Croeso i adroddiad blynyddol 2019-20 gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro, lle rydym yn tynnu sylw at y camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodwyd yn ein Cynllun Lles ar gyfer Sir Benfro. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwaith y mae partneriaid y BGC wedi bod yn ei gyflawni i gwrdd â’n ‘dyletswydd llesiant’ ar y cyd i wella lles economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu gweithio’n wahanol a chanolbwyntio ar feysydd lle gall gweithio mewn partneriaeth gael yr effaith fwyaf a lle mae ein dylanwad cyfunol yn ychwanegu gwerth uwchlaw a thu hwnt i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud fel sefydliadau unigol.
Mae prosiectau a ddechreuodd yn 2018-19 wedi parhau i dyfu, gyda syniadau a chyfleoedd newydd i wella lles a chynnwys mwy o bobl a chymunedau yn y daith hon sy’n parhau i esblygu. Mae ein hymrwymiad i gydweithio o fewn y sir a’r rhanbarth yn parhau ac mae’n hanfodol i’n galluogi i yrru ymlaen ein huchelgais ar gyfer Sir Benfro yn y dyfodol.
Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws, mae’r adroddiad eleni yn fwy cryno, gan roi crynodeb o’r prif weithgareddau a phrosiectau y mae partneriaid BGC wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel bob amser, rwyf yn ddiolchgar i’m cyd-aelodau ar y Bwrdd am eu hymrwymiad parhaus tuag at wella llesiant pobl a chymunedau yn y Sir.
Tegryn Jones
Cadeirydd Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus Sir Benfro
Ar y dudalen hon:
Nododd ein Hasesiad Llesiant fod nifer o’n pobl ifanc yn gadael Sir Benfro i chwilio am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth y tu allan i’r Sir, ac mae’r BGC wedi ymrwymo i gydweithio i gefnogi’r rheiny a hoffai aros a byw a gweithio yn Sir Benfro. Mae sefydliadau’r BGC yn gyflogwyr mawr yn y Sir ac felly eglurwyd yn y Cynllun Llesiant mai’r ymateb cywir oedd mynd i’r afael â’r mater drwy ddull partneriaeth ar y cyd â’r sectorau addysg a chyflogaeth a chan gynnwys pobl ifanc. Fel man cychwyn, canolbwyntiodd partneriaid BGC ar ddiwallu’r angen i ddarparu lleoliadau profiad gwaith o ansawdd da yn y Sir i bobl ifanc a’r rhai â nodweddion gwarchodedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn 2019 cytunodd pob aelod o’r BGC mewn egwyddor i gefnogi lleoliadau profiad gwaith i bobl ifanc ac ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig yn Sir Benfro. Datblygwyd a gyrrwyd y cynllun yn ei flaen gan ganolfan cyflogaeth Coleg Sir Benfro a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn y sir. Mae partneriaid wedi cadw at eu hymrwymiad ac mae’r cynllun bellach yn gallu cynnig ystod eang o gyfleoedd a lleoliadau. Dyma ddarlun cryno o rai o’r sefydliadau a’r hyn y maent yn ei gynnig:
Yn ystod y 12 mis diwethaf mae’r Is-grŵp Gweithredol wedi cyfarfod ar dri achlysur ac wedi sicrhau cynrychiolaeth o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro. Bydd hyn o gymorth i’r grŵp sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei gynnig wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion a dyheadau ein pobl ifanc. Cynhaliwyd lansiad i hybu’r cynllun ar y 25ain o Fedi 2019 yng Ngholeg Sir Benfro. Mae’r Prosiect wedi denu llawer iawn o ddiddordeb oddi wrth y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus cyfagos ac fe’i hystyrir yn ‘arfer gorau’. Gwnaed cyflwyniadau i’r sefydliadau hyn i arddangos y darn hwn o waith. Roedd y Prosiect yn rhan o ddigwyddiad lansio. Cynllun Gweithredu 2019/2020 y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yng Nghae Rasio Ffos Las ym mis Hydref 2019 a chafodd ei ganmol gan nifer o gynrychiolwyr.
Wrth edrych i’r dyfodol dros y 12 mis nesaf, yr her allweddol fydd sicrhau gwir gydweithio a ‘thrawsbeillio’ cyfleoedd rhwng partneriaid i sicrhau canlyniadau ystyrlon. Bydd angen i’r Grŵp Gweithredol hefyd sicrhau bod y lleoliadau a gynigir yn parhau i gwrdd ag anghenion pobl ifanc Sir Benfro.
O dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, sefydlwyd yr is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd ac Asesu Risg Amgylcheddol er mwyn ysgogi camau gweithredu o amgylch y ffrydiau gwaith sy’n gysylltiedig â’r meysydd hyn yn y Cynllun Llesiant. Y llynedd comisiynwyd astudiaeth gychwynnol, oedd yn asesu digwyddiadau tywydd garw, gan ystyried profiadau lleol a blaenoriaethau yn y dyfodol. Nododd yr astudiaeth hon nifer o gymunedau sydd yn y perygl mwyaf yn ystod cyfnodau o dywydd garw; Rhan isaf Tref Abergwaun, Solfach, Aber Bach, Hwlffordd, Saundersfoot, a Penfro a Doc Penfro.
Yn dilyn ymlaen o hyn, comisiynwyd gwaith pellach i dreialu rhywfaint o waith gydag un o’r cymunedau hyn, Abergwaun ac Wdig, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r risgiau hyn ac edrych ar sut y byddai cymuned sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn edrych.
Y nod yw y gellir cyflwyno ymhellach yr hyn a ddysgir oddi wrth hyn i gymunedau eraill a disgwylir adroddiad yn Hydref 2020. Bydd hyn yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Fforwm Arfordir Sir Benfro sef Cymunedau Arfordirol yn Addasu Gyda’i Gilydd (CCAT), yn eu prosiect 2 flynedd gydag Iwerddon, gyda chefnogaeth €1.3 miliwn o arian yr UE ac yn edrych ar oblygiadau rhanbarthol y newid yn yr hinsawdd sydd, ar ochr Cymru, yn canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir Benfro, gan gynnwys Aberdaugleddau a Doc Penfro.
At hyn, mae manylion am y gwaith sy’n cael ei wneud yn unigol, ym mhob un o’r sefydliadau partner sy’n ffurfio’r is-grŵp, wrthi’n cael eu coladu ar hyn o bryd, er mwyn penderfynu beth y maent yn ei wneud yn eu sefydliadau eu hunain i addasu i’r newid yn yr hinsawdd a symud tuag at niwtraliaeth carbon. Ar hyn o bryd mae’r grŵp yn casglu’r wybodaeth hon mewn un adroddiad, gyda’r nod o nodi’r bylchau a’r potensial ar gyfer cydweithredu pellach. Mae risgiau amgylcheddol, gan gynnwys heriau newid yn yr hinsawdd, i gyd wedi’u nodi yn y Datganiadau Ardal a lansiwyd yn ddiweddar, a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gan Ddatganiad Ardal y De Orllewin, sy’n cynnwys Sir Benfro, 4 thema allweddol, sef;
At hynny, o gofio arfordir hynod bwysig Sir Benfro, mae datganiad ardal y Môr hefyd yn berthnasol iawn. Themâu allweddol hyn yw:
Cychwyn y daith yw’r rhain. Mae angen rhagor o waith cydweithredol rhwng ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn mynd i’r afael â’r themâu hyn, a bydd y datganiadau a’r dystiolaeth y tu ôl iddynt yn neilltuol o ddefnyddiol o ran llywio Asesiadau a Chynlluniau Llesiant yn y dyfodol.
Mae darparu gwasanaethau hygyrch i gymunedau gwledig yn her gynyddol i ddarparwyr, yn enwedig ar adeg o gyllidebau’n gostwng ac adnoddau’n lleihau. Nododd ein Hasesiad Llesiant fod materion tlodi gwledig yn rhwystr i lawer o bobl o ran cael mynediad at wasanaethau hanfodol. Gyda hyn mewn golwg, cyd-drafod a chydweithio oedd prif amcanion ein gwaith yn 2019-20. Gan adeiladu ar weithdai cymunedol a gynhaliwyd ledled y sir a’r awydd i weld grwpiau cymunedol a phartneriaid yn y trydydd sector yn dod o hyd i atebion, y camau nesaf oedd cydweithio i gynllunio atebion lleol. Sefydlwyd timau aml-asiantaeth yn Aberdaugleddau, Abergwaun a Doc Penfro yn cynnwys y BGC a phartneriaid lleol. Y nod oedd cloddio’n ddyfnach i’r hyn y mae lles yn ei olygu i’r ardaloedd hyn a sut y gallem gydweithio i ymateb. Mae gan bob ardal ei hasedau a’i phroblemau ac wrth i bartneriaid rannu eu data a’u mewnwelediad i’r gymuned roeddem yn gallu cydweithio i ddatblygu atebion.
Yn dilyn y gwaith yn Aberdaugleddau, gofynnodd Cyngor Tref Neyland i’r BGC gynnal diwrnod cyngor cymunedol. O dan arweiniad partneriaid yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, darparodd partneriaid wybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau, arian, iechyd, tai a chludiant ochr yn ochr â dysglaid o gawl! Cynhaliwyd digwyddiadau pellach yn Dalea Doc Penfro.
Yn Noc Penfro, roedd gan y grŵp ddiddordeb mewn gwella cyfathrebu rhwng gwasanaethau ac edrych am ffyrdd o adeiladu ar negeseuon cadarnhaol a hyrwyddo cymorth a darpariaeth gymunedol sy’n bodoli eisoes. Roedd ar y grŵp eisiau datblygu rhwydwaith o bobl leol i ddod yn Hyrwyddwyr Cymunedol fel ffordd o ddod â phobl a gwasanaethau lleol at ei gilydd. Mae’r Hyrwyddwyr Cymunedol hyn yn bobl sy’n byw yn ardal Doc Penfro ac yn barod i fod yn eiriolwr dros y gwasanaeth y maent yn ymwneud ag ef. Mae’r hyrwyddwyr cymunedol yn frwd dros wella lles yn yr ardal ac mae ganddyntwybodaeth dda am eu cymuned leol a chysylltiadau da. Yn seiliedig ar ddealltwriaeth partneriaid o anghenion lleol, canolbwyntiodd tîm Abergwaun ar yr anhawster o gael mynediad at wasanaethau, sy’n aml yn cael eu darparu
neu eu lleoli yn Hwlffordd. Ceisiodd partneriaid edrych i mewn i gyfleoedd i gynyddu cyfathrebu a rhannu gwybodaeth, ac o ganlyniad roedd cynrychiolwyr yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân i gael eu gwahodd i gyfarfod y Tîm Amlddisgyblaethol sy’n seiliedig ar
Bractisau Meddygon Teulu.
Ochr yn ochr â’r grwpiau amlasiantaethol, sefydlwyd cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol dan arweiniad practisau meddygon teulu i ddod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion ar gyfer cleifion. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol fel meddygon teulu, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a chysylltwyr cymunedol, er mwyn bwydo i mewn i’r cyfoeth o weithgareddau a chyfleoedd mewn cymunedau. Un o’r prif lwyddiannau fu’r ymateb cyflym i bobl sydd wedi cwympo. Yn hanesyddol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (YGAC) fyddai’r unig rif i’w ffonio am gymorth. Nawr, drwy weithio gyda’i gilydd, mae Ambiwlans Sant Ioan Cymru, YGAC, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio ar wasanaeth ymateb 24 awr i ddarparu cymorth i’r rheini sydd wedi cwympo a’u cefnogi gyda gwasanaethau i fynd â’r afael â’r rhesymau dros eu cwymp.
Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn darparu ymateb lles i bobl sydd â larymau cymunedol ond nad oes ganddynt neb i’w alw pan fyddant yn ysgogi’r larwm.
Mae’r prosiect Gwneud Pethau’n Wahanol yn canolbwyntio ar drawsnewid modelau darparu gwasanaethau a herio a newid y rhyngwyneb traddodiadol rhwng y darparwr a’r defnyddiwr gwasanaeth drwy well cydweithredu, tra’n gwneud y defnydd gorau o arloesedd a thechnoleg. Cyflawnwyd llawer iawn o dan y prosiect hwn yn 2019-20 a byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn ehangu’r llwyddiant hwn ymhellach dros y flwyddyn nesaf.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gydweithredu rhanbarthol, mae gweithgarwch o amgylch y ffrwd waith hon yn cael ei reoli o dan y prosiect rhanbarthol ‘Atebion Cymdeithasol a Gwyrdd ar gyfer Iechyd’, ac fe’i harweinir gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ym mis Ionawr 2020 cynhaliwyd uwchgynhadledd gyda’r nod o ganolbwyntio sylw ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n bodoli wrth ddatblygu asedau cymdeithasol a gwyrdd sy’n hybu iechyd y boblogaeth. Canolbwyntiai’r digwyddiad ar weithdai i benderfynu’r canlynol.
Daeth dros 110 o gyfranogwyr o sefydliadau ar draws y tair sir i’r digwyddiad a chydnabyddid bod y pwnc hwn yn un sy’n berthnasol ar draws asiantaethau partner ac ardaloedd daearyddol. Mae gwaith i’w wneud o hyd i edrych yn fanylach ar y data a gasglwyd yn y digwyddiad a bydd y camau nesaf yn cynnwys datblygu fframwaith i benderfynu sut y gellir integreiddio elfennau fel ariannu a chomisiynu, ac edrych i mewn i’r posibilrwydd o sefydlu fforwm ar-lein i rannu gwybodaeth a syniadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Mynegodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Llesiant i wella’r ffordd rydym ni’n cefnogi ac yn cryfhau cymunedau Sir Benfro trwy gyflwyno tair ffrwd waith yn seiliedig ar egwyddorion Cyfranogiad Cymunedol, Deall Ein Cymunedau ac Ymgysylltu’n Ystyrlon â Chymunedau. Mae’r meysydd gwaith hyn yn dal ystod eang ac amrywiol o fentrau sy’n canolbwyntio ar themâu fel dinasyddiaeth weithgar, gwirfoddoli, hyrwyddwyr cymunedol, ymgysylltu a gwrando, mapio asedau, cyd-gynhyrchu gwasanaethau a meithrin galluogrwydd cymunedol a chyfalaf cymdeithasol. Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd yn ein cymunedau, yn aml gydag ymglymiad a chefnogaeth un neu fwy o’n partneriaid. Yr her yw dod â’r holl waith hwn at ei gilydd, ble bynnag y bo modd, er mwyn cyflwyno dull cydlynus o ymgysylltu yn seiliedig ar le, dinasyddiaeth weithgar a chynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
Mae’r prosiect Llesiant a Gwydnwch Cymunedol (CWBR), wedi’i arwain gan PLANED, wedi parhau i fynd o nerth i nerth, yn ymgysylltu â chymunedau ledled y sir ac yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned yn Arberth, Llandudoch, Aberdaugleddau, Hwlffordd a Doc Penfro. Mae gan y prosiect ffocws penodol ar ymgysylltu â phobl ifanc, a’u cynnwys yn ei waith, ac mae wedi datblygu pecyn cymorth ymgysylltu ag ieuenctid i’w ddefnyddio gan gynghorau tref a chymuned. Mae pecynnau cymorth ychwanegol ar gyfer ymgysylltu ag ieuenctid wrthi’n cael eu datblygu hefyd.
Cafodd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) gyllid o Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru a reolir gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (WWCP) i gyflogi Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol (CVDO) amser llawn. Nod y swydd yw gweithio gyda grwpiau ac unigolion i greu Hybiau Gweithredu Lleol a chynyddu lefel y gwirfoddoli anffurfiol a ffurfiol mewn cymunedau. Cynyddwyd y gwaith hwn ar ddiwedd mis Mawrth 2020 yn sgil Covid-19 a’r cyfnod clo dilynol, a sefydlwyd nifer sylweddol o grwpiau cymorth cymunedol gan wirfoddolwyr i ymateb i’r pandemig. Gyda chymorth gan y CVDO, cofrestrodd tua 100 o grwpiau â Rhwydwaith Cymorth Sir Benfro (PCSN) ac elwa ar gyngor, arweiniad, adnoddau a chymorth ymarferol gan ystod o sefydliadau partner i’w galluogi i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol. Sefydlwyd Hwb Cymunedol Sir Benfro hefyd, sef partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, PAVS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Delta Wellbeing. Mae’r Hwb wedi darparu siop un stop ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain neu’n hunanynysu, neu’r rheiny sy’n
profi problemau eraill yr oedd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw â phethau fel siopa, casglu presgripsiynau neu hyd yn oed alwad ffôn gyfeillgar. Sefydlwyd yr Hwb ar sail y safbwynt mai grwpiau cymunedol sy’n adnabod eu cymunedau orau, ac felly rôl yr
Hwb fu darparu man canolog y gellir cydlynu cymorth i gymunedau trwyddo.
Mae Cronfa Trawsnewid Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru wedi cefnogi datblygu platfform bancio amser ar-lein rhwng unigolion hefyd. Gwnaed cryn dipyn o waith yn datblygu platfform cyfnewid sgiliau Cysylltu Sir Benfro yn ystod y cyfnod sy’n destun adolygiad, i baratoi ar gyfer lansio safle peilot ym mis Ebrill 2020. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei oruchwylio gan PAVS ar ran rhanbarth Gorllewin Cymru, ac mae’n elfen allweddol o’r gwaith ataliol a gefnogir gan ystod eang o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Yn ystod y flwyddyn, dechreuwyd gwaith hefyd i ddatblygu Ymgyrch Caredigrwydd i fynd ati i annog pobl i gyflawni gweithredoedd o garedigrwydd yn eu cymunedau. Yn Sir Benfro, arweinir y gwaith hwn gan PAVS, ac fe gaiff ei gydlynu ledled rhanbarth Gorllewin Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth weithredol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
O ran ymgysylltu â’r gymuned, mae Cyngor Sir Penfro wedi prynu offeryn ymgysylltu newydd yn ddiweddar. Bydd hyn yn galluogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ymgysylltu â chymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys trwy arolygon a holiaduron mwy traddodiadol, yn ogystal â thrwy ddulliau fel arolygon barn, fforymau ar-lein a byrddau syniadau, lle gall cymunedau bostio eu syniadau i bobl eraill roi sylwadau arnynt.
Yn y sefyllfa bresennol lle mae’n debyg mai cadw pellter cymdeithasol fydd y drefn arferol am gryn amser i ddod, bydd y feddalwedd ymgysylltu yn offeryn gwerthfawr i ni gefnogi cymunedau yn Sir Benfro i fod yn ddyfeisgar a hunangynhaliol, a sicrhau ble bynnag y gallwn ni bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio gan bobl i ddiwallu eu hanghenion, a gyda nhw.
Mae gweithio gyda’n cymunedau yn faes gwaith cymhleth a heriol, ond mae pandemig Covid-19 wedi amlygu pwysigrwydd allweddol dinasyddiaeth weithgar a gweithredu wedi’i arwain gan y gymuned. Mae ymgysylltu a datblygu cymunedol yn parhau i fod yn hanfodol i’r hyn y mae angen i ni fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran datblygu cynaliadwy, a’n galluogi i ddod o hyd i atebion ar y cyd i warchod anghenion cenedlaethau’r dyfodol trwy ymglymiad dinasyddion.
Drwy gydol 2019-20, mae’r BGC wedi parhau i ymgysylltu â phobl ifanc drwy Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed y llynedd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac yn gallu dylanwadu ar waith y BGC. Y llynedd, roeddem yn adrodd sut yr oedd y Cynulliad Ieuenctid yn teimlo nad yw materion pwysig i bobl ifanc yn aml yn cael eu nodi na’u deall gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Er mwyn datblygu’r berthynas waith rhwng y Cynulliad Ieuenctid a’r BGC, mae cynrychiolwyr o’r Cynulliad Ieuenctid wedi bod yn awyddus i ddechrau mynychu cyfarfodydd BGC, er mwyn cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut mae’r BGC yn gweithredu. Gwnaethom addo sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd mwy o ran yn ein grwpiau cyflenwi ac ers y llynedd bu gwahoddiad agored i gynrychiolwyr y Cynulliad Ieuenctid fynychu cyfarfodydd y grŵp prosiect Recriwtio a Chyflogaeth.
Caiff y gwahoddiad hwn ei ymestyn i’n prosiectau newid yn yr hinsawdd, maes y mae llawer o bobl ifanc yn teimlo’n gryf yn ei gylch. Mae’r Cynulliad Ieuenctid hefyd wedi awgrymu bod BGC ac aelodau Cynulliad Ieuenctid yn cymryd rhan mewn diwrnod ‘chwalu’r rhwystrau’, diwrnod o hwyl allan yn cynnwys cystadlaethau ac adeiladu tîm a fydd yn gymorth i ddatblygu perthynas waith gref rhwng y ddau grŵp.
Mae’r BGC a’r Cynulliad Ieuenctid yn cytuno ei bod yn bwysig ymgysylltu â phobl ifanc y tu allan i grwpiau ieuenctid traddodiadol a gyda’r rhai nad ydynt yn dymuno cymryd rhan mewn trefniadau ffurfiol fel y cynulliad, ond sydd â chyfraniad pwysig i’w wneud er hynny. Nid yw manylion y ffordd y caiff y gwaith hwn ei ddatblygu wedi’u cwblhau eto, ond mae’r BGC yn gweld ei bod yn hanfodol bwysig sicrhau bod dulliau yn cael eu datblygu i ehangu’r ystod o gyfleoedd ymgysylltu â phobl ifanc yn y sir. Mae’r Cynulliad Ieuenctid yn awyddus i weld pobl ifanc yn cymryd rhan yng ngwaith y BGC drwy ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. I ddechrau, mae cynlluniau ar waith i’r Cynulliad Ieuenctid ddefnyddio eu tudalen Instagram eu hunain, gan gysylltu â chysylltiadau ehangach drwy Facebook a Twitter, i greu cyfres o arolygon byr, un cwestiwn, sy’n gysylltiedig â rhai o’r ffrydiau gwaith yn y Cynllun Llesiant. Bydd hyn yn helpu’r BGC i fesur pa mor berthnasol yw gwaith y BGC i bobl ifanc, beth yw eu dealltwriaeth o feysydd y ffrydiau gwaith ac a yw’r BGC yn canolbwyntio ar y materion
sy’n bwysig i bobl ifanc. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o ddatblygu ap i egluro Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i bobl ifanc, ac
edrychir ar hyn yn fanylach hefyd yng nghyfarfodydd y Cynulliad Ieuenctid yn y dyfodol.
Bob mis mae’r BGC yn cyflwyno gwobr Ymfalchïo yn Sir Benfro i grŵp y mae ei waith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau lleol yn y Sir. Mae’r enillwyr yn derbyn £200 ac mae eu gwaith yn cael ei gynnwys yn y papur newydd lleol, y Western Telegraph.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol mae’r ystod o enillwyr wedi bod yn amrywiol ac yn cynrychioli ystod eang o grwpiau cymunedol, o fenter gardd gymunedol sy’n ceisio mynd i’r afael â materion fel unigrwydd a byw eich hun, i grŵp sy’n casglu deunyddiau i’w hailgylchu gyda’r elw yn mynd i elusen. Yr hyn sydd gan bob un ohonynt yn gyffredin, fodd bynnag, yw’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud tuag at wella lles unigolion, cefnogi gwirfoddoli a hefyd eu hymrwymiad cryf i wella llesiant eu cymunedau a’r Sir gyfan. Gall unrhyw grŵp wneud cais i gael ei ystyried ar gyfer gwobr Ymfalchïo yn Sir Benfro ar unrhyw adeg. Mae’r broses ymgeisio yn syml, dim ond lawrlwytho’r ffurflen gais oddi ar wefan PAVS (yn agor mewn tab newydd) – neu cysylltwch â PAVS ar 01437 769422 i dderbyn copi caled. Mae’r wobr yn cynnig cyfle gwych i godi proffil grwpiau cymunedol a’r ffordd y maent yn gwneud cyfraniad clir i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a/neu amgylcheddol cymunedau.
Fel BGC, ar anghenion pobl a chymunedau Sir Benfro yr ydym yn canolbwyntio’n bennaf. Ar yr un pryd, rydym wedi ymrwymo i weithio’n rhanbarthol gyda’n cydweithwyr ym Myrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Sir Gaerfyrddin a gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (a sefydlwyd o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant), lle mae’n ymarferol i wneud hynny a lle mae’n ychwanegu gwerth at yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni.
Mae hwn yn ddull ymarferol gan fod meysydd cyffredin ym mhob un o’n Cynlluniau ac mae nifer o bartneriaid yn gweithredu ar ôl troed sy’n ehangach na Sir Benfro yn unig. Yn hytrach na gwneud pethau ar wahân, mae’n iawn inni geisio chwilio am gyfleoedd ac atebion fel rhanbarth er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a’n gallu ac osgoi dyblygu ymdrech.
Oherwydd y pandemig ni fydd yn bosibl cynnal Digwyddiad Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol blynyddol yn ystod 2020-21, fodd bynnag, bwriadwn barhau â’r digwyddiadau yma yn y dyfodol. Mae’r digwyddiadau blynyddol hyn yn gyfle gwerthfawr i rannu gwybodaeth am feysydd cyffredin yn ein cynlluniau lles rhanbarthol ac i adeiladu ar y gwaith a gafodd ei wneud o’r blaen i greu rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer aelodau’r BGC. Mae swyddogion o’r tair sir ynghyd â’r Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol, swyddog arweiniol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i nodi cyfleoedd a rhannu dysgu. Rydym yn awr yn gweithio’n rhanbarthol ar nifer o feysydd blaenoriaeth a nodwyd yn ystod ein digwyddiad rhanbarthol diwethaf ym mis Mehefin 2019, a’r rhain yw:
Byddwn yn parhau i weithio’n rhanbarthol gyda’n partneriaid yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle bynnag y ceir cysylltiadau clir rhwng blaenoriaethau ac uchelgeisiau ein cymunedau, er mwyn lleihau dyblygu, darparu dull gweithredu cyson a rhannu arfer gorau a dysgu.
Mae effaith pandemig Covid-19 ar wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn enfawr a bydd yr effeithiau’n parhau i gael eu gweld am rai blynyddoedd i ddod. Pan aeth y wlad i mewn i’r cyfnod clo, daeth gwaith y BGC i ben i bob pwrpas, oherwydd y pwysau anferth ar adnoddau yr oedd eu hangen ar bartneriaid i ymateb i’r argyfwng a sicrhau bod dinasyddion yn cael eu cynorthwyo. Fodd bynnag, mae cyflymder yr ymateb oedd yn ofynnol oddi wrth asiantaethau partner y BGC wrth gydweithio wedi datgelu cyfleoedd i gydweithio â’i gilydd mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Roedd ymateb grwpiau lleol i gefnogi eu cymunedau lleol yn ddigynsail, a hyd yma, mae dros 100 o grwpiau cymunedol wedi cofrestru i fod yn aelodau o Rwydwaith Cymorth Cymunedol Sir Benfro, sy’n cael ei hwyluso gan PAVS a’i gefnogi gan bartneriaid Hwb Cymunedol Sir Benfro, gan roi cyfle iddyn nhw elwa ar hyfforddiant a chymorth.
Bydd rôl y BGC yn y cyfnod adfer yn golygu adeiladu ar rai o’r enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth a welwyd dros y misoedd diwethaf i barhau i gefnogi unigolion a chymunedau. Mae’n eglur y bydd yn rhaid i rôl a gwaith y BGC newid i gyd-fynd â’r ‘normal newydd’. Bydd gan y BGC rôl bwysig i’w chwarae dros y 12-18 mis nesaf a chyda hyn mewn golwg mae’r BGC wedi cytuno i adolygu ac ailgyfeirio’r ffrydiau gwaith o fewn ein Cynllun Llesiant ac i ddatblygu gweledigaeth gyfunol ynglŷn ag adferiad, gan adeiladu ar y gweithredu rhagorol dan arweiniad y gymuned sydd wedi dod i’r amlwg yn Sir Benfro yn ystod yr argyfwng.