Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyflwyniad i'r BGC

Mae'r Bwrdd yn gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio er mwyn ymdrin â blaenoriaethau cyffredin.

Mae gan y Bwrdd bedair prif swyddogaeth:

  • Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro.
  • Paratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant lleol i Sir Benfro gan nodi amcanion lleol a'r camau gweithredu y mae'r Bwrdd yn bwriadu eu cymryd i'w cyflawni.
  • Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion lleol a bennwyd ganddo.
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y Bwrdd o ran cyflawni'r amcanion lleol.

Nodau Llesiant Cenedlaethol

Er mai'r ffocws yw gwella llesiant yn Sir Benfro, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cyfrannu at y Nodau Llesiant Cenedlaethol fel y'u nodir yn y Ddeddf, sef:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Datblygu cynaliadwy yw egwyddor allweddol gweithgareddau'r Bwrdd. Mae hyn yn golygu gweithio i sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Yn ymarferol, mae datblygu cynaliadwy yn golygu ystyried y ffyrdd canlynol o weithio:

  • Hirdymor:  Cydbwyso anghenion byrdymor â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor.
  • Atal:  Gweithredu er mwyn atal problemau rhag digwydd neu waethygu.
  • Integreiddio:  Sicrhau bod pob asiantaeth gyhoeddus yn ystyried y nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill wrth bennu ei blaenoriaethau ei hun.
  • Cydweithredu:  Gweithio gydag unrhyw un a allai helpu sefydliad i ddiwallu ei amcanion llesiant.
  • Cyfranogiad:  Cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol.

Mae'r Bwrdd yn ymrwymedig i gymhwyso'r egwyddor hon at bob agwedd ar y penderfyniadau a wneir ganddo ac i ddefnyddio'r egwyddor mewn ffordd weithredol wrth bennu a chyflawni ei flaenoriaethau.

Dolenni Perthnasol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: yr hanfodion (yn agor mewn tab newydd)

ID: 600, adolygwyd 09/11/2023