Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro Adroddiad Blynyddol 2020-21

Cyflwyniad

Croeso i adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro ar gyfer 2020-21, lle’r ydym yn amlygu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yn ein Cynllun Llesiant ar gyfer Sir Benfro.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwaith y mae partneriaid y BGC wedi bod yn ei wneud i gyflawni ein ‘dyletswydd llesiant’ ar y cyd i wella llesiant economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu gweithio’n wahanol a chanolbwyntio ar feysydd lle gall gweithio mewn partneriaeth gael yr effaith.

fwyaf a lle mae ein dylanwad cyfunol yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud fel sefydliadau unigol.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i unigolion, i gymunedau ac i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd, wrth i ni ymateb i’r heriau a achoswyd gan bandemig Covid a chydweithio i oresgyn ei effeithiau ar ein bywydau. Mae’n anorfod bod y pandemig wedi cael effaith ar waith y BGC ac wedi lleihau capasiti rhai partneriaid i neilltuo’r un faint o amser i’r bartneriaeth ag y maent o bosibl wedi bod yn ei neilltuo yn y gorffennol, a adlewyrchir yn y gwaith a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar yr un pryd, mae’r perthnasoedd a feithrinwyd dros flynyddoedd lawer o weithio trwy’r BGC wedi galluogi partneriaid i gydweithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol i ymateb yn uniongyrchol i’r heriau hyn a chefnogi Sir Benfro tuag at ei hadferiad.

Rydym bellach wedi hen ddechrau ar y broses o ddatblygu ein Hasesiad Llesiant nesaf a fydd yn gweithredu fel asgwrn cefn ein Cynllun Llesiant nesaf ac, fel bob amser, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio fel partneriaid yn Sir Benfro ac yn rhanbarthol wrth i ni symud tuag at gyfnod o adferiad parhaus, gobeithio.

Fel bob amser, rwy’n ddiolchgar i’m cydweithwyr ar y Bwrdd am eu hymrwymiad parhaus tuag at wella llesiant pobl a chymunedau yn y Sir.
llofnod Tegryn Jones

Tegryn Jones

Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

 

Sut y bu’r BGC yn gweithio mewn partneriaeth trwy gydol y pandemig

Ffocws o’r Newydd – cynlluniau gweithredu diwygiedig

Balchder yn Sir Benfro

Digwyddiad Rhanbarthol Blynyddol y BGC-BPRh

Cynllunio ar gyfer yr Asesiad Llesiant nesaf yn 2022

Edrych Tua’r Dyfodol

 

Sut y bu’r BGC yn gweithio mewn partneriaeth trwy gydol y pandemig

Trwy gydol y deuddeng mis diwethaf mae partneriaid y BGC wedi bod yn cydweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd i ymdrin â’r heriau a grëwyd gan y pandemig ac i barhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau. Dyma rai enghreifftiau o hyn;

Hyb Cymunedol Sir Benfro

Tuag at ddiwedd mis Mawrth 2020 fe sefydlwyd Hyb Cymunedol Sir Benfro, sef partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Delta Wellbeing. Darparodd yr Hyb siop un stop ar gyfer pobl a oedd yn gwarchod neu’n hunanynysu, neu’r rhai a oedd yn profi materion eraill ac yr oedd arnynt angen peth cymorth ychwanegol gyda phethau fel siopa neu gasglu presgripsiynau. Sefydlwyd yr Hyb o’r safbwynt mai grwpiau cymunedol sy’n adnabod eu cymunedau orau, ac felly rôl yr Hyb oedd darparu canolbwynt ar gyfer cydlynu cymorth i gymunedau.

Rhaglen sefydlu ar gyfer gwirfoddolwyr a staff newydd

Bu Coleg Sir Benfro’n gweithio gyda BIP Hywel Dda i lunio’u rhaglen sefydlu ar gyfer gwirfoddolwyr a recriwtiaid. Fe gynigion nhw Theatr Myrddin a dwy ystafell arall lle’r oedd cyflwyniadau a sesiynau sefydlu’n cael eu ffrydio’n fyw o’r theatr, gan sicrhau bod pawb a oedd yn cymryd rhan yn gallu cadw pellter cymdeithasol wrth gyfranogi mewn sesiynau. Parhaodd y sesiynau Sefydlu hyn am sawl wythnos ac fe aeth cannoedd o wirfoddolwyr drwy’r broses.

Cymorth ar gyfer y rhaglen frechu

Rhoddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gymorth i BIP Hywel Dda o ran hwyluso’r rhaglenni brechu yn Ysbytai Bro Cerwyn a De Sir Benfro ym mis Hydref 2020, yn ogystal â chynorthwyo gyda’r rhaglen i frechu rhag y ffliw mewn meddygfeydd teulu yn Hwlffordd, Meddygfa Neyland a Johnston a Meddygfa Arberth, hefyd ym mis Hydref 2020.

Cyfarfodydd Datgloi Sir Benfro

Sefydlwyd y cyfarfodydd amlasiantaeth hyn gan amcanu at gydweithio i reoli’r cynnydd yn y galw ar gyfer yr holl asiantaethau yn yr haf a sicrhau bod Sir Benfro’n lle diogel i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Fe wnaeth mynychder cyfarfodydd ac ymrwymiad partneriaid ddarparu datrysiadau cyflym, mewn amser real i faterion a oedd yn codi. Cafodd cyfarfodydd eu Cadeirio ar y cyd gan Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Penfro ac roedd nifer o bartneriaid ychwanegol y BGC yn rhan ohonynt, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Porthladd Aberdaugleddau a BIP Hywel Dda.

Ffocws o’r Newydd – cynlluniau gweithredu diwygiedig

Ar ganol 2020, yng ngoleuni’r pwysau a osodwyd ar bartneriaid gan yr ymateb i’r pandemig, cytunwyd y byddai prosiectau cyfredol yn y ffrydiau gwaith yn cael eu ‘hatal am y tro’ ac y byddid yn canolbwyntio yn lle hynny ar ail-lunio gwaith y BGC tuag at adferiad dros y 12 i 18 mis nesaf. Tua’r un pryd, trefnodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod cyllid ar gael i’r holl Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i roi cymorth i gyflawni blaenoriaethau yn eu Cynlluniau Llesiant sy’n ymwneud â’r amgylchedd a newid hinsawdd, y cyflwynwyd cynigion ar ei gyfer i ariannu dau brosiect, yr oeddent ill dau’n llwyddiannus. Roedd y cynlluniau gweithredu diwygiedig fel a ganlyn;

Ffrwd Waith: Asesiad o'r Risg Amgylcheddol ac o Risgiau Newid Hinsawdd/Dod yn Sir sy'n Garbon Nowtral

Prosiect

Fforwm cyfalaf naturiol cynaliadwy Sir Benfro

Trosolwg

Caiff y prosiect hwn ei dargedu at ddwy ffrwd waith yn Cynllun Llesiant - Asesiad o'r Risg Amgylchedool ac o Risgiau Newid Hinsawdd a Dod yn Sir sy'n Garbon Niwtral. Y nod oedd dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd i ddatblygu Fforwm Cyfalaf Naturiol Cynaliadwy Sir Benfro a chyflogi unigolyn i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau prosiectau a chynigion am gyllid yn y dyfodol mewn perthynas â phedair thema:

  • Ffiws Werdd - ysgogi cyfranogiad torfol trwy greu cyfleoedd cynhwysol i bobl ymwneud â gweithgareddau seiliedig ar natur
  • Seilwaith Gwyrdd - gweithredu ystod o brosiectiau sy'n deillio o Drefi Sir Benfro
  • Sir Benfro Werdd - datblygu rheolaeth ar gynefinoedd ar raddfa tirwedd a hybu gweithgareddau darparu adfywiol (e.e. amaethyddiaeth gynaliadwy)
  • Hau'r Hadau - cynllun grantiau bychain sydd wedi'i fwriadu i ysgogi syniadau creadigol a hyrwyddo arloesi mewn perthynas â chyfraniad natur at bobl.
Gweithgarwch

Mae cyfarfod cychwynnol gan y grŵp llywio wedi cael ei gynnal a fframwaith ar gyfer Cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cael ei ddatblygu sy'n disgwyl am gymeradwyaeth gan y grŵp llywio.

Deilliannau

Er mai un o'r ddau brosiect a ariennir gan CNC oedd hwn, mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro fel y sefydliad arweiniol wedi ymrwymo i ariannu'r gwaith hwn am 12 mis pellach.

 

Ffrwd Waith: Dod yn sir sy'n garbon niwtral

Prosiect

Adolygiad o weithgarwch sy'n helpu i wneud Sir Benfro'n garbon niwtral

Trosolwg

Adolygiad desg a ariannwyd gan CNC ac a gyflawnwyd gan ymgynghorwyr oedd y prosiect. Y nod oedd pennu a chofnodi'r camau gweithredu/gweithgardeddau cyfredol a gyflawnir gan 10 o'r sefydliadau sy'n aelodau o'r BGC i fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd, lleihau eu statws carbon net ac yn fwy eang, mapio unrhyw waith cymunedol neu waith mewn partneriaeth a gyflawnir i gynorthwyo'r sir i ddod yn garbon niwtral.

Gweithgarwch

Roedd gwaith a wnaed yn cynnwys:

  • Adolygu gwefannau partneriaid a gwybodaeth gan bartneriaid a oedd ar gael yn gyhoeddus i ganfod gwaith a oedd yn ymwneud â newid hinsawdd:
  • Anfonwyd holiadur at 10 o'r sefydliadau sy'n aelodau o'r BGC
  • Cynhaliwyd grŵp ffocws i drafod y canfyddiadau
  • Cynhyrchwyd adroddiad drafft a hwnnw'n cynnwys 20 o argymhellion
Deilliannau

Bydd yr adroddiad a gynhyrchwyd yn bwydo i mewn i drafodaethau lefel uchel partneriaid y BGC sydd wedi dechrau'n ddiweddar ynglŷn â'r agendâu newid hinsawdd, lleihau carbon ac ymaddasu i newid hinsawdd gyda'r nod o gynhyrchu strategaeth newid hinsawdd ar gyfer Sir Benfro.

 

Ffrwd Waith: Cyfranogiad Cymunedol/Deall ein Cymunedau/Ymgysylltiad Cymunedol Ystyrion

Prosiect

Meithrin cysylltiadau â grwpiau perthnasol i roi cymorth i gyflawni'r ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r thema Cymunedau

Trosolwg

Fe grewyd cysylltiadau â'r rhaglen leol Gyda'n Gilydd dros Newid a ariennir gan y loteri i roi cymorth i gyflawni'r elfennau o'r Cynllun sy'n ymwneud â'r thema Cymunedau. Bydd deilliannau ymchwil o'r rhaglen hon y cyfrannu at ddatblygu setiau data cadarn ar lefel gymunedol ar gyfer y system newydd a ddatblygir yn rhanbarthol gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus/Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Fel rhan o'r gwaith hwn, fe ailsefydlwyd Rhwydwaith Ymgysylltu a Chydgynhyrchu Sir Benfro, a fydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu'n fwy effeithiol â dinasyddion a chymunedau mewn perthynas â'r Asesiad Llesiant nesaf a'r Cynllun Llesiant a fydd yn deillio ohono wedyn.

Gweithgarwch

Mae Rhwydwaith Ymgysylltu a Chydgynhyrchu Sir Benfro wedi cael ei sefydlu ac mae wedi cwrdd i ddechrau cynllunio gwethgarwch ymgysylltu ar gyfer yr Asesiad Llesiant

 

Ffrwd Waith: Cyfranogiad Cymunedol/ Deall ein cymunedol/ymgysylltiad Cymunedol Ystyrlon

Prosiect

Meithrin cysylltiadau cryfach â chynghorau tref a chymuned

Trosolwg

Nod y prosiect hwn oedd meithrin perthnasoedd rhwng y BGC a chynghorau tref chymuned trwy Un Llais Cymru a phrosiectau megis y Prosiect Lleisiant a Chydnerthedd Cymunedol (CWBR) a arweinir gan PLANED, i gynyddu ein hymwybyddiaeth o'r gwahanol gyfleoedd a heriau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu

Gweithgarwch

Mae'r prosiect CWBR wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned mewn 12 cymuned Cyflawnwyd y deillannau ychwanegol canlynol;

  • Argymhellion o adroddiadau CWBR yn cael eu defnyddio i oleuo'r broses o greu gwasnaeth cyfeillio cymunedol ac i lwyddo i gael cyllid ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau newid ar gyfer chwaraeon cymunedol; ffynhoonau dŵr, ac adnoddau cyfrifiadurol
  • CWBR fel prosiect yn rhoi cymorth i recrewtio Cynrychiolydd Ieuenctid ar gyfer Cyngor Tref Doc Penfro
  • Datblygu a dylunio Pecyn Cymorth Ymgysylltu Ieuenctid ar gyfer yr holl gynghorau tref a chymuned
  • Creu map cynghorau tref a chymuned rhyngweithiol digidol a threfnu ei fod ar gael yn rhydd

Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda'r nos bob mis gan Gyngor Sir Penfro mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a PLANED rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021 gyda chynghorau tref a chymuned i ystyried ffyrdd y gallwn gydweithio'n well ac yn fwy effeithiol.

Deilliannau

Bu ymateb cadarnhaol gan y cynghorau tref a chymuned i'r fenter hon, ac mae rôl swyddog cymorth dynodedig wedi cael ei sefydlu i barhau â'r gwaith yn y dyfodol.

 

Ffrwd Waith: Fframwaith Trawsnewid Recriwtion a Chyflogaeth

Prosiect

Codi ymwybyddiaeth o gynlluniau a mentrau i gefnogi cyflogaeth a hyfforddiant

Trosolwg

Ffocws y prosiect hwn oedd bod y BGC yn ysgwyddo rôl weithredol i hyrwyddo Cynllun Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Kickstart a lansiwyd yn hydref 2020, ac unrhyw gynlluniau eraill, ac yn manteisio arnynt lle bynnag y bo'n bosibl

Gweithgarwch

Mae dau o'r tri Sefydliad Porth yn Sir benfro ar gyfer y Cynllun Kickstart yn aeoldau o'r BGC (Coleg Sir Benfro â Chyngor Sir Benfro). Hefyd, ame nifer o'r sefydliadau sy'n aelodau o'r BGC wedi defnyddio'r cynllun, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Deilliannau

Fe gododd nifer y cyfloedd Kickstart yn Sir Benfro o 211 ym mis Ebrill 2021 i 453 ym mis Mehefin 2021, gyda nifer y dechreuadau ar y cynllun yn codi o 28 ym mis Ebrill 2021 i 132 ym mis Mehefin 2021. Meddai un person ifanc yn Sir Benfro a lwyddodd i ymgynryd â lle ar y cynllun ' a minnau wedi bod yn ddiwaith ers graddio roedd fy iechyd meddwl wedi dirywio go iawn. Fe ddechreuais feddwl a fyddai pethau byth yn gwella i mi o ran gwaith ond fe ymgeisiasis am swydd wag trwy Kickstart ac fe es i am gyfweliad a chefais gynnig swydd gyda mwy o arian a chyfrifoldeb na'r un yr oeddwn wedi ymgeisio amdani. Mae'n amlwg eu bod nhw wedi gweld rhywbeth ynof ac fe gynyddodd hynny fy hyder. Rwyf wedi bod yn gwneud y swydd am bythefnos bellach ac rwyf wir yn mwynhau popeth ynglŷn â bod mewn gwaith a bod yn rhan o dim. Mae'r cyfle hwn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi.

 

Ffrwd waith: Fframwaith Trawsnewid Recriwtio a Chyflogaeth

Prosiect

Datblygu dull a rennir ar gyfer llesiant staff a draws sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Trosolwg

Diben y priosect hwn oedd cyfuno sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i rannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau ynghylch sut y maent yn cefnogi llesiant staff sy'n gweithio gartref, staff sydd ar ffyrlo, neu staff sydd mewn perygl o ddiswyddiad, a hefyd rhannu barn ynglŷn â sut y cefnogir staff newydd wrth fynd ymlaen, gan gynnwys cynnwys cymorth cyflogaeth rhithwir

Gweithgarwch

Diweddglo'r prosiect hwn oedd gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol sy'n aeoldau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a fynychwyd gan wyth sefydliad sy'n rhan o'r bwrdd. Diben y gweithdy oedd trafod pa gymorth oedd wedi'i ddarparu i gyflogeion ynghylch arferion da mewn perthynas ag iechyd meddwl, gwersi a ddysgwyd dros y 12 mis diwethaf, a newidiadau i'r ffordd y gallai sefydliadau weithredu wrth symud ymlaen.

Roedd rhai o'r gweithgareddau allweddol yn digwydd ar draws sefydliadau sy'n aelodau o'r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynnwys y canlynol:

  • Darpau gwasanaethau cwnsela i staff (gan gynnwys mecanweithiau hunan-atgyfeirio)
  • Galwadau llesiant trwy gydol y cyfyngiadau symud
  • Cyngor ac arweiniad i reolwyr
  • Sefydlwyd tudalennau mewnrwyd i gael mynediad at gymorth ar unwaith 
  • Hyrwyddwyr a mentoriaid llesiant
  • Gosod terfynau clir rhwng gwaith a chartref
  • Diwrnodau ni chaniatier cyfarfodydd wedi'u dyrannu
  • Rhwydweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cymorth gan gymheiriad
  • Adolygiad o strategaethau a pholisïau cysylltiedig
 Canlyniadau

Gwnaeth y holl bartneriaid a gymerodd ran gydnabod bod profiad COVID-19 wedi'n haddysgu y gallwn wneud yr hyn a allai ymddangos yn amhosib ar y dechrau, a hefyd bod angen adolygu arferion gwaith, o fewn model o fath hybrid/ystwyth o ddatrysiadau gweithio ar y safle a gweithio gartref, gyda llesiant wrth wraidd cynlluniau gweithredol o'r fath.

 

Balchder yn Sir Benfro

Yn dilyn cyflwyno cynnig dan arweiniad Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, dyfarnwyd ychydig dros £240,000 i Sir Benfro o Grant Adfer Gwirfoddoli yn Sgîl y Coronafeirws Llywodraeth Cymru 2020-21. Fel rhan o’r rhaglen Gwirfoddoli dros Sir Benfro a gefnogir gan y cyllid hwn, cymerodd y BGC y cyfle i werthuso’i raglen gwobr Balchder yn Sir Benfro. Cafodd Balchder yn Sir Benfro ei hatal am y tro yn gynnar yn 2020 oherwydd yr achosion o Covid-19 ac felly tybiwyd ei bod yn amserol myfyrio ynghylch y cynnydd hyd yma a chanfod a ellid gwneud unrhyw welliannau i wneud y wobr yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Menter a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a ddechreuwyd yn 2017 i gydnabod a dathlu’r gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau y mae eu gwaith yn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yn Sir Benfro yw Balchder yn Sir Benfro. Nod y BGC wrth noddi’r gwobrau yw codi ymwybyddiaeth o grwpiau a chodi proffil grwpiau sy’n dangos ymrwymiad i feithrin cymunedau cynaliadwy, cryfach, ac y mae eu gwaith yn gwneud cyfraniad amlwg i’r nodau llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan felly wella llesiant cyffredinol pobl a chymunedau yn Sir Benfro.

Pennodd y gwerthusiad fod y wobr Balchder yn Sir Benfro wedi ateb ei diben, sef cydnabod a hyrwyddo’r gwaith rhagorol y mae’r llu o grwpiau cymunedol gwirfoddol yn ei wneud ledled y Sir i gefnogi llesiant. O ran ei gwella, cytunwyd ar y newidiadau canlynol;

  • Byddir yn gofyn yn awr i ymgeiswyr nodi pa un o’r pedair blaenoriaeth yn y Cynllun Llesiant y mae eu prosiect yn cyd-fynd â hi fwyaf yn eu tyb hwy
  • Diweddarwyd y ffurflen gais i gynnwys adran fer â chanllawiau, sy’n amlygu mai dathlu a chefnogi gwirfoddolwyr mewn grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n ychwanegu gwerth at waith gwasanaethau statudol neu sy’n cefnogi eu cymunedau yw diben y wobr
  • Yn olaf, penderfynwyd fod diffyg cydnabyddiaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo i ennill y wobr ond sy’n parhau i wneud gwaith da yn Sir Benfro. Bydd yr ymgeiswyr hyn yn cael eu rhestru yn adroddiadau blynyddol y BGC yn y dyfodol i’w llongyfarch am eu gwaith ac i roi sylw parhaus i’r grwpiau Bydd y wobr yn cael ei hailddechrau yn haf 2021 unwaith y bydd wedi cael ei hail-frandio a’i hail-hysbysebu ac unwaith y bydd newidiadau wedi cael eu gwneud i’r broses ymgeisio.

Digwyddiad Rhanbarthol Blynyddol y BGC-BPRh

Ym mis Tachwedd 2020 fe wnaeth Ceredigion lywyddu digwyddiad rhanbarthol blynyddol y BGC-BPRh. Cynhelir y digwyddiadau blynyddol hyn bob blwyddyn ac maent yn darparu cyfle i rannu gwybodaeth ac arfer gorau mewn meysydd sy’n berthnasol i holl bartneriaid y BGC yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a’r rhai sy’n eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

Oherwydd cyfyngiadau Covid, digwyddiad rhithwir oedd yr un yn 2020; fodd bynnag, roedd nifer dda’n bresennol ynddo a chafodd partneriaid nifer o ddiweddariadau a chyflwyniadau perthnasol am y canlynol;

  • Diweddariadau ar feddalwedd digidol – cyflwyniad ar y llwyfan rhannu data rhanbarthol sy’n cael ei ddatblygu a chyflwyniad ar y meddalwedd Engagement HQ
  • BPRh yn cydweithio – safbwynt y BPRh
  • Blaenoriaethau Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chysylltiadau â’r BGC
  • Datrysiadau Cymdeithasol a Gwyrdd ar gyfer Iechyd
  • Y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a’r Ymateb i Covid-19
  • Diweddariad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys

Mae’r digwyddiad rhanbarthol nesaf i fod i gael ei gynnal yn nes ymlaen yn 2021, ar yr amod bod digon o amser ac adnoddau i fwrw ymlaen tra bo gwaith yn parhau ar ddatblygu’r Asesiad Llesiant

Cynllunio ar gyfer yr Asesiad Llesiant nesaf yn 2022

Mae gwaith bellach wedi hen ddechrau ar ddatblygu’r Asesiad Llesiant y bydd Cynllun Llesiant nesaf Sir Benfro’n seiliedig arno.

Unwaith eto rydym yn gweithio’n rhanbarthol gyda’n partneriaid ym Myrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn ogystal â chyda’r BPRh, i sicrhau dull cyffredin a chyson o ymgysylltu, casglu data a’i ddadansoddi, ac i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.

Bydd arolwg yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ochr yn ochr â phecyn cymorth ymgysylltu a digwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau ymgysylltu pellach unwaith y bydd y fersiwn ddrafft gychwynnol o’r asesiad wedi’i chynhyrchu, er mwyn cael adborth pellach ar y canfyddiadau. Er ei bod yn bosibl y bydd rhai cyfyngiadau’n dal i fodol yn sgîl Covid, ein nod yw cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl gan ddefnyddio arbenigedd aelodau Rhwydwaith Ymgysylltu a Chydgynhyrchu Sir Benfro. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr aelodau o’r BGC yn bennaf ond gellir cael cynrychiolaeth ehangach i sicrhau ein bod yn gallu creu cysylltiadau lle mae angen i ni wneud hynny. Mae ymarfer mapio’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i bennu ble y gallwn fanteisio ar weithgarwch ymgysylltu arfaethedig gan bartneriaid a ble y gall fod bylchau mewn mynediad at grwpiau penodol y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy.

Edrych Tua’r Dyfodol

Mae effaith pandemig Covid-19 ar wasanaethau cyhoeddus yn dal i roi straen sylweddol ar adnoddau holl bartneriaid y BGC a bydd yr effeithiau’n parhau am rai blynyddoedd i ddod. Er bod y BGC wedi parhau i gwrdd yn ystod 2020-21, mae’n ddealladwy bod ffocws partneriaid wedi bod ar eu meysydd gwaith eu hunain yn bennaf. Serch hynny, fel a nodir yn yr adroddiad hwn, roedd sawl maes lle arweiniodd y perthnasoedd a ffurfiwyd trwy weithio fel partneriaid ar y BGC at berthnasoedd gweithio mwy effeithlon y tu allan i gylch gwaith y BGC i ymateb i’r heriau a grëwyd gan y pandemig. Fe ddatgelodd hyn gyfleoedd i ni weithio’n wahanol gyda’n gilydd yn y dyfodol ac i gael gwared ar beth o’r fiwrocratiaeth sydd wedi ein rhwymo yn y gorffennol.

Mae ymateb grwpiau lleol i gefnogi eu cymunedau lleol wedi bod yn ddigynsail trwy gydol y 12 mis diwethaf ac mae wedi dangos sut y gellir cynorthwyo cymunedau i gydweithio gyda’i gilydd a chyda gwasanaethau cyhoeddus i ddod o hyd i ddatrysiadau newydd i broblemau. Bydd rôl y BGC yn y cyfnod adfer yn parhau i ymwneud ag adeiladu ar rai o’r enghreifftiau ardderchog o weithio mewn partneriaeth ac o waith a arweinir gan gymunedau a welwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Wrth i ni edrych ymlaen at gynhyrchu’r Cynllun Llesiant nesaf rhaid i rôl y BGC barhau i esblygu ar ôl y pandemig tuag at ffocws ar yr hyn sydd wir o bwys ar gyfer llesiant unigolion a chymunedau yn y dyfodol.

Mae parodrwydd partneriaid y BGC i barhau i weithio tuag at gyflawni’r amcanion a nodir yn ein Cynllun Llesiant yn ystod 12 mis a fu’n eithriadol o anodd ac yn gryn her, ac i achub ar gyfleoedd i adeiladu ar y gwaith hwn yn y tymor hwy, yn dangos eu hymrwymiad i’r bartneriaeth ac i bobl Sir Benfro.

ID: 9872, adolygwyd 31/03/2023