol sydd eu hangen i wella lles yn Sir Benfro nawr, ac yn y dyfodol.
Mae ail Asesiad Llesiant Sir Benfro bellach wedi’i gwblhau, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mawrth. Mae'r asesiad wedi ystyried y materion allweddol i bobl a chymunedau yn Sir Benfro trwy ddadansoddi data allweddol, ffynonellau gwybodaeth a gwaith ymchwil, ymgysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid, ac ystyried tueddiadau'r dyfodol. Mae Crynodeb Gweithredol hefyd wedi'i gynhyrchu, sy'n rhoi cipolwg ar y prif ganfyddiadau.
Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynhyrchu ei gynllun llesiant nesaf erbyn mis Mai 2023. Mae’r asesiad llesiant yn rhan bwysig o’r broses hon a bydd yn darparu’r sail dystiolaeth i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer y cynllun llesiant nesaf.
Unwaith y bydd gwaith ymgysylltu’n dechrau ar y cynllun llesiant nesaf, byddwch yn gallu cymryd rhan: Dweud Eich Dweud